Arwyddion dwyieithog

Defnyddir arwyddion dwyieithog (neu weithiau amlieithog) fel term am arwyddion mewn mwy nag un iaith. Fel rheol, fe'u defnyddir mewn gwledydd neu ardaloedd lle y siaredir mwy nag un iaith neu mewn ardaloedd sy'n agos i ffiniau gwleidyddol neu ieithyddol, neu mewn ardaloedd lle y ceir llawer o ymwelwyr sy'n siarad ieithoedd gwahanol. Mae hyn yn arbennig o wir mewn meysydd awyr, porthladdoedd a gorsafoedd rheilffordd. Gall yr arwyddion hyn hefyd gynnwys arwyddion sy'n rhoi fersiwn wedi ei drawslythrennu o enwau lleoedd, yn arbennig mewn ardaloedd lle y defnyddir gwyddor sy'n wahanol i'r wyddor Ladin. Weithiau, ceisir osgoi'r angen am arwyddion amlieithog trwy ddefnyddio symbolau a phictogramau. Ystyrir arwyddion dwyieithog fel un o'r prif symbolau o agweddau at ddwyieithrwydd mewn tiriogaethau lle y siaredir mwy nag un iaith.

Arwyddion dwyieithog
Matharwydd Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Arwyddion dwyieithog yn Hong Kong.
Arwyddion dwyieithog yn Kemper, Llydaw

Arwyddion dwyieithog yn Ewrop

golygu

Y Deyrnas Unedig

golygu
 
Arwydd dwyieithog yn Y Gelli Gandryll, Cymru.
 
Arwydd dwyieithog yng Nghaerfyrddin

Dechreuodd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ymgyrch i gael arwyddion ffyrdd dwyieithog pan gyhoeddodd Owain Owain ar 29 Mehefin 1965 [1] "y byddai ef wythnos i'r noson honno am saith o'r gloch, liw dydd, yn mynd o'r tŷ gyda phot o baent du a brwsh ac yn dileu hynny a fedrai o eiriau Saesneg oddi ar hysbysfyrddau ac adeiladau'r llywodraeth yn ninas Bangor."[2]

Daeth hon yn ymgyrch genedlaethol ym mis Ionawr 1969, pan gafodd ei lansio mewn rali yn y Tŷ Mawr, Penmachno.

Wedi dwy flynedd o ymgyrchu, gydag aelodau o'r Gymdeithas yn peintio ac yn difrodi arwyddion uniaith Saesneg, ac yn derbyn dirwyon a charchar, cyhoeddodd y llywodraeth y byddai'n sefydlu comisiwn dan gadeiryddiaeth Roderic Bowen i ymchwilio i'r mater. Yn 1972 cyhoeddwyd adroddiad y comisiwn, Bilingual traffic signs = Arwyddion ffyrdd dwyieithog [3], yn argymell darparu arwyddion ffyrdd dwyieithog.

Erbyn hyn mae'r mwyafrif helaeth o arwyddion ffyrdd yng Nghymru yn ddwyieithog, gyda threfn y ddwy iaith ar yr arwyddion yn amrywio o un awdurdod lleol i'r llall; rhai gyda'r Gymraeg yn uchaf a rhai gyda'r Saesneg.

Yr Alban

golygu
 
Arwyddion dwyieithog yn Ucheldiroedd yr Alban

Yn yr Alban, ceir arwyddion dwyieithog, Gaeleg yr Alban a Saesneg, yn Ynysoedd Heledd (Na h-Eileanan Siar), ac mewn rhannau gorllewinol o Ucheldiroedd yr Alban. Mae'r enwau Gaeleg mewn gwyrdd tywyll, a'r Saesneg mewn du.

O tua 1981 ymlaen, bu mudiad Ceartas yn ymgyrchu i gael arwyddion dwyieithog yn yr Alban, gan ddifrodi arwyddion ffyrdd uniaith Saesneg a phaentio'r slogan Ceartas airson na Gàidhlig ("Cyfiawnder i Aeleg yr Alban") ar y ffyrdd. Yn 2005, pasiodd Senedd yr Alban Ddeddf yr Iaith Aeleg (yr Alban) 2005, a roddodd statws swyddogol i'r iaith Aeleg am y tro cyntaf. Bwriada Cyngor yr Ucheldir ymestyn y defnydd o arwyddion dwyieithog i rannau eraill o'i ardal, ond cafwyd gwrthwynebiad mewn rhai ardaloedd lle nad oes llawer o siaradwyr Gaeleg, er enghraifft Caithness.[4][5]

Gogledd Iwerddon

golygu

Yn y blynyddoedd diwethaf, mae Sinn Féin, sydd yn awr yn rhan o'r llywodraeth, wedi datblygu cynlluniau ar gyfer cael arwyddion ffyrdd dwyieithog Gwyddeleg a Saesneg. Mae cryn wrthwynebiad i'r cynllun gan rai carfanau o Unoliaethwyr.

