Wicipedia:Y Caffi/archif/17
Gweithdy/Gweithdai Wicipedia yn Eisteddfod Genedlaethol 2012
golyguFel rhan o'r Cynllun Datblygu uchod mae rhan am weithgaredd yn ystod Eisteddfodau Cenedlaethol. Ym Mro Morgannwg eleni, bydd gofod pwrpasol ar gael ble gallwn gynnal gweithdy golygu Wicipedia. Bydd taflunydd, sgrin fawr ac yn bwysicach na dim, cyswllt di-wifr ar gael. Criw Hacio'r Iaith fydd yn gyfrifol am y gofod, ac mae amserlen, ac mae'n nhw'n awyddus i drio cadarnhau rhaiu sloiau fel y gallant gael eu cynnwys yn rhaglen swyddogol y steddfod. Mae nhw wedi cynnig 1 neu 2 slot ymarferol (e.e. gweithdai) yn y prynhawniau, ac o bosib slot 'sgwrs' un bore, ble mae modd unai rhoi cyflwyniad (e.e. Lle Wicipedia ym myd addysg?) eu falle panel.
Mae amserlen ddrafft wedi ymddangos ar wefan Hacio'r Iaith, ac ar hyn o bryd ar brynhawn Mercher mae slot gweithdy Wicipedia. Croseo i chi adael sylw yno.
- Mae slot ar gyfer gweithdy Wicipedia Cymraeg yn bendant a y dydd Mercher rwan, rhwng 15:00 a 18:30.--Ben Bore (sgwrs) 12:07, 5 Gorffennaf 2012 (UTC)
Os liciwch chi gymryd rhan yn y gweithdy/gweithdai (unai'n rhoi cyflwyniad byr, neu cynorthwyo fel hwylysudd), nodwch pryd fyddwch ar gael yma, fel ein bod ni'n gallu trio am slot sy'n gyfleus i'r nifer fwyaf ohonom. Mae Deb a Dyfrig wedi nodi amseroedd + bydda i, Llywelyn2000 a Llewpart ar gael rhywbryd, ond nid ydym wedi gallu cadarnhau'n union eto.--Ben Bore (sgwrs) 20:38, 28 Ebrill 2012 (UTC)
- Mae criw Hacio'r Iaith yn defnyddio wici hedyn.net (sy'n defnyddio'r union yr un meddalwedd a' Wicipedia) i drefnu'r digwyddiadau ar gyfer Gŵyl Dechnoleg Gymraeg Eisteddfod Genedlaethol 2012 (dyma'r fanylion y babell ar wefan yr Eisteddfod). Os ydych am gymryd rhan (PLIS GNEWCH!) yn y sesiwn Wicipedia a/neu unrhyw un arall, allwch chi:
- Creu cyfrif ar hedyn.net (yn ddelfrydol yn defnyddio'ch enw iawn, fel bod ni'n gwybod yn iawn pwy sy'n dod)
- Nodwch pryd y byddwch ar gael (os am y sesiwn Wicipedi yn unig, nodwch "prynhawn yn unig" o dan rhestr dydd Mercher.
PWYSIG: Mae'r eisteddfod yn agosau, felly beth am helpu i drefnu beth fydd cynnwys y sesiwn ar y dudalen yma.
- Diolch.--Ben Bore (sgwrs) 12:07, 5 Gorffennaf 2012 (UTC)
Cafwyd llwyddiant! Braf oedd sgwrsio efo ffyddloniaid Wicipedia, nad oeddent mond enwau cyn hynny! Braf hefyd oedd sgwrsio efo criw Hacio'r Iaith - mae pob un o'r rheiny y bum yn sgwrsio gyda nhw wedi golygu Wici-bach-ni! Ga i ddiolch i Ben Bore a Carl Morris... a Rhdri... a i bawb! am bartneriaeth arbennig ac am wythnos wych. Roeddwn yn un o'r sesiynnau dysgu sgiliau Wicipedia a gyflwynwyd gan Ben Bore - a mi roedd yn cŵl, gyda chynulleidfa dda'n ymarfer sgiliau newydd. Ga i feiddio awgrymu ein bod yn parhau'r bartneriaeth hon y flwyddyn nesaf ac yn mynd ati rwan i drefnu mwy o gyhoeddusrwydd, llogi gliniaduron a chreu defnyddiau cyhoeddusrwydd uniaith Gymraeg. Mae'r arian wedi'i glustnodi'n barod! Ymlaen! Llywelyn2000 (sgwrs) 06:48, 13 Awst 2012 (UTC)
Wedi Eisteddfod lwyddianus, beth nesaf i’r Wicipedia Cymraeg?
golygu(mae’r canlynol yn barhad i’r sgwrs uchod am weithdy Eisteddfod Genedlaethol 2012, ond meddwl o’n i byddai’n fuddiol dechrau o dan bennawd newydd)
Oedd wir, bu’n bartneriaeth buddiol iawn gyda chriw Hacio’r Iaith a gobeithio y gallwn adeiladu arno. Dw i wedi sgwennu pwt o adroddiad ar flog y Wicipedia Cymraeg am ddigwyddiad yr Eisteddfod. Fel y digwyddiad Golygathon yng Nghaerdydd ym mis Mehefin, credaf bod cynnal digwyddiadau fel hyn yn bwysig iawn er mwyn:
- codi proffil y Wicipedia
- dangos sut y gall unrhyw un gyfrannu ato
- a gobeithio denu cyfranwyr newydd ar gyfer y dyfodol
Deallaf fod hyn y gofyn tipyn o’n cyfranwyr presennol, ond dw i’n meddwl ein bod yn dechrau magu momentwn, ac o ddarllen rhwng y llinellau [fan hyn], dw i’n meddwl bydd tipyn o gefnogaeth, boed yn ymarferol a/neu’n ariannol yn mynd i ddod o gyfeiriad Wikimedia UK yn y dyfodol agos. Os ydym am fanteisio’n llawn ar hyn, rhaid i ni ddechrau meddwl o ddifri beth rydym am anelu tuag ato a pha fath o adnoddau rydym eu hangen i wireddu hyn.
Heb fynd i fynd i ormod o drafferth a chreu gormodedd o waith, ydy hi’n werth trio ffurfioli pethau ychydig? Mae lot o’r gwaith hyn wedi ei ddechrau yng Nghynllun Datblygu 2012-13. Beth sy gyda fi mewn golwg ydy creu rhyw is-adran arbennig parhaol ar y wefan hon, er mwyn canoli’r canlynol mewn un man.
- Dw i wedi creu is-adran (arbrofol!) Be wyt ti'n feddwl ohono? Ymlaen! neu Yn Ôl! Llywelyn2000 (sgwrs) 05:30, 25 Hydref 2012 (UTC)
‘’Hyrwyddo a chyhoeddusrwydd’’
Trefnu digwyddiadau a phrosiectau
golygu- Gweithdai (golygu cyffredinol, arbenigol megis ffotograffiaeth a delweddau)
- Golygathon
- Digwyddiad GLAM
- Presenoldeb mewn digwyddiadau addas (Eisteddfod Genedlaethol, digwyddiadau Hacio’r Iaith ayyb)
Cyfathrebu a’r wasg
golygu- Templedi Datganiadau
- Rhestrau cyswllt y wasg
- Cadw cofnod o pan grybwyllir y Wicipedia Cymraeg yn y wasg
Deunydd hyrwyddo
golygu- Logos
- Templedi gyda delwedd cyson
- Posteri, cyflwyniadau sioe sleidiau
- Crysau t (cynnig sloganau, dyluniad)
- Posteri
- Baneri stondin/pop-up
Adnoddau parod (ond bod modd eu golygu ac addasu)
golyguCyflwyniadau (e.e. cynnwys sioe sleidiau ar gyfer gwahanol weithdai)
Cyfarwyddiadau (safoni/adeiladu ar gyfarwyddiadau presennol a falle eu addasu i fod ar gael ar ffurf print, megis PDF?)
“Hyfforddiant”
Hyn yn swnio braidd yn ddifrifol, ond mae ambell ddigwyddiad diddorol yn cael eu cynnal drwy’r DG gan Wikimedia UK a dramor gan sefydliadau a phartneriaid eraill. Falle byddai modd talu am gostau teithio a chostau cynnal (gan nawdd Wikimedia UK) petai cynrychiolwyr o’r Wicipedia Cymraeg eisiau eu mynychu. Byddai hyn nid yn unig o fudd i’r Wicipedia, ond hefyd ar gyfer datblygu sgiliau’r unigolyn a rhoi cyfle rhwydweithio iddynt – does wybod pa gyfleodd annisgwyl daw yn sgil hyn. Enghreifftiau yw Wikipedia mewn addysg, Hyfforddi’r Hyfforddwyr, Ffotograffiaeth, Hawlfraint ayyb.--Ben Bore (sgwrs) 20:33, 16 Awst 2012 (UTC)
Angen Job?
golyguMae gen i swp o erthyglau i'w creu ar y dudalen: Rhestr gwyfynod a gloynnod byw. Os oes gan rywun awydd dilyn y rhestr, gallwch ychwnegu gwybodaeth arnyn nhw (o'r Saesneg) e.e. maint, lleoliad. Gellid gwiro hefyd bod teitl y Nodyn yn Gymraeg a sillafu'r gair "cynnwys" yn gywir! Os na ga i help - mi wna i o fy hun! :-} Llywelyn2000 (sgwrs) 05:36, 30 Ebrill 2012 (UTC)
Cyfeiriadau angenrheidiol
golyguMae geirwirdeb Wici'n ddibynol ar medru profi pob gosodiad drwy ffynonellau (neu gyfeiriadau). Mae nhw'n ANGENRHEIDIOL. Mae'n job boring (a diflas!) ond mae'n rhaid ei wneud. Dw i wedi cychwyn ar yr hen erthyglau, drwy fynd drwy'r rhestr yma (Tudalennau Arbennig -> Erthyglau Hynaf). Dw i wedi gosod y refs arnyn nhw hyd at yr erthygl ar Falltraeth - 4 Chwefror 2007. Mae 'na bum mlynedd o erthyglau i'w gwiro a'u cywiro! Mae can croeso i bawb helpu! Llywelyn2000 (sgwrs) 06:25, 4 Mai 2012 (UTC)
Mae'r Nodion Categori:Dim-ffynonellau a Categori:Tudalennau ag angen ffynonellau wedi'u gosod ar rai erthyglau'n barod. Gellir cychwyn gyda'r rhain, wrth gwrs. Llywelyn2000 (sgwrs) 06:33, 4 Mai 2012 (UTC)
- A ddylid dileu'r holl erthyglau sydd HEB gyfeiriadau / ffynhonnell, fel ag a wneir yn Wiki-en? Beth yw eich barn? Llywelyn2000 (sgwrs) 07:46, 7 Mai 2012 (UTC)
- Dwi o blaid hyn - mae ychwanegu ffynonellau a chyfeiriadau at erthyglau yn andros o dasg. Ond mae'r ail gategori, sef Categori:Tudalennau ag angen ffynonellau yn wahanol i'r blaenorol - defnyddir y nodyn Nodyn:Angen ffynhonnell lle bo honiad ac mae angen ffynhonnell neu ragor o eglurhad arno fe; mae'r categori Categori:Tudalennau ag angen ffynonellau ar gyfer erthyglau lle nad oes dim ffynhonnell o gwbl. Os ydyn ni'n mynd i ddileu erthyglau, dylen ni eu dileu yn ôl Categori:Dim-ffynonellau. -- Xxglennxx (sgw. • cyf.) 13:44, 7 Mai 2012 (UTC)
- Mae ychwanegu ffynonellau'n dasg bwysig iawn, ond yn fy marn i ddylwn dim ond dileu'r erthyglau rydym wir yn cwestiynu eu gwirionedd/amlygrwydd. Neu, os oes honiad dadleuol heb ffynhonnell o fewn erthygl sy fel arall yn un ddilys, yna dileu'r honiad yn unig (os na chanfodir tystiolaeth ei fod yn wir). Dwi'n credu taw camgymeriad mawr bydd ddileu nifer fawr o erthyglau Wicipedia! Dwi'n amau bod gan yr erthyglau heb gyfeiriadau ddigon o gamgymeriadau ynddynt i gyfiawnhau hyn — gwella'r erthyglau yw'r ffordd ymlaen. Mae Categori:Tudalennau ag angen ffynonellau a Categori:Dim-ffynonellau yn ddefnyddiol i ganfod yr erthyglau sy angen sylw'n gyntaf. —Adam (sgwrs • cyfraniadau) 17:22, 7 Mai 2012 (UTC)
- Mae angen gwneud rywbeth, ond cytuno gyda Adam na ddylid mynd a dileu'r holl erthyglau rwan. Efallai penderfynu ar dydddiad, ac o'r dyddiad hynny ymlaen, dechrau bod mwy pendant gyda chanllawiau. --Ben Bore (sgwrs) 19:58, 7 Mai 2012 (UTC)
- Adam: dyna a gredais innau tan yn ddiweddar. Bellach, fe ddywedir fod "pob manylyn" yn agored i'w cwestiynu a'u herio. Ar Wiki, mae angen 2 "dystiolaeth allanol" ym mhob erthygl i'w dilysu, ac er mwyn profi eu bont yn haeddu erthygl arnyn nhw. Gweler yma: editors are strongly advised to provide citations for all information added to Wikipedia...
- Gall y ffynhonnell fod ar ffurf arall hefyd sef yn "Ddolen allanol" ac weithiau mae gennym erthyglau lle ceir yr is-deitl "Llyfryddiaeth", ac mae'r rhain hefyd yn bodloni'r gofynion.
