Comisiwn y Senedd

(Ailgyfeiriad o Comisiwn y Cynulliad)

Comisiwn y Senedd (Saesneg: Senedd Commission), yw corff corfforaethol Senedd Cymru. Mae'r Comisiwn yn gyfrifol am sicrhau fod eiddo, staff a gwasanaethau yn cael eu darparu i'r Cynulliad. Mae'r Comisiwn yn cynnwys Llywydd y Senedd a phedwar Aelod o bedair plaid, pob un ohonynt gyda'i borffolio gwaith ei hun. Cefnogir y Comisiwn gan staff yr Uned Gorfforaethol.

Mae'r erthygl hon yn rhan o'r gyfres:

Gwleidyddiaeth
Cymru




gweld  sgwrs  golygu

Cyn Mai 2020, enw'r corff oedd Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Y Comisiwn golygu

Aelodau presennol y Comisiwn yw'r Llywydd (Elin Jones AS) a'r Comisiynwyr yw Suzy Davies AS, Joyce Watson AS, Rhun ap Iorwerth AS a David J Rowlands AS>

Rôl y Comisiwn yw gosod amcanion strategol ac ystyried perfformiad, cytuno ar safonau a gwerthoedd, goruchwylio newidiadau, annog arloesedd a mentergarwch dros y Senedd.

I helpu gyda'r amcanion hyn, mae gan y Comisiynwyr gyfrifoldeb arbennig am rai agweddau o waith y Senedd. Mae hyn yn caniatau gwaith i gymryd lle tu allan i gyfarfodydd ffurfiol y Comisiwn a perthynas gweithio bositif i ddatblygu gyda staff.

Ei rôl yw sicrhau fod gan y Senedd ddigon o adnoddau (o ran staff a strwythur) i weithio'n effeithiol. Mae'r Comisiynwyr yn gyfrifol am oruchwylio tâl a lwfans Aelodau o'r Senedd.

Mae gan y Comisiwn ddyletswyddau pellach yn hyrwyddo ymwybyddiaeth gyhoeddus o'r llywodraeth ddatganoledig yng Nghymru ac am y system etholiadol presennol a'r dyfodol.

Comisiwn y Trydydd Cynulliad (2007–2011) golygu

Enw Cychwyn swydd Gadael swydd Plaid wleidyddol Rôl benodol
Dafydd Elis Thomas AC 9 Gorffennaf 2007 Mai 2011 Llywydd y Cynulliad Cadeirydd (fel Llywydd y Trydydd Cynulliad, gyda'r cyfrifoldeb o annog pobl Cymru i ymwneud a'r broses ddemocrataidd, annog arweiniad effeithiol o fewn y Cynulliad, datblygu pwerau deddfu y Cynulliad i'r dyfodol a hyrwyddo cysylltiadau effeithiol gyda rhanddeiliaid allanol.
William Graham AC 9 Mehefin 2007 Mai 2011 Ceidwadwyr (Comisiynydd dros Adnoddau'r Cynulliad) yn cynnwys rheolaeth staff ac asedau'r Cynulliad (gan gynnwys gweithwyr, contractwyr a gwasanaethau ddarperir i gefnogi staff cefnogi Aelodau'r Cynulliad. Roedd heyd yn gyfrifol am oruchwylio tâl a lwfansau Aelodau'r Cynulliad yn ogystal â sicrhau fod y Cynulliad yn cydymffurfio ag egwyddorion o effeithiolrwydd a rheolaeth dda.
Lorraine Barrett AC 9 Mehefin 2007 Mai 2011 Llafur (Comisiynydd dros Cynulliad Gynaliadwy) gyda chyfrifoldeb i sicrhau fod y Cynulliad Cenedlaethol yn cydymffurfio a rhagori ar ei bolisiau ar gydraddoldeb a hygyrchedd. Roedd ganddi gyfrifoldeb arbennig dros sicrhau fod y Cynulliad Cenedlaethol a'i adeiladau yn cydymffurfio ag egwyddorion cynaladwyedd.
Peter Black AC 9 Mehefin 2007 Mai 2016 Y Democratiaid Rhyddfrydol (Comisiynydd dros y Cynulliad a'r Dinesydd) gyda chyfrifoldeb am sicrhau fod y Cynulliad yn effeithiol pan yn cyflawni ei rôl greiddiol o ddal Llywodraeth Cymru i gyfri a gwneud deddfau dros Gymru. Yn ogystal, roedd yn goruchwylio'r mentrau cyfathrebu yn allanol, oedd yn cynnwys addysgu pobl a rôl y Cynulliad, darparu gwybodaeth effeithiol a thechnoleg gyfathrebu i'r Cynulliad.
Elin Jones AC 9 Mehefin 2007 18 Medi 2007 Plaid Cymru Gadawyd pan gafodd ei apwyntio'n Weinidog Llywodraeth, cymerwyd ei lle gan Chris Franks.
Chris Franks AC 18 Medi 2007 Mai 2011 Plaid Cymru (Comisiynydd dros Wella'r Cynulliad) gyda chyfrifoldeb dros wellhad parhaol o'r gwasanaethau i Aelodau'r Cynulliad a phobl Cymru, yn cynnwys cynllunio strategol a sicrhau fod y Cynulliad yn rhoi gwerth am arian. Roedd yn gweithio hefyd gyda staff y Cynulliad i wella ymwneud rhanddeiliad gyda'r broses ddemocrataidd.