Gweriniaeth Iwerddon

golygu
 
Arwydd dwyieithog, Gwyddeleg a Saesneg, yn Iwerddon

Y tu allan i'r Gaeltacht, mae'r arwyddion ffyrdd yn ddwyieithog, Gwyddeleg a Saesneg. Gosodir yr enw Gwyddeleg yn uchaf, ond mewn llythrennau llai na'r fersiwn Saesneg.

Yn y Gaeltacht, mae'r arwyddion ffyrdd cyfeiriol mewn Gwyddeleg yn unig. Ers 2005, mae symudiad wedi bod ar droed i wneud yr enwau lleoledd Gwyddeleg yr unig fersiwn swyddogol. Yn 2005, cyhoeddodd Éamon Ó Cuív, Gweinidog materion y Gaeltacht, na ddefnyddid enwau Saesneg yn swyddogol yn y Gaeltacht o hynny ymlaen. Yn achos An Daingean ("Dingle" yn Saesneg) roedd hwn yn benderfyniad dadleuol iawn, a bu cryn wrthwynebiad iddo, gan gynnwys fandaleiddio arwyddion ffyrdd uniaith Wyddeleg drwy baentio'r enw Saesneg 'Dingle' arnynt.

 
Arwydd dwyieithog Ffrangeg a Basgeg yn Saint-Pée-sur-Nivelle (Senpere) yn département y Pyrénées-Atlantiques.

Ffrainc

golygu

Yn Ffrainc ceir arwyddion dwyieithog mewn rhai rhanbarthau. Fe'i cyfyngir fel rheol i nodi enwau lleoedd a nodweddion daearyddol eraill heb gynnwys unrhyw wybodaeth ychwanegol sy'n gyfyngedig yn ddieithriad i destunau Ffrangeg yn unig. Ysgrifennir y testun yn yr ieithoedd eraill mewn llythrennau o'r un maint â'r testun Ffrangeg ond wedi eu hitaleiddio er mwyn gwahaniaethu rhwng y ddwy iaith.

Alsace

golygu
 
Enwau strydoedd yn Erstein, yn Ffrangeg ac Alsaseg.
 
Bayonne : arwydd mewn tair iaith ar bont Marengo dros Afon Nive.

Yn Alsace, lle mae rhan o'r boblogaeth yn siarad Alsaseg, mae enwau nifer o drefi a phentrefi o darddiad Almaeneg (gydag ambell newid orgraffyddol Ffrangeg). Ffrangeg yw'r unig iaith swyddogol yn Alsace, sy'n cael ei defnyddio ar bob arwydd ffordd yn y rhanbarth. Yng nghanol hanesyddol dinas Strasbourg, dangosir enw pob stryd yn Ffrangeg/Almaeneg neu Alsaseg, ond serch hynny Ffrangeg yw'r unig iaith swyddogol yno. Ers i'r drefn honno gael ei chyflwyno, mae nifer o drefi a phentrefi yn Alsace wedi mabwysiadu arwyddion stryd dwyieithog, yn enwedig yn Mulhouse lle y ceir dros 70 enghraifft o arwyddion stryd Ffrangeg/Alsaseg.[6] Yn ogystal, mae ambell commune (cymuned), fel Marlenheim wedi codi arwyddion ffyrdd dwyieithog ar eu cyrion.

Gwlad y Basg

golygu

Yn département y Pyrénées-Atlantiques (yn rhanbarth Aquitaine), mae'n bosibl canfod arwyddion ffyrdd dwyieithog Ffrangeg/Basgeg ar y ffyrdd lleol (h.y. dan ofal cynghorau'r départemente a'r cymunedau), yn ogystal ag ar arwyddion sy'n dynodi'r ffin rhwng dwy gymuned neu ardal (er enghraifft : Ascain/Azkaine). Siaredir Gasgwyneg (Gascon) yn ardal Bayonne-Anglet-Biarritz (mae'r Fasgeg yn fwy cyffredin, er hynny). Fel canlyniad ceir arwyddion ffyrdd tair iaith - Ffrangeg, Basgeg a Gwasgwyneg - yn Bayonne.

Corsica

golygu
 
Arwydd dwyieithog ger Bastia, Corsica, gyda'r fersiwn Ffrangeg wedi ei pheintio.

Ar ynys Corsica, mae'r arwyddion ffyrdd yn ddwyieithog, Corseg a Ffrangeg, gan gynnwys yr arwyddion ar y priffyrdd cenedlaethol (Ajaccio/Aiacciu, Corte/Corti, Puerto-Vecchio/Porti-Vechju, Sartene/Sartè, Bonifacio/Bunifaziu). Mewn rhai cymunedau, yn enwedig yng nghanolbarth yr ynys, penderfynwyd cael arwyddion Corseg yn unig. Mae enwau strydoedd ac arwyddion gwasanaethau yn uniaith Ffrangeg.