- Ond parthed fy her i ddileu "holl erthyglau sydd HEB gyfeiriadau / ffynhonnell" - roedd fy nhafod yn fy moch! Eu hychwanegu i'r erthygl ydw i, ond efallai fod angen pwysleisio i bawb mai'r fynhonnell (neu'r cyfeiriadau) hyn ydy'r PETH PWYSICAF SYDD GAN EIN HERTHYGLAU. Mae'n rhoi grym iddyn nhw. Dw i'n amcangyfrif fod hanner ein herthyglau heb ffynhonnell. Llywelyn2000 (sgwrs) 05:16, 8 Mai 2012 (UTC)
Pwysig. Ar fy nghais, mae Hazard-SJ wedi cynhyrchu nifer o dudalennau sy'n cynnwys dolennau gwallus. Mae wedi gadael neges ar y dudalen Sgwrs yn nodi'r union ddolen. Mae 'na waith mawr yn fama: misoedd o waith. I'w wneud yn sydyn, y peth hawdda ydy dileu'r ddolen wallus. Cofiwch ddileu'r Categori hefyd. Diolch.Llywelyn2000 (sgwrs) 04:28, 10 Mai 2012 (UTC)
Hafan
golyguDw i wedi ychwanegu chydig o wybodaeth ar ben uchaf, dde ein Hafan - ar ffurf baner - am Pedia Trefynwy; mae'r diwrnod lansio ar y 19eg. Tref Wicipedia Gyntaf y Byd. Gobeithio fod hyn yn dderbyniol. Cafwyd gais gan Roger (Cadeirydd WMUK) am hyn. Diolch. Llywelyn2000 (sgwrs) 07:38, 6 Mai 2012 (UTC)
Mi fydde'n wych medru cael 10 i 12 baner wahanol i ddod arno'n otomatig e.e. 11 Rhagfyr: Diwrnod Llywelyn II neu "Cofiwch: Dydd Santes Dwynwen, Ionawr....". Mi ryden ni wedi gwneud hyn yn y gorffennol efo Dydd Gwyl Ddewi, sut mae gwneud hyn yn otomatig? Os cytunwch, beth am wneud rhestr o faneri posib? Llywelyn2000 (sgwrs) 07:47, 6 Mai 2012 (UTC)
- Dw i wedi defnyddio ffont efo cysgod yn y Faner. Fyddai ysgrifen HEB gysgol yn well, gan mai dyna ydy arddull gweddill tudalennau Wici? Llywelyn2000 (sgwrs) 06:52, 7 Mai 2012 (UTC)
Awgrymiadau o faneri:
Parhaol:
- 1 Ionawr Dydd Calan
& 15 Ionawr Diwrnod Wicipedia
- 25 Ionawr Dydd Santes Dwynwen
- 14 Chwefror Dydd San Ffolant
- 1 Mawrth Dydd Gŵyl Ddewi
- 12 Mehefin Dydd Gwenllian
- 16 Medi Diwrnod Glyn Dŵr
- 31 Hydref Gŵyl Calan Gaeaf
- 5 Tachwedd Noson Guto Ffowc
- 11 Rhagfyr Dydd Llywelyn yr Ail
- 25 Rhagfyr Diwrnod Nadolig
- 26 Rhagfyr Gŵyl San Steffan
- 31 Rhagfyr Nos Galan
Newidiol: 2012:
- 21 Rhagfyr Alban Arthan
2013:
- 19 Ionawr Hacio'r Iaith 2013
ayb Llywelyn2000 (sgwrs) 07:12, 7 Mai 2012 (UTC)
- Oes 'na chwaeg o ddyddiau pwysig? Llywelyn2000 (sgwrs) 07:37, 14 Mai 2012 (UTC)
- Pryd mae troi'r cloc? Llywelyn2000 (sgwrs) 05:19, 17 Mai 2012 (UTC)
- Sut allet ti anghofio y pwysica ohonynt i gyd, sef 15 Ionawr? (newydd ddod ar ei draws rwan ydw i!)--Ben Bore (sgwrs) 20:46, 17 Mai 2012 (UTC)
- Diolch; wyddwn innau ddim chwaith! Llywelyn2000 (sgwrs) 05:01, 18 Mai 2012 (UTC)
- Sut allet ti anghofio y pwysica ohonynt i gyd, sef 15 Ionawr? (newydd ddod ar ei draws rwan ydw i!)--Ben Bore (sgwrs) 20:46, 17 Mai 2012 (UTC)
- Pryd mae troi'r cloc? Llywelyn2000 (sgwrs) 05:19, 17 Mai 2012 (UTC)
- Oes 'na chwaeg o ddyddiau pwysig? Llywelyn2000 (sgwrs) 07:37, 14 Mai 2012 (UTC)
Y Cynllun Datblygu
golyguDiolch i bawb a roddodd sylwadau ar y Cynllun Datblygu. Byddaf yn ei gyflwyno rwan i WMUK. Sylwch hefyd ar un datblygiad diddorol, sef Golygathon Cyntaf Wicipedia a gynhelir ar 30 Mehefin am 9.30 y bore. Llywelyn2000 (sgwrs) 05:11, 10 Mai 2012 (UTC)
- Fe dyfoddd y Cynllun Datblygu yn rhy fawr i un ddalen; dw i felly wedi creu Adran arbennig o Wici ar gyfer Datblygu'r Wicipedia Cymraeg. Ar y cyd a'r adran hon mae Cymdeithas newydd wedi'i ffurfio i wneud llawer o'r gwaith: sef Wici Cymru (yr enw gwreiddiol oedd 'Llwybrau Byw'; yr enw nesaf arni efallai fydd Wikimedia Cymru!). Sut i ffindio'r adran newydd? Ewch i Hafan ac fe welwch yn y rhestr dolenni bron ar y top, un ddolen fechan o'r enw Datblygu. Newidiwch unrhyw beth! Ychwanegwch eich barn! Gwethredwch! Llywelyn2000 (sgwrs) 23:36, 5 Tachwedd 2012 (UTC)
Dolennau gwallus a chyfeiriadau
golyguYn dilyn trafodaethau diweddar ar bwysigrwydd ffynhonnell, mae Hazard-SJ wedi cynhyrchu nifer o Tudalen gyda dolen wallus|dudalennau sy'n cynnwys rhestr o ddolennau gwallus. Mae'n gadael neges ar y dudalen Sgwrs yn nodi'r ddolen ddiffygiol. Mae 'na waith mawr yn fama, dyddiau o waith. I'w wneud yn sydyn, y peth hawdda ydy dileu'r ddolen wallus. Cofiwch ddileu'r Categori hefyd. Llywelyn2000 (sgwrs)
URL Cofiadwy
golyguDw i wedi prynu a phwyntio http://wicipediacymraeg.org. at yr Hafan, gan ei fod yn llawer mwy cofiadwy na'r hen gyfeiriad. Fyddai hi'n syniad ei roi ar dop ein tudalennau, yn rhywle, fel ei fod yn sticio ym meddwl ein darllenwyr? O dan y logo (jig-so o'r blaned?), neu ym mhle? Llywelyn2000 (sgwrs) 08:11, 23 Mai 2012 (UTC)
Mapiau
golyguSut i roi cyfesurynnau daearyddol mewn erthglau? Gweler y drafodaeth yma. Llywelyn2000 (sgwrs) 06:05, 24 Mai 2012 (UTC)
VOCAB
golyguCafwyd trafodaeth ar Vocab dro'n ol; gellir ei weld yn gweithio yma ar wefan y BBC. Ydech chi'n dymuno ei roi fel opsiwn (botwm bychan) ar Wici-cy, fel cymorth i'r dysgwr? Llywelyn2000 (sgwrs) 09:10, 30 Mai 2012 (UTC)
Chwilio am fasdata : enw Lladin Gwyfynod a maint yr adenydd
golyguUnwaith eto, dw i'n chwilio am fasdata - y tro yma enwau Lladin gwyfynod a maint eu hadennydd. Byddai un colofn arall yn wych: eu cynefin. Unrhyw syniadau plis? Mi allai wedyn gael bot i'w hychwanegu i'r erthglau unigol. Llywelyn2000 (sgwrs) 05:30, 31 Mai 2012 (UTC)
- Bellach, dw i'n ymwybodol o Wikidata, sef prosiect a fydd yn rhedeg rhwng Ebrill 2012 a Mawrth 2013. Mi fydd data yn cael ei drin yn debyg i ffeiliau ar Comin. Hynny yw, data mewn un lle canolog yn cael ei dynnu i fewn i wybodlen. Mi fydd na cryn waith paratoi Gwybodleni, ond mi fyddan nhw wedyn yn cael eu diweddaru'n otomatig! Gwych iawn i wici bach fel ni! e.e. Bydd poblogaeth tref yn newid yn dilyn cyhoeddi'r cyfrifiad diweddaraf neu ganlyniadau etholiad: nifer y pleidleisiau neu nifer yr ASau o wahanol bleidiau. Llywelyn2000 (sgwrs) 08:01, 12 Mehefin 2012 (UTC)
Fe orffennwyd (os oes gorffen) 1,050 o erthyglau ar wyfynod a gloöynnod byw - wedi blwyddyn bron o waith. Mae Llên Natur yn cyfeirio at y gwaith:
- yma (paragraff cyntaf)
- brawddeg agoriadol y Geiriadur enwau a thermau
- Dolen o dudalen flaen y wefan (ar y gweill)
Gwerthfawrogaf y bartneriaeth newydd hon gyda Duncan Brown, Gwyn Williams a swyddogion eraill Llên Natur a Chymdeithas Edward Llwyd. - Llywelyn2000 (sgwrs) 19:47, 6 Rhagfyr 2012 (UTC)
- Diolch iddynt am y croes-hyrwyddo, ond tydi run o'r ddwy ddolen yn gweithio!--Ben Bore (sgwrs) 10:32, 7 Rhagfyr 2012 (UTC)
- Tria nhw eto: mae nhw'n gweithio'n iawn i mi! - Llywelyn2000 (sgwrs) 12:24, 7 Rhagfyr 2012 (UTC)
- Dyna ryfedd, tyi o dal ddim yn gweithio i mi. Mae'n edrych fel bod heiprddolen yna, ond ddim yn pwyntio i nunllewrth glicio arno.--Ben Bore (sgwrs) 12:42, 7 Rhagfyr 2012 (UTC)
- Dyna ryfedd, tyi o dal ddim yn gweithio i mi. Mae'n edrych fel bod heiprddolen yna, ond ddim yn pwyntio i nunllewrth glicio arno.--Ben Bore (sgwrs) 12:42, 7 Rhagfyr 2012 (UTC)
- Tria nhw eto: mae nhw'n gweithio'n iawn i mi! - Llywelyn2000 (sgwrs) 12:24, 7 Rhagfyr 2012 (UTC)
- Diolch iddynt am y croes-hyrwyddo, ond tydi run o'r ddwy ddolen yn gweithio!--Ben Bore (sgwrs) 10:32, 7 Rhagfyr 2012 (UTC)
Da ni'm hedfan! Mae eitem am Wicipedia yn y rhifyn diweddaraf o Lên Natur! Ewch i: http://llennatur.com/files/u1/Cylchgrawn59.pdf a sgroliwch reit i'r gwaelod: Llên Natur a’r Wicipedia Cymraeg... Gwasanaeth newydd ac fe welwch yr eitem am ein herthyglau ar Wwyfynod a Glöynnod Byw. Llywelyn2000 (sgwrs) 04:32, 5 Ionawr 2013 (UTC)
Update on IPv6
golygu(Apologies if this message isn't in your language. Please consider translating it, as well as the full version of this announcement on Meta)
The Wikimedia Foundation is planning to do limited testing of IPv6 on June 2-3. If there are not too many problems, we may fully enable IPv6 on World IPv6 day (June 6), and keep it enabled.
What this means for your project:
- At least on June 2-3, 2012, you may see a small number of edits from IPv6 addresses, which are in the form "
2001:0db8:85a3:0000:0000:8a2e:0370:7334
". See e.g. w:en:IPv6 address. These addresses should behave like any other IP address: You can leave messages on their talk pages; you can track their contributions; you can block them. (See the full version of this announcement for notes on range blocks.)
- In the mid term, some user scripts and tools will need to be adapted for IPv6.
- We suspect that IPv6 usage is going to be very low initially, meaning that abuse should be manageable, and we will assist in the monitoring of the situation.
Read the full version of this announcement on how to test the behavior of IPv6 with various tools and how to leave bug reports, and to find a fuller analysis of the implications of the IPv6 migration.
--Erik Möller, VP of Engineering and Product Development, Wikimedia Foundation 00:50, 2 Mehefin 2012 (UTC)
Distributed via Global message delivery. (Wrong page? Fix here.)
Gavin / Gwalchgwn
golyguI wonder if you could help with a question posed to me on the German Wikipedia. The article en:Gavin mentiones that the name stems from the Welsh Gwalchgwn but gives no source. The statement has never been challenged since an IP converted the article from a redirect back in 2007. That information now has spread around the internet in various languages due to the zillion mirrorsites that exist. Do you know of a realiable source for that information, or maybe know someone who could find out? My friends in Pembrokeshire are not really a help due to the "little England" issue. Agathoclea (sgwrs) 10:46, 5 Mehefin 2012 (UTC)
- This site says that Gawain is an Anglicisation of Gwalchgwyn, with Gavin as an alternate form. According to their list of sources, they don't use Wikipedia (or any other websites). However, Gwalchmai/Gwalchmei is the Welsh name for (the Arthurian) Gawain. For further confusion, see en:Gawain#Name! I might be able to skulk around the library this week and see if I can find something. —Adam (sgwrs • cyfraniadau) 06:25, 19 Medi 2012 (UTC)
- Newydd creu Gavin, gyda ffynhonnell. Just created Gavin, with a source. —Adam (sgwrs • cyfraniadau) 12:31, 20 Medi 2012 (UTC)
- Thanks - Agathoclea (sgwrs) 18:09, 21 Medi 2012 (UTC)
2011 Picture of the Year competition
golyguY Llyfrgell Genedlaethol yn Rhyddhau holl luniau Geoff Charles i Wicipedia
golyguBydd 150,000 o hen ffotograffau yn cael eu rhyddhau ar ein cyfer gan y Llyfrgell Genedlaethol, ffotograffau sy'n cynnwys holl luniau Geoff Charles. Bydd cyfarfod rhyngom â'r LLG ymhen ychydig. Mae nhw eisioes wedi rhoi holl luniau John Thomas (ffotograffydd) ar ein cyfer, ac wedi bod yn flaenllaw iawn yn cyflwyno'r Drwydded Rydd. Gallwch weld y lluniau hynny mae nhw wedi eu huwchlwytho, fel prawf, i Gomin Flickr yn fama. Mae hyn yn unol â'n Wicipedia:Cynllun Datblygu diweddar. Mae llawer o gyrff eraill mewn trafodaethau a ni hefyd gan gynnwys Cadw a Chasgliad y Werin. Y ffotograff cyntaf i'w roi ar un o'n herthyglau yw llun o Paul Robeson yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Glyn Ebwy 1958. Llywelyn2000 (sgwrs) 22:28, 5 Mehefin 2012 (UTC)
- Pan fo popeth yn ei le, dywedwch wrthyf ac ychwanegaf drwydded hawlfraint i'r gwymplen fel a geir gyda'r Eisteddfod Eisteddfod a John Thomas. -- Xxglennxx (sgw. • cyf.) 19:04, 6 Mehefin 2012 (UTC)
- Gwych. Llywelyn2000 (sgwrs) 03:37, 7 Mehefin 2012 (UTC)
- Yn dilyn cyfarfodydd rhwng yr asiantaethau sy'n cyfrannu lluniau i Gasgliad y Werin, cyhoeddwyd y bydd Peilot yn cael ei gynnal fel treial i rywbeth llawer mwy. 150 o luniau'n ymwneud a Threfynwy fydd yn cael eu rhyddhau'n gyntaf. Gwrthododd Cadw gyfrannu yr un llun i'r peilot. Deellir fod y Llyfgrgell Genedlaethol, fodd bynnag, mor flaenllaw ag erioed ac yn rhyddhau 50 o luniau. Llywelyn2000 (sgwrs) 06:37, 14 Awst 2012 (UTC)
- Dwi di bod yn uwchlwytho rhai o'r lluniau o Gomin Flickr i Gomin Wicifryngau. Gobeithio gwneud rhai o ffotograffau Geoff Charles o eisteddfodau. —Adam (sgwrs • cyfraniadau) 17:48, 31 Hydref 2012 (UTC)
- Gwych. Mae nhw hefyd wedi addo 150 o luniau high-res drwy Casgliad y Werin / Pedia Trefynwy a 15 arall o'n dewis ni, fel arbrawf. Felly os oes rhywun am awgrymu delweddau high-res, nodwch nhw yma. Fe allwn hefyd ofyn fideo, neu am ffotograff/iau o lawysgrifau prin e.e. Llyfr Du Caerfyrddin. Mae llawer o'r lluniau ar Fflicr mor low-res, mae eu hansawdd yn rhy wael i Wici e.e. Cyhoeddi Eisteddfod 1941 ym Mae Colwyn. Diolch. Llywelyn2000 (sgwrs) 20:02, 1 Tachwedd 2012 (UTC)
- Dic Jones: angen llun o fflicr neu Europeana yn fama.
Mae gennym ni'r hawl i ddefnyddio unrhyw lun gan y Llyfrgell Genedlaethol (ar Flickr, Europeana neu eu gwefan hwy). Cofiwch gopio'r manylion (y metadata) yn union fel ag y mae. Cefais gyfarfod efo Dafydd Tudur, Swyddog Trwyddedau'r LLGC ddydd Gwener a chadarnhawyd hynny. Yn fras mae'r Llyfgell yn flaenllaw iawn: mae nhw wedi datgan nad ydyn nhw'n berchen ar hawlfraint lluniau a dogfennau dros 50 mlynedd oed. Mae hyn yn torri tir newydd drwy Ewrop. Llywelyn2000 (sgwrs) 04:55, 14 Ionawr 2013 (UTC)
- O'r diwedd mae 50 o luniau'r Peilot Delweddau sydd gennym i'w canfod yn fama. Mae croeso i chi eu mewnforio i erthyglau unigol a thynnu sylw atynt! Delweddau o'r LLGC ydy'r rhain. Disgwyliwn yn eiddgar am ddelweddau hefyd gan y Partneriaid eraill: Cadw, Y Comisiwn Brefnhinol a'r Amgueddfa Genedlaethol. Os fydd y Peilot yn llwyddiannus, daw miloedd eraill i'w canlyn! Y LlGC sy'n arwain, unwaith eto! Llywelyn2000 (sgwrs) 14:55, 4 Mawrth 2013 (UTC)
Possible crosswiki spam
golygu
Cywirio gwybodlen yn creu lot o waith
golyguFy mai i oedd o yn y lle cyntaf, yn camgyfieithu capacity maes chwaraeon fel 'cynhwysedd' ar wybodlen clwb pel-droed. Dw i wedi ei newid i 'Maes yn dal' ar y wybdolen ei hun, ond mae hyn rwan yn achosi i'r wybodaeth ddiflannu o'r wybodlen o fewn erthyglau. Mae lot o erthyglau yn defnyddio'r wybodlen (sy'n wych), ond oes modd osgoi gorfod golygu pob erthygl yn unigol? Dw i wedi gwneud hyd at Celtic.--Ben Bore (sgwrs) 11:51, 2 Gorffennaf 2012 (UTC)
- Jyst cadw'r paramedr ar y wybodlen yn "{{{cynhwysedd|}}}", ond newid y testun sy'n ymddangos i "Maes yn dal" (does dim byd yn eu hatal rhag bod yn wahanol). —Adam (sgwrs • cyfraniadau) 05:56, 19 Medi 2012 (UTC)
Help decide about more than $10 million of Wikimedia donations in the coming year
golygu(Apologies if this message isn't in your language. Please consider translating it)
Hi,
As many of you are aware, the Wikimedia Board of Trustees recently initiated important changes in the way that money is being distributed within the Wikimedia movement. As part of this, a new community-led "Funds Dissemination Committee" (FDC) is currently being set up. Already in 2012-13, its recommendations will guide the decisions about the distribution of over 10 million US dollars among the Foundation, chapters and other eligible entities.
