Ardal Y Pentan
Mae ardal Y Pentan yn ymestyn o Lanrwst yn y de i Landudno yn y gogledd, ac o Lanfairfechan yn y gorllewin i Hen Golwyn yn y dwyrain.
Math o gyfrwng | rhanbarth |
---|
Llanrwst
golyguMae Llanrwst yn dref farchnad ers canrifoedd. Mae pobl wedi heidio yno ar ddiwrnod ffair a marchnad o’r pentrefi cyfagos i werthu eu cynnyrch a’u hanifeiliaid. Yma mae cartref Gwasg Carreg Gwalch, argraffwyr ‘Y Pentan’ a sefydlwyd gan Myrddin ap Dafydd,[1] bardd y gadair yn Nhyddewi a Chwm Rhymni. Roedd yr herwr, Dafydd ap Siencyn [2] a’i ddynion, cefnogwyr brwd Harri Tudur,[3] yn cuddio yn Ogof Carreg Gwalch. Bu Llanrwst yn enwog am ei gwneuthurwyr clociau fel John Owen (yn y 18g) ac yna ei fab, Watkin Owen. Cydnabyddir bod eu clociau wyth niwrnod yn rhai o safon.[4] Rhaid peidio ag anghofio’r diwydiant telynau fu mewn bri yma dros genedlaethau. Mae’n debyg mai’r enwocaf oedd John Richards a’i delyn deires yn y 18g. Er mai yn Llansannan y ganwyd William Salesbury [5], un o'r gyfieithwyr y Beibl, treuliodd y rhan fwyaf o’i oes yn Lanrwst.
Wrth sefyll ar lan Afon Conwy, fe welwch y Bont Fawr a gynlluniwyd gan Inigo Jones [6]. Yr ochr arall i’r afon, draw yn y coed, mae Castell Gwydir,[7] fu’n gartref i deulu’r Wynniaid. Honnir bod y teulu wedi talu am addysg i William Morgan,[8] cyfieithydd y Beibl.
Trefriw
golyguPentref tawel yw Trefriw heddiw, er daw llawer i ymweld â’r ffatri wlan a’r ffynhonnau yr honnir bod eu dŵr yn iachusol. Yma roedd llys Llywelyn Fawr [9] a honnir i Lywelyn adeiladu Eglwys Trefriw yn arbennig er mwyn ei wraig Siwan, rhag iddi orfod teithio i Lanrhychwyn yn y bryniau uwchben y pentref i addoli. Erstalwm, roedd yn bosibl i ‘stemars’ deithio i fyny’r afon o Gonwy a Deganwy gan gario ymwelwyr a nwyddau.
Fel y dywed yr hen rigwm:-
Stemar bach ar Afon Conwy Mynd o Drefriw i Ddeganwy Oedi peth wrth Bont Dolgarrog, Mynd dan Bont Tal Cafn yn frysiog.
Yma y magwyd Ieuan Glan Geirionydd, awdur ‘Ar fôr tymhestlog teithio rwyf...’
Mae’n werth crwydro i fyny ‘r bryniau i weld y llynnoedd Geirionydd, Crafnant, Eigiau a Chowlyd y canodd Gwilym Cowlyd iddynt:-
Y llynnau gwyrddion llonydd – a gysgant Mewn gwasgod o fynydd. A thynn heulwen ysblennydd Ar len y dŵr, lun y dydd.
Dolgarrog
golyguYn Nolgarrog bu Gwaith Aliwminiwm, fu’n rhoi gwaith i nifer yn yr ardal ers 1908 [10]. Mae'r safle bellach yn rhan o Surf Snowdonia,[11] ffug safle i ymarfer syrffio. Uwchben y pentref, yn Nhachwedd 1925, torrodd argae Llyn Eigiau oedd wedi ei adeiladu i gynhyrchu trydan ar gyfer y gwaith, a boddwyd rhan helaeth o’r pentref a chollwyd 16 o fywydau.[12]
Ar draws yr afon i gyfeiriad Maenan, ar safle Gwesty Abaty Maenan.[13] Cododd Edward I, brenin Lloegr, yr abaty, ar ôl symud y mynachod o Gonwy pan oedd yn adeiladu’r castell. Pan gaewyd yr abaty yn ystod teyrnasiad Harri’r Wythfed, symudwyd archgarreg Llywelyn Fawr oddi yno i Lanrwst.
Tal y Bont
golyguMae tafarn ‘Y Bedol’ yn Nhal-y-bont yn ein hatgoffa am brysurdeb y dyddiau fu pan heidiai pobl i’r pentref a Llanbedr-y-cennin i Ffair Llanbad’ ble gwerthid, ymysg pethau eraill, ferlod ar gyfer pyllau glo De Cymru. Uwchben y pentref mae Pen y Gaer ac olion y ‘chevaux de fris’ unigryw i warchod y gaer rhag ymosodiad gan farchogion.[14]
Caerhun
golyguYng Nghaerhun mae Eglwys Santes Fair sydd wedi ei hadeiladu ar safle hen gaer Rufeinig ‘Kanovium’. Yno, nepell o Dal-y-cafn, oedd y man gorau i groesi Afon Conwy, ac mae’n bosibl gweld rhywfaint o olion y gaer.