Gogledd Catalwnia (Ffrainc)

golygu

Yn département Pyrénées-Orientales, yn rhanbarth Languedoc-Roussillon, yn dilyn argymhelliad y cyngor, mae mwyafrif y trefi wedi mabwysiadu polisi o gael yr enw Catalaneg, o dan yr enw Ffrangeg neu ar arwydd arall ar ochr arall y ffordd, ar arwyddion swyddogol (er enghraifft Baillestavy/Vallestàvia). Yn Perpignan (Perpinyà), mae'r arwyddion stryd yn ddwyieithog. Yn y rhan fwyaf o'r cymunedau mae'r arwyddion enwau lleoedd yn tueddu i fod yn uniaith Ffrangeg, ond mewn rhai achosion maent yn ddwyieithog ac weithiau, ond yn anaml, yn Gatalaneg yn unig. Yn ddiweddar, mae'r arwyddion cyntaf i roi gwybodaeth ychwanegol yn Gatalaneg yn ogystal ac yn Ffrangeg wedi ymddangos.

Llydaw

golygu
 
Arwydd ffordd dwyieithog yn Lorient, Llydaw.

Yn Llydaw, mae arwyddion lle ac arwyddion ffyrdd yn ddwyieithog yn aml, gyda'r Llydaweg a'r Ffrangeg yn cael eu defnyddio. Mae hyn yn gyffredin iawn yn départements gorllewin Llydaw.[7] Mae'r defnydd hyn o arwyddion dwyieithog Ffrangeg-Llydaweg yn cynyddu o hyd. Mae awdurdodau lleol départements Finistère, Morbihan a Côtes-d'Armor wedi normaleiddio eu defnydd ar y ffyrdd sydd yn eu gofal, ac eithrio yn rhan ddwyreiniol yr olaf.

Ar y ffordd i mewn i gannoedd o drefi a phentrefi, ceir enw'r ar lle gyda'r ffurf Ffrangeg uwchben y Llydaweg (e.e. Rennes/Roazhon, Quimper/Kemper, Gwened/Vannes).[8] Yn achos nifer o leoedd, does dim gwahaniaeth rhwng yr enwau swyddogol Llydaweg a Ffrangeg (e.e. Brest, Redon, Edern). Ceir arwyddion dwyieithog ar y ffiniau rhwng y départements hefyd (e.e. Département du Finistère/Departamant Penn-ar-Bed, Département des Côtes-d'Armor/Departamant Aodoù-an-Arvor) ac mae'r un peth yn wir am arwyddion gydag enwau nodweddion daearyddol arnynt, e.e. enwau bryniau ac afonydd.

Yn yr un ffordd, yn y trefi ac yn yr ardaloedd cefn gwlad fel ei gilydd, mawrion a bychain, mae nifer y communes sy'n codi arwyddion ffyrdd ac arwyddion stryd dwyieithog yn cynyddu o hyd. Ceir enghreifftiau yn : Lorient, Brest, Carhaix-Plouguer, Rostrenen, Mellag, Pluguffan, Quimper, Lannion, Pontivy, Vannes, Landerneau, Skaer, Brec'h, Pouldergat, Redon a lleoedd eraill.[9]

 
Arwydd dwyieithog Ffrangeg/Llydaweg yn Llydaw.

Fel yn achos lleoedd eraill yn Ffrainc, dangosir y testun Llydaweg mewn llythrennau italig ar arwyddion ffyrdd y départementes, a hynny er gwaethaf argymhelliad yr Ofis ar Brezhoneg ('Bwrdd yr Iaith Lydaweg': y peth agosaf yn Llydaw i Fwrdd yr Iaith Gymraeg yng Nghymru) i ddefnyddio'r un orgraff, heb lythrennau italig, ar gyfer y ddwy iaith fel ei gilydd. Ond er bod cynghorau'r départements yn gyndyn i wneud hynny, mae argymhelliad y Bwrdd yn cael ei derbyn gan nifer gynyddol o gymunedau lleol.

Er iddo gael pleidlais y mwyafrif o'i blaid ar Gyngor Morbihan yn Nhachwedd 2004, mae cryn wrthwynebiad wedi cael ei amlygu i'r polisi o gael arwyddion ffyrdd dwyieithog yn nwyrain Morbihan, yn enwedig gan y Groupe information Bretagne o 2005 ymlaen.[10] Aeth un o drigolion amlwg Vannes mor bell â mynd i'r llys ynghylch penderfyniad y cyngor, ond cafodd yr achos ei wrthod yn llwyr yn 2008. Fel arall, mae trigolion dwy ran Llydaw - Basse-Bretagne (77%) a Haute-Bretagne (74%) - yn cefnogi'n frwd y polisi a'r egwyddor o gael arwyddion dwyieithog, yn ôl pôl piniwn yn y ddwy ardal yn 2009.[11] Mae'n bosibl dod ar draws arwyddion uniaith Ffrangeg o hyd, yn aml wedi eu difrodi am fod heb y Llydaweg, yn enwedig ar y ffyrdd mawr: dyma'r fath o arwyddion sy'n dal i fod yn darged difrodi symbolaidd gan fudiadau Llydewig fel Stourm ar Brezhoneg.

