Wicipedia:Y Caffi/archif/20

Diagramau Cymraeg golygu

Mae na lawer o ddiagramau wedi'u casglu dros y blynyddoedd- nifer o wici-en, a'r iaith fain arnynt. Beth am greu rhestr ohonyn nhw, fel y dont i'r fei, er mwyn i ni ddechrau eu cyfieithu? Gallwch eu nodi yma, ac oes eith y rhestr yn rhy hir, wel mi ddechreuwn ni dudalen newydd, bwrpasol. Llywelyn2000 (sgwrs) 09:02, 8 Ionawr 2015 (UTC)[ateb]

Diagramau i'w cyfieithu

ychwanegwch enw'r dudalen neu'r ddelwedd yma:

  • Diagram o gylched bywyd planhigion blodeuol Gweler File:Angiosperm life cycle diagram-cy.svg
  • Ffracio Gweler: Delwedd:HydroFrac2 cy.svg
  • Map olew y byd Gweler: Delwedd:Oil Reserves cy.png
  • Gwyddorau a systemau ysgrifennu Gweler: Delwedd:World alphabets & writing systems cy.svg
  • Map dwysedd poblogaeth Galisia Gweler: Delwedd:Galicia densidade parroq cy.PNG
  • Delwedd:Population Pyramid Germany Year 2000.png Gweler: Delwedd:Population Pyramid Germany Year 2000 cy.png
  • Delwedd:Germany demography.png Gweler: Delwedd:Germany demography cy.png
  • Delwedd:2015UKElectionMap.svg Gweler: Delwedd:2015UKElectionMap cy.svg
  • Delwedd:SnowdoniaMap.jpg Gweler: Delwedd:Parc Cenedlaethol Eryri National Park 2015.png
Dw i wedi cychwyn tagio'r delweddau svg sydd ar Comin Wicimedia gyda'r categori: Category:SVG diagrams in Welsh. Llywelyn2000 (sgwrs) 06:12, 29 Tachwedd 2015 (UTC)[ateb]

Hyfforddi a Golygathon Abertawe 28 Ionawr 2015 golygu

Mae croeso i unrhyw Wicipediwr profiadol ymuno gyda'r hyfforddiant a'r golygu ym Mhrifysgol Abertawe - bydd grwpiau Cymraeg, Saesneg, Ffrangeg ar gael. Chwaneg o fanylion yn fama. Llywelyn2000 (sgwrs) 11:59, 8 Ionawr 2015 (UTC)[ateb]

Cafwyd dros 30 o olygyddion newydd yn Abertawe - a 4 o Brifysgol y Drindod, Dulyn; diwrnod arbennig o dda. Mae'r erthyglau a grewyd ac a ychwanegwyd atynt i'w cael yma ac yn Saesneg yn fama. Llywelyn2000 (sgwrs) 14:04, 29 Ionawr 2015 (UTC)[ateb]
Os gofiaf yn iawn, roedd rhan o'r ymarfer uchod yn ymwneud a chreu mwy o erthyglau am fenywod ar Wicipidia (posib fy mod yn anghywir a bod creu mwy o erthyglau am ferched yn perthyn i barth arall). Ta waeth, ymysg casgliad y Llyfrgell Genedlaethol o Bapurau Newyddion gellir eu darllen ar lein am ddim http://papuraunewyddcymru.llgc.org.uk/cy/home mae tua 700 rhifyn o Papur Pawb ar gael: http://papuraunewyddcymru.llgc.org.uk/cy/title/view/3585945 Ar dudalen 4 o bron pob rhifyn mae 'na erthygl o'r enw Mae son amdanynt (sic). Gan fod Papur Pawb yn cael ei brynu gan fwy o fenywod na gwrywod mae'r dalen yn cynnwys mwy na'r arfer o erthyglau am ferched y cyfnod. Dydy o ddim yn wimins lib o bell ffordd, mae nifer o'r menywod yn cael eu hystyried fel gwerth sôn amdanynt gan eu bod yn wragedd i ddynion pwysig, ond mae ambell un yn sefyll allan. Ffynhonnell werth ei chwilio i'r sawl sydd am roi mwy o fywgraffiadau benywaidd Cymreig yma?
@AlwynapHuw, Jason.nlw: Hynod ddiddorol! Rhoddid parch uwch na'r cyffredin i'r ferch yng Nghyfraith Hywel Dda; ysywaeth aeth pethe i lawr yr hen allt estron. Bydd y ffynhonnell hon yn amhrisiadwy i wneud iawn am hynny. Bendigedig! Llywelyn2000 (sgwrs) 15:03, 15 Chwefror 2015 (UTC)[ateb]

Wicipediwr Preswyl y Llyfrgell Genedlaethol golygu

 
Jason Evans (chwith), y Wicipediwr llawn amser a'r Dr Dafydd Tudur, Rheolwr Hawliau a Gwybodaeth y Llyfrgell

Bydd rhai ohonoch yn cofio partneriaeth answyddogol efo'r Llyfrgell (drwy Defnyddiwr:Paul Bevan; gweler yma) a chafwyd nifer o gyfarfodydd yn y Llyfrgell dros y blynyddoedd diwethaf. Ymhyfrydwn yn eu blaengaredd; seliwyd hynny drwy iddynt benodi Wicipediwr llawn amser i weithio yn eu plith. Gallwch weld rhagor ar ddau flog a gyhoeddwyd y bore ma: blog Wici Cymru yma a blog y Llyfrgell, yma. Roedd yn rhaid dilyn polisi'r Llyfrgell ynglŷn â hysbysebu'n fewnol yn gyntaf, wrth gwrs, a llyfrgellydd o'u plith a benodwyd: bydd Jason Evans yn cychwyn ar ei waith newydd ar y 19eg o Ionawr.

Ymhlith dyletswyddau eraill, bydd Jason yn trefnu hyfforddiant ar sgiliau wici i gymuned y Llyfrgell, a gwn y gwnewch ei gefnogi os ydych yn byw yn yr ardal, ac yng ngweddill ei waith.

Roedd enwici yn 14 oed heddiw (dwy flynedd yn hŷn na'i chwaer fach!) a dyma'r anrheg gorau y medrid ei roi! Pen-blwydd hapus yr hen wici! Robin Owain (WMUK) (sgwrs) 21:01, 15 Ionawr 2015 (UTC)[ateb]

Llongyfarchiadau Jason ar gyfeliad da ar Radio Cymru y bore ma; trafodaeth ar Olygathons a chywirdeb y wici. Llywelyn2000 (sgwrs) 11:52, 21 Ionawr 2015 (UTC)[ateb]

Mam Cymru golygu

Nifer o gyfeiriadau at Sir Fôn a Môn yn cael eu newid i Ynys Môn; sori am fod yn bedantig, ond rwy'n amau cywirdeb hyn. Un o ynysoedd Môn / Sir Fôn yw Ynys Môn nid y cyfanrwydd - mae Ynys Cybi, Ynys Seiriol ac ati yn rhannau o Fôn a Sir Fôn ond ynysoedd ar wahân i Ynys Môn AlwynapHuw (sgwrs) 05:59, 20 Ionawr 2015 (UTC)[ateb]

Rwyt ti yn llygad dy le Alwyn ond yn anffodus mae'r bai i gyd ar y llywodraeth a'r cyngor sir. Dwi'n methu deall pam y dewiswyd galw'r sir "newydd" ('rôl diddymu'r hen Wynedd 'nôl yn y 90au) wrth yr enw swyddogol 'Ynys Môn' yn lle 'Môn'. Dwi'n amau mae dilyn yr enw Saesneg yn slafaidd daru nhw, sef yr "Isle of Anglesey" bondigrybwyll! Ond fel 'na mae hi, 'Ynys Môn' yw enw swyddogol y sir ar hyn o bryd (y ffyliaid!) er mai 'Môn' neu 'Sir Fôn' ydy hi i'r Monwysion a Chymry Gogledd Cymru yn gyffredinol, 'nenwedig yr hen do. Anatiomaros (sgwrs) 01:19, 23 Ionawr 2015 (UTC)[ateb]

Cymraeg "Digon Da" golygu

O dderbyn bod Wicipedia yn ymdrech cydweithredol, a bod cywiro, gwirio, ychwanegu at dudalennau a gychwynnwyd gan eraill yn rhan o'i wychder, hoffwn awgrymu bod pobl yn oddefgar, (hyd yn oed yn ddiolchgar), i'r sawl sydd wedi cyfrannu o'u blaen. Rwy'n rhy hen i honni fy mod yn ddysgwr o hyd, ond cefais fy magu ar aelwyd Saesneg gan godi'r Gymraeg yn yr Ysgol Sul a'r Capel. Mi ddechreuais bregethu yn y Gymraeg dros ddeugain mlynedd yn ôl Cymraeg Beiblaidd yw fy Nghymraeg pob dydd, mae'r awgrym nad yw'r fath Gymraeg yn ddigon da yn brifo.

Yr wyf wedi ddarllen llyfr JMJ Y Treigladau a'u Cystrawen, heb ddeall dim; rwy'n treiglo yn ôl clyw, a gan fy mod yn ofnadwy o fyddar mae hynny'n anodd! Rwy'n gwybod bod angen cywiro fy nhreigliadau a fy nghystrawen ym mhob erthygl rwy'n sgwennu ac yn ddiolchgar i'r sawl sy'n gwneud. Ond mae pobl yn fy ngwatwar am fy ngham dreiglo yn brifo!

Mae Cael beirniadaeth megis 1805??? trwy'r hon yr etifeddodd !!! beiblaidd iawn; Erthygl ddideitl (e. benywaidd) ; priododd Norah Creina nid priodi a NC; Wedi gadael yr ysgol nid wedi ymadael a'r ysgol (llai beiblaidd); ennill profiad !!! idiom Saesneg; Glamorganshire yn Glamorgan) yn diangen o feirniadol!

https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Henry_Austin_Bruce&diff=1670269&oldid=1670164

A dyma'r cwestiwn - a ydych yn dymuno i mi barhau i gyfrannu fy erthyglau Cymraeg gwallus, neu a ydych am imi beidio cyfrannu mwyach gan nad yw fy Nghymraeg yn ddigon da? AlwynapHuw (sgwrs) 02:45, 22 Ionawr 2015 (UTC)[ateb]

Yn syml - OES! Mae creu cynnwys yn bwysicach na malu cachu amdano! Dyna pam dw i'n synnu fod John Jones wedi nodi'r cywiriadau yn hytrach na rhoi gair gyffredinol fel 'manion iaith'. Mi ges i ymododiad digon tebyg y dydd o'r blaen, gan Defnyddiwr:95.150.72.201, ond mae nghroen i'n ddigon tew! Dilyn fformat hwnnw wnaeth o dw i'n meddwl! Cofia- wyddai John ddim mai ar aelwyd di-Gymraeg y cest dy fagu, na dy fod yn weinidog! Felly, wrth ddweud 'iaith feiblaidd' roedd yn golygu hynny hy iaith hen ffasiwn yn hytrach nag ymosodiad personol. Raison d'etre yr hen wici, i mi ydy, cyflwyno gwybodaeth yn Gymraeg i bobl ifanc, fyddai fel arall, yn troi at y Saesneg, neu'n taro wal. Mae angen i'r Gymraeg fynd drwy fetamorffosis ieithyddol unwaith eto, a fy nghas beth ydy dyblu'r 'n' ayb, ac edrychaf ymlaen i ddanfon bot drwy'r holl erthytglau'n diddymu pob 'n' diangen, rhyw ddydd! Llai o falu, a nol at y job! Llywelyn2000 (sgwrs) 07:09, 22 Ionawr 2015 (UTC)[ateb]
Hoffwn gymryd rhan yn y ddadl hon trwy gytuno â’r sylwadau uchod a chynnig ffordd ymlaen i gyfranwyr Wici. Dim ond cyfrannwr diweddar ydw i, ond mae’n rhaid i mi gyfaddef fy mod wedi sylweddoli mai trwy gyfaddawdu a bod yn adeiladol mae datblygu erthyglau safonol. Wrth gwrs, mae cywirdeb iaith yn holl bwysig, pa bynnag arddull a ddefnyddid, ond nid oes angen codi gwrychyn unrhyw gyfrannwr sy’ wedi gweithio’n galed i ychwanegu deunydd. Mae cyfeillgarwch ymysg y cyfranwyr a’r gweinyddwyr yn hanfodol, a diolchaf i’r rhai hynny sydd wedi bod yn amyneddgar wrth fy helpu i gyfrannu’n gall. Er fy mod i hefyd, weithiau’n cael anawsterau wrth geisio defnyddio Cymraeg yn y dull modern, mae’r her i ddatblygu erthyglau cynhwysfawr yn bwysicach. Tybed a fyddai yn gymorth i gyfeillion adael gwaith ar fy nhudalen sgwrs er mwyn cael fy marn ar unrhyw faterion sy’n debygol o greu trafferth? Wedi’r cwbl, mae dau ben yn well nag un weithiau! ApGlyndwr (sgwrs) 13:54, 22 Ionawr 2015 (UTC)[ateb]

Bron i 5,000 o ffotograffau Llên Natur ar gael ar gyfer Wici!!! golygu

 
Eirlysiau ym mynwent Eglwys Sant Cwyfan

Yn dilyn partneriaeth hir a diddorol rhwng Duncan Brown, Gwyn Williams ac eraill o wefan Llên Natur a minnau ar ran Wici, gallaf gyhoeddi fod bron i 5,000 o ffotograffau'r gymdeithas blaengar hon nawr ar gael ar CC-BY-SA-4: a bron y cyfan wedi'u tynnu yng Nghymru ac yn gwneud ein herthyglau'n berthnasol i Gymry Cymraeg. Fel y gwelwch dw i newydd uwchlwytho'r cyntaf o'r rhain (Eirlysiau ym mynwent Eglwys Llangwyfan, Sir Ddinbych) i Comin, a'i dadogi wedyn yn yr erthygl ar Langwyfan ac Eirlysiau. Yn 2008, mi wnes i arllwys fy mol, fod angen cymorth grwpiau a sefydliadau Cymreig arnom; ac o'r diwedd dw i'n dechrau teimlo fod pethau'n gwella.