Now, seven capable, knowledgeable and trustworthy community members are sought to volunteer on the initial Funds Dissemination Committee. It is expected to take up its work in September. In addition, a community member is sought to be the Ombudsperson for the FDC process. If you are interested in joining the committee, read the call for volunteers. Nominations are planned to close on August 15.
--Anasuya Sengupta, Director of Global Learning and Grantmaking, Wikimedia Foundation 19:58, 19 Gorffennaf 2012 (UTC)
Distributed via Global message delivery. (Wrong page? Fix here.)
CC-BY-SA
golyguMae Gŵyl Tegeingl wedi nodi ar eu gwefan (gweler gwaelod, chwith) y geiriau hudolus: CC-BY-SA. Llongyfarchiadau am fod mor flaenllaw!!! Bydd cyrff eraill yn dilyn yn ystod yr wythnosau nesaf. Gallwch, nawr, ddefnyddio unrhyw lun neu destun o'u gwefan ar Wicipedia. Credwn mai gwefan y Casglwr gan Gymdeithas Bob Owen oedd y gymdeithas Gymraeg gyntaf i wneud hyn. Oes yna chwaneg? Llywelyn2000 (sgwrs) 06:42, 14 Awst 2012 (UTC) Mae Sion Rhys Llwyd, wedi rhoi ffrwyth ei waith ymchwil (Thesis: Cenedlaetholdeb R. Tudur Jones) o dan y drwydded hon, hefyd, a hynny ers Tachwedd 2011.
Ar y llaw arall, tydy'r Eisteddfod Genedlaethol ddim wedi parhau eu trafodaethau efo ni, er addewid y trefnydd. Cafwyd sgwrs am hyn dro'n ol yn fama. Beth am ddileu'r cwbwl lot? Llywelyn2000 (sgwrs) 07:17, 14 Awst 2012 (UTC)
More opportunities for you to access free research databases
golyguThe quest to get editors free access to the sources they need is gaining momentum.
- Credo Reference provides full-text online versions of nearly 1200 published reference works from more than 70 publishers in every major subject, including general and subject dictionaries and encyclopedias. There are 125 full Credo 350 accounts available, with access even to 100 more references works than in Credo's original donation. All you need is a 1-year old account with 1000 edits. Sign up here.
- HighBeam Research has access to over 80 million articles from 6,500 publications including newspapers, magazines, academic journals, newswires, trade magazines and encyclopedias. Thousands of new articles are added daily, and archives date back over 25 years covering a wide range of subjects and industries. There are 250 full access 1-year accounts available. All you need is a 1-year old account with 1000 edits. Sign up here.
- Questia is an online research library for books and journal articles focusing on the humanities and social sciences. Questia has curated titles from over 300 trusted publishers including 77,000 full-text books and 4 million journal, magazine, and newspaper articles, as well as encyclopedia entries. There will soon be 1000 full access 1-year accounts available. All you need is a 1-year old account with 1000 edits. Sign up here.
You might also be interested in the idea to create a central Wikipedia Library where approved editors would have access to all participating resource donors. Add your feedback to the Community Fellowship proposal. Apologies for the English message (translate here). Go sign up :) --Ocaasi (talk) 02:13, 16 Awst 2012 (UTC)
GibraltarpediA
golygu
Cais am Sylwadau: Cynllun Cymorth Cyfreithiol
golygu
I apologize for addressing you in English. I would be grateful if you could translate this message into your language.
The Wikimedia Foundation is conducting a request for comment on a proposed program that could provide legal assistance to users in specific support roles who are named in a legal complaint as a defendant because of those roles. We wanted to be sure that your community was aware of this discussion and would have a chance to participate in that discussion.
If this page is not the best place to publicize this request for comment, please help spread the word to those who may be interested in participating. (If you'd like to help translating the "request for comment", program policy or other pages into your language and don't know how the translation system works, please come by my user talk page at m:User talk:Mdennis (WMF). I'll be happy to assist or to connect you with a volunteer who can assist.)
Thank you! --Mdennis (WMF)01:52, 6 Medi 2012 (UTC)
Distributed via Global message delivery. (Wrong page? Fix here.)
Mae Sefydliad Wicifryngau yn cynnal cais am sylwadau parthed cynllun arfaethedig i ddarparu cymorth cyfreithiol ar gyfer defnyddwyr mewn rolau penodol a enwir yn ddiffynyddion mewn achwyniadau cyfreithiol oherwydd eu rolau. Gellir trafod y cynllun yma.
Os ydych am helpu i gyfieithu'r cais am sylwadau, y cynllun arfaethedig neu dudalennau eraill ar Meta i'r Gymraeg, dere draw i dudalen sgwrs Mdennis (WMF) am gymorth. (Cyfieithwyd o'r neges Saesneg uchod.) —Adam (sgwrs • cyfraniadau) 05:27, 19 Medi 2012 (UTC)
Wicidata yn barod i gychwyn
golygu(Apologies if this message isn't in your language.)
As some of you might already have heard Wikimedia Deutschland is working on a new Wikimedia project. It is called m:Wikidata. The goal of Wikidata is to become a central data repository for the Wikipedias, its sister projects and the world. In the future it will hold data like the number of inhabitants of a country, the date of birth of a famous person or the length of a river. These can then be used in all Wikimedia projects and outside of them.
The project is divided into three phases and "we are getting close to roll-out the first phase". The phases are:
- language links in the Wikipedias (making it possible to store the links between the language editions of an article just once in Wikidata instead of in each linked article)
- infoboxes (making it possible to store the data that is currently in infoboxes in one central place and share the data)
- lists (making it possible to create lists and similar things based on queries to Wikidata so they update automatically when new data is added or modified)
It'd be great if you could join us, test the demo version, provide feedback and take part in the development of Wikidata. You can find all the relevant information including an FAQ and sign-up links for our on-wiki newsletter on the Wikidata page on Meta.
For further discussions please use this talk page (if you are uncomfortable writing in English you can also write in your native language there) or point me to the place where your discussion is happening so I can answer there.
--Lydia Pintscher 13:12, 10 Medi 2012 (UTC)
Distributed via Global message delivery. (Wrong page? Fix here.)
Mae Wikimedia Deutschland yn gweithio ar brosiect Wicifryngau newydd o'r enw Wicidata. Nod Wicidata yw i greu cronfa ddata ganolog ar gyfer yr holl Wicipediau, prosiectau eraill Wicifryngau, a'r byd! Bydd Wicidata yn cadw pob math o ddata, er enghraifft poblogaeth gwlad, dyddiad geni person, neu hyd afon. Gellir yna defnyddio'r data mewn unrhyw brosiect Wicifryngau, a thu hwnt iddynt.
Rhennir y prosiect yn dri cham:
- dolenni rhyngwici (gan ei wneud yn bosib i gadw'r holl ddolenni rhyngwici ar Wicidata)
- gwybodlenni (gan ei wneud yn bosib i gasglu'r wybodaeth sydd mewn gwybodlenni a'i rhannu ar draws sawl prosiect)
- rhestrau (gan ei wneud yn bosib i greu rhestrau ar sail ymholiadau fel eu bod yn diweddaru'n awtomatig pan ychwanegir data newydd)
Gallwch ymuno â ni trwy arbrofi'r fersiwn arddangos, rhoi adborth, a chymryd rhan mewn datblygiad Wicidata. Ceir yr holl wybodaeth berthnasol gan gynnwys cwestiynau cyffredin a dolenni i gofrestru i'n llythyr newyddion ar dudalen Wicidata ar Meta.
Am ragor o drafodaeth ewch yma. (Cyfieithwyd o'r neges Saesneg uchod.) —Adam (sgwrs • cyfraniadau) 05:50, 19 Medi 2012 (UTC)
Enwau Saesneg yng Nghymru
golyguI am spending a lot of time trying to get the lists of english SSSIs complete, so that I can tackle the welsh ones. Following recent discussions at [1], the en.welsh lists will be organised by Unitary Authority, as that is what CCW does. (Old Area of Search list pages will explain where to find the various lists). I would be quite interested in seeing how these could be used on cy as well - which may involve some work on the names used. Some names are listed bilingually, but where the CCW name is only in English, would that be acceptable on the cy list? RobinLeicester (sgwrs) 17:14, 5 Medi 2012 (UTC)
- I have the same problem with the Cadw database (Graded buildings); Cadw, typically, very often ignores the Welsh language, and their database is monolingual English. We can translate obvious names such as names of towns and villages, but roads are very difficult in that they don't translate literary e.g. Stryd y Gwynt might not be 'Windy Street' in English; it could easily be 'Victoria St'. Back to your question. The following SSI comes from their (monolingual) database: "FENN'S, WHIXALL, BETTISFIELD, WEM AND CADNEY MOSSES SSSI". Another example is "JEFFREYSTON PASTURES SSSI". The names of the SSSIs would become the titles of articles; do we leave it in English or leave the article out? A third option would be to attempt to find out through maps - which are often in English! I think we need the community's opinion on this Robin at the Caffi. Beth yw eich barn? Llywelyn2000 (sgwrs) 02:48, 12 Medi 2012 (UTC)
- Saesneg tra'n bod yn ymchwilio i'r enw Cymraeg? Llywelyn2000 (sgwrs) 02:48, 12 Medi 2012 (UTC)
Ffurfio Cymdeithas Llwybrau Byw
golyguAr 12 Medi 2012 ffurfiwyd cymdeithas i gefnogi gweithgareddau Wicipedia Cymraeg. Mae cyfansoddiad y chofnodion y cyfarfod i'w weld yma.
Nod y Gymdeithas yw hybu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o'r defnydd o'r Gymraeg ar y we, gan gyflawni hynny drwy’r amcanion hyn:
- hybu, hyrwyddo, cefnogi Wicipedia Cymraeg a Wikipedia.
- hyrwyddo'r cysyniad o ledaenu holl wybodaeth y byd i bawb, am ddim drwy hyrwyddo'r defnydd o 'gynnwys agored'
- rhyddhau gwybodaeth addysgol (testun, delweddau, fideo ayb) ar drwydded CC-BY-SA neu ei debyg
- ffurfio perthynas ag unigolion, sefydliadau a chymdeithasau cyffelyb yng Nghymru ac mewn gwledydd eraill.
- addysgu a meithrin golygyddion newydd a chynnig hyfforddiant sut i hyfforddi eraill (cynllun 'Train the Trainers')
- cofrestru'r Gymdeithas yn Elusen gyda’r Comisiwn Elusennau.
Cytunwyd yn y cyfarfod cyntaf fod Cynllun Datblygu Wicipedia Cymraeg 2012 - 13 yn cydorwedd yn esmwyth gyda Nodau ac Amcanion y Gymdeithas a’n bod yn ei fabwysiadu fel ein Cynllun Gweithredu.
Os ydych yn dymuno dod i'r cyfarfod nesaf a fydd yn cael ei gynnal yn Rhuthun, yna cysylltwch a fi drwy ebost. Mae gwahoddiad i bawb sy'n credu yn y nodau a'r amcanion! Yn y dyfodol, gobeithiwn ddefnyddio Sgeip. Llywelyn2000 (sgwrs) 07:05, 15 Medi 2012 (UTC)
- Gwych, Llywelyn! Mae Wicipedia yn mynd o nerth i nerth! —Adam (sgwrs • cyfraniadau) 03:19, 19 Medi 2012 (UTC)
- Mae Rhys Ifans wedi cytuno i fod yn Llywydd Anrhydeddus Cymdeithas Llwybrau Byw. I'w aralleirio - mae Rhys, drwy hyn, yn gwneud gosodiad hollbwysig - ei fod yn cefnogi Wicipedia Cymraeg gant y cant, ac am ei weld yn mynd (fel dywedodd Defnyddiwr:Adam, uchod) o nerth i nerth!!! —Cafodd y sylw hwn heb lofnod ei ychwanegu gan Llywelyn2000 (sgwrs • cyfraniadau) 09:47, 1 Hydref 2012
Mewn cyfarfod neithiwr trafodwyd newid yr enw i: Cymdeithas Wici Cymru. Cofnodion y cyfarfod, cyn hir, ar y ddolen uchod. Llywelyn2000 (sgwrs) 09:39, 25 Hydref 2012 (UTC)
Egin
golyguCafwyd sawl trafodaeth ar Egin erthyglau: gweler yma (Archif 8) er enghraifft. Pwrpas "Eginyn" (neu bonyn) ydy:
- . rhoi rhybydd i'r darllenwr mai erthygl sydd yn y broses o gael ei ehangu ydyw
- . rhoi gwybod i'r golygyddion ble mae'r erthyglau sydd angen gweithio arnyn nhw.
Fel mae Defnyddiwr:Lloffiwr yn ei ddweud (Mawrth 2007): Mynd ati i ehangu'r egin sydd eisiau. Y nod felly ydy dileu'r erthyglau sy'n cynnwys "egin" drwy eu datblygu.
Mae yna reol ar hyn yn Wicipedia:Eginyn hefyd sy'n nodi:
Erthygl fer iawn yw eginyn, sydd fel arfer yn cynnwys un paragraff yn unig. Llywelyn2000 (sgwrs) 05:26, 1 Hydref 2012 (UTC)
Wicipedia yn y 70fed Safle
golyguAr ddechrau'r flwyddyn roeddem yn y 67 fed safle. Rwan y 70fed. I weld ychydig o'r drafodaeth a fu yn y gorffennol trowch i fama. Nac wylwch... Fe godwn ni eto! Llywelyn2000 (sgwrs) 14:28, 12 Hydref 2012 (UTC)
- Yn ôl i 69 heddiw: o flaen y Wici Marathi gan un erthygl! —Adam (sgwrs • cyfraniadau) 21:16, 19 Hydref 2012 (UTC)
- Mae'r Wicipedia Albaneg rhyw 4,500 o erthyglau yn fwy na ni erbyn hyn. Y siaradwyr Marathi yw ein cystadleuwyr newydd. O bosib gallem cyrraedd 40,000 erthygl erbyn Dydd Calan 2013, neu a yw hynny'n darged rhy uchelgeisiol (tua 30 erthygl newydd pob dydd)? —Adam (sgwrs • cyfraniadau) 02:04, 28 Hydref 2012 (UTC)
Upcoming software changes - please report any problems
golygu
Fundraising localization: volunteers from outside the USA needed
golyguPlease translate for your local community
Hello All,
The Wikimedia Foundation's Fundraising team have begun our 'User Experience' project, with the goal of understanding the donation experience in different countries outside the USA and enhancing the localization of our donation pages. I am searching for volunteers to spend 30 minutes on a Skype chat with me, reviewing their own country's donation pages. It will be done on a 'usability' format (I will ask you to read the text and go through the donation flow) and will be asking your feedback in the meanwhile.
The only pre-requisite is for the volunteer to actually live in the country and to have access to at least one donation method that we offer for that country (mainly credit/debit card, but also real-time banking like IDEAL, E-wallets, etc...) so we can do a live test and see if the donation goes through. All volunteers will be reimbursed of the donations that eventually succeed (and they will be low amounts, like 1-2 dollars)
By helping us you are actually helping thousands of people to support our mission of free knowledge across the world. Please sing up and help us with our 'User Experience' project! :) If you are interested (or know of anyone who could be) please email ppena@wikimedia.org. All countries needed (excepting USA)!
Thanks!
