Ceri (cymuned)

pentref ym Mhowys, Cymru

Pentref a chymuned ym Mhowys, yw Ceri (Saesneg: Kerry). Enw gwreiddiol y pentref oedd Llanfihangel yng Ngheri. Saif i'r de-ddwyrain o'r Drenewydd ar y briffordd A489, a gerllaw Afon Miwl. Arferai fod yn arglwyddiaeth Maelienydd. Daw'r enw o'r gair 'câr' yn golygu "perthnasau". Defnyddia'r bardd Guto'r Glyn (c.1435 – c.1493) yr enw yn ei farddoniaeth.[1]

Ceri
Delwedd:Kerry Church - geograph.org.uk - 163374.jpg, Matching Cottages in Kerry - geograph.org.uk - 164406.jpg, Cilthriew, Kerry, (Montgomeryshire) 16.JPG
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirPowys Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.5012°N 3.258°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000283 Edit this on Wikidata
Cod OSSO146899 Edit this on Wikidata

Gerllaw pentref Ceri mae gweddillion castell mwnt a beili, a adeiladwyd tua 1130 ac a oedd yn brif ganolfan cwmwd Ceri. Roedd ffiniau'r cwmwd yn cyfateb yn fras i ffiniau'r gymuned heddiw. Ail-adeiladwyd yr eglwys, sydd wedi ei chysegru i sant Mihangel, yn 1176. Ceri oedd pen draw Rheilffordd Ceri, oedd yn rhedeg o Abermiwl. Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 1,922.

Tai traddodiadol yng Ngheri
Ffotograff c. 1910
Ffotograff c. 1910

Mae'r brîd o ddefaid, Defaid Bryniau Ceri, yn tarddu o'r ardal.

Cyfrifiad 2011Golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[2][3][4]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Ceri (cymuned) (pob oed) (2,057)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Ceri (cymuned)) (259)
  
12.9%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Ceri (cymuned)) (944)
  
45.9%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Ceri (cymuned)) (269)
  
32.1%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

CyfeiriadauGolygu

  1. www.gutorglyn.net; adalwyd 22 Mawrth 2018 gyda chaniatad gan Ann Parry Owen (gweler Trydariad yma.
  2. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  3. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  4. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.