Y gamp rwan fydd uwchlwytho rhain i Comin yn un fflyd drwy Commonist neu fot tebyg, wedi creu templad (wfft i'r gair 'Nodyn'!) ar gyfer Cymdeithas Llên Natur gyda'u manylion cysylltu, URL, cyfeiriad, rhif ffôn ayb. Os ydych yn aelod o Wikimedia UK gallwch wneud cais am nawdd i wneud y gwaith yma, neu o leiaf tuag at eich costau - hyd at £2000. Fe wyddoch eisioes fod Llên Natur yn treialu'r defnydd o luniau Comin ar eu gwefan (50 o wahanol buchod coch cwta); ac fel pob partneriaeth dda, mae'n gweithio dwy ffordd! Mae'r ddwy ochr ar eu hennill, ond mae hon yn bartneriaeth driphlyg, a'r enillydd ar ddiwedd y dydd ydy'r Gymraeg. Wicipedia: ceidwad cof ein cenedl! Robin Owain (WMUK) (sgwrs) 12:19, 23 Ionawr 2015 (UTC)[ateb]

Ardderchog. Diolch am y gwaith. Hapus i roi'r delweddau mewn categoriau os lwyddiff rhywun arall i'w llwytho'n gyntaf.--Rhyswynne (sgwrs) 22:24, 26 Ionawr 2015 (UTC)[ateb]
Diolch Rhys! Mi all 'HotCat' dy helpu cofia! Uwchlwytho cyn hir! Llywelyn2000 (sgwrs) 13:56, 29 Ionawr 2015 (UTC)[ateb]

Cerddoriaeth golygu

Dwi yn bwrw ati i greu tudalennau am fandiau pres ond angen rhywbeth tebyg i hwn https://en.wikipedia.org/wiki/Template:Music yn y Gymraeg - oes 'na un yn bodoli yn barod na fedra'i ffendio? Neu oes 'na unrhyw un hynod o garedig fyddai'n bwrw ati i greu un Cymraeg? Blogdroed (sgwrs) 13:40, 24 Ionawr 2015 (UTC)[ateb]

Pam ail-greu'r olwyn? Newydd gopio o enwici.       - Twdls! Llywelyn2000 (sgwrs) 22:16, 25 Ionawr 2015 (UTC)[ateb]


Erthyglau heb ddelweddau golygu

Mae rhestr o erthyglau efo ‘Geotags’ ond heb ddelweddau wedi cael ei greu yma, felly dewiswch erthygl ac ychwanegu delwedd!

Fel rhan o fy ngwaith fel y Wicipediwr preswyl yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, byddaf yn hyfforddi staff a gwirfoddolwyr i helpu ychwanegu delweddau i’r erthyglau yma. Hefyd, cadwch lygad ar agor am roddion o ddelweddau newydd o gasgliadau’r Llyfrgell Genedlaethol dros y misoedd nesaf Jason.nlw (sgwrs) 14:12, 2 Chwefror 2015 (UTC)[ateb]

Byddai'n wych petai'r allforio'r wybodaeth ar fap (e.e. Google) felly os yw person yn ymweld ag ardal, gall edrych ar fap i weld beth sydd angen llun.
Mae na ap ar gyfer Wici Henebion, sy'n dangos ar dy ffon ble mae'r heneb agosaf (sydd heb / efo erthygl gyfatebol). Mae hwn yn cael ei ddatblygu fel da ni'n teipio - ar gyfer unrhyw lun o unrhyw le. Cymer olwg hefyd ar GLAMify, sy'n 'awgrymu' delweddau ar gyfer erthygl, yn seiliedig ar gategoriau Comin. Mae rhestr Jason yn un rhagorol, a gellir cywain y geotags yn eitha hawdd. Cymer olwg ar Rhestr o fryngaerau yng Nghymru wedi'u cofrestru ac ar frig dde'r erthygl fe weli di sgwennu / botwm sy'n arwain i fap Googl o holl fryngaerau Cymru sydd ag erthygl ar y Wicipedia Cymraeg. Llywelyn2000 (sgwrs) 13:47, 3 Mawrth 2015 (UTC)[ateb]

Hacio'r Iaith 2015 golygu

S'mai bawb.

Mae Hacio'r Iaith yn Bangor eleni ar ddydd Sadwrn 7fed o Fawrth, (Cyhoeddiad yma). Mae'n gyfle gwych i ledu'r gair am Wicipedia, unai drwy gynnal sesiwn, neu drwy'r rhwydweithio sy'n digwydd noson gynt (dros gyri a pheint) ac yn ystod y dydd. Os ydych yn byw yn y cyffuniau, galwch heibio i ni gael cwrdd a thrafod. Un syniad gen i fyddai ceisio cyfuno sesiwn ymarferol ar sut i ddefnyddio meddalwedd fatha GIMP/Photoshop gyda'r angen sydd gennym ni i Gymreigio Diagramau.--Rhyswynne (sgwrs) 22:42, 5 Chwefror 2015 (UTC)[ateb]

@Rhyswynne, Cymrodor: Haia! Syniad gwych; yn gyntaf bydd angen cynaeafu'r diagramau a'u rhestru yma. Soniodd Cymrodor am y gwendid hwn yn y wici tua chwe mis yn ol, ond 'sut?' oedd y cwestiwn, gyda chymaint ohonyn nhw yn yr iaith fain! Mae hwn yn ateb, neu o leia'n rhan o'r ateb! Llywelyn2000 (sgwrs) 14:43, 15 Chwefror 2015 (UTC)[ateb]
Swnio fel bydd o leiaf dwy sesiwn am y Wicipedia ar y diwrnod. http://hedyn.net/wici/Hacio%27r_Iaith_2015#Rhaglen_y_dydd. --Rhyswynne (sgwrs) 22:20, 4 Mawrth 2015 (UTC)[ateb]
pin  dw i'n edrych ymlaen! Yn enwedig am y sesiwn Gwener ar ddefnyddio API Cysill Ar-lein i wirio testunau Wicipedia Cymraeg. Bydd parchu'r côd-wici yn hanfodol, yn goblyn o anodd ee ni ddylid newid 'cangyms' o fewn enw delwedd, Nodyn, categori ayb. Mi ofynais i Ganolfan Bedwyr am brosiect ar hyn tua dwy flynedd yn ôl a'u hateb bryd hynny oedd - gwell fyddai ei wneud gyda llaw a llygad dynol! Llywelyn2000 (sgwrs) 08:44, 5 Mawrth 2015 (UTC)[ateb]

Sgwrs Wicipedia:Ar y dydd hwn golygu

Mae na sgwrs ynglyn a gwella'r Hafan drwy ychwanegu (am gyfnod o ddeufis) adran newydd sbon (tua dwy gentimetr i lawr; un colofn): Ar y dydd hwn.... Mae hyn yn arferiad ar nifer o wicis, ac yn handi iawn i athrawon! Gadewch eich barn a'ch syniadau yma: Sgwrs Wicipedia:Ar y dydd hwn. Diolch. Llywelyn2000 (sgwrs) 10:34, 6 Chwefror 2015 (UTC)[ateb]

Mae fersiwn prawf o'r hafan gyda'r blwch bellach wedi ei greu. Croeso i chi roi eich sylwadau ar dudalen sgwrs Wicipedia:Ar y dydd hwn. Ham II (sgwrs) 16:28, 18 Chwefror 2015 (UTC)[ateb]
Newydd weld y fersiwn prawf - ac mae hi'n edrych yn ardderchog! Yn wir, byddai hepgor y rhan uwch ei phen yn welliant - y pynciau. Sylwch ar ieithoedd eraill, sydd wedi gwneud hynny. '''Defnyddiwr:John Jones''' (sgwrs) 07:27, 22 Chwefror 2015 (UTC)[ateb]
Oes rhaid aros tan Fawrth y Cyntaf? Troi'r swits ymlaen rwan, fyddwn i! '''Defnyddiwr:John Jones''' (sgwrs) 08:13, 22 Chwefror 2015 (UTC)[ateb]
Cytuno. Llywelyn2000 (sgwrs) 06:45, 23 Chwefror 2015 (UTC)[ateb]

Oce; mae'r Hafan newydd yn barod i fynd arno; ga i gefnogaeth i wneud hynny? Dyma fo: Wicipedia:Hafan/Prawf? gwell? gwaeth? Awgrymiadau pellach (ar wahan i'r lle gwag!)? Llywelyn2000 (sgwrs) 23:26, 27 Chwefror 2015 (UTC)[ateb]

Gan nad oes gwrthwynebiad, mi wna i ei newid. Diolch. Llywelyn2000 (sgwrs) 07:14, 28 Chwefror 2015 (UTC)[ateb]
Ar ol lot o waith caled, mae Ar y dydd hwn wedi'i gwbwlhau, diolch i @Ham II: yn bennaf. Mae wedi deffro pobl hefyd gyda thrydariadau dyddiol ers blwyddyn, gyda llawer o ymateb. Oedd y giam yn werth y gannwyll? Oedd, dw i'n meddwl! Mae'n fyw, a gall fynd rhagddo am flynyddoedd. Ond mae hyn yn rhoi gap mawr gwyn ar y chwith, sydd angen ei lenwi. Fy awgrym i ydy ein bod yn cael llun y dydd - rhai gan y LlGC a rhan fwyaf o Comin. Be da chi'n feddwl? Llywelyn2000 (sgwrs) 17:19, 5 Chwefror 2016 (UTC)[ateb]
@Llywelyn2000: Cytuno! Mae'n bryd i ni ddechrau cael lluniau dethol ar y Wicipedia Cymraeg. Rwy wedi bod yn casglu'r lluniau Cymreig gorau fan hyn ers sbel. Weithiau mae llun gwych ar gyfer pwnc ond does dim erthygl, e.e. ar gyfer Cofeb Ryfel Aberystwyth, Capel Maesyronnen, Castell Rhiwperra, ayyb. Yn fy marn i byddai'n rhaid i'r erthyglau hyn fodoli cyn derbyn y lluniau. Rwy'n meddwl dylem edrych ar sut mae Wicipedias eraill, yn enwedig y rhai bychain, yn penderfynu ar eu lluniau dethol – dylem geisio creu proses eitha di-ffwdan ond sy dal yn sicrhau ansawdd uchel. Ai lluniau â chysylltiad Cymreig yn unig y dylem eu dethol? Efallai gallwn gynnwys lluniau eraill ag ansawdd arbennig o dda os ydynt wedi'u cynnwys ar erthygl da – ffordd i ysgogi gwelliant mewn ansawdd erthyglau o bosib? Ham II (sgwrs) 18:28, 5 Chwefror 2016 (UTC)[ateb]
Ia yn te? Beth am gychwyn efo'r llun? Dewis di'r lluniau, mewn trefn, a mi ysgogwn ein golygyddion i sgwennu yn y drefn honno. O ran Cymru vs y byd, fel da ni wedi'i wneud ar 'AYDH', tua 3/4 am Gymru a 1/4 ar y byd mawr? Ffordd arall o wneud hynny ydy cynyddu maint y lluniau sydd ar 'Pigion', gan chwynu'r crap ac ehangu erthyglau sy'n cynnwys lluniau dethol ee mi ychwanegais sawl Pigion newydd OHERWYDD answawdd uchel y lluniau ee Wicipedia:Pigion#Siciaeth, Wicipedia:Pigion#Telyn neu Wicipedia:Pigion#Y Ceffyl. Y drwg efo edrych ar Wicis bach erill ydy nad yden ni'n siarad eu hiaith nhw i drafod i unrhyw ddyfnder neu werth. Mae hyn yn bwysig oherwydd y gap mawr gwyn, ac felly dw i'n gem. Llywelyn2000 (sgwrs) 20:35, 5 Chwefror 2016 (UTC)[ateb]
Hafan