Pats Pena
Global Fundraising Operations Manager, Wikimedia Foundation
Sent using Global message delivery, 16:53, 17 Hydref 2012 (UTC)
Rhagor o waith adolygu cyfieithiadau ar meta
golyguMae dwy dudalen angen eu hadolygu cyn iddynt gael eu cyhoeddi ar meta, sef fundraiser launch e-mail a Chrynodeb Amodau a Thelerau Wikimedia. Y gwaith sydd ei eisiau yw i bwyso ar 'derbynier' os yn derbyn y cyfieithiad, neu bwyso ar gyfeirnod y neges os oes angen gwella arno. Wedi cwblhau'r gwaith mae angen newid y 'state' i 'ready'. Rhaid gosod Cymraeg yn 'fy newisiadau'. Os bydd unrhyw broblem gallwch holi ar fy nhudalen sgwrs. Bydd ymgyrch codi arian eleni yn cael ei drefnu gan sefydliad Wicifryngau yn hytrach na Wikimedia UK, felly does dim gwaith ychwanegol eleni. Lloffiwr (sgwrs) 22:26, 21 Hydref 2012 (UTC)
- Diolch i Llywelyn2000 am adolygu'r launch e-mail. Lloffiwr (sgwrs) 13:18, 23 Hydref 2012 (UTC)
- 4 neges newydd yn barod i'w hadolygu yn y grŵp Landing Page and Banner messages. Lloffiwr (sgwrs) 13:51, 31 Hydref 2012 (UTC)
Tybed a wneith rywun brawf ddarllen fy nghyfieithiadau yn TranslateWiki os gwelwch yn dda? Diolch. Llywelyn2000 (sgwrs) 11:49, 1 Chwefror 2013 (UTC)
- Diolch am hyn. Dyma rai dw i ddim yn siwr ohonynt, ond heb eu newid:
- Pam mai 'Wici brawf' ydy o ac nid 'Wici prawf', hefyd mae'n swnio fel cyfieithiad o Wiki test ac nid Test wiki. Beth am 'Wici profi' hyd yn oed?
- Ar gyfer The ISO 639 code of the language you are working on here mae gen ti Y Cod ISO 639 rydych yn gweithio arno yma. Baswn i'n cynnig Cod ISO 639 yr iaith rydych yn gweithio arno yma.
- Ar gyfer View user language and test wiki mae gen ti Cymerwch gip ar y wici brawf yn eich iaith chi. Tydy o ddim yn glir beth ydy ystyr y frawddeg Saesneg, ond baswn i'n ei ddehongli fel Cymerwch gip ar eich iaith a'ch wici brawf chi (neu Cymerwch gip ar iaith a wici brawf y defnyddiwr os nad oes sicrwydd mai cyfeirio at dy ddewisiadau dy hun mae hyn).
- Gelli newid nhw ar TranslateWiki a gadael nodiadau yn fano: mae na tua 200 rhagor i'w prawfddarllen; dos i "Cyrcher" ac yna "Derbynier" os wyt ti'n cytuno, neu eu newid. Mae lle yno i adael unrhyw sylwadau fel yr uchod. Os ei di i'r ddewislen "Grwpiau" fe weli fod tua chant ohonyn nhw a chydig iawn sydd wedi'u cyfieithu: mae yna 37,210 HEB eu cyfieithu. Gweler: fama. Lloffiwr sydd wedi gwneud y rhan fwyaf; prawf ddarllen fydda i fel arfer (hy clcicio ar "Derbynier"). Llywelyn2000 (sgwrs) 00:01, 2 Chwefror 2013 (UTC)
Adran newydd: Porth y Dyfodol
golyguMae na gryn dipyn o weithgaredd wedi bod ynghylch cefnogi'r Wicideulu yma yn ystod y flwyddyn diwethaf; ac mae cynlluniau cyffrous iawn ar y gweill! Er mwyn dod a'r holl gynlluniau o dan yr un to, awgrymwyd ein bod yn gwneud hyn ar ffurf WiciBrosiect neu Borth, gyda'i stamp ei hun.
I'r perwyl hwn, fel peilot, dw i wedi creu casgliad o erthyglau, gan ddefnyddio prif themau'r trafodaethau amrywiol a fu'n ddiweddar. Gweler: Wicipedia:Datblygu.
Fel dw i'n dweud, drafft ydy o! i'w addasu a'i wella - neu ei wrthod! e.e. mae angen lleihau maint y testun, tabs gwahanol? Lliw blwch gwahanol? Teitl? Sylwadau plis. Llywelyn2000 (sgwrs) 07:33, 25 Hydref 2012 (UTC)
Defnyddiwr anhysbys 68.3.67.81 eto
golyguMae trafodaeth am y defnyddiwr anhysbys yma yn rhywle'n barod (negesfwrdd gweinyddwyr falle), ac mae ambell un wedi gadael sylw ar ei dudalen sgwrs a hyd yn oed ei flocio ddwywaith, ond mae'n dod yn ol gyda stybiau un brawddeg am Actorion Americanaidd, sy, i mi, yn bobl hollol ddi-nod ac tyn erthyglau dibwynt. Mae'r diweddaraf am Mr. Lawrence yn arbennnig o ddiwerth, gan nad yw'n nodi enw llawn/gwir enw'r cymeriad yma. Ydy o'n rhesymol jyst bloio'r boi yma am byth?--Ben Bore (sgwrs) 21:38, 30 Hydref 2012 (UTC)
- Wedi blocio am gyfnod amhenodol. —Adam (sgwrs • cyfraniadau) 02:12, 31 Hydref 2012 (UTC)
- Cytuno. Mae erthyglau un frawddeg yn ddibwrpas; efallai y dylem ni gael rheol yn rhywle, caffi efallai, yn nodi lleiafswm. Mi ges i sylw gan un o wynebau cyfarwydd S4C yn y steddfod - mai prin iawn ydy'r wybodaeth sydd ar rai o dudalennau ar Wici-cy, a'i bod hi'n troi i en am ychwaneg o wybodaeth. Pe na bai erthygl, efallai y byddai'n creu un! Neu ai ffug resymeg ydy hyn!? Llywelyn2000 (sgwrs) 14:01, 31 Hydref 2012 (UTC)
- Rwyt ti'n iawn Llywelyn. Dwi'n fwy euog nag unrhyw un arall o greu nifer o egin un-frawddeg. Ond yn fy marn i mae hyd yn oed un frawddeg yn sail i adeiladu erthygl dda. Beth am y canlynol:
- Mae'n rhaid i bob erthygl gychwynnol gael o leiaf un paragraff, un cyfeiriad neu ffynhonnell, un categori, a nodyn eginyn (os eginyn yw hi!).
- Bydd "paragraff" (yn lle nifer benodol o frawddegau) yn rhoi wiggle room i ni allu ystyried pob un yn unigol. Hefyd, nid yw hyn yn esgus i ddileu erthygl newydd yn syth os yw'n methu'r meini prawf (oni bai ei fod yn fandaliaeth/hunangyhoeddusrwydd amlwg, wrth gwrs). Dylwn rhoi cyfnod o amser (48/72 awr?) i alluogi crëwr yr erthygl a defnyddwyr eraill i'w datblygu. —Adam (sgwrs • cyfraniadau) 15:30, 31 Hydref 2012 (UTC)
- ON. Ceir rhestr awtomatig o'r tudalennau byraf ar y wici (ond sylwer taw tudalennau gwahaniaethu yw nifer ohonynt). —Adam (sgwrs • cyfraniadau) 16:17, 31 Hydref 2012 (UTC)
- Rwyt ti'n iawn Llywelyn. Dwi'n fwy euog nag unrhyw un arall o greu nifer o egin un-frawddeg. Ond yn fy marn i mae hyd yn oed un frawddeg yn sail i adeiladu erthygl dda. Beth am y canlynol:
- Mewn rhai achosion efallai, fe all brawddeg fod yn ddigonol i ateb cwestiwn rhywun, ond tydy o ddim yn gwneud dim i wella delwedd y Wici, ac er (eto mewn rhai achosion) mae wedyn gan y darllenydd yr opsiwn o glicio ar ddolen rhyngwici, ai pwynt y wici Cymraeg yw ailgyfeirio opbl at y wicis ieithoedd eraill? Cwestiwn nad oes ateb iddo ydy'r un olaf, gan mai mater o farn fyddai. O ran cynnigion Adam, dw i'n cytuno gyda phob un, y geiriad a'r egwyddor. Ddim yn siwr os mai'r ceffi yw'r lle gorau - falle ar un o'r (amryw) tudalennau canllawiau.--Ben Bore (sgwrs) 11:42, 1 Tachwedd 2012 (UTC)
- Cytuno efo geiriad Adam (+ iw), er, dw i'n siwrn y bydd sawl erthygl un frawddeg yn dal i lifo! Ble da chi'n awgymu ei rhoi? Llywelyn2000 (sgwrs) 19:25, 1 Tachwedd 2012 (UTC)
- Reit, wedi dod o hyd i sgwrs am Defnyddiwr:AnthonyAngrywolf ar Negesfwrdd y Gweinyddwyr. Synnwn i ddim os mai'r un perosn sy dan sylw o weld ei olygiadau. Dwi wedi newid fy nhiwn rwan am erthyglau un frawddeg. Tydi dweud pwy oedd rhywun neu rhywbeth ddim yn ddigonol, yn fy marn i, a mae wir angen o lieaf ail baragraff yn nodi wedyn pam bod y person/adeilad.... yn arwyddocal.
- Falle ddim heddiw, ond dwi am fynd drwy holl erthyglau'r 'ddau' gyfranwr y cyfeirir atynt yn y drafodaeth yma a'u dileu i gyd, oni bai ei bod yn amlwg bod eraill wedi cyfrannu atynt a'u gwirio/ymhelaethu. --Ben Bore (sgwrs) 14:28, 2 Tachwedd 2012 (UTC)
- Symudwyd dau sylw a osodwyd ar 16 Medi 2014 o'r fan hon (yr Archif) i'r Caffi. Llywelyn2000 (sgwrs) 22:27, 16 Medi 2014 (UTC)
Prinder Gwybodaeth ar Wici-cy
golyguGwnaeth Defnyddiwr:Llywelyn2000 y sylw hwn: Mi ges i sylw gan un o wynebau cyfarwydd S4C yn y steddfod - mai prin iawn ydy'r wybodaeth sydd ar rai o dudalennau ar Wici-cy, a'i bod hi'n troi i en am ychwaneg o wybodaeth. Pe na bai erthygl, efallai y byddai'n creu un! Neu ai ffug resymeg ydy hyn!?
Mae hyn yn gwestiwn pwysig rwyn meddwl. Yn gyffredinol mae Cymry Cymraeg yn mynd i bori i'r safleoedd Saesneg gan wybod fel arfer y bydd mwy o wybodaeth ar y rhai Saesneg ac mae hynny rwyn siwr yn wir am y Wikipedia Cymraeg hefyd.
Mae hynny yn codi y pwynt a ddylen ni fod yn canolbwyntio ar y pynciau y mae mwyaf o ymweld a nhw, gan ddal i fod yn ddiolchgar am bob cyfraniad wrth gwrs. Fyddwn i'n iawn i feddwl mai ymweliadau a thudalennau ar Gymru - hanes Cymru, llenyddiaeth Cymru, Cymry enwog ac ati, sydd mwyaf poblogaeth? Oes modd cael gwybod pa dudalennau sydd fwyaf poblogaidd? Beth mae eraill yn feddwl. Dyfrig (sgwrs) 18:21, 31 Hydref 2012 (UTC)
- Dyma'r tudalennau a ymwelir â hwy yn fwyaf: http://stats.grok.se/cy/top —Adam (sgwrs • cyfraniadau) 23:36, 31 Hydref 2012 (UTC)
- Diolch Adam. Diddorol iawn a dim beth oedwn yn ddisgwyl a dweud y gwir. Ydy hi'n anodd i gael data mwy diweddar na Rhagfyr 2010 o bosibl? Diolch Dyfrig (sgwrs) 23:57, 31 Hydref 2012 (UTC)
- Am ryw reswm, os cliciwch ar ystadegau ar gyfer erthygl penodol, gellir newid y gosodiadau fel bod yr ystadegau hyd at heddiw, ond wrth gymharu, mod ar ddiwedd Rhagfyr 2012 sy ar gael mewn ffurf tabl.--Ben Bore (sgwrs) 13:04, 1 Tachwedd 2012 (UTC)
- Diolch Adam. Diddorol iawn a dim beth oedwn yn ddisgwyl a dweud y gwir. Ydy hi'n anodd i gael data mwy diweddar na Rhagfyr 2010 o bosibl? Diolch Dyfrig (sgwrs) 23:57, 31 Hydref 2012 (UTC)
- Ystadegau diddorol, ond dwi ddim yn siwr pa mor ddibyniadwy ydynt (alla i ddallt byddai erthyglau am ryw yn boblogaidd, ond nid mor boblogaidd a hynny!) Hefyd, drwy ganolbwyntio'n bennaf ar yr erthyglau poblogaidd hyn, neu'r rhai rydym yn dybio sy'n boblogaidd, mae peryg wedyn i waethyglu'r sefyllfa neu'r meddylfryd bod rhaid troi at y wici Saeseng os am wybodaeth ddofn am bynciau penodol, yn arbenngi rhai sydd a dim i'w wneud â Chymru, ac felly'n tanseilio'n honiad ni o fod yn wyddoniadur cynhwysfawr. Mae sylwadau fel y derbyniodd Llywelyn2000 yn siomedig, yn enwedig gan bod modd i bawb lenwi'r bylchoedd mae'n nhw'n weld. I mi, mae jyst yn atgyfnerthu'r gred sydd gynna i bod rhaid mynd ati o ddifri i ddenu cyfranwyr newydd, a d wi'n meddwl mai'r ffordd orau ydy trio denu pobl i gyfrannu ar bynciau sy'n agos i'w calonnau, fel rhai o'r prosiectau sy'n cael eu cynnig ar Porth Datblygu arfaethedig. --Ben Bore (sgwrs) 13:04, 1 Tachwedd 2012 (UTC)
- Mae'r rhestr a ddarparodd Adam yn ddiddorol, ond fel y dywed Ben - braidd yn hen bellach. Mi wna i ofyn yn Meta am y sefyllfa bresenol. Er na ddylem fod yn gaeth i'r darllenwyr hy y darllenydd yn penderfynnu pa erthyglau sydd ei angen, mae'r rhestr yn rhoi sawl neges bendant na ddylem ei anwybyddu: mae'n amlwg (ddwy flynedd yn ol) mai pobl ifanc ydyw'r rhan fwyaf o'n darllenwyr, ac ar wahan i ryw, mae' nhw'n chwilio am bynciau ysgol. Efallai y gallem rywdro, droi'r rhain yn Byrth mwy deniadol! Llywelyn2000 (sgwrs) 19:21, 1 Tachwedd 2012 (UTC)
Rhagor o waith cyfieithu'r ymgyrch codi arian
golyguMae nifer o apeliadau i'w cyfieithu wedi ymddangos ar dudalen yr ymgyrch codi arian, ac mae rhagor i ddod. Os oes gan rywun awydd eu cyfieithu byddai'n ddigon bodlon eu hadolygu, ond dwi ddim yn ystyried y dylai'r gwaith o'u cyfieithu fod yn flaenoriaeth i neb - gwell pethau i'w gwneud gyda ni gyd! Lloffiwr (sgwrs) 00:12, 5 Tachwedd 2012 (UTC)
- Bore da! Mae na beth wmbredd o waith! Ar ben hynny, mae'n cynnwys llythyrau unigol gan bobl drwy'r byd. Os nad ydyn nhw'n cael eu cyfieithu, beth ydy'r oblygiadau? Oni fyddant yn defnyddio llythyrau mwy cyffredinol sydd wedi'u cyfieithu'n barod? Os felly, yna dydw i ddim yn gweld y gwaith yma'n flaenoriaeth. Os nad yna mi af ati fel lladd nadroedd! ON Mae llythyr Jimbo wedi'i gyfieithu gennym ers tro, ond eto, heb ei ryddhau i'w gyhoeddi; mae'r cyfieithiad ganddyn nhw. Llywelyn2000 (sgwrs) 06:52, 5 Tachwedd 2012 (UTC)
- Rwyn credu y bydd y llythyron yn ymddangos yn Saesneg os na chânt eu cyfieithu, ond fe holaf ar meta rhag ofn nad ydw i wedi dyfalu'n gywir. Amynedd sydd eisiau ar gyfer y cyhoeddi rwyn credu. Nid dim ond llythyr Jimmy yn Gymraeg sydd heb ei chyhoeddi eto. Lloffiwr (sgwrs) 13:48, 5 Tachwedd 2012 (UTC)
- Y llythyr Jimmy diweddaraf wedi ei chyhoeddi. Mae rhagor o waith adolygu ar negeseuon ychwanegol yn y 'donation information pages'. Lloffiwr (sgwrs) 22:19, 22 Tachwedd 2012 (UTC)
- Cwblhawyd
- Llywelyn2000 (sgwrs) 10:45, 26 Tachwedd 2012 (UTC)
- Cwblhawyd
- Y llythyr Jimmy diweddaraf wedi ei chyhoeddi. Mae rhagor o waith adolygu ar negeseuon ychwanegol yn y 'donation information pages'. Lloffiwr (sgwrs) 22:19, 22 Tachwedd 2012 (UTC)
- Rwyn credu y bydd y llythyron yn ymddangos yn Saesneg os na chânt eu cyfieithu, ond fe holaf ar meta rhag ofn nad ydw i wedi dyfalu'n gywir. Amynedd sydd eisiau ar gyfer y cyhoeddi rwyn credu. Nid dim ond llythyr Jimmy yn Gymraeg sydd heb ei chyhoeddi eto. Lloffiwr (sgwrs) 13:48, 5 Tachwedd 2012 (UTC)
Question
golyguWould people help me to create Infobox but in welsh or page or articles if I gave them text to translate from English to welsh Google9999 (sgwrs) 16:40, 19 Tachwedd 2012 (UTC)
- No. —Cafodd y sylw hwn heb lofnod ei ychwanegu gan Rage, Rage against... (sgwrs • cyfraniadau) 22:43, 19 Tachwedd 2012
- You can request new articles at Wicipedia:Erthyglau a geisir. We have a lot of infoboxes (Categori:Gwybodlenni) already, if there are any we don't have you can request them there too. Please ignore Rage's unhelpful comment! —Adam (sgwrs • cyfraniadau) 22:01, 20 Tachwedd 2012 (UTC)
- thanks Google9999 (sgwrs) 18:26, 11 Rhagfyr 2012 (UTC)
- You can request new articles at Wicipedia:Erthyglau a geisir. We have a lot of infoboxes (Categori:Gwybodlenni) already, if there are any we don't have you can request them there too. Please ignore Rage's unhelpful comment! —Adam (sgwrs • cyfraniadau) 22:01, 20 Tachwedd 2012 (UTC)
Gweithdai a Thasgluoedd
golyguRydym wedi cychwyn ar greu WiciBrosiectau'n ddiweddar. Hoffwn gynnig dau fath arall o brosiect:
- Gweithdai: prosiectau i ddysgu sut i gyfrannu at Wicipedia ac i wella sgiliau golygu, trwy diwtorialau, rhannu gwybodaeth, gofyn cwestiynau a thrafod. Rhai gweithdai sylfaenol: Cyfieithu, Ysgrifennu, Yr Ystafell Dywyll (ffotograffiaeth), Stiwdio Graffeg (delweddau graffig megis diagramau).
