Yr Uwch-Bwyllgor Cymreig

Mae'r Uwch Bwyllgor Cymreig yn un o bwyllgorau Tŷ Cyffredin y Deyrnas Unedig. Mae’n un o dri phrif bwyllgor o’r fath yn Senedd y Deyrnas Unedig; mae'r ddau arall ar gyfer yr Alban a Gogledd Iwerddon.[1] Mae'r pwyllgor yn cynnwys pob un o'r 40 AS sy'n cynrychioli Cymru a hyd at bum AS arall (AS: aelod seneddol).[2] Ers 1996, mae’r pwyllgor yn cael ei lywodraethu gan Reolau Sefydlog rhifau 102 i 108, sy’n nodi ei gylch gwaith a’i gyfansoddiad.[3]

Mae'r erthygl hon yn rhan o'r gyfres:

Gwleidyddiaeth
Cymru




gweld  sgwrs  golygu

Gwnaed ymdrechion cychwynnol i sefydlu Uwch Bwyllgor i Gymru yn 1888 ac eto yng nghanol y 1890au; fodd bynnag bu'r ddau ymgais yn aflwyddiannus.[angen ffynhonnell]

Cafodd y cynnig ei adfywio yn 1958 gan Ness Edwards AS, a chafodd ei dderbyn gan y Pwyllgor Gweithdrefn yn 1959.[4] Ar 5 Ebrill 1960, gwnaed gorchymyn yn Nhŷ’r Cyffredin yn ei sefydlu.[5] Cynhaliwyd cyfarfod cyntaf yr Uwch Bwyllgor ar 11 Mai 1960.[6]

Gall y pwyllgor gyfarfod ar ôl Araith y Frenhines neu ddatganiad cyllideb i ystyried yr effaith y byddai’r ddeddfwriaeth a’r cyllid a amlinellwyd yn ei chael ar Gymru. Mae hefyd yn rhoi cyfle i ASau holi gweinidogion a thrafod materion cyfoes, ac i weinidogion wneud datganiadau. Cynhelir rhwng tri a chwe chyfarfod pwyllgor y flwyddyn.[angen ffynhonnell]

Cynhaliwyd trafodion yr Uwch Bwyllgor Cymreig yn Saesneg yn unig tan fis Chwefror 2017, pan osodwyd cyfleusterau cyfieithu a oedd yn caniatáu i’r trafodion gael eu cynnal yn ddwyieithog yn y Gymraeg a’r Saesneg.[7]

Mae'r Uwch Bwyllgor Cymreig fel arfer yn cyfarfod ym Mhalas San Steffan yn Llundain ond yn cyfarfod yng Nghymru ei hun o bryd i'w gilydd. Cyfarfu yn Neuadd y Sir, Aberaeron ym mis Chwefror 1998,[8] Neuadd y Sir, Cwmbrân ym mis Mawrth 2001[9] ac yn Neuadd y Dref, Wrecsam ym mis Hydref 2011.[10]

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Grand Committees". UK Parliament (yn Saesneg).
  2. "Welsh Grand Committee to meet in Wrexham on 20 October 2011 – News from Parliament". UK Parliament (yn Saesneg).
  3. "Standing Orders (Public Business)" (PDF) (yn Saesneg). House of Commons. 16 Rhagfyr 2009. tt. 95–102, xiv.
  4. Torrance, David; Evans, Adam (2019). "The Territorial Select Committees, 40 Years On". Parliamentary Affairs 72 (4): 860–878. doi:10.1093/pa/gsz032. https://academic.oup.com/pa/article/72/4/860/5552797.
  5. "Welsh Grand Committee – Tuesday 5 April 1960 – Hansard – UK Parliament". hansard.parliament.uk.
  6. Bowers, Paul (29 October 2010). "Welsh Grand Committee" (PDF). House of Commons Library.
  7. "Westminster welcomes Welsh language at the Welsh grand committee". GOV.UK.
  8. Welsh Grand Committee. 255. Journals of the House of Commons. 1998.
  9. "WELSH GRAND COMMITTEE (Hansard, 1 Mawrth 2001)". hansard.millbanksystems.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2023-01-14. Cyrchwyd 2023-01-14.
  10. Post, North Wales Daily (20 Hydref 2011). "MPs clash over employment policies at Welsh Grand Committee meeting in Wrexham" (yn Saesneg).

Dolenni allanol

golygu