Mae'r gap, gwag, gwyn yn hyll ar y diawl. Dyma sut roedd yn edrych y bore ma (  llun 1). Dwi newydd gynyddu'r ddelwedd (  llun 2) er mwyn trwsio'r broblem - nes ein bod yn dewis lluniau gwell. Llywelyn2000 (sgwrs) 09:20, 5 Mai 2016 (UTC)[ateb]

Problem Darllen Sgrin Golygu golygu

Ers tua 4:00am, rwy'n methu darllen y tudalen "Golygu" ar unrhyw erthygl gan fod yr ysgrifen ar y dudalen yn "wan" ym mhob iaith– problem fy nghyfrifiadur – problem fy llygaid neu broblem Wikepedia? AlwynapHuw (sgwrs) 05:36, 11 Chwefror 2015 (UTC)[ateb]

Mae o'n glir fel Gordon's Ginn ar yr ochor yma! Llywelyn2000 (sgwrs) 09:24, 11 Chwefror 2015 (UTC)[ateb]
Roedd o'n edrych fel teipiadur wedi rhedeg allan o inc i mi, wedi drysu am ddyddiau cefais wybod mae rhywbeth i wneud efo lawr lwytho gwelliant I Windows wedi newid ffont Chrome oedd ar fai! Wedi cael cyfarwyddyd sut i newid y ffont yn ôl mae'n gweithio eto rŵan, diolch byth! Caf ail afal ar fy mhaldaruo yma bellach! AlwynapHuw (sgwrs) 05:06, 15 Chwefror 2015 (UTC)[ateb]

WiciGyfarfod Caerdydd #4 golygu

Mae'r pedwerydd WiciGyfarfod yng Nghaerdydd yn cael ei gynnal ar Ddydd Sul, 22 Chwefror. Os hoffech ddod, cofrestwch fan hyn! Ham II (sgwrs) 13:54, 12 Chwefror 2015 (UTC)[ateb]

Newydd drydaru; bydd y lle dan ei sang! Llywelyn2000 (sgwrs) 14:30, 15 Chwefror 2015 (UTC)[ateb]

Golygathon yn y Llyfrgell Genedlaethol golygu

 
Bachgen yn dryllio piano

Bydd Golygathon yn cael i gynnal yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth am y tro cyntaf erioed ar y 10fed o Ebrill a 'Ffotograffwyr Cymraeg’ bydd y pwnc. Bydd y digwyddiad hwn yn canolbwyntio ar greu a gwella erthyglau am ffotograffwyr Cymreig, eu bywydau, eu gyrfaoedd a'u lluniau. Felly dewch draw i Aber am awyr iach, cwmni da, a diwrnod o olygu! cofrestwch fan hyn Jason.nlw (sgwrs) 16:09, 18 Chwefror 2015 (UTC)[ateb]

Diolch Jason - a Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Er gwybodaeth - mae dau o luniau mawr y byd newydd eu huwchlwytho gan Jason gan gynnwys: 'Bachgen yn dryllio piano' gan Philip Jones Griffiths, Ffotograffydd Magnwm. Mae hyn yn garreg filltir bwysig o ran cynnwys agored byd-eang ac yn dangos (unwaith eto) mor flaenllaw yw LlGC, a Chymru fach. Llywelyn2000 (sgwrs) 07:27, 26 Chwefror 2015 (UTC)[ateb]
@Llywelyn2000, Jason.nlw: Os tynnwyd y llun o'r gwalch bach tua 1961, mae'n debyg / bosib ei fod o hyd ar dir y byw (tua 60-65 oed bellach?). Ffordd dda i gael cyhoeddusrwydd i'r casgliad a'i ddefnydd ar Wicipedia byddid defnyddio'r wasg leol a'r cyfryngau cymdeithasol i geisio rhoi enw i'r hogyn. AlwynapHuw (sgwrs) 02:32, 28 Chwefror 2015 (UTC)[ateb]

Etholiad Cyffredinol Y DU 2015 golygu

Wedi sylwi bod y Saeson yn paratoi ar gyfer 2015 efo bylchau tebyg i'r isod. Byddai rhagbaratoi felly yn ddefnyddiol yn y Gymraeg? Yn bersonol byddwyf yn rhy feddw (ond gobeithio nid yn rhy flin) i wneud iws o'r fath beth ac yn dilyn yr etholiad ar twitter, blogger a facebook yn hytrach nag ar y Wici. Ond rwy'n ddigon bodlon eu rhag paratoi os byddent at iws i eraill

Etholiad Cyffredinol 2015: Ynys Môn
Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
UKIP Nathan Gill
Llafur Albert Owen
Plaid Cymru John Rowlands
Socialist Labour Liz Screen
Ceidwadwyr Michelle Willis

AlwynapHuw (sgwrs) 04:42, 22 Chwefror 2015 (UTC)[ateb]

Haia Alwyn. Fel ti'n dweud, nid ras ydy hi: gwas i ni yw hwnnw, chwedl Waldo. Wedi iddyn nhw gwbwlhau'r blychau ar en - gallem eu copio'n un fflyd, a mi wnawn nhw ymddangos yn Gymraeg ar cywici! Gadael iddyn nhw wneud y gwaith ! Llywelyn2000 (sgwrs) 06:31, 23 Chwefror 2015 (UTC)[ateb]
Aha! Yda ni wedi dewis cadw at wyrdd ar gyfer Plaid Cymru felly!! ;) Blogdroed (sgwrs) 16:03, 26 Chwefror 2015 (UTC)[ateb]
@AlwynapHuw, Blogdroed: Mae'r Blaid wastad wedi bod yn blaid werdd!! Ond gallem ei newid i felyn os mai dyna'r farn. ?? Llywelyn2000 (sgwrs) 19:16, 26 Chwefror 2015 (UTC)[ateb]
tynnu coes ydw i @AlwynapHuw: gan bo fi wedi codi'r pwynt o'r blaen am PC yn ymddangos yn felyn mewn ambell i ddolen a finnau o'r farn mai gwyrdd ddyle nhw fod Blogdroed (sgwrs) 19:20, 26 Chwefror 2015 (UTC)[ateb]
@Llywelyn2000, Blogdroed:Y rheswm pam bod lliw'r Blaid yn felyn weithiau ac yn wyrdd weithiau yw bod y cod bocs etholiad yn gweithio yma yn y Gymraeg a'r Saesneg. Mae defnyddio "party"=Plaid Cymru yn creu bocs bach gwyrdd ond mae "plaid"=Plaid Cymru yn creu un felyn. AlwynapHuw (sgwrs) 01:40, 27 Chwefror 2015 (UTC)[ateb]
Dyna feddwl allan o'r bocs confensiynol!!! @Jason.nlw: Torfoli gwybodaeth - mae hyn yn syniad ardderchog, beth bynnag fydd y canlyniad. Llywelyn2000 (sgwrs) 07:47, 28 Chwefror 2015 (UTC)[ateb]

Cyfieithu golygu

Tybed a wneith rhywun wiro fy nghyfieithiad yma (wedi'i wneud dro'n ol): mae angen tic yn y blwch 'prawfddarllen' iddo ymddangos yn Gymraeg. Diolch! Llywelyn2000 (sgwrs) 06:28, 23 Chwefror 2015 (UTC)[ateb]

...a'r rhain; tic neu ddau, dyna'r cyfan! Diolch. Llywelyn2000 (sgwrs) 09:50, 10 Mawrth 2015 (UTC)[ateb]

Rhaglen llenwi bylchau awtomatig golygu

Wrth sgwennu bywgraffiadau mae llawer o'r wybodaeth yn cael ei ail bobi. Er enghraifft John Jones ([.[1832 ]]- [.[1923]]) / [.[Categori: Genedigaethau 1832]]. A oes raglen Wici, rhaglen allanol rhad ac am ddim neu raglen talu amdano, sy'n gallu llenwi bylchau tebyg yn awtomatig wrth greu sgerbwd erthygl? AlwynapHuw (sgwrs) 02:55, 28 Chwefror 2015 (UTC)[ateb]

Mae popeth a sgwennir gyda bot cystal (neu cyn saled!) a'r wybodaeth a fwydir i fewn iddo yn y lle cyntaf. Ti'n ymwybodol o hyn, dwi'n siwr, ond mae'n werth ei ddweud. Pan fo data dibynadwy i greu eginyn, gwych, ond mae eu gwiro a'u ehangu efo'r llygad noeth / dynol yn holl bwyig. Mi faset yn synnu mor hawdd ydy methu a rhagweld posibilrwydd ee newid enw oddi fewn i Nodyn newu enw delwedd! Mae na sesiwn ar hyn yn Hacio'r Iaith leni. Mae'n ddull da i greu gwybodlenni, a mi rwyt ti'n defnyddio dull semi-automated' dy hun - a mail-merge ddefnyddiais i i ddechrau wrth greu erthyglau ar gopaon yr Alban. Er enghraifft, o gywain cronfa ddata o'r bywgraffiadur, gallem gael peth gwybodaeth ee dyddiad geni / marw. Mae llawer o'r rhain ar wiciddata, a gellir defnyddio'r rhain hefyd. Ond, wn i ddim am ddata ar wahan i rhain ee man geni, man marw, gwr/gwraig ayb. Wrth i wiciddata dyfu, fe allwn ei ddefnyddio; tan hynny, neu hyd nes bo cronfa gynhwysfawr ddibynadwy - llaw pia hi! Mae na waith mawr yn cael ei wneud y tu ol i'r lleni ar hyn yn fama. Croeso i ti helpu! Llywelyn2000 (sgwrs) 07:47, 28 Chwefror 2015 (UTC)[ateb]
Dwi ddim yn ymofyn "bot"; dim ond rhaglen syml sy'n gweithio ar ddogfen Word sy'n llenwi John Jones ganwyd [X] (dyweder"1832") i flwch [.[Categori: Genedigaethau [X]] yn creu "1832" yn lle X AlwynapHuw (sgwrs) 08:46, 1 Mawrth 2015 (UTC)[ateb]
Ia, dyna'r ffordd efo hwn; taenlen syml sydd ei angen; efallai y gallem ddod a'r LlGC i fewn i'r darlun hefyd. Llywelyn2000 (sgwrs) 09:05, 1 Mawrth 2015 (UTC)[ateb]
Yr hyn rwy'n chwilio am yw raglen sy'n gallu llenwi'r bylchau megis:

Roedd <E1>(John) <E2> (Jones)[.[<G1>]](1 Ionawr),[.[<G2>]](1832) –[.[<M1>,]](2 Mawrth) [<[M2>(1901).) yn wleidydd <plaid>(Llafur) Gymreig ac yn Aelod Seneddol <etholaeth>(Maesyfed)

{.{DEFAULTSORT:<E2>(uchod), <E1>(uchod)}}

[.[Categori:Genedigaethau <G2>(uchod)]]

[.[Categori:Marwolaethau <M2>(uchod)]

Lle mae Llenwi <E1> unwaith yn ei lenwi ym mhob <E1>

Gobeithio bod hyn yn gwneud sens! AlwynapHuw (sgwrs) 09:20, 1 Mawrth 2015 (UTC)[ateb]


Cysylltiau erthyglau ddethol yn torri wrth i mi newid erthygl golygu

Dwi wedi darganfod wrth i mi newid sawl erthygl fod fy ngolygiad wedi torri'r erthygl dethol? A all unrhywun disgrifio hwn? Dwi'n cofio darllen rhywle nid oedd angen y cysyttliadau ddim mwy ond nid wy'n siwr am hyn. dtm (sgwrs) 22:55, 3 Mawrth 2015 (UTC)[ateb]

@Danielt998: mi gymrai gip yn nes ymlaen; mi sylwais ar hyn ddoe, ond heb yr amser i fedru mynd o dan ei groen. Ti'n gwneud gwaith gwych gyda llaw! Llywelyn2000 (sgwrs) 08:55, 5 Mawrth 2015 (UTC)[ateb]
@Danielt998: Dw i wedi'i drwsio drwy ail-greu'r 'Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol' a oedd wedi'i dileu. Rho wybod os cyfyd unrhyw beth arall fel hyn; can diolch! Llywelyn2000 (sgwrs) 20:39, 9 Mawrth 2015 (UTC)[ateb]


Term Cymru / Trwy Ddulliau Technoleg golygu

Yng nghynhadledd 'Trwydd Ddulliau Technoleg' y bore ma, soniwyd am Term Cymru, sydd ar drwydded CC-BY; perchennog - Llywodraeth Cymru. Mae'r gronfa ddata'n cynnwys diffiniadau o eiriau - ac yn egin erthyglau posib! Llywelyn2000 (sgwrs) 09:46, 6 Mawrth 2015 (UTC)[ateb]

Hen Vocab y BBC hefyd wedi'i atgyfodi ar ei newydd wedd; angen ei roi fel osiwn ar Wici-bach-ni. Clamp o ddiwrnod da! 147.143.204.175 10:25, 6 Mawrth 2015 (UTC) Methodd y mewngofnodi ar IP Prifysgol Bangor. Defnyddiwr: Llywelyn2000. Llywelyn2000 (sgwrs) 07:58, 7 Mawrth 2015 (UTC)[ateb]