Teithiai’r Rhufeiniaid wedyn heibio Ro Wen, sydd bellach, yn anffodus, â nifer fawr o dai haf, i fyny’r bryniau, heibio cromlech Maen y Bardd, dros Fwlch y Ddeufaen, ar eu ffordd i Segontium (Caernarfon).[15]
Tal y Cafn
golyguAr draws yr Afon Conwy, heibio Tal-y-cafn, mae pentref prysur Eglwysbach. Yno y magwyd Owen Williams, a gyfansoddodd nifer o donau adnabyddus, yn cynnwys ‘Hiraethlyn’, a enwyd ar ôl yr afon sy’n rhedeg drwy’r pentref. Dyma hefyd man geni un o'r Weinidogion Wesleiaidd bwysicaf ei dydd John Evans (Eglwysbach) [16] Pwy na chlywodd sôn am erddi enwog Bodnant gerllaw, cartref Arglwydd Aberconwy. Bellach, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol sy’n gyfrifol am eu cadw.[17]
Llansanffraid Glan Conwy
golyguYn is i lawr y Dyffryn mae Glan Conwy, neu Llansantffraid i roi ei hen enw, a fu’n ganolfan brysur i adeiladu llongau erstalwm. Roedd nifer o felinau yma ac mae Melin Isaf, sy’n agored i ymwelwyr, yn dal i droi.[18]
Cyffordd Llandudno
golyguYna, fe awn i lawr yr afon i Gyffordd Llandudno. Dyfodiad y rheilffordd fu’n bennaf gyfrifol am ei ddatblygiad. Adeg yr Ail Ryfel Byd adeiladwyd ffatri i gynhyrchu rhannau awyrennau rhyfel. Yn ddiweddarach, trowyd y lle yn ffatri peiriannau golchi Hotpoint. Ond erbyn hyn, diflannodd y cyfan. Diffeithwch yw’r safle bellach. I lawr wrth yr afon mae rhywbeth o bwys wedi digwydd. Pan adeiladwyd y twnnel newydd o dan Afon Conwy, symudwyd y pridd yn uwch i fyny’r afon a chreu Gwarchodfa Natur, sy’n datblygu i fod yn fan o bwys.
Conwy
golyguFe groeswn y bont i Gonwy, ac mae gennym ddewis o dair – Pont grog a adeiladwyd gan Thomas Telford yn 1826, Pont y Rheilffordd a godwyd gan Robert Stephenson yn 1846, a’r bont a godwyd ym 1958. Yng Nghonwy, wrth gwrs, mae’n amhosibl i chwi beidio â gweld y castell a godwyd gan Edward 1af a muriau’r hen dref sy’n dal i sefyll yn gadarn. Adeg y Pasg,1401, llwyddodd cefnogwyr Owain Glyn Dŵr i feddiannu’r castell, ond byr fu eu harhosiad. Mae Plas Mawr a godwyd gan deulu’r Wynniaid, ac sydd yng ngofal CADW yn werth ymweld ag ef. Honnir bod Tŷ Aberconwy, a fu ar un amser yn dafarn, yn dyddio’n ôl i’r 14g. Safle Eglwys Santes Fair heddiw oedd safle’r abaty a symudodd Edward i Faenan.
Deganwy
golyguAr draws Afon Conwy mae Deganwy, a draw ar fryniau’r Fardre, roedd safle Castell Maelgwn Gwynedd. Tipyn o gymeriad oedd hwn. Dywedir iddo gynnal eisteddfod rhwng y beirdd a’r telynorion, a bu’n rhaid i bob cystadleuydd, yn gyntaf, nofio ar draws yr afon. Wrth gwrs, doedd hi ddim yn bosib chwarae'r un delyn wedyn! Cafodd ddiwedd go erchyll ar ôl dianc i Eglwys Llanrhos rhag y fad felen. Aeth ei gywreinrwydd yn drech nag ef. Daeth ei ddiwedd wedi iddo sbecian drwy dwll y clo!
Ar y Gogarth Fawr, fe brofwyd bod cloddio am gopr yn dyddio’n ôl i’r Oes Efydd. Gallwch deithio i fyny ar tram neu ar y car codi. Ar draws y bae, mae’r Gogarth Fach a Chreigiau Rhiwledyn. Honnir mai mewn ogof yma, yn anghyfreithlon, yr argraffwyd y llyfr Cymraeg cyntaf tua 1486 – ‘Y Drych Cristionogawl.
Llanfairfechan
golyguTeithiwn i’r gorllewin i Lanfairfechan, ble mae Traeth Lafan sy’n edrych dros y Fenai i Ynys Môn. Yn Aber gerllaw, roedd llys Llywelyn Fawr, a chludwyd corff Siwan oddi yno i Benmon i’w gladdu. Yn ystod y blynyddoedd diweddar cafodd nifer o bobl fywoliaeth yn Ysbyty Bryn y Neuadd, fu’n arbenigo ar drin pobl ag anhawster dysgu. Codwyd yr ysbyty ar safle hen blasty a ehangwyd gan John Platt.