- Tasgluoedd: prosiectau i gydlynu'r gwaith sy'n ymwneud â natur y wici, ac nid pynciau penodol (sef gwaith y WiciBrosiectau). Er enghraifft, categorïau, nodiadau, pyrth, dolenni rhyngwici, fandaliaeth.
Dwi'n bwriadu ceisio diwygio a chydlynu nifer o'r tudalennau cymorth a thudalennau'r wici yn yr wythnosau nesaf, a byddai'n hapus i greu ychydig o weithdai a thasgluoedd cychwynnol er budd y gwaith hwn. Yn sicr bydd y gweithdai yn ddefnyddiol fel rhan o Wici Addysg. —Adam (sgwrs • cyfraniadau) 13:27, 22 Tachwedd 2012 (UTC)
- Gwych. Mae angen datblygu llawer a chreu golygyddion newydd. Beth am drosglwyddo'r syniadau i'r Adran Datblygu a Chynllunio. Mae na bethau tebyg yno ond mae angen ymestyn y syniadau! Fel y dywedi mae diwygio'r Tudalennau Cymorth yn hanfodol - mae nhw'n rhy fratiog fel ag y maen nhw. Mae dy syniad ar weithdai'n ffitio'n daclus yn y rhan Wicipedia:Digwyddiadau. Wyt ti awydd trefnu digwyddiad Wiciaidd? Mae na arian ar gael; mater o fynd ati ydy o - ble bynnag y medri di fachu neu drefnu grwp. Llywelyn2000 (sgwrs) 16:03, 22 Tachwedd 2012 (UTC)
- Gwaith rhagorol Adam a diolch am fwrw iddi. Mae'n hanfodol cael y wybodaeth hyn mewn modd taclus a chyflawn. Fel mae Llywelyn2000 yn ddweud, dylwm drio drefnu digwyddiad i gyfranwyr a darpar gyfranwyr gwrdd - pryd a lle ydy'r cwestiwn amlwg. Beth am gynnig rhywbeth yn yr adran Wicipedia:Digwyddiadau? Rhowch destun heb ei fformatio yma Defnyddiwr:Ben Bore 17:02, 22 Tachwedd 2012
Kelsey Grammar should be moved to Kelsey Grammer, the correct spelling of his name in the article (and reality). (Sorry for the likely mis-directed post. I can't easily find the equivalent to enwiki's RM page, or I would post there.) AlanM1 (sgwrs) 13:56, 28 Tachwedd 2012 (UTC)
- Done. Well spotted!--Ben Bore (sgwrs) 14:05, 28 Tachwedd 2012 (UTC)
Ymgyrch codi arian 2012
golyguAr ddydd Sul cyhoeddodd Sefydliad Wicifryngau eu bod am ohirio'r ymgyrch codi arian yn y rhan fwyaf o'r byd hyd mis Ebrill nesaf. Ond maent yn bwrw ymlaen â'r ymgyrch mewn 5 gwlad, sef y DU, UDA, Canada, Awstralia a Seland Newydd. Maent wedi dechrau'r ymgyrch ar y wicïau Saesneg a'r bwriad yw newid y baneri yn eithaf aml gan gofnodi llwyddiant pob baner. Oherwydd y newid baneri byth a hefyd, nid yw'r ymgyrch i'w weld ar wicïau ieithoedd eraill heblaw Saesneg. Ond mae modd cyfrannu i Sefydliad Wicifryngau, gan ddechrau o'r Wicipedia Cymraeg, drwy bwyso ar y ddolen 'rhoi' yn a bar offer ar ymyl y ddalen.
Dydyn nhw yn WMF heb benderfynu eto a fyddant yn ehangu'r ymgyrch mis Rhagfyr 2012 i ieithoedd eraill. Mae'n bosib felly na fyddwn yn gweld baneri'r ymgyrch ar wicïau Cymraeg yng Nghymru o gwbl! Hoi fach i ni felly. Ond os oes galw gan gymuned wicipedia Cymraeg i gael baner codi arian ar dudalen yr Hafan, gallwn osod un yno ar ein liwt ein hunain, am gyfnod o'n dewis ein hunain. Beth amdani? Lloffiwr (sgwrs) 23:47, 29 Tachwedd 2012 (UTC)
Ffotograffau ar wefan yr Eisteddfod Genedlaethol
golyguYng Ngorffennaf 2011 cafwyd caniatâd gan Hywel (Trefnydd yr Eisteddfod) i ni ddefnyddio holl ffotograffau gwefan swyddogol yr eisteddfod ar Wicipedia. Mae sgwrs am hyn yn Archif y Caffi: yma. Ers hynny, dw i wedi bod yn ebostio Gwenllian Carr gyda chyfarwyddiadau sut i'w rhoi ar CC-BY-SA. Gan nad ydyn nhw'n dal heb lwyddo i wneud hynny dw i wedi tynnu'r rheiny a uwchlwythwyd (tua 5 i gyd) oddi ar Wicipedia.
Bum ar y ffôn ddoe gydag un o'r ffotograffwyr ac roedd yn cytuno mewn egwyddor i'w rhoi dan y drydded hon. Ond hyd nes fod yr Eisteddfod yn nodi'r un linell fechan ("Mae'r ffotograffau ar y dudalen hon wedi'u cofrestr ar drwydded CC-BY-SA") ar waelod eu gwefan yna does gennym ni ddim hawl i'w lluniau. - Llywelyn2000 (sgwrs) 09:58, 30 Tachwedd 2012 (UTC)
3 Cais am Fots
golyguDw i wedi gwneud tri chais am fots ar Bot Requests sef:
- Rhestr gwyfynod a glöynnod byw: ailgyfeirio'r enwau Lladin i'r Gymraeg ac ychwanegu cyfeiriadaeth
- Rhestr o gopaon dros 610m: ychwanegu map lleoliad ar y 2,000 erthygl a greais yn 2011.
- Copio Nodyn:Infobox UK place o en i cy ar bob tref a phentref yng Nghymru.
A wnewch chi gadw llygad ar y sgwrs sy'n siwr o ddilyn ar y ddalen Bot Requests a chefnogi'r tri chais os fydd angen - os gwelwch yn dda? Diolch... Llywelyn2000 (sgwrs) 07:27, 8 Rhagfyr 2012 (UTC)
- Bellach, mae gennym ni fot ein hunain: Defnyddiwr:BOT-Twm Crys i wneud golygiadau / ychwanegiadau syml. Os ydych yn dymuno iddo wneud job o waith (neu os ydy o'n camfihafio!) gadewch nodyn ar y dudalen sgwrs. - Llywelyn2000 (sgwrs) 07:00, 13 Rhagfyr 2012 (UTC)
Mae'r Defnyddiwr newydd yma wedi creu chydig o wybodlenni eitha, ond wrth eu creu mae wedi peri i lawer ohonyn nhw beidio a gweithio. Mae'r rhan fwyaf o'r tudalennau'n ymweud a chwmniau fel dywed Defnyddiwr:John Jones a Defnyddiwr:Ben Bore yn Sgwrs Defnyddiwr:Google9999. Er mwyn trafod yr hyn mae wedi'i wneud, dw i wedi ei atal rhag golygu ac ar yr un pryd dw i wedi dadwneud y prif smonach! Dw i wedi mynd drwy Tudalennau sy'n cysylltu â "Nodyn:Gwybodlen Cwmni" ac mae'r rheiny dw i wedi eu profi i'w gweld yn gweithio. Mwy nes ymlaen. Unrhyw sylwadau? Llywelyn2000 (sgwrs) 17:38, 12 Rhagfyr 2012 (UTC)
- Ia, anodd gwybod sut i drin ei gyfraniadau, dw i'n cymryd eu bod mewn good faith, ond mae ganddo ffordd ryfedd o fynd o gwmpas pethau. Mae'n debyg i bobl sy'n dod yma a chreu eginau gyda GoogeTranslate o erthyglau mae'n nhw'n meddwl ddylai fod yma, mond bod o'n gwneud hyn dgrwy greu gywbodlenni'n unig. Petai cyfathrebu gyda fo'n haws, falle byddai'n medru bod o ddefnydd a chreu gwybodlenni yr ydym wir eu heisiau/angen? Gan gymryd mai dyma'r un person, mae ei dudalen sgwrs ar en yn edrych fel bod o'n ymddwyn yn debyg yno.--Ben Bore (sgwrs) 09:16, 13 Rhagfyr 2012 (UTC)
- Ar diwedd y bloc o dridiau, newidiodd y defnyddiwr yma ei enw i Defnyddiwr:Lockheart1. Amod cael dychwelyd atom i'r gorlan oedd nad oedd i olygu na chreu unrhyw Nodyn. Yn anffodus, ailgychwynodd wneud hynny, ac felly dw i wedi'i flocio am wythnos a rhoi'r rhybudd terfynol iddo. Gall newid bach mewn un Nodyn effeithio'n negyddol ar gannoedd o erthyglau; gobeithio, felly, eich bod yn cytuno gyda fy ngweithredoedd. Llywelyn2000 (sgwrs) 06:32, 18 Rhagfyr 2012 (UTC)
- Mae'n ymddangos i mi mai'r un defnyddiwr ydy 109.155.51.148. Y ffordd saffa i drin hyn, dw i'n meddwl, ydy creu rheol na ddylid derbyn unrhyw olygiad ar unrhyw Nodion oni bai fod y defnyddiwr wedi cofrestru ac yn wybyddus i ni. Mae'n ymddangos fod y golygiadau diweddaraf yma'n rhai digon diniwed, ond mae bron yn amhosib dweud beth yw ei effaith ar nodion pellach / eraill. Llywelyn2000 (sgwrs) 05:10, 24 Rhagfyr 2012 (UTC)
- Mae'r defnyddiwr yma'n newid ei enw / Cyfeiriad IP; y diweddaraf ydy 109.151.165.41. Doedd o ddim wedi copio'r Nodynau cyfan. Mae angen gweithredu polisi na ddylai neb ar wahan i weinyddwyr gael yr hawl i uwchlwytho / golygu Nodion / Nodynnau. Llywelyn2000 (sgwrs) 07:17, 1 Ionawr 2013 (UTC)
- Ac eto fel: 86.159.73.225 atal creu cyfrif / golygu am 6 mis. Llywelyn2000 (sgwrs) 16:39, 13 Ionawr 2013 (UTC) a 86.181.66.37 ar 24 Ion 2013. Llywelyn2000 (sgwrs) 19:39, 24 Ionawr 2013 (UTC)
- Mae'r defnyddiwr yma'n newid ei enw / Cyfeiriad IP; y diweddaraf ydy 109.151.165.41. Doedd o ddim wedi copio'r Nodynau cyfan. Mae angen gweithredu polisi na ddylai neb ar wahan i weinyddwyr gael yr hawl i uwchlwytho / golygu Nodion / Nodynnau. Llywelyn2000 (sgwrs) 07:17, 1 Ionawr 2013 (UTC)
- Mae'n ymddangos i mi mai'r un defnyddiwr ydy 109.155.51.148. Y ffordd saffa i drin hyn, dw i'n meddwl, ydy creu rheol na ddylid derbyn unrhyw olygiad ar unrhyw Nodion oni bai fod y defnyddiwr wedi cofrestru ac yn wybyddus i ni. Mae'n ymddangos fod y golygiadau diweddaraf yma'n rhai digon diniwed, ond mae bron yn amhosib dweud beth yw ei effaith ar nodion pellach / eraill. Llywelyn2000 (sgwrs) 05:10, 24 Rhagfyr 2012 (UTC)
- Ar diwedd y bloc o dridiau, newidiodd y defnyddiwr yma ei enw i Defnyddiwr:Lockheart1. Amod cael dychwelyd atom i'r gorlan oedd nad oedd i olygu na chreu unrhyw Nodyn. Yn anffodus, ailgychwynodd wneud hynny, ac felly dw i wedi'i flocio am wythnos a rhoi'r rhybudd terfynol iddo. Gall newid bach mewn un Nodyn effeithio'n negyddol ar gannoedd o erthyglau; gobeithio, felly, eich bod yn cytuno gyda fy ngweithredoedd. Llywelyn2000 (sgwrs) 06:32, 18 Rhagfyr 2012 (UTC)
Vandal
golyguFirst. I'm sorry if I write on the wrong place, and in english. Please move this to the correct place. The Swedish Wikipedia was warned some day ago for ip:68.3.67.81. That ip is banned on enwp because it creats a lot of stubbs (small articles) that are mixed between fake and correct. I checked the svwp and found out that it writes a lot of articles like "Actor a digrifwr Americanaidd yw Rosearik Rikki Simons (ganwyd 1970)." (linking to imdb. and all are comedians.) Roserik exists, as seen on enwp, but take a closer look. He is not a comedian. The ip is now banned on svwp and we are checking its contributions. Best regards. Adville (sgwrs) 08:23, 5 Chwefror 2013 (UTC).
- Thanks again. I'll search for his footmarks. Llywelyn2000 (sgwrs) 19:08, 6 Chwefror 2013 (UTC)
- Hi. many thanks. We spotted this one (see above) and have banned him indef. Diolch yn fawr. Llywelyn2000 (sgwrs) 09:53, 5 Chwefror 2013 (UTC)
- My guess is that even user:AnthonyAngrywolf is the same person, after looking at its contributions. (writing 'women' are 'men' in the category in svwp. Maybe you should check that up too. Best regards, Adville (sgwrs) 18:33, 6 Chwefror 2013 (UTC)
- And here is the enwp about that user. Adville (sgwrs) 18:50, 6 Chwefror 2013 (UTC)
- My guess is that even user:AnthonyAngrywolf is the same person, after looking at its contributions. (writing 'women' are 'men' in the category in svwp. Maybe you should check that up too. Best regards, Adville (sgwrs) 18:33, 6 Chwefror 2013 (UTC)
Mae 88.208.250.224 wedi addasu yr un Nodion eto: gweler yma. Awgrymaf yn GRY na ddylid defnyddiwr sydd heb fewngofnodi newid Nodion o unrhyw fath. Oes yna gytundeb i hyn? Llywelyn2000 (sgwrs) 00:57, 19 Chwefror 2013 (UTC)
- Os mai dyna sydd rhaid gwneud. Ydy o'n bosib rhwystro yn awtomatig, neu fydd rhaid jyst gwrthdroi unrhyw olygiadau gan IP fel mater o drefn?--Ben Bore (sgwrs) 08:56, 19 Chwefror 2013 (UTC)
- Pob un yn unigol! Efallai y byddai'n syniad cloi rhai o'r rhain. Un cyfeiriad IP y medri di ei rwystro ar y tro, ac mae'r gwalch yn eu newid fel tase fo'n newid trons. Gweler Sgwrs Defnyddiwr:Adville. Eto fel: 142.4.216.61. Llywelyn2000 (sgwrs) 17:06, 19 Chwefror 2013 (UTC)
Fallai byddai yn well cael erthygl sidan (defnydd) , hag erthygl sidan gan:
- sidan (defnydd)
- Llwybr y Sidan
- Sidanbryf
- Cefn Sidan
- Sidan (grwp)
- Sidanes, a Hen Sidanes ...