Trafodwyd hefyd y posibilrwydd o gael gwirydd sillafu yn y blwch golygu. Llywelyn2000 (sgwrs) 07:58, 7 Mawrth 2015 (UTC) I'r perwyl hyn, ac i ddod a phawb ynghyd: Wicipedwyr, aelodau staff Canolfan Bedwyr a datblygwyr côd annibynol, dw i wedi dechrau Wicipedia:Wicibrosiect Gwiro sillafu. Yn fy marn i, dyma'r datblygiad pwysicaf yn hanes cywici, gyda photensial aruthrol i sicrhau iaith safonol, cyson gyda'r termau cydnabyddiedig fel a awgrymir gan eiriaduron fel Cysill. Llywelyn2000 (sgwrs) 11:49, 7 Mawrth 2015 (UTC)[ateb]

Newyddion da iawn! Sut fydd yn gweithio? Gobeithio does dim logos yn dod i mewn i'r peth neu basa yn erbyn rheolau cyffredinol Wikipedia (gweld y cyfeiriad at Vocab y Bib uchod a chofio'r drafodaeth - bu'n rhai i ni wrthod eu cynnig bryd hynny, os wyt ti'n cofio). Anatiomaros (sgwrs) 02:46, 11 Mawrth 2015 (UTC)[ateb]
ON Ynglyn a Term Cymru, mae'r diffiniadau'n fwy addas i Wiciadur efallai, am eu bod mor fyr. Rol chwilio ar hap i gael blas, dwi ddim yn siwr fod y diffiniad o'r gair Saesneg municapility yn taro'r dant chwaith: Pam yr Almaen yn unig? Ac os "cymuned" yw'r term cyfatebol Cymraeg i fod, baswn i'n meddwl bod rhywbeth fel "cymuned ddinesig" yn well gyfieithiad. Maddeued imi am feirniadu. Manylion, manylion, manylion... Ond chware teg i nhw hefyd! Anatiomaros (sgwrs) 02:59, 11 Mawrth 2015 (UTC)[ateb]
!!Er gwybodaeth i eraill; y diffiniad o "Municipality" yn yr hyn mae Anatioamaros yn ei ddweud (diffiniad Term Cymru) ydy: 'Rhaniad gweinyddol daearyddol yn yr Almaen. Gall fod yn ddinas, pentref, neu grŵp o bentrefi.' Bois bach! Naw wfft, felly. Mi ddoi a chwaneg o wybodaeth am y ddau arall fel y dont allan o'r felin. Llywelyn2000 (sgwrs) 05:44, 11 Mawrth 2015 (UTC)[ateb]
Gadewch i mi achub cam TermCymru druan. Dw i'n meddwl mai dim ond ychwanegu pethau at y gronfa maen nhw (cyfieithwyr y Llywodraeth?) pan mae term anhylaw a/neu "newydd" yn codi, felly falle mai dim ond municipality o fewn cyd-destun Yr Almaen sydd wedi codi yn y gwaith maent wedi ei gyfieithu (er, os ydych yn rhoi 'municipality' yn y blwch chwilio - sdim modd postio dolen barhaol ar chwiliad - mi welwch bod dau ddiffiniad, a 'rhanbarth ddinesig' yw'r llall, sy'n disgrifio rhaniad wleidyddol yn Tseinia). Yn ail beth, mae gan bob term ei statws (o 1 i 5), a statws un yw'r gorau. Statws 4 yw'r ddau gynnig am municipality hyd yma. O beth dwi'n ddaeall, mae'r termau'n cael eu hadolygu'n go reolaidd. Gellir defnyddio rhai statws 1 (a 2?) un unig. Er nad yw'n berffaith, dwi'n meddwl gall fod o ddefnydd, unai i'r prosiect hwn neu Wiciadur.--Rhyswynne (sgwrs) 21:45, 16 Mawrth 2015 (UTC)[ateb]
Diddorol iawn. Tybed wnei di wneud cais am y gronfa ddata, a'i stico lan yn rhywle er mwyn i bawb ei weld a'i drafod. Efallai, y byddai rha ohono o ddiddordeb, fel rwyt ti'n awgrymu. Llywelyn2000 (sgwrs) 21:56, 16 Mawrth 2015 (UTC)[ateb]

Delweddau o gasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru golygu

Mae'r ffotograffau hanesyddol fel y rhai yng nghasgliadau John Thomas i gyd ar Gomin erbyn hyn neu ar fin mynd yno a hynny diolch i'r Llyfrgell Gen ei hun, felly does dim angen cael nhw yma. Gweler Sgwrs Categori:Delweddau o gasgliad John Thomas. Mae cael gwared ohonyn nhw a rhoi'r enw ffeil newydd yn waith diflas. Cofiwch felly, os gwelwch yn dda! Anatiomaros (sgwrs) 02:42, 11 Mawrth 2015 (UTC)[ateb]


Lluniau newydd ar comin golygu

Mae’r Llyfrgell Genedlaethol wedi ychwanegu dros 500 o luniau newydd i Comin gan gynnwys lluniau gan Geoff Charles, o’r 40au a 50au a lluniau cynnar o ardal Abertawe, sydd yn cynnwys rhai o’r lluniau cynharaf a chymerid yn Gymru. Plîs defnyddiwch y lluniau yma ar Wicipedia! Bydd mwy yn cael i ychwanegu yn fuan. Jason.nlw (sgwrs) 08:47, 17 Mawrth 2015 (UTC)[ateb]

Arbennig iawn. Delweddau gwerthfawr a phwysig. Un cwestiwn (lleiaf erioed. Mae'r manylion am y 4ydd llun ar wefan y LlG yn rhoi dyddiad 'ca. 1850-1855', ond ar Comin dywed '185-'. Fedrwn ni fod yn fanylach? Neu a yw hyn yn anodd/amhosib? '''Defnyddiwr:John Jones''' (sgwrs) 18:22, 16 Mawrth 2015 (UTC)[ateb]
Ardderchog!!!! Paid a stopio, Jason! ;-) Llywelyn2000 (sgwrs) 21:57, 16 Mawrth 2015 (UTC)[ateb]
@Jason.nlw: Oes hawl uwchlwytho lluniau o gasgliad Geoff Charles o safwe'r Llyfrgell sydd heb eu gosod yma gan LlGC eto? Rwyf wedi gosod y llun o Mam Thomas William Jones ar ei dudalen, ond mi fyddai'n braf cael llun o TW ei hun - mae 'na rai yn y casgliad, ond heb eu huwchlwytho eto. AlwynapHuw (sgwrs) 03:52, 17 Mawrth 2015 (UTC)[ateb]
@John Jones: Diolch John. Yn anffodus nid oes dyddiad pendant ar lawer o'r luniau yma ond mae rhan fwyaf ohonynt yn dyddio o'r 1850au gynnar. Mae'r dyddiadau ar Comin wedi dod o dudalen Flickr y LLGC ond os mae dyddiad mwy pendant ar ein gwefan mae croeso i chi defnyddio nhw.
@AlwynapHuw: Helo Alwyn. Mae Casgliad Geoff Charles dal mewn hawlfraint, felly does dim hawl i unrhyw un uwchlwytho'r delweddau o wefan y llyfrgell. Mae'n lan i'r llyfrgell penderfynu pa ddelweddau maen nhw yn rhyddhau i'r Public Domain. Fel y Wicipediwr Preswyl rydym yn paratoi cynllun i ryddhau llawer o luniau dros gyfnod y preswyliad, ac yn hapus cymrid sylw o awgrymiadau fel hyn. Does dim bwriad i ryddhau rhagor o luniau Geoff Charles ar hyn o bryd ond byddwn ni yn ail edrych ar y sefyllfa dros y misoedd. Diolch am eich cefnogaeth ac eich holl waeth ar Wicipedia! Jason.nlw (sgwrs) 12:36, 17 Mawrth 2015 (UTC)[ateb]


Polisi Wicipedia:Categorïau golygu

Dw i wedi cychwyn addasu Wicipedia:Categorïau; unrhyw sylwadau / newidiadau / ychwanegiadau? Llywelyn2000 (sgwrs) 04:57, 7 Ebrill 2015 (UTC)[ateb]

Rargian, doedd dim llawer yno i'w addasu! Rho ddiwrnod neu ddau i mi ystyried y geiriad ac mi wna i ychwanegu adran ar bethau i'w ystyried cyn creu categori - ceisio esbonio'r egwyddorion sylfaenol gan roi enghreifftiau ayyb. Anatiomaros (sgwrs) 23:12, 7 Ebrill 2015 (UTC)[ateb]


Golygathon Gallipoli yn y Llyfrgell Genedlaethol golygu

23 Ebrill. Cofrestrwch heddiw! drwy ddilyn y ddolen.

 



Yr ymgyrch i roi hawl i ferched pleidleisio golygu

Wedi rhoi sawl gais i fewn i'r blwch chwilio, rwy'n methu canfod tudalen sy'n cyfeio at yr ymgyrch i roi'r bleidlais i fenywod! Rwy'n methu colelio nad yw'r fath dalen ar gael, ond er chwilio a chwilota yn cael anhawster i'w canfod, mi fyddai'n gas gennyf meddwl bod Wicipedi wedi para cyhyd heb ystyried y pwnc!AlwynapHuw (sgwrs) 06:03, 18 Ebrill 2015 (UTC)[ateb]

Mm. Ti'n iawn, mae na le gwag yn fama. Beth am ei gychwyn ar y dudalen Pleidlais, ac os yw'n goferu i dudalenau eraill ee Ffeministiaeth, wel da hynny! Llywelyn2000 (sgwrs) 06:03, 27 Ebrill 2015 (UTC)[ateb]


Arddull iaith botymau gorchymyn yn y rhyngwyneb (#2) golygu

@Anatiomaros, Cymrodor, Dafyddt, Ifanceinion, Lloffiwr, Llywelyn2000, Rhyswynne: Hoffwn ail-gychwyn y drafodaeth a gafwyd fan hyn a fan hyn ynglyn â chyfieithu botymau gorchymyn ar y rhyngwyneb. Y cwestiwn yw a ddylai'r botymau ddefnyddio'r ferfenw ("golygu") neu'r ffurf gorchmynol ("golyger"). Mae cefndir y ddadl wedi'i grynhoi'n effeithiol gan Lloffiwr fan hyn.

Archifwyd y sgwrs heb iddi ddod i gydfod, â 3 yn erbyn newid i'r ferfenw, 2 o blaid (neu 3 os cyfrwn Cymrodor a gychwynnodd y drafodaeth ar translatewiki), ac un ar y ffens. Heb gonsensws amlwg ni chrewyd polisi, ac mae'n debyg (o sgwrs ces i yn y golygathon diwethaf) bod y gwaith o gyfieithu'r meddlawedd ar translatewiki wedi dioddef o ganlyniad i hyn. Er mwyn ceisio ffurfio bolisi hoffwn ail-gychwyn y drafodaeth. Mae croeso i unrhyw un gyfrannu, nid dim ond y rhai a gymerodd rhan yn y sgwrs wreiddiol a nodwyd ar ddechrau'r neges hon. Ham II (sgwrs) 15:20, 26 Ebrill 2015 (UTC)[ateb]

  • O blaid y ferfenw, er cysondeb â meddalwedd arall yn y Gymraeg ac er mwyn hwyluso golygu'r wici ar gyfer y rheiny nad sy'n gyfarwydd â holl ffurfiau gramadegol yr iaith. Ar y dudalen rwyf yn golygu ar hyn o bryd rwy'n gweld y geiriau "darllen", "golygu", "gweld yr hanes", "cadw'r dudalen" a.y.y.b. ar ddolenni neu fotymau ac i fi does dim amwysedd ynglyn â beth mae'r rhain yn eu gwneud (neu'n caniatàu i fi wneud). Rwy'n meddwl mai dyma dylai'r arddull fod drwyddi draw. Ham II (sgwrs) 15:20, 26 Ebrill 2015 (UTC)[ateb]



Yr Etholiad: Wicibrosiect Answyddogol! golygu

Os byw ac iach bwriadaf ddiweddaru erthyglau perthnasol nos Iau'r etholiad, gan ganolbwyntio ar Gymru a'r Alban. Byddai'n braf cael cwmni! Llywelyn2000 (sgwrs) 07:00, 5 Mai 2015 (UTC)[ateb]