Penmaenmawr
golyguY chwareli ithfaen fu’n gyfrifol am ddatblygiad Penmaenmawr, er mae olion bod pobl yn byw yma yn Oes y Cerrig wedi eu darganfod ar y Graig Lwyd uwchben y dref. Bu bri hefyd ar y dref fel lle gwyliau glan y môr. Un fu’n rhannol gyfrifol am hyn oedd y gwleidydd William Gladstone, oedd wrth ei fodd yn ymweld, hyd yn oed pan oedd yn brif weinidog!
Mochdre
golyguMae Mochdre ar gyrion gorllewinol Bae Colwyn. Dywedir i’r lle gael ei enwi ar ôl i Gwydion ddod â’i foch yma o Ddyfed. Yn amser Rhyfel y Degwm, tua 1887, bu un o frwydrau mwyaf ffyrnig yn Fferm y Mynydd. Roedd rhyw 150 o blismyn yn mynd â’r ffermwr i’r ddalfa, ond ymosodwyd arnynt hwythau gan ddynion lleol a bu’n dipyn o sgarmes.
Llandrillo-yn-Rhos
golyguUwchben Llandrillo-yn-Rhos, ar Bryn Euryn fe gododd Ednyfed Fychan blasty yn ystod y drydedd ganrif ar ddeg Ef oedd distain Gwynedd, ac yn brif weinidog Llywelyn Fawr. Bu cryn gynnwrf yn 1908 pan suddodd y ‘padlar’ Rhosneigr, ar fordaith i Blackpool ychydig lathenni o’r traeth, ond llwyddwyd i achub pawb yn ddianaf. Bu’n bosib’ gweld olion y llong pan oedd y llanw ar drai hyd 1960.
Hen air Cymraeg am gi ifanc yw ‘Colwyn’. Roedd gorsaf reilffordd yma yn 1849, ac fe godwyd y pier cyntaf yn 1899, gydag Adelina Patti, y gantores enwog, yn yr agoriad swyddogol . Penderfynwyd codi tram i redeg o Fae Colwyn i Landudno ac fe agorwyd hwnnw yn 1907. Yn anffodus bu’n rhaid ei gau rhyw hanner canrif yn ddiweddarach.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Live, North Wales (2010-03-18). "Llanrwst's Welsh language publishing company celebrates 20 years". northwales. Cyrchwyd 2019-11-22.
- ↑ "DAFYDD ap SIANCYN (SIENCYN) ap DAFYDD ap y CRACH (fl. tua chanol y 15ed ganrif), cefnogwr plaid y Lancastriaid, a bardd | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2019-11-22.
- ↑ "HARRI (HENRY) VII (1457 - 1509), brenin Lloegr | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2019-11-22.
- ↑ "snowdoniaantiques.co.uk - Snowdonia Antiques . North Wales Fine Antique Furniture and Clock Specialists ". snowdoniaantiques.co.uk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-09-21. Cyrchwyd 2019-11-22.
- ↑ "SALESBURY, WILLIAM (1520? - 1584?), ysgolhaig a phrif gyfieithydd y Testament Newydd Cymraeg cyntaf | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2019-11-22.
- ↑ "Jones, Inigo (1573–1652), architect and theatre designer | Oxford Dictionary of National Biography". www.oxforddnb.com. Cyrchwyd 2019-11-22.
- ↑ "Gwydir Castle Conwy North Wales". www.gwydircastle.co.uk. Cyrchwyd 2019-11-22.
- ↑ "MORGAN, WILLIAM (c.1545 - 1604), esgob a chyfieithydd | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2019-11-22.
- ↑ "LLYWELYN ap IORWERTH ('Llywelyn Fawr'; 1173 - 1240), tywysog Gwynedd | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2019-11-22.
- ↑ "History Points - Aluminium factory site, Dolgarrog". historypoints.org. Cyrchwyd 2019-11-22.
- ↑ "Adventure Parc Snowdonia - Inspired by Nature". Adventure Parc Snowdonia. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-11-27. Cyrchwyd 2019-11-22.
- ↑ Pound-Woods, Rosanna (2015-11-02). "Memorial for 'terrible' dam disaster". Cyrchwyd 2019-11-22.
- ↑ "Canfod mur hen abaty mewn gwesty yn Nyffryn Conwy". 2011-08-18. Cyrchwyd 2019-11-22.
- ↑ "The Modern Antiquarian: Pen-y-Gaer (Caerhun)". www.themodernantiquarian.com. Cyrchwyd 2019-11-22.
- ↑ "Caerhun Roman Fort (Canovium) - History & Visiting Information". Britain Express. Cyrchwyd 2019-11-22.
- ↑ "EVANS, JOHN ('Eglwys Bach'; 1840 - 1897), gweinidog Wesleaidd | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2019-11-22.
- ↑ "Bodnant Garden". National Trust. Cyrchwyd 2019-11-22.
- ↑ "FELIN ISAF MILLING COMPLEX, PENTREFELIN, GLAN CONWY | Coflein". www.coflein.gov.uk. Cyrchwyd 2019-11-22.