Mae erthygl br:Sidan (disheñvelout) yn llydaweg, ond mae sgwrs am ei droi i br:sidan, enw llawer beth . Bianchi-Bihan (sgwrs) 16:28, 17 Rhagfyr 2012 (UTC)
- Dwi'n credu dylai'r erthygl am y defnydd gael y teitl sidan. Beth am sidan (gwahaniaethu) i restru'r eraill? —Adam (sgwrs • cyfraniadau) 16:55, 17 Rhagfyr 2012 (UTC)
- Mae hynny'n gwneud synnwyr. Llywelyn2000 (sgwrs) 06:33, 18 Rhagfyr 2012 (UTC)
- Wedi creu sidan (gwahaniaethu). —Adam (sgwrs • cyfraniadau) 15:42, 18 Rhagfyr 2012 (UTC)
Be a Wikimedia fundraising "User Experience" volunteer!
golyguThank you to everyone who volunteered last year on the Wikimedia fundraising 'User Experience' project. We have talked to many different people in different countries and their feedback has helped us immensely in restructuring our pages. If you haven't heard of it yet, the 'User Experience' project has the goal of understanding the donation experience in different countries (outside the USA) and enhancing the localization of our donation pages.
I am (still) searching for volunteers to spend some time on a Skype chat with me, reviewing their own country's donation pages. It will be done on a 'usability' format (I will ask you to read the text and go through the donation flow) and will be asking your feedback in the meanwhile.
The only pre-requisite is for the volunteer to actually live in the country and to have access to at least one donation method that we offer for that country (mainly credit/debit card, but also real time banking like IDEAL, E-wallets, etc...) so we can do a live test and see if the donation goes through. **All volunteers will be reimbursed of the donations that eventually succeed (and they will be very low amounts, like 1-2 dollars)**
By helping us you are actually helping thousands of people to support our mission of free knowledge across the world. If you are interested (or know of anyone who could be) please email ppena@wikimedia.org. All countries needed (excepting USA)!!
Thanks!
Pats Pena
Global Fundraising Operations Manager, Wikimedia Foundation
- Sent using Global message delivery, 20:46, 8 Ionawr 2013 (UTC)
Wicidestun
golyguAwgrymaf dreiglo'r enw i Wicidestun, yn unol â gweddill y teulu: Wiciddyfynu, Wicifywyd a Wicilyfrau. Dw i wedi gadael yr awgrym hwn ar Wicidestun yn fama. Tybed a wnewch chi roi eich sylwadau yn y fan hoon os gwelwch yn dda yn hytrach nag yma. Llywelyn2000 (sgwrs) 17:48, 9 Ionawr 2013 (UTC)
Hysbyseb Ganolog newydd ar fin ymddangos
golyguAll rhywun adolygu cyfieithiad y neges ganolog diweddaraf yma. Ar ôl gorffen adolygu, bydd eisiau newid y statws i 'ready'. Lloffiwr (sgwrs) 12:50, 12 Ionawr 2013 (UTC)
Llywelyn2000 (sgwrs) 18:09, 15 Ionawr 2013 (UTC)
- Am y tro cyntaf ers stalwm ymddangosodd hysbyseb uniaith Saesneg ar dop tudalen yr Hafan; fedra i ddim mo'i ffindio ar Meta, Lloffiwr. Unrhyw syniad? Llywelyn2000 (sgwrs) 06:37, 20 Ionawr 2013 (UTC)
- Ai neges etholiad y stiwardiaid oedd ar dy feddwl? Os felly, mae'r fersiwn Cymraeg i'w gweld heddiw - efallai nad oedd y gweinyddwyr (gwirfoddol) wedi gosod y cyfieithiadau mewn da bryd. Os digwydd eto, bydd yn werth adrodd bod problem ar meta dwi'n meddwl. Lloffiwr (sgwrs) 13:45, 21 Ionawr 2013 (UTC)
- Wedi gweld neges ganolog Saesneg y 'Picture of the Year competition'. Am strach i gael gafael ar y man i'w chyfieithu, ar Gomin Wicifryngau. Wedi cael cymorth gan gyfieithydd i'r Sorbeg (iaith fach yn cynworthwyo iaith fach arall), ac wedi dechrau cyfieithu'r baneri. Yn disgwyl iddynt gael eu cyhoeddi,ac yn dal i fod ar drywydd rhai o'r negeseuon diri am y gystadleuaeth hon. Lloffiwr (sgwrs) 15:23, 27 Ionawr 2013 (UTC)
- Os oes rhywun am olygu'r cyfieithiad hyd yn hyn o'r gystadleuaeth luniau ewch draw i Gomin Wicifryngau.
- Cwblhawyd
- Llywelyn2000 (sgwrs) 05:21, 28 Ionawr 2013 (UTC)
- Cwblhawyd
- Os oes rhywun am olygu'r cyfieithiad hyd yn hyn o'r gystadleuaeth luniau ewch draw i Gomin Wicifryngau.
- Wedi gweld neges ganolog Saesneg y 'Picture of the Year competition'. Am strach i gael gafael ar y man i'w chyfieithu, ar Gomin Wicifryngau. Wedi cael cymorth gan gyfieithydd i'r Sorbeg (iaith fach yn cynworthwyo iaith fach arall), ac wedi dechrau cyfieithu'r baneri. Yn disgwyl iddynt gael eu cyhoeddi,ac yn dal i fod ar drywydd rhai o'r negeseuon diri am y gystadleuaeth hon. Lloffiwr (sgwrs) 15:23, 27 Ionawr 2013 (UTC)
- Ai neges etholiad y stiwardiaid oedd ar dy feddwl? Os felly, mae'r fersiwn Cymraeg i'w gweld heddiw - efallai nad oedd y gweinyddwyr (gwirfoddol) wedi gosod y cyfieithiadau mewn da bryd. Os digwydd eto, bydd yn werth adrodd bod problem ar meta dwi'n meddwl. Lloffiwr (sgwrs) 13:45, 21 Ionawr 2013 (UTC)
- Am y tro cyntaf ers stalwm ymddangosodd hysbyseb uniaith Saesneg ar dop tudalen yr Hafan; fedra i ddim mo'i ffindio ar Meta, Lloffiwr. Unrhyw syniad? Llywelyn2000 (sgwrs) 06:37, 20 Ionawr 2013 (UTC)
Wikivoyage
golyguMae Wikivoyage allan yr wythnos hon ac yn brosiect hynod o gyffrous sy'n dod a dimensiwn newydd a gwahanol i'r teulu Wici. Beth gawn ni ei alw'n Gymraeg? Wici-daith? Byr ac i'r pwynt. Neu Wicideithlyfr / Wicideithio?
Sylwer, hefyd, mod i'n gofyn (uchod) am gywiro "Wiciestun" i "Wicidestun".
Ar yr un gwynt, mae angen bathu dau derm arall:
- Wikiversity = Wiciysgol
- Wikinews = Wicinewyddion?
- Llywelyn2000 (sgwrs) 06:45, 15 Ionawr 2013 (UTC)
- Roedd cryn ddadlau ynglyn a pha mor addas oedd hi i Wikimedia fod yn creu wiki teithio o'r fath gan fod pethau o'r fath yn bodoli'n barod. Hefyd mae'n dibynu ar farn unigolion gymaint ag a'r ffeithiau. Roedd dilyn y trafodaethau enwi'n chwerthinllyd gan ei fod yn dangos pa mor anglo-centric oedd nifer. Sylwaf fod pob wici arall yn defnyddio wikivoyage ar hyn o bryd, er sdim rhaid dilyn hynun. Does dim gwrthwynebioab gyda fi i ddim un o dy cynigion, hefyd cynnigaf Wicidywyslyfr. --Ben Bore (sgwrs) 09:37, 15 Ionawr 2013 (UTC)
- O blaid bathu enwau Cymraeg, hyd yn oed os nad oes fersiynau Cymraeg ohonynt eto – pam lai! Dwi'n hoff o Wicidaith neu Wicideithio, Wiciysgol, a Wicinewyddion. A beth am i ni fabwysiadu'n swyddogol Wicifryngau am Wikimedia? Awgrymwyd y term hwnnw gan rywun amser maith yn ôl, yma yn y Caffi dwi'n meddwl, ond rydym yn defnyddio Wikimedia/Wicimedia mewn mannau a Wicifryngau mewn mannau eraill. —Adam (sgwrs • cyfraniadau) 23:26, 15 Ionawr 2013 (UTC)
- Gan ein bod ein tri'n gytun efo'r bathiad "Wicidaith" fe wnawn ddefnydduio hwnnw - oni ddaw gwrthwynebiad. Felly hefyd y gweddill. Yr unig un sy'n mynd yn groes i'r graen i mi'n bersonol ydy Wicifryngau; dw i wastad yn dweud Wicigyfryngau er mwyn pwysleisio'r ystyr. Ond mae hwnnw'n llond ceg! Ydy Wicigyfrwng ddim yn llithro'n rhwyddach? Llywelyn2000 (sgwrs) 00:25, 16 Ionawr 2013 (UTC)
Ôl Nodyn: Dw i wedi cychwyn y dudalen hafan (Wicidaith) yn fama. Awgrymaf ein bod yn canolbwyntio ar Gymru fach cyn ymestyn ymhellach i'r byd mawr. Llywelyn2000 (sgwrs) 00:27, 16 Ionawr 2013 (UTC)
Darparu ychydig o wybodaeth am y Wicipedia Cymraeg ar gyfer www.hanesywegymraeg.com
golyguI gyd-fynd gyda arddangosfa Dot Dot Dash: Cymru'n Cyfathrebu yn y Llyfrgell Gendlaethol mae gwefan newydd Hanes y we Gymraeg wedi ei lansio er mwyn torfoli cynnwys. Credaf bod sefydlu'r Wicipedia Cymraeg yn haeddu ei lle ar y llinell amser ac fe allwn gynnig erthygl fer yn crynoi ein hanes. Mae amser yn brin gan mai ar y 6ed o Chwefror bydd y wybodaeth yn cael ei gyflwyno i'r Llyfrgell. Dylai ein herthygl gynnwys y canlynol os yn bosib:
- Dyddiad sefydlu'r Wicipedia Cymraeg: - Dechreuwyd y Wicipedia Cymraeg ar 12 Gorffennaf 2003 (gweler y dudalen wreiddiol (yr Hafan) 12 yn fama).
- Y broses: (Oedd rhaid gwneud cais i Wikimedia? Pwy oedd y gweinyddwyr/biwrocrat/cyfranwyr gwreiddiol a sut y dewisiwyd nhw?) - Dim syniad!
- Pa broblemau wynebwyd (os o gwbl)? - annog golygyddion newydd
- Cerrig milltir: (Nifer erthyglau ayyb) - 9 Ebrill 2004: 1,000 o erthyglau; 2500 erbyn 15 Awst 2004; erbyn 23 Mehefin 2007 cyhoeddwyd 10,000 erthygl; 20 Tachwedd 2008 roedd 20,000 erthygl.
- Pethau dadleuol: ( e.e. Gary Slaymaker yn cwyno am yr erthygl amdnao ar Wedi 7!) (Gweler: Wicipedia Cymraeg.
- Unrhyw beth arall: (Golygathon, presenoldeb yn y Steddfod ayyb) - Gweithdai Wicipedia yn Eisteddfod Genedlaethol 2012. Golygathon cyntaf yn Llyfgrgell Ganolog Caerdydd 30ain Mehefin 2012.
- Golygu: Yn Hydref 2001 oredd nifer y golygyddion fel a ganlyn: nifer a wnaeth 1 golygiad - 6; 3 golygiad (neu lai)- 6; 5 gol (neu lai) - 5; 10 gol - 2; 25 gol - 1. Gellir cymharu hyn gyda'r sefyllfa yn Rhagfyr 2012: 1 - 102; 3 - 29; 5 - 24; 10 - 21; 25 - 11; 25 - 11; 100 - 4; 250 - 2
- Yr erthyglau y golygwyd fwyaf yn ystod Gorff 2003. Mae'r rhif yn cyfeirio at sawl gwaith y cafodd yr erthygl ei olygu:: 5 Cymraeg, 2 Llywelyn ap Gruffudd , 2 Rhestr Cymry , 2 Gwiwer , 2 David R. Edwards , 1 Owain Gwynedd.
Cymharer hyn gyda'r sefyllfa bresennol: 4 Slefren fôr , 4 W. Rhys Nicholas , 4 Bow Street , 4 Canolfan Cymry Llundain , 3 Gwisg Ysgol Japan , 3 Castell Stirling , 3 Richard Rodney Bennett , 3 Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 1966 , 3 Idle No More , 3 Glyn , 3 Lionel Shriver , 3 Degus , 3 Cyfrifiad y Deyrnas Unedig 2011 , 3 Lili'r dŵr felen , 3 Gruffudd Llwyd ap Rhys , 3 Llên Natur , 3 Rheilffordd Llyn Tegid , 3 Gwalchwyfyn rhesog , 3 Gŵyl gynhaeaf , 3 Nansi Richards , 3 Twrch Daear , 3 Tesco , 23 3 Llandre (Llanfihangel Genau'r Glyn) , 3 Llechryd , 3 Telford a Wrekin
Mae'r ystadegau / graffiau hyn ar gael ar: http://stats.wikimedia.org/EN/SummaryCY.htm
Ac yn olaf:
- Yr erthyglau mwyaf poblogaidd: gweler fama.
Llywelyn2000 (sgwrs) 05:38, 18 Ionawr 2013 (UTC) Dyma nhw'r erthyglau mwyaf poblogaidd (efo nifer y clics ar y ddalen yn Rhagfyr 2012):
- Rhyngrwyd (2786)
- Cymraeg (1728)
- Wicipedia (1197)
- Augustus John (1159)
- Nadolig (1127)
- Saesneg (999)
- Fylfa (872)
- Julian Assange (869)
- WikiLeaks (849)
- Cymru (848)
- Bron (833)
- Pidyn (827)
Ychwanegwch at yr uchod a cheisiaf daflu erthygl et ei gilydd. Diolch. --Ben Bore (sgwrs) 12:06, 15 Ionawr 2013 (UTC)
- Mae'r wefan hon yn crynhoi'n daclus y prif gerrig filltir; gwych iawn! Llywelyn2000 (sgwrs) 00:28, 16 Ionawr 2013 (UTC)
- Diolch am yr hysbys Rhys! Efallai bod angen egluro un peth, nid prosiect ar gyfer y Llyfrgell Gen ydi hon, ond un annibynnol gen i fel ymchwilydd PhD. Ond mi fydda i'n cyflwyno amdano yn y Llyfrgell ar y 6ed o Chwefror, fel rhan o'u arddangosfa Dot Dot Dash. Mi fydda i hefyd yn cadw'r wefan yn agored ar ôl y dyddiad yna, ond dwi'n trio cael rhyw fath o ffram amser i bobol gyfrannu er mwyn cadw chydig o egni yn y broses. Rhowch ambell beth mewn, mae wastad modd ychwanegu atyn nhw a'u cyfoethogi. Yn anffodus nid oes modd Wici-eiddio cofnodion, ond gellir cael trafodaeth am gofnodion dadleuol ar y wefan.