Ers etholiad Chwefror 1974, rwyf wedi tueddu dilyn etholiadau efo gormodedd o gwrw; rwy'n ansicr os byddwyf yn digon sobr i fod o gymorth nos Iau / bore Gwener. Ond soniodd Llywelyn2000 ychydig yn ôl y bydd bot yn codi'r canlyniadau yn awtomatig o'r Saesneg i'r Gymraeg a gan hynny ni fydd angen imi aros yn sobr er mwyn barhau yn Wiciwr barchus wrth i'r canlyniadau cael eu cyhoeddi!AlwynapHuw (sgwrs) 02:11, 6 Mai 2015 (UTC)[ateb]
Bydd potel o jiws wrth fy mhenelin innau, gyfaill, i ddathlu, a phwyll, amynedd ac aeddfedrwydd canol oed yn ei reoli! Otomeiddio: mae'r tablau'n cyfieithu eu hunain, bellach, fel y gweli yn: Gordon (etholaeth seneddol y DU). Mae Defnyddiwr:Ham II wedi danfon dolen ddiddorol ata i ar wici-fr ble mae Lua yn caniatau i Wybodlenni gael eu ffurfio'n otomatig o Wiciddata. Gweler yma. Fe all hyn fod yn anrhaethol bwysig i wici bach fel wici-cy, er mwyn sicrhau fod newidiadau fel enwau pel-droedwyr neu ASau yn cael eu llenwi'n otomatig. Llywelyn2000 (sgwrs) 05:18, 6 Mai 2015 (UTC)[ateb]
Cadwch sedd i mi! Bydd gennyf un llygad ar y Bocs a'r llall ar y Wici. Hwyl tan hynny, Anatiomaros (sgwrs) 02:11, 7 Mai 2015 (UTC)[ateb]
A byddai modd i gyfrifon trydar @WiciCymru neu @Wicipedia gofyn, yn barchus, am luniau di-hawlfraint gan yr ymgeiswyr llwyddiannus ar Twitter?AlwynapHuw (sgwrs) 04:28, 7 Mai 2015 (UTC)[ateb]
@Cymrodor: Syniad da Alwyn! Piti na byddai gennym rywun i fynd oddeutu'r gorsafoedd yn tynnu lluniau - ac mewn ambell gyfri (mewn sbyty y bydda i, mae'n debyg, yn ystod y dydd). Byddai bathodyn 'Ffotograffydd y Wasg' yn bosib: i bapur digidol mwya'r byd. Trydar - mi wna i. Edrych ymlaen! Llywelyn2000 (sgwrs) 04:42, 7 Mai 2015 (UTC)[ateb]
Os byddem yn cael llwyth o erthyglau am ASau newydd yr SNP ar ôl heno, cofiwch am y categoriau newydd sbon hyn -
Categori:Gwleidyddion Albanaidd yr 21ain ganrif (rhagor i ddod...)
Categori:Gwleidyddion Plaid Genedlaethol yr Alban
(yn ogystal â'r hen 'Categori:Aelodau Seneddol y Deyrnas Unedig wrth gwrs). Anatiomaros (sgwrs) 00:37, 8 Mai 2015 (UTC)[ateb]

Sut mae ymateb i sylw ar fy nhudalen sgwrs? Os ydwyf yn ymateb ar dudalen fi a fydd y sawl sydd wedi gadael y sylw yn gwybod fy mod wedi ymateb iddo / iddi?AlwynapHuw (sgwrs) 02:11, 6 Mai 2015 (UTC)[ateb]

Gweler: Cymorth:Tudalen sgwrs. Llywelyn2000 (sgwrs) 04:48, 6 Mai 2015 (UTC)[ateb]


Nodyn Gwledydd golygu

Dwi wrthi'n mewnforio rhywbeth o en ac yn sylwi fod (er enghraifft)   Gwlad Belg yn gweithio ond mae   Portiwgal wedi ei ddileu - gall unrhyw un egluro pam, neu awgrymu beth yw'r ffurf byr y dyliwn ddefnyddio ar gyfer nodi baner ac enw gwlad. Diolch Blogdroed (sgwrs) 18:41, 27 Mai 2015 (UTC)[ateb]

Helo Blogdroed. Mae {{POR}} ar wici en yn ailgyfeirio i Template:PRT. Yn hytrach nag ailgyfeirio ar cy, mae rhywun (Defnyddiwr:Paul-L) wedi dileu nhw. Byddai'n syniad da eu hail greu fel en, hy ailgyfeirio o POR i PRT. Mi wna i un rwan, fel siampl. '''Defnyddiwr:John Jones''' (sgwrs) 20:19, 27 Mai 2015 (UTC)[ateb]
Ia, dyna oedd y broblem; fe weli fod baner Portiwgal rwan iw gweld. Hwyl! '''Defnyddiwr:John Jones''' (sgwrs) 20:21, 27 Mai 2015 (UTC)[ateb]
Gwych, diolch! Doeddwn i ddim yn siwr os oedd nas reswm penodol neu beidio!! Ffanciw mawr Blogdroed (sgwrs) 20:23, 27 Mai 2015 (UTC)[ateb]

Golygathon Cwpan y Byd Rygbi golygu

 

Bydd Cwpan y Byd Rygbi yn cychwyn ar y 18fed o Fedi. Ymunwch â ni yng nghartref Rygbi Cymraeg ar y 7fed i ychwanegu a gwella erthyglau Wicipedia yn ymwneud â rygbi, y chwaraewyr, timau, gemau a thwrnameintiau. Helpwch i wella cynnwys sy'n ymwneud â'r gêm genedlaethol cyn dechrau'r twrnamaint mawr.

Bydd Wicipedwyr profiadol wrth law i gynnig hyfforddiant ac nid oes angen unrhyw brofiad blaenorol o olygu. Os ydych yn hoffi rygbi, os ydych yn hoffi Wicipedia , yna ymunwch â ni yn Stadiwm y Mileniwm ar gyfer digwyddiad hwylus a rhad-ac-am-ddim. Jason.nlw (sgwrs) 13:32, 28 Mai 2015 (UTC)[ateb]

Mae tudalen y golygathon yn fama. Welai chi yno! ON Unrhyw syniadau sut i'w ddatblygu ymhellach - o safbwynt Wici-cy? Robin Owain (WMUK) (sgwrs) 10:54, 9 Gorffennaf 2015 (UTC)[ateb]
@Jason.nlw: Dwi newydd ychwanegu Cwpan Rygbi'r Byd 2011 sydd wedi bod yn eistedd yn fy mhwll tywod ers sbel! Croeso i chi ei ddefnyddio fel rhyw fath o sgerbwd! Blogdroed (sgwrs) 12:20, 9 Gorffennaf 2015 (UTC)[ateb]
O'r ochr Gymraeg, oes modd gwahodd aelodau o Clwb Rygbi Cymry Caerdydd - credaf fod ganndynt dipyn o aelodau a chyn-aelodau gweithgar. Hefyd, gofyn oes modd cael erthygl ar Pobl Caerdydd, ac er bod y digwyddiad yn wythnos cyntaf cyrsiau newydd Cymraeg i Oedolion, felle bod modd defnyddio Facebook/rhestr e-bost Canolfan Cymraeg Caerdydd i geisio denu dysgwyr lefelau uwch i ddod (Glyn Wise yw enw'r Swyddog Dysgu Anffurfiol), ac awgrymu gofyn iddynt gyfansoddi cynnwys ymlaen llaw.--Rhyswynne (sgwrs) 21:15, 13 Gorffennaf 2015 (UTC)[ateb]
Er gwybodaeth, dwi wedi nodi yma fod angen bod yn ofalus wrth fachu côd o en.wikipedia a'i roi mewn yn cy.wikipedi gan nad yw'r Nodyn yr un fath yn y ddwy iaith Blogdroed (sgwrs) 16:23, 21 Gorffennaf 2015 (UTC)[ateb]

Patagonia golygu

 

Mae Jason, Wicipediwr y Llyfrgell Genedlaethol yn trefnu Digwyddiad Cymru-Patagonia yn y Llyfrgell yn Aberystwyth 19 Mehefin, 10y.b - 3y.p - mae'n swnio'n ddiwrnod hynod o ddiddorol. Ceir manylion llawn ar wefan Wicimedia.

Sylwch fod y diwrnod am ddim - ac yn cynnwys cinio! Dewch a delweddau neu ddogfennau sy'n ymwneud â Phatagonia, y gallwch eu rhannu â Chasgliad y Werin a Wicipedia.

Fel y dywed y wefan: Bydd mynychwyr yn cael y cyfle i ddysgu sut i olygu Wicipedia, i ychwanegu a gwella cynnwys yn ymwneud â'r Wladfa Gymreig ym Mhatagonia. Bydd arbenigwyr wrth law i ddarparu adnoddau perthnasol ac i helpu golygu, ac ychwanegu lluniau i Wicipedia. Pob hwyl! Llywelyn2000 (sgwrs) 16:56, 29 Mai 2015 (UTC)[ateb]

Braf gweld ychydig gyhoeddusrwydd am y golygathon ar golwg360 yma, a'i fod yn rhoi mensh i'r hen Wici! Mae prif dudalen y digwyddiad ar wefan Wicimedia UK yn fama. Gwaith gwych gan Jason! Llywelyn2000 (sgwrs) 05:14, 17 Mehefin 2015 (UTC)[ateb]

Golygathon ar y 9fed o Fehefin golygu

Bore da bobl,

Er gwybodaeth, dw i'n bwriadu cynnal Golygathon ar gyfer disgyblion MATh (Mwy Abl a Thalentog) yn Ysgol Gyfun Gwyr ar fore dydd Mawrth nesaf (y 9fed o Fehefin). Y gobaith yw y bydd 15 o ddisgyblion o flwyddyn 6 yr ysgolion cynradd sydd a Chymraeg cryf yn cael cyfle i ymweld a'r ysgol ac yn creu erthyglau ar gyfer y Wicipedia Cymraeg.

Y bwriad yw hyn:

  • Treulio 90 munud yn ymchwilio i bwnc sydd o ddiddordeb i'r disgyblion ar iPads i ddechrau
  • Ysgrifennu erthygl am y pwnc o'u dewis ar bapur
  • Treulio'r 90 munud nesaf yn llunio erthyglau

Manteision hyn yw y bydd criw o bobl ifanc yn cael eu cyflwyno i olygu'r Wici ac o bosib yn creu erthyglau am bynciau na fyddai pobl hyn yn ystyried. Yn amlwg, bydd hyn yn broses o ddysgu iddynt ac felly gofynnaf yn garedig am amynedd golygwyr eraill yn ystod y bore. Fe geisiaf i sicrhau y bydd pob erthygl yn cael eu mireinio ol iddynt orffen e.e. cynnwys categoriau, rhyngwici, fformatio a.y.y.b.

Gobeithio fod hyn yn dderbyniol i bawb. Pwyll (sgwrs) 08:31, 3 Mehefin 2015 (UTC)[ateb]

Hyn yn swnio'n ddiddorol iawn! Yn y gnehedlaeth hon mae dyfodol Wici yfmi. Diolch hefyd am ymosod ar y fandaliaeth diweddar; lle ddiawch mae Llywelyn 'di mynd? '''Defnyddiwr:John Jones''' (sgwrs) 21:08, 6 Mehefin 2015 (UTC)[ateb]
Gwych!!! Ymlaen!!! Mi dria i gadw llygad, ond mae'n anodd mwyngloddio'r amser, mewn cyfandir o rew - Ysbyty yn Lerpwl. Pob hwyl arni! Llywelyn2000 (sgwrs) 08:01, 9 Mehefin 2015 (UTC)[ateb]
Wedi dechrau arni. 16 o ddisgyblion yn brysur yn llunio erthyglau sydd o ddiddordeb iddynt yn amrywio o Meghan Trainor i David Walliams. Mynd i ddechrau teipio ar y Wici am 11 - croesi bysedd yr aiff popeth yn iawn! Pwyll (sgwrs) 09:29, 9 Mehefin 2015 (UTC)[ateb]
O.N. Gwellhad buan, Llywelyn!
@Pwyll: Diolch gyfaill; y mab sy'n wael, ond mi drosglwyddaf dy ddymuniad yn llawen. Gwych gweld i'r disgyblion fynd ati fel tan-gwyllt! Dw i wedi trio cywiro tair neu bedair o'r erthyglau, a diddorol oedd y dewis - gwneud i mi deimlo'n hen wr! Mae na sawl un arall sydd angen eu cywiro, cofia. Llywelyn2000 (sgwrs) 05:17, 17 Mehefin 2015 (UTC)[ateb]



Rheolaeth awdurdod golygu

Mae'r Nodyn Rheolaeth awdurdod i'w gweld ar waelod pob erthygl (gobeithio!) am fywgraffiadau, ar Wici-cy. Cyfrinach neu allwedd hwn, wrth gwrs, ydy Wiciddata. Mae'n creu cyswllt neu ddolen i Lyfrgelloedd / cronfeydd mawr y byd e.e. yr OBD; ar hyn o bryd, er enghraifft, mae 34 o erthyglau ar y Wici Arabeg s'n cysylltu i erthyglau am Gymry sydd ar y Bywgraffiadur Ar-lein. Er mwyn ei gyplysu gyda'r Bywgraffiadur Cymreig Ar-lein, mae criw ohonom yn ceisio rhoi cyswllt rhwng bywgraffiadau ar wici a bywgraffiadau BCA (neu'n Saesneg: BWD - Dictionary of Welsh Biography). Mae'n waith llafurs, undonnog, ond gwerth ei wneud. mae 1,599 wedi'u cyplysu ar hyn o bryd a thua 33% ar ôl. Mae Marc (Ham II) wedi cyplysu dros 1,100 ei hun! Gorau po gynted y medrwn orffen y gwaith, er mwyn i ddolen gael ei greu i'r erthygl gyfatebol y BAL, a'r Llyfrgell Genedlaethol. Bydd yn rhaid mewngofnodi i wmflabs er mwyn gwneud hyn. Beth am geisio ei orffen yn ystod yr wythnosau nesa? Medrwch weld y bobl sydd heb eu cysylltu yma; os ydych wedi mewngofnodi. Llywelyn2000 (sgwrs) 09:16, 22 Mehefin 2015 (UTC)[ateb]

Mae'r nifer o erthyglau sydd heb eu didoli i lawr i tua 8% ac mae dros 2,000 o erthyglau Wicipedia bellach yn cynnwys dolen i'r erthygl gyfatebol ar y Bywgraffiadur Ar-lein; ymhen y rhawg, bydd hyn hefyd yn cael ei alluogi ar wiki-en. Dyma'r categori i'r rhai Cymraeg: 'Categori:Dalennau gyda gwybodaeth am Reolaeth Awdurdod' (ceir llai na 2,000 ynddi am ryw reswm, ond dw i ar y ces!) Llywelyn2000 (sgwrs) 15:54, 8 Awst 2015 (UTC)[ateb]
Mae'r dudalen sy'n dod fynu ar ôl rhoi glec ar Y Bywgraffiadur Cymreig yn awgrymu ei fod yn Coladu trydariadau Cymraeg o Twitter, newyddion!

