Cwm yr Eglwys
Mae Cwm yr Eglwys yn bentref bychan ar gilfach môr ar ochr ogleddol penrhyn Ynys y Ddinas, rhwng Abergwaun a phentref Trefdraeth, yng ngogledd Sir Benfro, de-orllewin Cymru. Mae'n gorwedd ym Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro ac mae Llwybr Arfordir Penfro yn rhedeg heibio i'r pentref.
Math |
pentref ![]() |
---|---|
| |
Daearyddiaeth | |
Sir |
Sir Benfro ![]() |
Gwlad |
![]() |
Cyfesurynnau |
52.019°N 4.89°W ![]() |
![]() | |

Mae gan y pentref harbwr yng nghysgod y creigiau ar lan Bae Trefdraeth, sy'n rhan o Fae Ceredigion. Mae'r traeth bychan tywodlydd yn boblogaidd gan ymwelwyr.
Eglwys Sant BrynachGolygu
Prif atyniad y pentref yw adfeilion Eglwys Sant Brynach. Credir i'r eglwys gael ei sefydlu tua'r 6g gan Sant Brynach, aelod o deulu brenhinol Brycheiniog. Yn ôl traddodiad roedd y sant yn arfer mynd i ben Carn Ingli ger llaw i siarad â'r angylion. Mae'n bosibl mai clas oedd yno i ddechrau. Codwyd eglwys newydd ar y safle yn y 12g, ar batrwm Celtaidd. Yn anffodus dim ond rhan o'r clochdy a'r mur orllewinol a oroesoedd storm enbyd a drawodd ar 25 Hydref, 1859; yr un storm a suddodd y Royal Charter, ger Moelfre, Môn, a 113 llong arall ar hyd arfordir Cymru y noson honno.
FfynhonnellGolygu
- Christopher John Wright, A Guide to the Pembrokeshire Coast Path (Constable, 1988)
Abercastell · Abercuch · Aberdaugleddau · Abereiddi · Abergwaun · Aberllydan · Amroth · Angle · Arberth · Begeli · Y Beifil · Blaen-y-ffos · Boncath · Bosherston · Breudeth · Bridell · Brynberian · Burton · Caeriw · Camros · Cas-blaidd · Cas-fuwch · Cas-lai · Cas-mael · Cas-wis · Casmorys · Casnewydd Bach · Castell Gwalchmai · Castell-llan · Castellmartin · Cilgerran · Cilgeti · Cil-maen · Clunderwen · Clydau · Cold Inn · Cosheston · Creseli · Croes-goch · Cronwern · Crymych · Crynwedd · Cwm yr Eglwys · Dale · Dinas · Dinbych-y-pysgod · Doc Penfro · East Williamston · Eglwyswen · Eglwyswrw · Felindre Farchog · Felinganol · Freshwater East · Freystrop · Y Garn · Gumfreston · Hasguard · Herbrandston · Hermon · Hook · Hundleton · Hwlffordd · Jeffreyston · Johnston · Little Haven · Llanbedr Felffre · Llandudoch · Llandyfái · Llandysilio · Llanddewi Efelffre · Llanfyrnach · Llangolman · Llangwm · Llanhuadain · Llanisan-yn-Rhos · Llanrhian · Llanstadwel · Llan-teg · Llanwnda · Llanychaer · Maenclochog · Maenorbŷr · Maenordeifi · Maenorowen · Maiden Wells · Marloes · Martletwy · Mathri · Y Mot · Mynachlog-ddu · Nanhyfer · Neyland · Niwgwl · Nolton · Parrog · Penalun · Penfro · Pentre Galar · Pont Canaston · Pont Fadlen · Pontfaen · Porth-gain · Redberth · Reynalton · Rhos-y-bwlch · Rudbaxton · Rhoscrowdder · Rhosfarced · Sain Ffrêd · St. Florence · Saundersfoot · Scleddau · Slebets · Solfach · Spittal · Y Stagbwll · Star · Stepaside · Tafarn-sbeit · Tegryn · Thornton · Tiers Cross · Treamlod · Trecŵn · Tredeml · Trefaser · Trefdraeth · Trefelen · Trefgarn · Trefin · Treglarbes · Tregroes · Treletert · Tremarchog · Tyddewi · Waterston · Uzmaston · Wdig · Yerbeston