Mae gan Haute-Bretagne (dwyrain Llydaw) etifeddiaeth ieithyddol wahanol, sef yr iaith Gallo. Ond ni cheir unrhyw arwyddio o gwbl bron sy'n dangos Gallo gyda'r Ffrangeg ac eithrio arwyddion croeso ambell gymuned bychan, e.e. Loudéac/Loudia yn y Côtes-d'Armor a Parcé/Parczae yn Ille-et-Vilaine.

Ocsitania

golygu
 
Arwyddion stryd dwyieithog Ocsitaneg a Ffrangeg yn Gap (Hautes-Alpes).

Mewn rhai o'r communes yn yr rhan o Ffrainc lle y siaredir Ocsitaneg (Occitanie: Ocsitania neu'r Fro Ocsitaneg), ceir rhai arwyddion stryd dwyieithog, yn Ffrangeg ac yn y dafodiaith leol o'r Ocsitaneg. Gan amlaf maent i'w cael yng nghanol rhai o'r trefi hanesyddol. Weithiau mae hyn yn cofnodi enw hanesyddol sydd ddim yn cael ei arfer heddiw. Mewn trefi yn y Fro Ocsitaneg lle ceir arwyddion o'r fath yn cynnwys Toulouse, Aix-en-Provence a Nice.

Mae'r arwyddion ffyrdd, yn lleol a chenedlaethol, bron i gyd yn y Ffrangeg yn unig. Ar y llaw arall, mae arwyddion lle dwyieithog ar ymyl trefi a phentrefi yn dod yn fwyfwy cyffredin, fel sydd eisoes yn wir yng ngogledd Catalwnia (Ffrengig) ac yn Llydaw, er enghraifft. Ond mympwyol yw'r enghreifftiau, heb drefn amlwg i'w defnydd, ac felly ceir sawl math o arwyddion dwyieithog yn yr ardal. Mae rhai sefydliadau, fel yr Institut d'études occitanes, yn ceisio darbwyllo cynghorwyr lleol i fabwysiadu cynllun mwy cyffredinol ac unffurf.

Catalwnia

golygu

Yng Nghymuned Ymreolaethol Catalwnia, yr enw Catalaneg ar drefi a phentrefi yw'r enw swyddogol fel rheol, er enghraifft Girona, Lleida. Oherwydd hyn, mae'r arwyddion cyfeiriol ar y ffyrdd fel rheol mewn Catalaneg yn unig.

Am sefyllfa'r Gatalaneg dros y ffin yn Ffrainc, gweler yr adran Gogledd Catalwnia (Ffrainc) uchod.

Cymuned Ymreolaethol Gwlad y Basg

golygu

Ceir cryn amrywiaeth yng Nghymuned Ymreolaethol Gwlad y Basg, oherwydd darpariaeth gan awdurdodau lleol. Ceir rhai enghreifftiau o hen arwyddion uniaith Sbaeneg. Mae'r rhan fwyaf o'r arwyddion yn ddwyieithog, Basgeg a Sbaeneg, ond gydag amrywiaeth fawr yn y dylunio a'r graffeg. Mewn rhai ardaloedd, yn enwedig yn Bizkaia ac yn Gipuzkoa, ceir arwyddion Basgeg yn unig. Yn y blynyddoedd diwethaf, mae llywodraeth Gwlad y Basg wedi bod yn ceisio sicrhau mwy o unffurfiaeth mewn arwyddion. Fel rheol, gosodir yr iaith Fasgeg yn uchaf.

Am sefyllfa'r Fasgeg dros y ffin yn Ffrainc, gweler yr adran Aquitaine uchod.

Galicia

golygu

Ers 1998 yn Galicia, mae'r enwau lleoedd swyddogol yn uniaith Galisieg (A Coruña, Ourense, ayyb). Fel canlyniad, mae'r arwyddion ffyrdd yn Galisieg yn unig, heb Sbaeneg.

Yr Eidal

golygu

Trentino-Alto Adige

golygu
 
Arwydd tairieithog, Ladino, Almaeneg ac Eidaleg

Yn Nhalaith Ymreolaethol Bolzano (De Tirol), mae deddf gyfansoddiadol y rhanbarth yn mynnu fod pob arwydd yn ddwyieithog, Eidaleg ac Almaeneg, a bod rhaid i'r ddwy iaith fod yn gyfartal o ran maint y llythrennau.