Mae'r Wicipedia yn sicr yn haeddu sawl cofnod! Edrych mlaen at eu gweld nhw. --Rhodri ap Dyfrig (sgwrs) 00:04, 18 Ionawr 2013 (UTC)
- Mae'n edrych yn wag heb gofnodion am y Wici! Gallwch chi osod cofnodion drwy ddefnyddio'r gair cudd (er ddim mor gudd â hynny!) "rhithfro". Edrych ymlaen at weld eich cerrig milltir ar y llinell! Dwi'n hapus i ychwanegu pethau os oes well ganddoch chi, ond dwi'n meddwl y byddech chi'n rhoi llais awthentig y Wici! --Rhodri ap Dyfrig (sgwrs) 14:36, 30 Ionawr 2013 (UTC)
- Mi rydw i wedi treulio hanner awr yn creu tair stori (nifer yr erthyglau) - ac wrth geisio rhoi logo Wici dyma'r cwbwl lot yn diflannu!!! Mi geith rhywun arall wastio eu hamser, rwan! :-( '''Defnyddiwr:John Jones''' (sgwrs) 15:19, 30 Ionawr 2013 (UTC)
- Mae na dri chofnod am Wicipedia yno, felly da iawn rhen gono! Llywelyn2000 (sgwrs) 16:40, 30 Ionawr 2013 (UTC)
- Diolch am ychwanegu. Dwi wedi gosod llun ar y cofnodion, ond wedi gorfod dileu un am ei fod y tu allan i'r llinell amser (yr un am gyrraedd y 40k). Fodd bynnag dwi wedi golygu a rhoi dolen mewn at y dudalen hon. Croeso i chi ychwanegu cyrraedd 20k...30k...cerrig milltir eraill os da chi isio. Diolch eto. --Rhodri ap Dyfrig (sgwrs) 20:58, 30 Ionawr 2013 (UTC)
Wikimedia sites to move to primary data center in Ashburn, Virginia. Read-only mode expected.
golygu40,000 o erthyglau
golyguAr y 29ain o Ionawr 2013 am tua 7.00 y bore sgwennwyd y 40,000fed erthygl ar y Wicipedia Cymraeg; 'dw i'n meddwl mai Rowton, Swydd Amwythig oedd yr erthygl honno. Da ni'n dal yn 69fed ar y rhestr ieithoedd allan o tua 280. Ymhen blwyddyn i rwan mi fydd gennym ni dros 70,000 o erthglau. - Llywelyn2000 (sgwrs) 08:35, 29 Ionawr 2013 (UTC)
- Bydd 10fed ben-blwydd Wicipedia ar 12 Gorffennaf 2013 (mae'r golygiad hynaf o'r Hafan o 12 Gorffennaf 2003). Oes bosib gallem gyrraedd 50,000 o erthyglau erbyn y dyddiad hwnnw? —Adam (sgwrs • cyfraniadau) 19:33, 31 Ionawr 2013 (UTC)
- Oes, os wnawn ni gychwyn sgwennu erthyglau! Mae yna hefyd gynlluniau gan Wici Cymru i hyfforddi golygyddion, a bydd cyhoeddiad am hyn cyn hir. Watch this space! Ond gad i ni gael un nod arall ynghlwm yn y targed hwn: fod pob un o'r 10,000 erthgl newydd yn cynnwys o leiaf tair brawddeg! Dw i'n derbyn dy sialens! Ol-nodyn: rhag ofn i ti a finna (neu arall) or-gyffwrd ein gilydd (o ran maesydd / cwmpas yr erthyglau) - a dyblu'r gwaith! - dw i'n gweithio ar hyn o bryd ar ddwy fil o erthyglau ar Blanhigion - pob un efo enw Cymraeg safonol, ac yna Creaduriaid gydag Asgwrs Cefn. Mi adawi'r 8K arall i ti! Llywelyn2000 (sgwrs) 07:28, 1 Chwefror 2013 (UTC)
Help turn ideas into grants in the new IdeaLab
golyguAngen diweddaru Cymru
golygu- Symudwyd y drafodaeth hon i Sgwrs:Cyfrifiad y Deyrnas Unedig 2011.
Dathlu Degawd
golyguBydd 10fed ben-blwydd Wicipedia ar 12 Gorffennaf 2013. Rydw i wedi creu Wicipedia:Dathlu Degawd, man i drafod syniadau am sut i ddathlu a nodi'r garreg filltir hon. —Adam (sgwrs • cyfraniadau) 22:53, 10 Chwefror 2013 (UTC)
Wikidata phase 1 (language links) coming to this Wikipedia
golyguSorry for writing in English. I hope someone can translate this locally.
Wikidata has been in development for a few months now. It is now time for the roll-out of the first part of it on your Wikipedia. Phase 1 is the support for the management of language links. It is already being used on the Hungarian, Hebrew, Italian and English Wikipedias. The next step is to enable the extension on all other Wikipedias. We have currently planned this for March 6.
What is Wikidata?
Wikidata is a central place to store data that you can usually find in infoboxes. Think of it as something like Wikimedia Commons but for data (like the number of inhabitants of a country or the length of a river) instead of multimedia. The first part of this project (centralizing language links) is being rolled out now. The more fancy things will follow later.
What is going to happen?
Language links in the sidebar are going to come from Wikidata in addition to the ones in the wiki text. To edit them, scroll to the bottom of the language links, and click edit. You no longer need to maintain these links by hand in the wiki text of the article.
Where can I find more information and ask questions?
Editors on en:wp have created a great page with all the necessary information for editors and there is also an FAQ for this deployment. Please ask questions you might have on the FAQ’s discussion page.
I want to be kept up to date about Wikidata
To stay up-to-date on everything happening around Wikidata please subscribe to the newsletter that is delivered weekly to subscribed user’s talk pages. You can see previous editions here.
--Lydia Pintscher 16:04, 21 Chwefror 2013 (UTC)
Distributed via Global message delivery. (Wrong page? Fix here.)
Yr Hafan
golyguMae'r Hafan yn peri pryder i mi ers blynyddoedd; mae ynddo ormod o wybodaeth. Ga i ganiatad y gymuned i newid tri pheth:
- . Mae angen lleihau'r dewis Pynciau cryn dipyn. Dileu'r is-bynciau.
- . Mae un ddolen yn ddigon! Ceir o leiaf tair i'r dudalen "Cymorth" !!!
- . Lleihau'r gwefanau eraill (ein chwiorydd) i un linell daclus.
- . Dileu'r rhestr o ieithoedd Wici eraill
Dau ystyriaeth sylfaenol i'n penderfyniadau, yn fy marn i, ydy: 1. ymarfer da ar Wiciau eraill a 2. pa dudalennau yw'r rhai mwyaf poblogaidd gan ein Defnyddwyr? Yr Hafan ei hun yw'r dudalen mwyaf poblogaidd, ond gwelir hefyd fod y canlynol: Cymorth (5ed), Porth y Gymuned (7fed), Ynglŷn â Wicipedia (8fed), Materion cyfoes (12fed), Croeso, newydd-ddyfodiaid (37fed), Erthyglau dethol (72fed), Cwestiynau Cyffredin (74fed) a Marwolaethau diweddar (118fed). Dydw i ddim wedi cynnwys yn y rhestr hon yr erthyglau, wrth gwrs. Beth mae hyn yn ei ddweud wrthyf i ydy mai Defnyddwyr newydd yw mwyafrif y rheiny sy'n troi atom a'u bônt yn chwilio am gymorth. Yr adran mwyaf bler a gwallus sydd gennym ar hyn o bryd ydy honno!
1. Lleihau'r Pynciau Dyma'r ffurf heglog, bresenol:
Awgrymaf un linell daclus, fel y wicis canlynol (yn eu maint gwreiddiol):
- Almaeneg:
- Ffrangeg:
- Llydaweg:
Dw i'n meddwl fod yr un Almaeneg yn cydweddu'n berffaith gyda Wicipedia:Mynegai i'r categorïau (Adam).
2. Lleihau'r dolennau; un ar dudalen yn ddigon
3. Lleihau logos chwiorydd wici:
i ffurf symlach, megis hon - gyda'r cyfieithiad i'r Saesneg, neu hebddo:
4. Ar y Dydd Hwn... Cynnwys colof "Ar y dydd hwn..."
5. Dileu'r ieithoedd eraill, neu leihau'r rhestr Mae'r rhestr ieithoedd eraill yn tynnu defnyddwyr o'r Wicipedia Cymraeg. Mae hi hefyd wedi ei dileu o lawer o ieithoedd eraill e.e. y Llydaweg, Argonese, Bosanski, Almaeneg, Norsk, Ffrangeg neu ei lleihau'n bwtyn bach dinod. Nodyn: newydd gael cip ar y rhestr bresenol ac mae'n llawn o wybodaeth anghywir gan nad ydyw wedi'i diweddaru ers 5 mlynedd. Dw i wedi gwneud hynny ar frys, ond mae angen gwiro'r nifer erthyglau ymhellach.
Mae Wiciadur i mi yn esiampl dda o daclusrwydd meddwl. Beth yw eich barn? --Ben Bore (sgwrs) 08:54, 22 Chwefror 2013 (UTC)
Mynegi Barn:
Mae'r canolynol y le i chi fynegi barn drwy roi:
- Cytuno/Anghytuno Eich sylw (dweisiol). Eich llofnod (~~~~).
1. Mae angen lleihau'r dewis Pynciau cryn dipyn. Dileu'r is-bynciau.
- Cytunoish Dw i'n cytuno bod angen cwtogi. Yn ddelfrydol baswn i'n hoffi cadw hwn fel y mae, gan ei fod o'n cyflwyno cymaint o erthyglau a phosib i ymwelydd newydd heb iddo orfod twrio. Ond rhaid gwneud aberthion. Cynnig pellach: Os am fod yn radical, beth am ddefnyddio'r gofod gwag ar y top dde (ble ti weithiau'n gosod baneri) a rhoi dolen at y prif bynciau yna, fel en? Dw i'n ychwanegu cynnig arall fyddai'n sichrahu bod gwyliau CYmreig yn cael mensh ar y hafan. --Ben Bore (sgwrs) 09:57, 22 Chwefror 2013 (UTC)
- Beth am roi enwau'r prif bynciau, gyda botwm "Dangos" i weld y gweddill?
- Ia, iawn.--Ben Bore (sgwrs) 11:42, 22 Chwefror 2013 (UTC)
- Beth am roi enwau'r prif bynciau, gyda botwm "Dangos" i weld y gweddill?
- Cytunoish fel Ben Bore. Deb (sgwrs) 16:40, 23 Chwefror 2013 (UTC)
- Sylw: mae Wicipedia:Mynegai i'r categorïau gan Adam yn wych ac yn gynhwysfawr. O dderbyn hwn, does dim rhaid wrth cymaint o ddewis yn yr Hafan. Llywelyn2000 (sgwrs) 22:57, 23 Chwefror 2013 (UTC)
2. Mae un ddolen yn ddigon! Ceir o leiaf tair i'r dudalen "Cymorth" !!!
- Cytuno Yr un fath gyda dolenni lu at Borth y Gymuned. Cynnig: Symud holl gynnwys y golofn 'Cymorth a Chymuned' i dudalen 'Porth y Gymuned'. Yna dyrchafu ac amlygu (a falle ailenwi) rhestr 'Llefydd eraill Wicipedia'.--Ben Bore (sgwrs) 09:57, 22 Chwefror 2013 (UTC)
- Mae hyn yn dderbyniol iawn i mi! Llywelyn2000 (sgwrs) 11:55, 22 Chwefror 2013 (UTC)
- Cytuno Deb (sgwrs) 16:40, 23 Chwefror 2013 (UTC)
3. Lleihau'r gwefanau eraill (ein chwiorydd) i un linell daclus.
- Cytuno
Gellir cymryd llai o le, ond dw i'n meddwl bod dal angen disgrifiad un frawddeg/linell o beth ydynt, ahcos nid yw'r teitlau eu hunain yn golygu dim i ddefnyddiwr newydd (eto fel en).--Ben Bore (sgwrs) 09:57, 22 Chwefror 2013 (UTC)
Beth am roi enwau'r prif chwiorydd, gyda botwm "Dangos" i weld y gweddill / esboniad i'r lleygwr?Sori, o edrych yn iawn ar dy esiampl newydd, ti wedi cynnwys gair odditano i roi disgrifiad o beth ydynt, sy'n ddigonol. Gellir dileu fy sylwadau.--Ben Bore (sgwrs) 11:42, 22 Chwefror 2013 (UTC)
- Dw i ddim yn siwr. Deb (sgwrs) 16:40, 23 Chwefror 2013 (UTC)
4. Cynnig pellach (gan Ben Bore) - dileu 'Erthyglau newydd' a'u disodli gyda 'Ar y dydd hwn'
Mae rhai erthyglau newydd o safon isel, ac mae ganddom ddigonodd o gynnwys addas ar gyfer diwrnodau, bydd wedi ei awtomoeddio'n llwyr, ond bod ychydig o waith sefydlu. --Ben Bore (sgwrs) 09:57, 22 Chwefror 2013 (UTC)
- Cytyno. Ia wir! Tan yn ddiweddar y teitl oedd "Erthyglau Dethol"!!!! A rhai yn ddim ond egin! Llywelyn2000 (sgwrs) 11:18, 22 Chwefror 2013 (UTC)
- Cytuno mewn egwyddor. Deb (sgwrs) 16:40, 23 Chwefror 2013 (UTC)
- Sylw: Byddai casglu'r dyddiadau am fis neu ddau yn ddigon, ac ychwanegu ato wrth fynd ymlaen. Llywelyn2000 (sgwrs) 23:23, 23 Chwefror 2013 (UTC)
5. Dileu'r ieithoedd eraill, neu leihau'r rhestr
Pwll tywod
Roeddwn i'n bwriadu cynnig ail-wampiad o'r Hafan ar gyfer degfed ben-blwydd Wicipedia, ond gan fod syniadau gan eraill gallwn ni gyflymu'r broses! Croeso i eraill defnyddio Defnyddiwr:Adam/Hafan 2013 fel pwll tywod, ac i drafod syniadau ar y dudalen sgwrs yno. Nid oes angen ini gwblhau ail-wampiad llawn cyn gwneud newidiadau i'r Hafan. Er enghraifft, bydd yn cymryd amser i greu adran "Ar y Dydd Hwn" ("Heddiw Mewn Hanes"?), ond digon hawdd bydd ail-wampio'r dolenni at y pynciau sylfaenol. —Adam (sgwrs • cyfraniadau) 22:00, 23 Chwefror 2013 (UTC)
- Wel da ni'n rhwyfo i'r un cyfeiriad beth bynnag! Mae'r gwaith ar gyfer "Ar y dydd hwn..." wedi'i wneud, mewn gwirionedd. Edrych ar un diwrnod, fel esiampl. Mater o chwynu ychydig ydyw, mewn gwirionedd. Gan fod y drafodaeth wedi cychwyn yn barod (uchod), mae'n well cadw popeth efo'i gilydd yn y fan honno, dw i'n meddwl. Llywelyn2000 (sgwrs) 09:57, 24 Chwefror 2013 (UTC)
Barn ar yr Hafan newydd
Dw i wedi lleihau, chwynu, a diweddaru'r Hafan yn unol â'r drafodaeth uchod. Ga i eich barn os gwelwch yn dda? Mi wna i droi unrhyw ran yn ôl i'r hen fersiwn os mai dyna eich dymuniad, wrth gwrs. Llywelyn2000 (sgwrs) 06:35, 2 Mawrth 2013 (UTC)
- Mae llawer llai o 'clutter' yma rwan! Da iawn. Byddai "Delwedd y Diwrnod" yn dda. '''Defnyddiwr:John Jones''' (sgwrs) 16:35, 5 Mawrth 2013 (UTC)
- Os nad oes gwrthwynebiad mi adawa i o yno, felly.