Cyfeiriad Wici ar Bapurau LlGC golygu

Braf yw gweld bod modd roi clec ar yr W uwchben unrhyw erthygl ar safle newydd y Papurau gan LlGC bellach er mwyn creu côd ffynhonnell Wici. Trist yw'r ffaith bod mynd at y ffynhonnell trwy'r dudalen Cymraeg at erthygl Cymraeg yn creu côd ar gyfer Wikepedia Saesneg yn unig, yn hytrach nag un addas at erthygl i'r Wicipedia Cymraeg! AlwynapHuw (sgwrs) 04:41, 3 Gorffennaf 2015 (UTC)[ateb]

O ddefnyddio'r cod a gaiff ei greu, tydy'r wybodaeth sy'n ymddangos ar yr erthygl wedi i chi ddewis 'cadw' (neu 'rhagweld' yn gytaf wrth gwrs!) ddim yn dangos Cymraeg na Saesneg, dim ond enw'r awdur, cyhoeddiad a dyddiad ar ffurff dd.mm.bbbb, ag eithio'r gair Retrieved. Mae problem gyda ni ar cy bod sawl fersiwn o bob cod dyfynnu gyda ni. Ar hyn o bryd 'adalwyd' a mater bach mae'n siwr yw newid hyn ar wefa y Llyfrgell. Nodwedd arbennig o ddefnyddiol.--Rhyswynne (sgwrs) 21:10, 6 Gorffennaf 2015 (UTC)[ateb]
@Jason.nlw: Dw i dim wedi cael cyfle i'w drio, eto! Dw i'n meddwl mai LlGC ydy'r Llyfrgell cyntaf i wneud hyn yn fyd-eang, ac y gellir datrus unrhyw broblem. Llywelyn2000 (sgwrs) 21:16, 6 Gorffennaf 2015 (UTC)[ateb]
@Jason.nlw:@Rhyswynne:@Llywelyn2000:Mae'n adnodd gwych, mae cofio ffynonellau, ar ôl agor dwsin o wefannau, a cheisio cysylltu atynt wedi ysgrifennu erthygl yn boen yn y part ôl, mae gallu rhoi clec ar W mor hawdd! Mae fy ASau o fis Mai yn brin eu ffynonellau o'u cymharu â rhai Gorffennaf; ond mae cael Saesneg ar wyneb tudalen yn creu gofid imi, nid problem LlGC, mohono ond problem Wicipedia, rwy'n cael yr un broblem efo fy siryfion (ee) efo <.ref>London Gazette: no. 46249. p. 4006. 28 March 1974. Retrieved 2015-07-07.<./ref> Mae newid "accessdate" i "adalwyd" yn chwalu'r cyfeirnod! AlwynapHuw (sgwrs) 08:39, 7 Gorffennaf 2015 (UTC)[ateb]
Pa Nodyn (templad) sy'n cael ei defnyddio? fedri ddanfon dolen i un ti wedi'i chopio? Diolch. Llywelyn2000 (sgwrs) 08:50, 7 Gorffennaf 2015 (UTC)[ateb]
Ia siwr, problem y nodyn ydy o. Hwn dwi'n meddwl @Llywelyn2000:: https://cy.wikipedia.org/wiki/Nodyn:Cite_web Dyma sy'n cael ei gynhyrchu gan y wefan: <ref>{{cite web|url=http://hdl.handle.net/10107/4305679|title=YMETHODISTIAID - Baner ac Amserau Cymru|date=1891-10-07|accessdate=2015-07-07|publisher=Thomas Gee}}</ref>--Rhyswynne (sgwrs) 21:03, 7 Gorffennaf 2015 (UTC)[ateb]

@Rhyswynne, AlwynapHuw: Diolch Rhys. Dw i'n gweld y broblem. Tipyn o ddirgelwch. Y maen tramgwydd oedd fod y gair 'Retrieved' ddim i'w weld wrth chwilio amdano. Roedd y cod yn dangos r}}etrieved a R}etrieved (er mwyn parchu llythyren fawr yn dilyn atalnod llawn!) Dyma'r Nodyn sylfaenol ble roedd y gwalch drwg yn cuddio: Nodyn:Citation/core‎. Dylai pob un ymddangos yn Gymraeg rwan. Llywelyn2000 (sgwrs) 06:00, 8 Gorffennaf 2015 (UTC)[ateb]

Ar y dydd hwn...14 Gorffennaf 2015 golygu

Maer dolen sydd i fod i gyfeirio at 1877 – Richard Davies (Mynyddog), 44, bardd yn cyfeirio at yr Esgob Richard Davies AlwynapHuw (sgwrs) 01:42, 14 Gorffennaf 2015 (UTC)[ateb]

Diolch gyfaill! Newydd ei gywiro. Croeso i ti jyst newid pethe, cofia! Llywelyn2000 (sgwrs) 06:07, 14 Gorffennaf 2015 (UTC)[ateb]

Y BBC yn agor eu drysau ac yn cynnig erthyglau i Wicipedia Cymraeg golygu

@Lesbardd, Cymrodor, Rhyswynne, Oergell: Braf iawn yw cyhoeddi fod BBC Cymru wedi rhyddháu erthyglau ar nifer o grwpiau cerddorol, bandiau ac unigolion i'w rhoi ar Wicipedia. Bûm mewn trafodaethau gyda Huw Meredydd Roberts, Is-Olygydd Digidol a Chynllunio yng nghynhadledd Hacio'r iaith 2014 ac eto yn 2015, a gohebodd Aled Powell hefyd ar y mater. Cyn dechrau addasu'r testun, dw i am roi mis o amser i unrhyw un a gyfrannodd i'r gwaith wneud unrhyw sylw ar hyn; gan fod blwyddyn neu ddwy bellach ers i'r erthyglau gael eu sgwennu'n wreiddiol, efallai y carent eu ehangu neu eu cywiro, neu eu dileu hyd yn oed! Yna, gallem ninnau wedyn eu rhoi ar Wici - os dymunwch eu haddasu ar gyfer ein enseiclopedia ar-lein.

ÔN Os oes gan rywun ddiddordeb gwneud prosiect bychan gyda Chwmni Sain, neu ehangu hwn gyda'r BBC, yna rhowch wybod os gwelwch yn dda; mae'n bosibl gwneud cais am nawdd 'microgrant' WMUK i helpu gydag unrhyw gostau ee trafaelio, offer.

Rhestr o dudalennau artistiaid ar bbc.co.uk/cymru/cerddoriaeth:

Y categori priodol o artistiaid yn fama. Llywelyn2000 (sgwrs) 15:34, 17 Gorffennaf 2015 (UTC)[ateb]
Newyddion gwych.--Rhyswynne (sgwrs) 20:24, 28 Gorffennaf 2015 (UTC)[ateb]
Felly, gan gymryd na chlywyd yn wahanol @Llywelyn2000:, allwn ni fwrw ymlaen a chopio (ac addasu) yr uchod i gyd? --Rhyswynne (sgwrs) 19:12, 25 Medi 2016 (UTC)[ateb]

Golygathon Cwpan Rygbi'r Byd golygu

 

Helo pawb, mae'r Golygathon mawr yn Stadiwm y Mileniwm yn tynnu yn agosach, felly cefnogwch Gymru, Wicipedia a'r Llyfrgell Genedlaethol trwy ymuno a ni ar a 7fed o Fedi i wella cynnwys Rygbi ar Wicipedia. Bydd hwn yn gyfle i ddysgu sut i olygu Wici, neu gwrdd â golygyddion arall, i drafod a chydweithio. Rowch eich enw i lawr heddiw! Jason.nlw (sgwrs) 09:52, 30 Gorffennaf 2015 (UTC)[ateb]

Dyfrlliw LlGC i'w hychwanegu i erthyglau Wici golygu

Dw i di trio cropio a glanhau tua 100 o'r 1,399 o luniau mae Jason wedi'u huwchlwytho o'r Llyfrgell Genedlaethol yn fama. Llond dwrn sydd yn dal i edrych yn dila bellach. Os cewch awr neu ddwy - tybed a wnewch chi eu rhoi yn yr erthyglau perthnasol, ar y Wicipedia? Pa dlysau mae'r Llyfrgell am eu rhyddhau nesa! Stwff da, ond mae na lot o waith eu cyplysu i erthyglau! Llywelyn2000 (sgwrs) 23:38, 30 Gorffennaf 2015 (UTC)[ateb]


Twlsyn Wicidata/Wicipedia cy golygu

Mae Magnus Manske (Dewin y Data!) wedi creu twlsyn sy'n ein hybysu o erthyglau HEB eitem WD yn perthyn iddynt, a thwlsyn arall i'n cynorthwyo i wneud y cywllt. Coblyn o waith da! Mae'r sgwrs syml ar Trydar ar fama. Fel y gwyddoch, mae Wikidata'n mynd i fod yn goblyn o bwysig i ddatblygiad y WP Cymraeg. Llywelyn2000 (sgwrs) 09:32, 6 Awst 2015 (UTC)[ateb]


65 mil golygu

Ar 8 Medi, 2014 cafwyd neges yn nodi bod Wicipedia wedi cyraedd 60,000 erthygl. Ddoe (25 Awst 2015) sylwais bod trothwy 65,000 wedi ei groesi. Pum mil o erthyglau mewn llai na blwyddyn - dipyn o gamp. Llongyfarchiadau i bawb sy'n ymwneud a'r prosiect. Ymlaen at y 70K! AlwynapHuw (sgwrs) 03:06, 26 Awst 2015 (UTC)[ateb]

Dw i ddim y math o berson sy'n hoffi 'gwleidyddiaeth' wicipedia hy sgwrsio am hyn a llall; gwell gen i fynd ati i sgwennu erthyglau - dynna sy'n cael ei basio ymlaen i'r genhedlaeth nesa ma, sy'n gweld mwy o Wicipedia na deunydd darllen CAA! Mi hoffwn wneud mwy, ond mae'n rhai rhoi amser i CELL hefyd, sy'n hynod bwysig. Ond pan welais dy nodyn yn fama, Alwyn, mi feddyliais dy fod yr un fath o berson - y ffrywthau, y gwaith tawel yn llawer pwysicach na'r clod o'i wneud. Felly diolch i ti am symud Wicipedia ymlaen yn ystod y flwyddyn dwaetha ma. Mae'r 60,000 wedi troi yn 68,689 dros nos, a 70,000 ar y gowel. deallaf gan fy athro Llywelyn2000 fod Google yn cadw llygad barcud ar nifer yr erthyglau, gan wneud rhagor o'u prosiectau yn Gymraeg pan fo 70k, 80k etc o erhyglau wici wedi ei gyrraedd. Mae na lawer gormod o Saesneg yn y Caffi ma, ac mae angen ei garthu! Wicipedia Cymraeg ydy hwn, a hir y parhâ felly! Sut mae ffeindio pa safle ydan ni bellach o ran y rhestr ieithoedd? mo roedden ni'n 71fed (gwelwer yma? Mae'n ymddangos i mi fod nifer yr erthyglau wedi dyblu mewn dwy flynedd! Cell Danwydd (sgwrs) 18:48, 2 Medi 2015 (UTC)[ateb]
Dim ond deud diolch i bawb, oedd nodi'r careg filltir! Wrth edrych ar ffigyrau heddiw, y Gymraeg yw rhif 63 yn y rhestr ieithoedd Wikipedia. Dydy curo Tatar er mwyn cael safle 62, dim o bwys i mi; per bai Tatarça yn llwyddo i'n goresgyn i gipio 63 a'n danfon yn ôl i 64, does dim ots! Llongyfarch cyfranwyr Cymraeg oedd unig fwriad fy neges! Ond llongyfarchiadau mawr i gyfranwyr pob iaith leiafrifol arall sydd uwch na ni, sy'n is na ni - dalier ati! AlwynapHuw (sgwrs) 04:24, 3 Medi 2015 (UTC)[ateb]
Clywch clywch! Llywelyn2000 (sgwrs) 06:42, 3 Medi 2015 (UTC)[ateb]

