Rhuallt

pentref ar fin yr A55 yn Sir Ddinbych

Pentref bychan yn Sir Ddinbych yw Rhuallt ("Cymorth – Sain" ynganiad ). Fe'i lleolir ar yr A55 tua 2 filltir i'r dwyrain o Lanelwy wrth droed Bryniau Clwyd. Mae'n adnabyddus i deithwyr yng ngogledd Cymru am fod y ffordd yn dringo'n syrth o'r pentref i'r bwlch yn y bryniau.

Rhuallt
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirTremeirchion Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.264637°N 3.389267°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Map
Canol pentref Rhuallt.

Mae'r pentref ar Lwybr Clawdd Offa. Yn y cyfnod Rhufeinig yr oedd y ffordd Rufeinig o Gaer i Segontiwm yn mynd trwy safle'r pentref.


Eginyn erthygl sydd uchod am Sir Ddinbych. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato