Yr Oesoedd Canol Diweddar yng Nghymru

Yn hanes Cymru, Yr Oesoedd Canol Diweddar yw'r cyfnod arhwng diwedd annibyniaeth wleidyddol y Cymry a chorfforiad Cymru i mewn i Loegr yn gyfreithiol yn 1536 ac 1542.

Ar ôl i Llywelyn Ein Llyw Olaf, Tywysog Cymru, gael ei ladd yn Nghilmeri yn 1282 daeth y wlad dan reolaeth Edward I, Brenin Lloegr yn gyfreithiol gyda Statud Rhuddlan yn 1284 ac yn symbolaidd pan wnaed ei fab yn Dywysog Cymru 1301. Adeiladodd Edward gestyll ar hyd arfordir Cymru mewn cylch haearn o gwmpas y wlad â chafodd ei fab Edward ei arwisgo yn Dywysog Cymru.

Yn y 15g cafwyd gwrthryfel Owain Glyndŵr, ond ni lwyddodd i ailsefydlu teyrnas annibynnol ond am gyfnod byr. Yn ddiweddarach yn y ganrif honno cafwyd Rhyfeloedd y Rhosynnau yn Lloegr a effeithiodd yn fawr ar Gymru. Yn 1485 ddaeth Harri Tudur i'r orsedd ar ôl curo Rhisiart III ym Mrwydr Maes Bosworth a dechreuodd cyfnod y Tuduriaid.

Roedd y Deddfau'r Cyfreithiau yng Nghymru 1536 a 1542 yn gyfrifol am gorffori Cymru i fewn i Loegr.

Uchafbwyntiau

golygu

Diwedd annibyniaeth

golygu
 
Cofeb Llywelyn ap Gruffudd, Cilmeri

Ar ôl teithio i'r de, gwahanwyd Llywelyn ap Gruffydd oddi wrth ei filwyr a lladdwyd ef ger Llanfair-ym-Muallt; dyma oedd diwedd annibyniaeth Cymru. Anfonwyd ei ben i Lundain, a'i roi ar bicell ar giât Tŵr Llundain a'i goroni gyda eiddew, symbol o fod tu hwnt i'r gyfraith. Safodd y pen ar y giât am o leiaf pymtheg mlynedd. [1] Lladdwyd Llywelyn ym Mrwydr Pont Orewin gan filwyr o Loegr mewn tric cudd yn ôl un ffynhonnell. Roedd Llywelyn dan yr argraff ei fod yn mynd yno ar gyfer trafodaethau. Parediwyd pen Llywelyn trwy Lundain a'i osod ar bigyn Tŵr Llundain gyda choron sarhaus o ddail llawryf.[2]

Dal Dafydd

golygu

Casglodd Dafydd benaethiaid Gwynedd yngyd yn Ninbych i geisio ail-ddechrau rhyfel egniol ond ni chafodd fawr o lwyddiant. Curwyd Dafydd ger Dolbadarn gan Iarll Warwick. Ciliodd Dafydd gan ddioddef o newyn ac oerni i Nanhysglain ger Bera Mawr. Ar 21 Mehefin 1283, bradychwyd y criw gan Einion ap Ifor, Esgob Bangor, Gronwy ab Dafydd a'u cludo i Gastell Rhuddlan ac Edward. Cymerwyd Dafydd dan warchodlu cryf i Amwythig a chafwyd ef yn euog o flaen 100 o farwniaid, 11 iarll ac Edward ei hun.[3] Ef oedd y person nodedig cyntaf i gael ei grogi, diberfeddu a chwarteru. Cymerwyd meibion Dafydd i gastell Seisnig lle cysgodd un ohonynt mewn cawell am gyfnod. Cymerwyd y Dywysoges Gwenllian i fynachlog Seisnig am ei bywyd cyfan heb allu siarad Cymraeg.[1]

Statud Rhuddlan

golygu

Cyhoeddodd Statud Rhuddlan 1284 fod Pura Wallia yn "annexed an united to the crown of the said kingdom as part of the said body". Cymerwyd Tlysau Coron Cymru a chreiriau sanctaidd gan gynnwys rhan tybiedig o groes Iesu Grist i gysegr Edward Gyffeswr yn Abaty Westminster er mwyn dangos fod coron Lloegr wedi cymeryd coron Cymru.[1]

Castell Biwmares a Chyflafan y Beirdd

golygu
 
Y Bardd (1774), gan Thomas Jones, yn seiliedig ar Gyflafan y beirdd

Ym Mhorth Wygyr neu Benofer, adeiladodd Gastell a enwodd yn Biwmares. Yn 1296 gorffenwyd yr adeilad a bu "Ffrau Ddu yn Biwmares" pan apwyntiwyd geidwad castell a llywydd y dref a lladdwyd rhai o Gymru. Dywedir mai yn i'r castell y gwahoddwyd feirdd ar gyfer math o Eisteddfod gan Edward cyn iddo orchymun i'w filwyr ruthro arnynt a'u lladd (Cyflafan y beirdd). Mae'r farn ar hanesrwydd y digwyddiad yn gymysg ymysg awduron a haneswyr.[3]

Gwrthryfela

golygu
 
Cofeb Madog ap Llywelyn, Eglwys yr Holl Saint ger Wrecsam.

Bu gwrthryfel Madog ap Llywelyn yn 1294 ac yn 1295. Yr un flwyddyn pasiwyd y cyntaf o'r Deddfau Penyd yn erbyn Cymru. Yn 1316, bu gwrthryfel Llywelyn Bren. Bu dau gyfnod newyn yn hanner cyntaf y ganrif ac yna daeth tair afiechyd i'r byd gorllewinol yn 1347-51 gan gynnwys 'Y Farwolaeth Fawr' lle bu farw chwarter o boblogaeth Cymru yn 1349-50. Yn 1300, poblogaeth Cymru oedd tua 300,000, ond erbyn diwedd y ganrif roedd tua 200,000.[4]

 
Cerflun Owain Glyn Dŵr, Corwen

Cyhoeddwyd Owain Glyn Dŵr yn dywysog Cymru ar 16 Medi 1400 yn Glyndyfrdwy gyda 300 o gefnogwyr. Cefnogwyd Glyndŵr gan Rhys ap Tudur Fychan, Gwilym ap Tudur, Rhys Ddu, Rhys Gethin, Gwilym Gwyn ap Rhys Llwyd ac yn 1401, Henry Dunn a roddodd gyngor ar frwydro. Enillodd Gwilym ap Tudur Conwy yn 1401 ac enillodd Glyndŵr Frwydr Hyddgen. Lladdwyd un o gefnogwyr Glyndŵr, Llywelyn ap Gruffudd Fychan gan y brenin yn 1401 a dechreuwyd Deddfau Penyd yn erbyn Cymru yn 1402. Cynhaliwyd Seneddau ym Machynlleth yn 1404 ac yn Harlech yn 1405. Ysgrifennwyd Lythyr Pennal yn 1406 gan gynnwys ei weledigaeth dros adfer Eglwys annibynnol Cymru a'i chanolbwynt yn Eglwys Gadeiriol Tyddewi yn ogystal a chreu prifysgolion yn Ne a Gogledd Cymru. Yn 1408 collwyd cestyll Aberystwyth a Harlech a llosgwyd ei gartref Sycharth a bu brwydrau ola'r gwrthryfel yn 1412. Bu farw ei fab Gruffudd yn 1411 yn nhŵr Llundain ac hefyd yn hwyrach ei wraig Margaret Hanmer a'i ferched Alys a Catrin.[5] Roedd Llythyr Pennal a Sêl Fawr Owain yn symbolau o hyder y cyfnod. Fe wrthododd Maredudd ab Owain Glyn Dŵr bardwn swyddogol tan 1421.[6]