Barn ar yr adran "Cymorth"
golyguWnewch chi hefyd gymryd cip ar yr adran "Cymorth" (ar y chwith); dw i wedi chwynu'r adran hon yn ddidrugaredd ac yn siwr o bechu! Rhowch wybod neu newidiwch o! Y prif linyn mesur gen i oedd na ddylid goddef dolennau gwag (coch) ar y tudalennau hyn. Yr ail oedd: less is more. A'r trydydd oedd cyfuno sawl erthygl ar yr un pwnc. Byddaf yn parhau i weithio ar hyn yn ystod yr wythnosau nesaf, gan ei fod yn adran mor boblogaidd (gweler uchod), ond yn fler ar y naw. Dewch a'ch sylwadau os gwelwch yn dda. Llywelyn2000 (sgwrs) 17:21, 11 Mawrth 2013 (UTC)
- Fy marn i ydy fod yna lawer o waith arno!!! Mae'n llawer gwell, ond mae na goblyn o waith, a does gen i ddim amser i'w wneud. Mae potensial Wicipedia, fodd bynnag, yn aruthrol, ond dim digon o olygyddion i gyrraedd critical mass! '''Defnyddiwr:John Jones''' (sgwrs) 15:26, 12 Mawrth 2013 (UTC)
- Oes mae na goblyn o waith arno! Dw i wedi ychwanegu ychydig o feideos i gynorthwyo'r newydd-ddyfodiad; yn fama. Mi fydda i'n eu haddasu wrth fynd ymlaen, felly does dim byd mewn marmor! Llywelyn2000 (sgwrs) 09:55, 15 Mawrth 2013 (UTC)
- Un fideo arall yn fama. Oherwydd ei ansawdd (da, gobeithio!!!), fydde ne wrthwynebiad pe bawn i'n ei roi yn yr Hafan, o dan y pennawd "Cymorth a Chymuned"? Llywelyn2000 (sgwrs) 11:30, 6 Mehefin 2013 (UTC)
- Oes mae na goblyn o waith arno! Dw i wedi ychwanegu ychydig o feideos i gynorthwyo'r newydd-ddyfodiad; yn fama. Mi fydda i'n eu haddasu wrth fynd ymlaen, felly does dim byd mewn marmor! Llywelyn2000 (sgwrs) 09:55, 15 Mawrth 2013 (UTC)
Wiciddata cam 1 (dolenni rhyngwici) ar waith ar Wicipedia
golyguSorry for writing in English. I hope someone can translate this locally. If you understand German better than English you can have a look at the announcement on de:Wikipedia:Kurier.
As I announced 2 weeks ago, Wikidata phase 1 (language links) has been deployed here today. Language links in the sidebar are coming from Wikidata in addition to the ones in the wiki text. To edit them, scroll to the bottom of the language links, and click edit. You no longer need to maintain these links by hand in the wiki text of the article.
Where can I find more information and ask questions? Editors on en:wp have created a great page with all the necessary information for editors and there is also an FAQ for this deployment. It'd be great if you could bring this to this wiki if that has not already happened. Please ask questions you might have on the FAQ’s discussion page.
I want to be kept up to date about Wikidata To stay up-to-date on everything happening around Wikidata please subscribe to the newsletter that is delivered weekly to subscribed user’s talk pages.
--Lydia Pintscher 22:54, 6 Mawrth 2013 (UTC)
Distributed via Global message delivery. (Wrong page? Fix here.)
Daw Wiciddata cam 1 (dolenni rhyngwici) ar waith yma heddiw (6 Mawrth 2013). Mae dolenni at ieithoedd eraill yn y blwch chwith yn dod o Wiciddata yn ogystal â'r rhai sydd yn y testun wici. I'w golygu, ewch i waelod y dolenni rhyngwici a chliciwch ar "Edit links". Nid oes angen diweddaru'r dolenni rhyngwici mewn testun yr erthygl bellach.
Ymhle allai ganfod rhagor o wybodaeth a gofyn cwestiynau? Mae defnyddwyr ar en:wp wedi creu tudalen sydd â'r holl wybodaeth angenrheidiol am olygwyr ac mae yna hefyd Cwestiynau Cyffredin ar Meta. Gallwch ofyn cwesitynau ar dudalen sgwrs y Cwestiynau Cyffredin.
Rydw i eisiau tanysgrifo i'r diweddaraf am Wiciddata I ddarllen y diweddaraf am Wiciddata gallwch danysgrifo i'r newyddlen wythnosol, a gaiff ei phostio i'ch dudalen sgwrs. (Cyfieithwyd o'r neges Saesneg uchod.) —Adam (sgwrs • cyfraniadau) 20:11, 13 Mawrth 2013 (UTC)
- Oh dîar! I can't use them at all on the English wikipedia because there's some kind of issue with Internet Explorer. I hope the rest of you have better luck! Deb (sgwrs) 18:46, 7 Mawrth 2013 (UTC)
- Gwych! Sut ydym yn gallu cyfieithu "Edit links"? Ar Wiciddata, neu ryw neges MediaWici? —Adam (sgwrs • cyfraniadau) 20:13, 13 Mawrth 2013 (UTC)
- Rwyf wedi dechrau cyfieithu rhyngwyneb Wiciddata ar translatewiki.net. Rhyw wythnos o waith arno mae'n debyg, ac ychydig ddiwrnodau cyn iddo ymddangos ar Wicipedia wedi hynny. Mae'r gwaith cyfieithu i'w gael yn yr adran 'Translators' ar Wiciddata. Lloffiwr (sgwrs) 21:20, 18 Mawrth 2013 (UTC)
- Rwyf wedi gofyn barn am rai o'r termau newydd sydd eu hangen ar Wiciddata draw ar y dudalen Cymorth Iaith. Lloffiwr (sgwrs) 21:50, 23 Mawrth 2013 (UTC)
Convert complex templates to Lua to make them faster and more powerful
golygucyfieithu'r parth 'module'
golyguByddwn yn falch o gael barn llawer o gyfranwyr ar gyfieithu 'module'. Ar y dudalen cymorth iaith mae'r drafodaeth. Lloffiwr (sgwrs) 22:34, 23 Mawrth 2013 (UTC)
- Awgrymaf y fersiwn fwyaf naturiol: "modiwl". Llywelyn2000 (sgwrs) 06:53, 26 Ebrill 2013 (UTC)
Wikidata phase 2 (infoboxes) coming to this Wikipedia
golyguSorry for writing in English. I hope someone can translate this. If you understand German better than English you can have a look at the announcement on de:Wikipedia:Kurier.
A while ago the first phase of Wikidata was enabled on this Wikipedia. This means you are getting the language links in each article from Wikidata. It is soon time to enable the second phase of Wikidata (infoboxes) here. We have already done this on the [first 11 Wikipedias] (it, he, hu, ru, tr, uk, uz, hr, bs, sr, sh) and things are looking good. The next step is English Wikipedia. This is planned for April 8. If everything works out fine we will deploy on all remaining Wikipedias on April 10. I will update this part of the FAQ if there are any issues forcing us to change this date. I will also sent another note to this village pump once the deployment is finished.
What will happen once we have phase 2 enabled here? Once it is enabled in a few days you will be able to make use of the structured data that is available on Wikidata in your articles/infoboxes. It includes things like the symbol for a chemical element, the ISBN for a book or the top level domain of a country. (None of this will happen automatically. Someone will have to change the article or infobox template for this to happen!)
How will this work? There are two ways to access the data:
- Use a parser function like {{#property:p169}} in the wiki text of the article on Yahoo!. This will return “Marissa Mayer” as she is the chief executive officer of the company.
- For more complicated things you can use Lua. The documentation for this is here.
We are working on expanding the parser function so you can for example use {{#property:chief executive officer}} instead of {{#property:p169}}. The complete plan for this is here.
Where can I test this? You can already test it on test2.
Where can I find more information and ask questions? We have collected the main questions in an FAQ for this deployment. Please ask questions you might have on the FAQ’s discussion page.
I want to be kept up to date about Wikidata To stay up-to-date on everything happening around Wikidata please subscribe to the newsletter that is delivered weekly to subscribed user’s talk pages.
--Lydia Pintscher 16:49, 5 Ebrill 2013 (UTC)
Distributed via Global message delivery. (Wrong page? Fix here.)
Dewisiad Argraffu
golyguAr wici-en ceir dewisiad Arfraffu / allforio ar y bar llitho chwith - uwchben y rhestr ieithoedd. Oes na rywun yn gwybod sut i ychwanegu'r dewis yma ar wici-cy? -- Llywelyn2000 (sgwrs) 09:29, 10 Ebrill 2013 (UTC)
- Bosible http://www.mediawiki.org/wiki/Extension:Collection? Chase me ladies, I'm the Cavalry (sgwrs) 14:25, 23 Ebrill 2013 (UTC)
- Diolch Richard. I'll try and squeeze a few minutes tonight, unless someone beets me to it! Llywelyn2000 (sgwrs) 16:14, 23 Ebrill 2013 (UTC)
Nifer o dudalennau sydd wedi'u hymweld a nhw heddiw
golyguMae'n bosib ychwanegu'r canlynol ar yr Hafan, os dymunwch:
Heddiw, ymwelwyd â 94,266 o dudalennau'r Wici, hyd yma.
Neu debyg. Llywelyn2000 (sgwrs) 16:40, 22 Ebrill 2013 (UTC)
- Nifer y defnyddwyr cofrestredig yw hynny, nid nifer y tudalennau sydd wedi'u hymweld. —Adam (sgwrs • cyfraniadau) 19:25, 22 Ebrill 2013 (UTC)
- Diolch Adam. Rwyt ti'n llygad dy le unwaith eto. Bydda nifer y tudalennau a agorwyd yn wych, ond dw i'n meddwl mai'n allanol yn unig mae'n cael ei gyfri? Llywelyn2000 (sgwrs) 07:36, 23 Ebrill 2013 (UTC)
- Sut mae dod i hyd i faint o bobl sydd wedi ymweld ag erthygl penodol? Sylwaf ar waelod tudalennau http://www.hedyn.net/ bod y ffigwr i bob tudalen yn weledol. Mae'n debyg mai addasu cod MediaWiki sydd eisiau, ond falle nad yw'r hawliau gennym. --Ben Bore (sgwrs) 08:29, 23 Ebrill 2013 (UTC)
- Fama. Cofia newid en i cy. Mae dy ddolen i Hedyn yn ddiddorol iawn - tybed fedrith Carl roi golau ar y mater? Llywelyn2000 (sgwrs) 10:20, 23 Ebrill 2013 (UTC)
(Please consider translating this message for the benefit of your fellow Wikimedians. Please also consider translating the proposal.)
Read this message in English / Lleer esti mensaxe n'asturianu / বাংলায় এই বার্তাটি পড়ুন / Llegiu aquest missatge en català / Læs denne besked på dansk / Lies diese Nachricht auf Deutsch / Leś cal mesag' chè in Emiliàn / Leer este mensaje en español / Lue tämä viesti suomeksi / Lire ce message en français / Ler esta mensaxe en galego / हिन्दी / Pročitajte ovu poruku na hrvatskom / Baca pesan ini dalam Bahasa Indonesia / Leggi questo messaggio in italiano / ಈ ಸಂದೇಶವನ್ನು ಕನ್ನಡದಲ್ಲಿ ಓದಿ / Aqra dan il-messaġġ bil-Malti / norsk (bokmål) / Lees dit bericht in het Nederlands / Przeczytaj tę wiadomość po polsku / Citiți acest mesaj în română / Прочитать это сообщение на русском / Farriintaan ku aqri Af-Soomaali / Pročitaj ovu poruku na srpskom (Прочитај ову поруку на српском) / อ่านข้อความนี้ในภาษาไทย / Прочитати це повідомлення українською мовою / Đọc thông báo bằng tiếng Việt / 使用中文阅读本信息。
Hello!
There is a new request for comment on Meta-Wiki concerning the removal of administrative rights from long-term inactive Wikimedians. Generally, this proposal from stewards would apply to wikis without an administrators' review process.
We are also compiling a list of projects with procedures for removing inactive administrators on the talk page of the request for comment. Feel free to add your project(s) to the list if you have a policy on administrator inactivity.
All input is appreciated. The discussion may close as soon as 21 May 2013 (2013-05-21), but this will be extended if needed.
Thanks, Billinghurst (thanks to all the translators!) 04:29, 24 Ebrill 2013 (UTC)
- Distributed via Global message delivery (Wrong page? You can fix it.)
Wikidata phase 2 (infoboxes) is here
golyguSorry for writing in English. I hope someone can translate this. If you understand German better than English you can have a look at the announcement on de:Wikipedia:Kurier.
A while ago the first phase of Wikidata was enabled on this Wikipedia. This means you are getting the language links in each article from Wikidata. We have now enabled the second phase of Wikidata (infoboxes) here. We have already done this on the [first 11 Wikipedias] (it, he, hu, ru, tr, uk, uz, hr, bs, sr, sh) a month ago and two days ago on the English Wikipedia. Today all the remaining Wikipedias followed.
What does having phase 2 enabled here mean? You are now able to make use of the structured data that is available on Wikidata in your articles/infoboxes. It includes things like the symbol for a chemical element, the ISBN for a book or the top level domain of a country. (None of this will happen automatically. Someone will have to change the article or infobox template for this to happen!) The current state is just the beginning though. It will be extended based on feedback we get from you now.
How will this work? There are two ways to access the data:
- Use a parser function like {{#property:p159}} in the wiki text of the article on Wikimedia Foundation. This will return “San Francisco” as that is the headquarter location of the non-profit.
- For more complicated things you can use Lua. The documentation for this is here.
We are working on expanding the parser function so you can for example use {{#property:headquarter location}} instead of {{#property:p159}}. The complete plan for this is here.
Where can I test this? You can test it on test2 if you don't want to do it in an article here.
Where can I find more information and ask questions? We have collected the main questions in an FAQ for this deployment. Please ask questions you might have on the FAQ’s discussion page.
I want to be kept up to date about Wikidata To stay up-to-date on everything happening around Wikidata please subscribe to the newsletter that is delivered weekly to subscribed user’s talk pages.
We are excited about taking yet another step towards allowing all Wikipedias share structured data and collect and curate it together.
--Lydia Pintscher 19:05, 24 Ebrill 2013 (UTC)
Distributed via Global message delivery. (Wrong page? Fix here.)
Cynllun / Polisi Iaith Wikimedia UK
golyguGa i dynnu eich sylw i'r drafodaeth hon sy'n digwydd ar wefan Wikimedia UK. Mae'n dilyn fy anfodlonrwydd fod swydd Wicipediwr yn y Gweithlu wedi ei hysbysu ar Wici-en yn unig, gan anwybyddu Wici Gaeleg yr Alban a'r Wici Cymraeg ayb. Nodwch eich sylwadau os gwelwch yn dda! Llywelyn2000 (sgwrs) 06:34, 27 Ebrill 2013 (UTC)
- Dw i wedi cyfieithu hafan WMUK a cheir trafodaeth ar hynny yn fama. Llywelyn2000 (sgwrs) 17:18, 5 Mehefin 2013 (UTC)
- Mae'r faner hefyd wedi'i gwbwlhau a Rhys Wynne a finnau wedi'n gwneud yn Weinyddwyr i'w warchod a'i gadw'n gyfoes. Dyma'r hafan Gymraeg. Llywelyn2000 (sgwrs) 19:26, 12 Mehefin 2013 (UTC)
Cyfeiriadau
golygu[en] Change to wiki account system and account renaming
golyguSome accounts will soon be renamed due to a technical change that the developer team at Wikimedia are making. More details on Meta.
(Distributed via global message delivery 03:27, 30 Ebrill 2013 (UTC). Wrong page? Correct it here.)
[en] Change to section edit links
golygu- Cwblhawyd
- Llywelyn2000 (sgwrs) 08:40, 2 Mai 2013 (UTC)
Hen bryd?
golyguHi, fel y gwelwch dwi'n ôl o'r diwedd. Bydd gennyf lai o amser i gyfrannu am rwan oherwydd amgylchiadau tu allan i fy reolaeth ond dwi'n gobeithio medru gwneud fy siar bob hyn a hyn. Ymddiheuriadau am yr absenoldeb hir! Anatiomaros (sgwrs) 17:50, 13 Mai 2013 (UTC)
Angen cymorth i ddatrys problem gyda nodyn
golyguMae rhywbeth mawr o'i le yn y nodyn:cat-geni-canrif. Am ryw reswm mae'r nodyn yn rhoi categoriau genedigaethau canrifoedd yn y categoriau canrif anghywir, sef canrif o flaen yr un iawn, e.e. Categori:Genedigaethau'r 15fed ganrif sydd yng nghategori'r 14eg ganrif. Dwi'n methu gweld beth sy'n achosi hyn. Mae angen trwsio'r nodyn, beth bynnag, achos mae'r canlyniadau'n chwerthinllid. All rhywun gael golwg arno? Anatiomaros (sgwrs) 00:05, 17 Mai 2013 (UTC)
- Wedi trwsio. Roedd y rhif anghywir ar gyfer y paramedr yn y categorïau sydd rhwng y tabiau includeonly. —Adam (sgwrs • cyfraniadau) 02:08, 17 Mai 2013 (UTC)
- Diolch yn fawr, Adam. Bydd rhaid i mi ddysgu mwy am y nodiadau 'ma er mwyn medru eu trwsio nhw fy hun heb wneud smonach o bethau! Anatiomaros (sgwrs) 21:22, 21 Mai 2013 (UTC)