Golygathon Hywel Dda golygu

 

Bydd Golygathon Hywel Dda yn cael eu cynnal yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth ar 16 Hydref. Bydd Croeso cynnes i bawb!Jason.nlw (sgwrs) 11:24, 24 Medi 2015 (UTC)[ateb]


Delweddau Statws Cadwraeth golygu

 

Dw i di cychwyn cyfieithu ffeiliau svg ar gyfer categoriau rhywogaethau o ran risg. Mae na filoedd o rai Saesneg ar hyn o bryd ar Wici-cy, felly bydd hyn yn goblyn o wahaniaeth, yn ieithyddol, weledol. Ar ôl cwbwlhau eu creu a'u huwchlwytho i gategori bach del ar Comin, mi wna i newid yr enwau ar y blychau tacso amrywiol. Llywelyn2000 (sgwrs) 02:03, 24 Hydref 2015 (UTC)[ateb]

Mae fersiynnau 3.1 a 2.3 (yr hen fersiwn) bellach wedi'u huwchlwytho. Os oes hen, hen fersiynau o'r statws, yna rhowch wybod i mi ar fy nhudalen sgwrs. Llywelyn2000 (sgwrs) 06:39, 25 Hydref 2015 (UTC)[ateb]


Y Cymhorthydd Cyfieithu - cais i symud ymlaen golygu

Dw i di gadael cais i'r gwybodusion fynd ati i gael y Y Cymhorthydd Cyfieithu i weithio. A wnewch chi ychwanegu eich cadarnhad yma os gwelwch yn dda. Dim ond Defnyddiwyr: Oergell, Cymrodor a DafyddT sydd wedi gwneud ar hyn o bryd. Diolch! Llywelyn2000 (sgwrs) 22:15, 20 Tachwedd 2015 (UTC)[ateb]

Da ni drwodd i'r rownd ola!!! (Er gwaethaf nad oes llawer ohonom!) Dyma'r dudalen i fwrw eich pleidlais. Llywelyn2000 (sgwrs) 23:29, 1 Rhagfyr 2015 (UTC)[ateb]

Colli Cysylliadau at Erthyglau Papur Newydd LLGC golygu

Mae nifer o fy erthyglau yn defnyddio http://papuraunewydd.llyfrgell.cymru/, fel ffynhonell. Prin bod y cysylltiadau'n gweithio bellach, mae'r mwyafrif yn mynd at http://hdl.handle.net/10107/4304991 NOT FOUND mae eraill yn mynd at erthyglau gwbl amherthnasol, am Eliffantod a Phuteindai! Efo pob parch i'r Llyfrgell mae'r newidiadau yn gwneud gwarth o Wicipedia a ffŵl o'r cyfranwyr sydd wedi cysylltu at erthyglau fel awdurdod! Wedi gwario oriau yn darllen erthyglau er mwyn caffael gwybodaeth a chysylltu atynt, rwy'n teimlo fel fy mod wedi fy mradychu a'm gwawdio! Hynod siomedig!! Disgwyl gwell gan ein Llyfrgell Genedlaethol.Gwiriwch cyfeiriaadau Spencer Compton Cavendish, 8fed Dug Devonshire er engrhaifft! AlwynapHuw (sgwrs) 06:01, 7 Rhagfyr 2015 (UTC)[ateb]

@Jason.nlw: Rargian fawr! Pam nad ydynt yn 'static urls'? Dw i'n siwr y gall Prif Ddewin y Wefan ddod i'r adwy a chreu ailgyfeiriad o'r hen i'r newydd! Tybed ai hyn sy'n gyfrifol Llywelyn2000 (sgwrs) 07:30, 7 Rhagfyr 2015 (UTC)[ateb]


Awdurdod - Saesneg yn unig! golygu

Problem pob gwyddoniadur, am resymau amlwg, yw diffyg erthyglau am ferched. Wedi gwylio hanes Siân Phillips ar yr IPlayer bu sôn am berthynas o gyfnither ddiddorol iddi, Rosina Davies (Efengyles). Dyma fynd ati i ymchwilio ei hanes a 'sgwennu pwt o erthygl. Cefais hyd i wybodaeth am Rosina yn y DNB (dim yn y Bywgraffiadur, ysywaeth). Fel arfer bydd cyfeiriad at y DNB yn creu blwch awdurdod; ond nid yn achos Rosina. Oes raid wrth erthygl yn y fain i greu awdurdod i erthygl Cymraeg?AlwynapHuw (sgwrs) 05:00, 11 Rhagfyr 2015 (UTC)[ateb]

Roedd angen cysylltu'r erthygl at yr eitem Wiciddata priodol; mae eitem o'r fath yn bodoli ar gyfer pawb sydd yn y Bywgraffiadur neu'r ODNB. Mae'r nodyn awdurdod yn yr erthygl nawr. Ham II (sgwrs) 06:57, 11 Rhagfyr 2015 (UTC)[ateb]

Golygathon i dathlu penblwydd Wikipedia golygu

 

Helpwch ni i ddathlu’r 15fed pen-blwydd WiKipedia drwy wella cynnwys ymwneud ag awduron o Gymru ar hyd yr oesoedd. Gallech greu erthyglau newydd ar gyfer awduron haeddiannol, gwella erthyglau sy'n bodoli eisoes, ychwanegu dyfyniadau, cyfieithu i'r Gymraeg ... beth bynnag yr ydych yn hoffi! Nid oes angen profiad blaenorol, bydd cymorth wrth law a bydd deunydd ymchwil yn cael ei ddarparu. Felly, plîs gofrestru neu cysylltwch â mi yn uniongyrchol gydag unrhyw gwestiynau. Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal yn y Llyfrgell Genedlaethol Cymru ar 15 Ionawr 2016. Jason.nlw (sgwrs) 10:49, 11 Rhagfyr 2015 (UTC)[ateb]

70,000 o erthyglau golygu

@Dafyddt, Adam: wel dyma ni wedi cyrraedd carreg filltir arall: 70,000 o erthyglau ar yr hen Wici! Llongyfs i Defnyddiwr:Dafyddt. Yr 'erthygl' oedd Gareth Jones (cyflwynydd) ac fe'i sgwennwyd ar y 13eg o Ragfyr, 2015. Yn fanwl gywir, ailgyfeirad oedd y 70,000fed (golygiad gan Defnyddiwr:Adam, ond mae'n arferiad gennym beidio a chyfri'r ailgyfeiriadau! Llywelyn2000 (sgwrs) 19:50, 13 Rhagfyr 2015 (UTC)[ateb]

Grêt! Pam fod y dudalen flaen yn dangos 69,000 erthygl gyda llaw? Ydi e'n anghywir neu ydw i wedi colli rhywbeth? --Dafyddt (sgwrs) 19:55, 13 Rhagfyr 2015 (UTC)[ateb]
Drap, ti'n iawn! 69,000fed! Llywelyn2000 (sgwrs) 20:01, 13 Rhagfyr 2015 (UTC)[ateb]
Dal ati fe ddaw y 70K cyn diwedd y flwyddyn!AlwynapHuw (sgwrs) 06:47, 14 Rhagfyr 2015 (UTC)[ateb]

Cwrs hyfforddi yn Llundain golygu

Mae na gwrs deuddydd yn Llundain - ar sut i drefnu cyrsiau sgiliau Wicipedia ayb. Telir costau teithio ac aros. Swnio'n ddifir; byddai'n wych cael rhagor o sesiynau / hacathonau / golygathonau ledled Cymru. Llywelyn2000 (sgwrs) 14:48, 14 Rhagfyr 2015 (UTC)[ateb]


Nadolig Llawen golygu

Nadolig Llawen Iawn i bawb sy'n ymwneud a Wicipedia, mae dros 69K o erthyglau yn yr hosan yn anrheg a hanner i Gymru a'r Iaith – diolch i bawb sydd wedi cyfrannu. AlwynapHuw (sgwrs) 05:50, 25 Rhagfyr 2015 (UTC)[ateb]

Ac i tithau, gyfaill, a phawb sy'n cyfrannu i roi i drigolion Daear holl wybodaeth y byd, yn rhydd, yn agored ac am ddim. Llywelyn2000 (sgwrs) 06:11, 25 Rhagfyr 2015 (UTC)[ateb]

Negeseuon rhyngwici / ieithoedd eraill golygu

Oes modd creu 'stafell gefn i'r fath yma o neges yn y Caffi? Efo pob parch i'r angen am wybodaeth am ddigwyddiadau rhyngwici, maent yn creu llanast yma ac yn rhwystr i drafodaeth call a phwysig am ddatblygu ein lle ni ar y we! 02:23, 6 Ionawr 2016 (UTC)AlwynapHuw (sgwrs) 02:23, 6 Ionawr 2016 (UTC)[ateb]

  Cytuno - Telepathi, ALwyn! Mi wnes i am tua dwy flynedd guddio'r rhain, ond mae na nam bychan ar y Nodyn:Cuddio a methais gyfieithu'r rhan sy'n dweud 'Show' i 'Dangos'. A bum innau, wedyn yn ystyried hysbysfwrdd (neu 'y stafell ddirgel'!) i iethoedd eraill. Llywelyn2000 (sgwrs) 06:38, 6 Ionawr 2016 (UTC)[ateb]

  Cytuno - Mae na weithiau bethau diddorol, ond ar y cyfan, nid dyma'r lle i'w gosod. Beth am ei alw'n 'Selar'? '''Defnyddiwr:John Jones''' (sgwrs) 12:46, 6 Ionawr 2016 (UTC)[ateb]

  Cytuno Rhaid cyfaddef nad ydw i'n ymweld â'r Caffi'n amal am y rheswm yma Blogdroed (sgwrs) 10:46, 7 Ionawr 2016 (UTC)[ateb]

Oes na rywun yn cynnig gwneud hyn, os nad mi af ati! Llywelyn2000 (sgwrs) 14:44, 12 Ionawr 2016 (UTC)[ateb]

Radiowici golygu

Mae RadioWici newydd ei lansio neithiwr, gyda'r holl ganeuon ar drwydded agored. Ceir sawl gorsaf, fy ffefryn i'n bersonol ydy'r un clasurol. Am ddim i bawb, nid yn unig i wrando arno, ond hefyd i ddefnyddio'r caneuon ar gyfer gweithiau eraill ee cefndir fideo. Llywelyn2000 (sgwrs) 03:48, 7 Ionawr 2016 (UTC)[ateb]

Defnydd teg o ddelweddau golygu

Ar dudalennau Wikimedia mae nifer o ddelweddau megis [Llun Clement Davies AS] lle mae rhesymau yn cael eu rhoi dros ddefnydd teg o'r llun yn y fain. A oes hawl gennym uwchlwytho'r delweddau i Wicipedia? Os oes sut mae nodi'r defnydd teg? AlwynapHuw (sgwrs) 04:58, 9 Ionawr 2016 (UTC)[ateb]