Ar yr arwyddion ar yr autopistas ac yn ninas Bolzano, lle mai Eidaleg yw iaith y mwyafrif, mae'r Eidaleg yn uchaf ar yr arwyddion. Yn y gweddill o'r dalaith, mae'r Almaeneg yn uchaf. Gwneir defnydd helaeth o bictogramau lle gellir. Yn y rhannau lle siaredir Ladino, mae'r arwyddion yn dairieithog, Ladino, Almaeneg ac Eidaleg, ar gyfer enwau lleoedd. Yn nhalaith Trento, mae'r arwyddion yn ddwyieithog mewn Ladino ac Eidaleg, ond dim ond ar gyfer enwau lleoedd, gyda'r arwyddion eraill yn uniaith Eidaleg.

Friuli-Venezia Giulia

golygu

Yn Friuli, cydnabyddir yr iaith Ffriwleg gan ddeddf genedlathol (Deddf 482/1999) a rhanbarthol (Deddf Ranbarthol 15). Defnyddir yr iaith ar tua 40% o'r arwyddion cyfeiriol. Yn Nhalaith Udine, mae rhaglen ar droed i gyfnewid yr holl arwyddion ffyrdd am rai dwyieithog, Ffriwleg ac Eidaleg. Yn nhalaith gyfagos Pordenone, yn y rhan sy'n ffinio ar Udine, mae llawer o gymunedau yn defnyddio arwyddion dwyieithog ar gyfer enwau trefi a phentrefi, er fod arwyddion eraill yn uniaith Eidaleg.

Yn nhalaithiau Trieste a Gorizia, defnyddir arwyddion dwyieithog Slofeneg ac Eidaleg yn ardal y Carso, lle mae lleiafrif ieithyddol Slofeneg. Ceir rhai arwyddion dwyieithog Eidaleg a Slofeneg mewn rhannau o dalaith Udine hefyd.

Sardinia

golygu
 
Arwydd yn gwahardd ymsmygu, mewn Sardeg ac Eidaleg

Ar ynys Sardinia, cydnabyddir yr iaith Sardeg fel iaith swyddogol gan ddeddf genedlaethol (Deddf 482/1999) a rhanbarthol (Deddf Ranbarthol 26, 1997), ond oherwydd diffyg unffurfiaeth enwau Sardeg ac orgraff yr iaith, nid oes llawer o arwyddion dwyieithog ar y priffyrdd hyd yma. Dim ond yn ddiweddar y mabwysiadwyd y Limba Sarda Comuna fel ffurf swyddogol yr iaith. Ar lefel leol, ceir arwyddion cyfeiriol dwyieithog, Eidaleg a Sardeg, ond gyda chryn awmrywiaeth. Yn Alguer, ceir arwyddion dwyieithog Eidaleg a Chatalaneg.

Yr Almaen

golygu

Yn yr Almaen, ceir rhai arwyddion dwyieithog yn yr ardaloedd lle siaredir Sorbeg o gwmpas Cottbus, yn y cymunedau Ffrisaidd eu hiaith yn Saterland ac ar yr Ynysoedd Ffrisaidd Dwyreiniol, ac yn yr ardaloedd o gwmpas y ffin â Denmarc.

Yn yr ardaloedd Ffrisaidd megis Saterland, dim ond yr arwyddion enwau lleoedd wrth fynd i mewn i gymunedau ac wrth eu gadael sy'n ddwyieithog, a defnyddir llythrennau llai ar gyfer y Ffriseg nag ar gyfer y fersiwn Almaeneg.

Yr Iseldiroedd

golygu
 
Arwydd dwyieithog, Iseldireg a Ffriseg yng nghymuned Wûnseradiel,Fryslân

Fryslân

golygu

Ceir ardaloedd dwyieithog, Ffriseg ac Iseldireg, yn nhalaith Fryslân yng ngogledd yr Iseldiroedd. Dim ond un enw swyddogol sydd i bob tref a phentref yn Fryslân. Yn y rhan fwyaf o gymunedau, yr enw Iseldireg yw'r enw swyddogol, ond mewn chwe chymuned, yr enw Ffriseg yw'r ffurf swyddogol, ac mae dwy gymuned arall wedi penderfynu newid i'r fersiwn Ffriseg yn y dyfodol.

Mae'r rhan fwyaf o gymunedau yn defnyddio arwyddion dwyieithog ar yr arwyddion wrth fynd i mewn i gymuned neu wrth ei gadael. Uniaith Iseldireg yw'r arwyddion ffyrdd eraill fel rheol.

Gwlad Belg

golygu
 
Arwydd dwyieithog Ffrangeg ac Iseldireg yn ninas Brwsel.