Rhyfel y Rhosynnau

golygu
 
Taith Harri Tudur trwy Gymru, 1485

Wedi hyn bu Rhyfeloedd y Rhosynnau lle ranwyd cefnogaeth y Cymry. Bu Harri Tudur yn byw'n alltud yn Llydaw a defnyddiodd draddodiad barddol proffwydol Cymreig (Mab Darogan) a'i daid oedd Owain ap Maredudd (Owain Tudur) a oedd yn gefnder i Owain Glyndŵr. Enillodd gefnogaeth yng Nghymru ar ôl dweud, "ein tywysogaeth ni o Gymru a'r bobl o'r un peth i'w rhyddid blaenorol, gan eu traddodi o'r fath gaethwasanaethau truenus ag y buont yn druenus ers tro byd". Glaniodd ym Mae'r Felin ym Mhenrhyn Dale ym Mhenfro, enillodd Brwydr Maes Bosworth gan chwifo 'Draig Goch Cadwaladr". Gwelwyd buddugoliaeth 1485 fel un Cymreig gan Gymry.[7]

Deddfau 1536-42

golygu

Ar ôl i Harri VIII wneud ei hun yn bennaeth Eglwys Lloegr yn 1534, gwelwyd Cymru fel problem bosibl a oedd yn cynnwys dynion uchelgeisiol a oedd yn anhapus a'i hanfantais ethnig ac yn rhwystredig gyda chymhlethdodau cyfreithiol. Bu Cymru hefyd yn dir glanio i Harri Tudur ac yn agos at Iwerddon Gatholig. Prif weinyddwr coron Lloegr, Thomas Cromwell, a anogodd y Deddfau yn 1536 a 1542-43 i wneud Cymru yn rhan o Loegr. Diddymwyd y Mers ac ehangwyd Tywysogaeth Cymru dros Gymru cyfan. Dilewyd y Gyfraith Gymreig. Disgrifiwyd Cymru fel "Tywysogaeth, Gwlad neu Diriogaeth" a ffurfiwyd ffin â Lloegr. Caniatawyd i Gymry ddal swyddi cyhoeddus ond gyda â'r gofyniad i allu siarad Saesneg a gwnaed Saesneg yn iaith y llysoedd.[8]

Llyfryddiaeth

golygu
  • A. D. Carr, Owain of Wales : the End of the House of Gwynedd (Caerdydd, 1991)
  • R. R. Davies, The Age of Conquest. Wales 1063-1415 (Rhydychen, 1991). ISBN 0198201982
  • R. R. Davies, The Revolt of Owain Glyn Dŵr (Rhydychen, 1995)

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 1.2 Johnes, Martin (2019-08-25). Wales: England's Colony (yn Saesneg). Parthian Books. tt. 35–40. ISBN 978-1-912681-56-3.
  2. Davies, Dr John (2020). Accident or Assassination?The Death of Llywelyn 11th December 1282 (PDF). Abbey Cwmhir Heritage Trust.
  3. 3.0 3.1 Evans, E. Vincent (1802). Eisteddfod Genedlaethol y Cymry, Cofnodion a Chyfansoddiadau Buddogol Eisteddfod Bangor, 1890. tt. 188–192.
  4. Gower, Jon (2013). The Story of Wales (yn Saesneg). BBC Books. tt. 124–129. ISBN 978-1-84990-373-8.
  5. Gower, Jon (2013). The Story of Wales (yn Saesneg). BBC Books. tt. 137–144. ISBN 978-1-84990-373-8.
  6. Williams, Gruffydd Aled (2015). Dyddiau olaf Owain Glyndŵr. Y Lolfa. tt. 13–14, 20. ISBN 978-1-78461-156-9.
  7. Gower, Jon (2013). The Story of Wales (yn Saesneg). BBC Books. tt. 148–152. ISBN 978-1-84990-373-8.
  8. Johnes, Martin (2019-08-25). Wales: England's Colony (yn Saesneg). Parthian Books. tt. 65–69. ISBN 978-1-912681-56-3.