Comisiwn y Pedwerydd Cynulliad (2011–2016) golygu

Enw Cychwyn swydd Gadael swydd Plaid wleidyddol Arall
Rosemary Butler AC Mai 2011 Mai 2017 Llywydd y Cynulliad Cadeirydd (fel Llywydd y Pedwerydd Cynulliad)
Sandy Mewies AC Mai 2011 Mai 2017 Llafur Pedwerydd Cynulliad
Angela Burns AC Mai 2011 Mai 2017 Ceidwadwyr Pedwerydd Cynulliad
Rhodri Glyn Thomas AC Mai 2011 Mai 2017 Plaid Cymru Pedwerydd Cynulliad
Peter Black AC 9 Mehefin 2007 Mai 2017 Y Democratiaid Rhyddfrydol Pedwerydd Cynulliad

Comisiwn y Pumed Cynulliad (2016–2021) golygu

Enw Cychwyn swydd Gadael swydd Plaid wleidyddol Rôl benodol [1]
Elin Jones AS Mai 2016 Llywydd y Senedd Cadeirydd y Comisiwn (fel Llywydd y Pumed Cynulliad), Cyfathrebu ac ymgysylltu
Joyce Watson AS 8 Mehefin 2016 [2] Llafur Cydraddoldebau, a’r Comisiwn fel cyflogwr staff y Senedd
Suzy Davies AS 8 Mehefin 2016 [2] Ceidwadwyr Cyllideb a llywodraethiant, gan gynnwys Archwilio a Sicrwydd Risg, aelodau pwyllgorau
Dai Lloyd AS 8 Mehefin 2016 [2] 21 Medi 2016 Plaid Cymru Ieithoedd swyddogol, a darparu a thrawsnewid gwasanaethau i’r Aelodau
Adam Price AS 21 Medi 2016 [3] 21 Tachwedd 2018 [4] Plaid Cymru Ieithoedd swyddogol, a darparu a thrawsnewid gwasanaethau i’r Aelodau
Siân Gwenllian AS 21 Tachwedd 2018 [4] Plaid Cymru Ieithoedd swyddogol, a darparu a thrawsnewid gwasanaethau i’r Aelodau
Rhun ap Iorwerth AS 21 Tachwedd 2018 [4] Plaid Cymru Ieithoedd swyddogol, a darparu a thrawsnewid gwasanaethau i’r Aelodau
Caroline Jones AS 8 Mehefin 2016 [2] 2018 UKIP Diogelwch ac adnoddau’r Senedd
David Rowlands AS 14 Tachwedd 2018 [5] UKIP Diogelwch ac adnoddau’r Senedd

Cyfeiriadau golygu

  1. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-11-06. Cyrchwyd 2020-06-28.
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3 http://www.senedd.assembly.wales/ieListDocuments.aspx?CId=401&MId=3598&Ver=4
  3. http://www.senedd.assembly.wales/ieListDocuments.aspx?CId=401&MId=3991&Ver=4
  4. 4.0 4.1 4.2 http://www.senedd.assembly.wales/ieListDocuments.aspx?CId=401&MId=5366&Ver=4
  5. http://www.senedd.assembly.wales/ieListDocuments.aspx?CId=401&MId=5364&Ver=4
  Eginyn erthygl sydd uchod am wleidyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.