Rhennir Gwlad Belg yn nifer o ardaloedd ieithyddol. Ceir pedair o'r rhain, ardal ieithyddol yr Iseldireg (yn cyfateb i Fflandrys), ardal ddwyieithog Prifddinas-Brwsel, ardal ieithyddol Ffrangeg (y rhan fwyaf o Walonia) ac ardal ieithyddol Almaeneg yn y dwyrain. Yn rhanbarth y Brifddinas-Brwsel, mae'r arwyddion i gyd yn ddwyieithog, Ffrangeg ac Iseldireg. Yn y rhan fwyaf o ranbarth Fflandrys, mae'r arwyddion yn uniaith Iseldireg, tra yn Walonia maent yn uniaith Ffrangeg fel rheol. Yn y communes lle ceir yr hyn a elwir yn facilités linguistiques, sef cydnabyddiaeth i leiafrifoedd ieithyddol, ceir arwyddion dwyieithog. Yn y rhannau lle siaredir Almaeneg fel iaith gyntaf, ceir arwyddion dwyieithog, Almaeneg a Ffrangeg.

Yn 2006, penderfynodd llywodraeth Fflandrys dynnu'n ôl eu cydnabyddiaeth swyddogol o'r cyfieithiadau Ffrangeg o enwau lleoedd yn Fflandrys, ac o ganlyniad, lleihawyd y nifer o arwyddion dwyieithog.

Awstria

golygu

Yn Awstria, mae deddf yn galw am arwyddion dwyieithog mewn ardaloedd neu gymunedau lle mae lleiafrif ieithyddol yn ffurfio o leiaf 10% o'r boblogaeth.

Carinthia

golygu
 
Arwydd dwyieithog yn Carinthia

Ceir lleiafrif Slofeneg ei hiaith mewn rhannau o dalaith Carinthia, ac mae mudiad yn galw am arwyddion ffyrdd dwyieithog. Yn 1972, penderfynodd llywodraeth Bruno Kreisky a llywodraethwr Carinthia, Hans Sima, osod arwyddion dwyieithog mewn ardal yn ne Carinthia, ond dinistriwyd hwy gan fudiadau adain-dde oedd yn gwrthwynebu dwyieithrwydd.

Yn 1977, penderfynodd y llywodraeth ffederal osod arwyddion dwyieithog ym mhob cymuned lle'r oedd 25% neu fwy o'r boblogaeth yn siarad Slofeneg. Ni lwyddwyd i'w gosod ym mhob un o'r rhain oherwydd gwrthwynebiad. Yn 2001, gorchymynwyd gosod arwyddion dwyieithog ym mhob cymuned lle'r oedd 10% o'r boblogaeth yn siarad Slofeneg, ond gwrthododd y llywodraethwr ar y pryd, sef Jörg Haider, wneud hynny.

Y Ffindir

golygu
 
Arwydd dwyieithog, Ffinneg a Saameg gogleddol yn Ohcejohka.

Yn y Ffindir, mae tua 6% o'r boblogaeth yn siarad Swedeg fel mamiaith. Mae deddfau'r Ffindir ynglŷn â dwyieithrwydd ymysg y mwyaf goleuedig yn Ewrop. Gall cymunedau fod â Ffinneg fel iaith swyddolgol, Swedeg fel iaith swyddogol neu fod yn swyddogol ddwyieithog. Mae'r categoriau fel a ganlyn:

  • Cymunedau gyda lleiafrif Swedeg o lai na 8% a llai na 3,000 o drigolion: Ffinneg yn iaith swyddogol.
  • Cymunedau gyda lleiafrif Swedeg o fwy na 8% neu fwy na 3,000 o drigolion: yn swyddogol ddwyieithog.
  • Cymunedau gyda lleiafrif Ffineg o lai na 8% a llai na 3,000 o drigolion: Swedeg yn iaith swyddogol.
  • Cymunedau ar Ynysoedd Åland: Swedeg yw'r iaith swyddogol

Yn y tiriogaethau sy'n swyddogol ddwyieithog, megis Ostrobotnia ac ar hyd arfordir de-ddwyrain y wlad, yn cynnwys y brifddinas, Helsinki), ceir arwyddion dwyieithog, Ffinneg a Swedeg. Gosodir yr iaith a siaredir gan y mwyafrif yn yr ardal yn uchaf. Ar ynysoedd Åland a chymunedau Korsnäs, Larsmo a Närpes ar y tir mawr, Swedeg yw'r unig iaith ar yr arwyddion.

Yng ngogledd y wlad, ceir arwyddion dwyieithog, Ffinneg a'r Iaith Sami leol.

Arwyddion dwyieithog yng ngweddill y byd

golygu

Y Maghreb: Algeria, Moroco a Tiwnisia

golygu
 
Arwydd croeso Arabeg, Berbereg (gwyddor Tifinagh) a Ffrangeg yn Isser yn Kabylie (Algeria)

Mae gwledydd y Maghreb, sef Algeria, Moroco a Tiwnisia, yn wledydd lle defnyddir Ffrangeg ar raddfa eang fel canlyniad o'r cyfnod pan fuont yn drefedigaethau Ffrengig. Arabeg yw'r iaith swyddogol yn y gwledydd hyn, ond mae nifer o bobl yn siarad Ffrangeg fel ail iaith ac mae dwyiethrwydd Arabeg-Ffrangeg yn beth cyffredin, yn enwedig yn Algeria a Tiwnisia gyda'r Ffrangeg yn iaith swyddogol ochr yn ochr â'r Arabeg yn yr olaf. Mae arwyddion ffyrdd ar y priffyrdd a'r ardaloedd trefol a thwristaidd yn dilyn y patrwm Ewropeaidd gydag arwyddion dwyieithog Arabeg a Ffrangeg, yn y drefn honno fel rheol. Defnyddir trawlythreniad i'r Ffrangeg o enwau lleoedd, e.e. Alger (Algiers) am al-Jazā'ir, prifddinas Algeria. Yn ogystal, mae'n arferol cael arwyddion dwyieithog am enwau strydoedd ac mae nifer o siopau a busnesau eraill yn defnyddio arwyddion Arabeg-Ffrangeg hefyd. Mae'r arwyddion rheoli traffig rhyngwladol yn cael eu defnyddio gyda'r neges yn llythrennau'r wyddor Ladin (e.e. 'STOP' "AROS" a 'P' "Parcio") ochr yn ochr â'r fersiwn Arabeg (e.e. قف/STOP). Ond gan amlaf mae unrhyw wybodaeth ychwanegol mewn Arabeg yn unig, yn enwedig yn yr ardaloedd gwledig.

 
Arwydd 'AROS' yn Nador (Moroco) yn Arabeg a Berbereg, a ymddangosodd ar 29 Ebrill 2003 ond a ddiflanodd yn ystod y nos.

Yn y gwledydd hyn (yn enwedig yn Algeria a Moroco), siaredir un neu ragor o'r ieithoedd Berber gan ganran o'r trigolion, ac mae hifer o siaradwyr Berbereg wedi bod yn ymgyrchu ers tro byd i gael statws swyddogol i'r iaith neu o leiaf i gael cydnabyddiaeth ehangach ohoni ym mywyd cyhoeddus y gwledydd hyn. Un o'r pethau mae ymgyrchwyr Berber wedi bod yn gofyn ydy cael arwyddion teirieithog - Arabeg/Berbereg/Ffrangeg - ond hyd yn hyn nid ydynt wedi llwyddo i berswadio'r awdurdodau gwladol i gymryd camrau i'r cyfeiriad hwn.

Dim ond yn Kabylie, rhanbarth yn Algeria sy'n un o gadarnleoedd y Berberiaid a lle mae'r iaith yn cael ei hamddiffyn yn ddygn, mae sawl tref a phentref wedi achub y blaen ar yr awdurdodau gwladol trwy osod arwyddion teirieithog sy'n cynnwys y Ferbereg leol (gwyddor Tifinagh). Does gan yr iaith ddim statws swyddogol yn Algeria o gwbl ond mae'r arwyddion hyn yn rhoi iddi statws de facto yn Kabylie.

Mae'r sefyllfa ym Moroco yn wahanol. Yno mae tua 35% o'r boblogaeth yn siarad un o'r ieithoedd Berber fel mamiaith. Does gan y Ferbereg ddim statws swyddogol, ond yn 2003, penderfynodd y Sefydliad Brenhinol dros y Diwylliant Amazigh (Institut royal de la culture amazighe), a sefydlwyd mewn ymateb i ymgyrchu gan siaradwyr Berbereg, i fabywsiadu'r wyddor Tifinagh yn swyddogol ar gyfer dysgu Berbereg yn yr ysgol. Gan dderbyn hyn fel arwydd o newid polisi gan y llywodraeth, penderfynodd cyngor tref Nador (ym mynyddoedd y Rif, ardal Ferbereg iawn) ddechrau gosod arwyddion yn lleol yn cynnwys neges yn y Ferbereg leol. Gosodwyd yr arwyddion cyntaf i fyny ar 29 Ebrill 2003 ond byr fu eu hanes; rhai oriau yn unig yn ddiweddarach, penderfynodd y Gweinidog Cartref Mostapha Sahel fod gweithred y cyngor yn anghyfreithlon a gorchmynodd dynnu'r arwyddion i gyd i lawr, yr hyn a ddigwyddodd o fewn oriau.

Canada

golygu
 
Arwydd tairieithog, Crëeg, Saesneg a Ffrangeg, yn Mistissini (Canada)

Yng Nghanada, ceir arwyddion ffyrdd dwyieithog Ffrangeg a Saesneg yn New Brunswick ac mewn rhai rhannau o Ontario a Manitoba, a hefyd yn y rhannau gerllaw'r ffin ieithyddol. Ceir arwyddion dwyieithog ar brif briffyrdd Canada, heblaw yn nhalaith Quebec, lle mae'r arwyddion yn uniaith Ffrangeg. Mae arwyddion ardal y brifddinas, Ottawa, yn gwbl ddwyieithog ers 2002.

Yn nhiriogaeth Nunavut, yng ngogledd Canada, mae'r arwyddion yn y brifddinas, Iqaluit, yn dairieithog, Inuktitut, Ffrangeg a Saesneg.

Yng nghymuned frodorol Huron-Wendat, gerllaw Dinas Quebec, mae'r arwyddion ffyrdd yn ddwyieithog, Ffrangeg a Wendat. Yng nghymuned Cree Mistissini, mae'r arwyddion yn dairieithog, Cree, Saesneg a Ffrangeg. Ar hyd Bae James yng ngogledd Quebec, mae'r arwyddion ffyrdd yn ddwyieithog, Ffrangeg / Inuit.

Gweriniaeth Pobl Tsieina

golygu

Ceir nifer fawr o ieithoedd rhanbarthol yng Ngweriniaeth Pobl Tsieina, ond oherwydd fod y rhan fwyaf o'r ieithoedd hyn yn defnyddio symbolau ideogramatig, wedi ei seilio ar yr ystyr yn hytrach na'r sain, nid oes galw am arwyddion dwyieithog. Gellir deall y symbolau mewn ieithoedd gwahanol. Ar y priffyrdd pwysicaf, ac yn rhai o'r dinasoedd lle mae mwyaf o dramorwyr, er enghraifft Shanghai, mae'r arwyddion yn cynnwys yr enwau wedi eu trawslythrennu i'r wyddor Ladin. Yn Hong Kong, ceir arwyddion dwyieithog, Saesneg a Tsieineeg, gyda'r Saesneg yn uchaf.

Indonesia

golygu
 
Arwydd enw ffordd yn Surakarta, yn yr wyddor Ladin a Jafaneg

Mae Indonesia yn wlad amlieithog, a dwyieithrwydd yn arferol. Ambell dro ceir enwau strydoedd yn ddwyieithog, ac mewn dwy wyddor wahanol, gan fod yr iaith Indoneseg yn defnyddio'r wyddor Ladin tra mae gwyddorau traddodiadol yn Bali, Jafa a De Sulawesi ymhlith eraill. Mae'r duedd yma wedi cynyddu yn ddiweddar wrth i ranbarthau Indonesia gael mesur helaethach o ymreolaeth.

Israel

golygu

Yn Israel, mae'r mwyafrif o'r arwyddion yn Hebraeg ond hefyd gyda thrawslythreniad i'r wyddor Ladin. Yn y rhannau o'r wlad lle mae poblogaeth Arabaidd sylweddol, ac yn agos i'r ffin a'r Tiriogaethau Palestinaidd, ychwanegir Arabeg at yr arwyddion hefyd.

Llyfryddiaeth

golygu
  • Steffan Allison et al. Symbols of justice: bilingual signs in Wales: complete history of the campaign for bilingual roadsigns = Symbolau cyfiawnder: arwyddion dwyieithog yng Nghymwu: hanes cyflawn ymgyrch arwyddion ffyrdd dwyieithog [1971]

Cyfeiriadau

golygu
  1. Araith Owain ym mrwydr Brewer Spinx. Gweler gwefan Owain Owain.
  2. Crwsâd Drwy Berswâd gan John L Williams (Tudalen 9-10): Brwydr iaith Tanygrisiau (Brewer Spinks)
  3. Arwyddion Ffyrdd Dwyieithog gan Roderic Bowen et al, 1972 adalwyd 28 Mehefin 2019
  4. Scotland-Alba-bilingual-signs-controversy o NowPublic[dolen farw]
  5. Bilingual signs policy slammed as_ ridiculous John O Groat Journal[dolen farw]
  6. Plaques bilingues à Mulhouse
  7. Signalétique routière en Bretagne Archifwyd 2008-06-16 yn y Peiriant Wayback Geobreizh
  8. [1] Archifwyd 2010-03-01 yn y Peiriant Wayback [2] Archifwyd 2008-11-15 yn y Peiriant Wayback Geobreizh
  9. "Les ronds-points ont désormais un nom" Archifwyd 2009-04-06 yn y Peiriant Wayback, Ouest-France, 31-03-2009
  10. "GRIB". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-02-20. Cyrchwyd 2009-08-06.
  11. 'Sondage TMO Régions réalisé en 2007', Fañch Broudic Parler breton au XXIe siècle, Brud Nevez n° 274, t. 52, 2009.