Oes, fel arfer! Yn wahanol i weddill y lluniau, mae 'Defnydd Teg' (neu 'Delio'n Deg') yn ddull lleol / daearyddol o drwyddedu. Mae rheolau pob gwlad yn wahanol, felly mae'n gymhleth! Yng ngwledydd Prydain, yn Neddf Hawlfraint, Cynllunio a Patentau 1988 (Copyright, Designs and Patents Act 1988 (CDPA)), cyfyngir delio'n deg i'r pwrpas o ymchwil ac astudiaeth preifat (ac mae'n rhaid i'r ddau yma fod yn anfasnachol). Fe'i caniateir hefyd i bwrpas beirniadaeth, adolygu, dyfynu a adroddiadau newyddion; hefyd: parodi, caracature, pastiche a delweddau ar gyfer addysgu. Nodir hefyd yn y ddeddf y defnydd 'achlysurol' o waith sydd mewn hawlfraint os yw hwnnw'n ymwenud â gwaith celf, recordiad sain, ffilm, darllediad neu raglen cebl - heb dorri'r hawlfraint. Ers 2014 mae'r Deyrnas Unedig wedi gwarchod yr eithriadau hyn rhag iddynt gael eu heffeithio gan gytundebau, termau neu amodau eraill. Am ragor gweler yma.
Yn fyr, a dyma wnes i gyda tua 6,000 o gloriau llyfrau Cymraeg: mi ges i ganiatad cyffredinol i fachu'r lluniau o wefan Gwales gan y Cyngor Llyfrau. Yna, mi wnes eu huwchlwytho NID i Comin ond i Wicipedia Cymraeg (y botwm 'uwchlwytho' ar y chwith). Fel hyn, dim ond at ddefnydd y wici-cy mae'r lluniau. Felly hefyd gyda'r rhai rwyt ti'n son amdanyn nhw ar wici-en. Be dwi'n wneud efo rhain ydy hyn: 1. lawrlwytho'r llun o en i dy ddisg caled (ond peidio a chau'r dudalen, gan y byddwn ei hangen mewn chinciad) 2. Uwchlwytho'r llun i cy (botwm ar y chwith!) 3. Copio a phastio'r wybodaeth (ffynhonnell, perchennog, trwydded) fel ag y mae i dudalen Gymraeg, newydd y ddelwedd. Weithiau, mi fyddaf yn cyfieithu ambell deitl ee 'Crynodeb' a 'Trwydded'. Pob lwc! Llywelyn2000 (sgwrs) 14:43, 12 Ionawr 2016 (UTC)[ateb]
Diolch.. o'n i'n pendroni am hyn hefyd o rai rhai delweddau ar wiki-en. Beth yw'r sefyllfa gyda defnydd teg o logos/teitlau o ffilm neu ddarllediad teledu? Nid delweddau o unigolion fel arfer ond rhywbeth i roi argraff o gynhyrchiad ffilm/teledu, neu glawr DVD os oes 'na un. Fe lwythais i'r logo yma o'r blaen https://cy.wikipedia.org/wiki/Heno#/media/File:Logo_heno.jpg o dan ddefnydd teg ond dwi ddim yn cofio nawr os wnes i ddewis 'trwydded'. Bosib mai "at bwrpasau addysgol" wnes i ddewis yn hwnnw er fod yna rybudd eitha cadarn yna am 'ddilead cyflym' wnaeth ddychryn fi ffwrdd. --Dafyddt (sgwrs) 16:14, 12 Ionawr 2016 (UTC)[ateb]
Logos yn yr un cwch: Defnydd Teg e.e. Ar udalen wici-cy Cymdeithas yr Iaith fe weli fod y ddelwedd wedi'i huwchlwytho ar drwydded {{Non-free logo}} Mae'r ddalen gyfatebol ar wici-en yn cynnwys trwydded {{Non-free logo}} hefyd. Pe bai rhywun yn uwchlwytho delwedd o logo ar Comin, mi fasa'n cael ei dileu mewn dau gach. Mae na lawer o drwyddedau eraill, sy'n gwneud yr un peth, ac sy'n ddi-rydd ee {{Non-free book cover}}. Felly mae defnyddio Wicipedia i gynnwys delweddau yn ogystal ag erthyglau yn ddefnyddiol iawn. Mae rhai ieithoedd, gyda llaw, wedi optio allan o hyn - yn bennaf y rheiny ble mae eu gwlad yn deddfu yn erbyn hawliau agored 'Defnydd Rhydd'. Gyda'r cloriau Cymraeg uchod, mi wnes i gael caniatad i'w huwchlwytho en-bloc. Dydy hyn ddim yn ymarferol o hyd yn enwedig gyda chwmnioedd mawr, posteri ffilmiau, logos, ciplun o ffilm, clawr dvd, clip sain llai na 35 eiliad ayb, ac felly i fyny a nhw i Wicipedia - ein cornel fach ni! Parthedd y logo 'Heno', mi rwyt wedi cynnwys y drwydded gywir, a dyna hanner y broblem wedi'i datrus! (Mae angen mynd drwy ein delweddau a dileu'r rhai hynny sydd hen drwydded, ryw dro!) Ond mae angen 'rational' hy pam fod angen y llun. Hyn sy'n ateb gofynion y ddeddf uchod. Os da ni'n copio'r rational (neu'r 'sail resymegol') o en, does dim problem, ond pan da ni'n uwchlwytho llun newydd i wici-cy, yna mae angen creu un o'r newydd.
Mae'r dudalen hon: Wicipedia:Canllaw sail resymegol defnydd di-rydd yn rhoi'r sail rhesymegol honno i ti. Y ddau beth pwysicaf i'w gofio am ffotograffau ydy 1. defnyddio cydraniad isel a 2. nodi ar dudalen y ddelwedd ar ba erthyglau y caiff ei defnyddio. Hei leiff! ON MAe dy erthyglau'n ychwanegiadau bril, yn fy marn i - chwa o awyr iach! Llywelyn2000 (sgwrs) 16:59, 12 Ionawr 2016 (UTC)[ateb]
Mae na lwyth o drwyddedi di-rydd yn y categori yma: Categori:Trwyddedi Wicipedia. Llywelyn2000 (sgwrs) 21:47, 12 Ionawr 2016 (UTC)[ateb]

Adwaenir - adnabyddir: gair bach o gyngor ieithyddol golygu

Nid yw adnabyddir ac adwaenir yn gyfystyr â'i gilydd. Mae adnabyddir yn golygu will be known tra bo adwaenir yn golygu is known. Gweler tudalen 29 o Y Llyfr Berfau (D. Geriant Lewis, 2000). Hynny yw, mae 'adnabod' yn un o'r berfau prin sydd â rhediadau dyfodol a rhediadau presennol, ac mae defnyddio adnabyddir yn lle adwaenir yn cymylu ystyr yn ddirfawr.

Adnabyddir ef yn syth = he will be known immediately

Adwaenir ef gan bawb = he is known by everyone

Diolch!


Beth ydi'r cyfieithiad ar gyfer dangos teitl categori nodyn yn unig? Hynny yw, ar en. mae modd ychwanegu state=collapsed fel mai teitl y nodyn categori sydd yn ymddangos ar waelod tudalen ... oes 'na gyfeieithiad? Dwi wedi trio cyflwr=collpased ond dio'm yn gweithio! (maddeuwch os nad ydw i'n defnyddio'r termu cywir!!) Blogdroed (sgwrs) 10:18, 19 Ionawr 2016 (UTC)[ateb]

Helo. Dysgu wrth draed y Gamaliel Llywelyn2000 ydw i, ac felly'n ddim ond prentis yn y Nodynau (Templates) yma. Pan y man nhw'n gweithio'n iawn mae nhw'n dyrchafu cy-wici i dir uwch. OND!!! Edrych ar y sgwrs uchod (Negeseuon rhyngwici / ieithoedd eraill) ac mae rhen Llyw yn trafod Nodyn:Cuddiwyd, a ddefnyddiwyd ers talwm i guddio hen rwts Susnag o'r caffi. Ond y broblem dwi'n meddwl ydy fod y gair 'Dangos' yn ymddangos fel 'Show'!!! Felly, mae na broblem fach dechnolegol yn ei atall rhag gweithio 100%. ee
@Blogdroed:Tria hwn, neu efallai holi ar en-wici i weld a wneith un ohonyn nhw ddod i helpu. '''Defnyddiwr:John Jones''' (sgwrs) 10:54, 19 Ionawr 2016 (UTC)[ateb]
@John Jones: Diolch! Blogdroed (sgwrs) 13:41, 19 Ionawr 2016 (UTC)[ateb]
Ond mae dal angen cyfieithu 'show'! @Llywelyn2000:
Byddai dangos "show" ac ymddangos "show yourself" yn ymwahannu? @Llywelyn2000: @John Jones: @Blogdroed: AlwynapHuw (sgwrs) 05:34, 2 Chwefror 2016 (UTC)[ateb]
Byddai cael un i weithio'n dda! :-) '''Defnyddiwr:John Jones''' (sgwrs) 18:47, 6 Chwefror 2016 (UTC)[ateb]

Golygathon Celf a Ffeministiaeth golygu

 
Poster y digwyddiad

Mae’r Golygathon Celf a Ffeministiaeth yn ddigwyddiad byd-eang, a cyfranogodd dros 1500 o bobl ar draws y byd yn y digwyddiad blwyddyn diwethaf. Eleni, mae Cymru'n cymryd rhan, gyda'r bwriad o gau'r bwlch rhwng y ddau ryw ar Wicipedia ac i greu neu wella erthyglau ar bynciau sy'n ymwneud â chelf a ffeministiaeth. Mae croeso cynnes i bawb! Cliciwch yma Jason.nlw (sgwrs) 15:23, 12 Chwefror 2016 (UTC)[ateb]

Miloedd o delweddau hanesyddol golygu

Mae'r Llyfrgell Genedlaethol wedi bod yn rhannu miloedd o luniau hanesyddol, sydd yn berffaith i lunio erthyglau Wici. Cliciwch yma i bori'r casgliad. Jason.nlw (sgwrs) 15:23, 12 Chwefror 2016 (UTC)[ateb]


Rhestrau Wicidata golygu

Mae'r rherstrau canlynol wedi'u gosod ar Wicidata'n ddiweddar:

  1. Rhestr Cymry - Ar hyn o bryd, rhestr o 2,600 o bobl sydd wedi'u geni yng Nghymru sydd yma; mae'n ofynol i'r eitemau gynnwys dyddiad geni a man geni iddynt ymddangos o Wicidata. Dw i hefyd wedi ei roi ar tua 7 iaith arall e.e. y Basgeg, Gaeleg, Galisieg...
  2. Wicipedia:Rhestr y Bywgraffiadur Cymreig Arlein - mae llawer o waith ar hon (dros 4,000 o bobl), ac wrth i'w dyddiad/man geni gael eu hychwanegu, dylent ymddangos yn y Rhestr Cymry uchod.
  3. John Ingleby - tua 170 o beintiadau gan yr arlunydd, wedi'u rhyddhau gan LlGC. Gosodais hon hefyd ar 8 o ieithoedd eraill e.e. Portiwgaleg, Saesneg, Eidaleg... Gogoniant hon ydy ei bod yn defnyddio lluniau'r Llyfrgell - gorau po fwyaf y gallem eu gweld ar Wicipedias gwahanol ieithoedd y byd.
  4. Ar y gweill - rhoi rhestr P. B. Abery ar ieithoedd eraill.

Mae rhif 1 a 2 uchod yn ffitio'n braf gyda'r prosiect ar enwici - Deffro'r Ddraig. Llywelyn2000 (sgwrs) 21:39, 27 Chwefror 2016 (UTC)[ateb]


Y BBC: Beth fyddai'ch enw sanctaidd? golygu

 
Rhan o wefan BBC Cymru'n nodi ffynhonnell eu gwybodaeth.

Ychydig yn ôl, cyhoeddodd y BBC lawer o'u herthyglau ar fandiau pop ar drwydded agored (gweler Wicipedia:Y Caffi#Y BBC yn agor eu drysau ac yn cynnig erthyglau i Wicipedia Cymraeg - uchod).

Mae nhw heddiw'n rhyddhau gêm bychan i ddathlu Gŵyl Ddewi, sy'n defnyddio cyfesurynnau / lleoliad seintiau a gwybodaeth o Wicipedia (Cymraeg a Saesneg). Datblygiad diddorol ac mae'n rhaid curo eu cefnau am hyn! Gweler: Beth fyddai'ch enw sanctaidd? Llywelyn2000 (sgwrs) 05:23, 29 Chwefror 2016 (UTC)[ateb]

Dydd Annibyniaeth hapus i chwi oll! golygu

Rwyf wedi creu rhyw fath o restr o ddyddiadau dathlu annibyniaeth Rhestr gwledydd yn nhrefn eu dyddiad annibyniaeth ond nid yn trefn eu hannibyniaeth, bydd angen cyfaill mwy hyddysg na fi i symyd y yr erthygl i lle mwy addas. Yr hyn oeddwn yn ceisio ei greu oedd tudalen efo 1 Ionawr ac ati arno er mwyn caffael ar fodd i ddathlu annibyniaeth gwledydd eraill yn feinyddiol! 07:01, 6 Mawrth 2016 (UTC)

Baner uniaith Saesneg ETO, a dim rhybudd golygu

Dw i wedi cael llond fy mol o faneri uniaith Saesneg yn cael eu rhoi ar Wicipedia. Dim ond tua 6 allan o 10 sy'n rhoi rhybudd o faner en, ac mae'r system i'w cyfieithu wedi mynd yn hynod o gymhleth. Dyma fy neges diweddaraf ar Meta a gobeithiaf y caf eich cefnogaeth. Llywelyn2000 (sgwrs) 18:48, 15 Mawrth 2016 (UTC)[ateb]

O fewn awr i mi adael neges, cafwyd rhyw fath o ymddiheuriad - roeddent wedi anghofio roi 'cyfieithu' yn rhan o'r faner. Mae'n uniaith Gymraeg, bellach. Llywelyn2000 (sgwrs) 16:04, 16 Mawrth 2016 (UTC)[ateb]

Ailwampio Pigion yn yr Hafan golygu

Yn dilyn ein trafodaeth uchod 'Ar y dydd hwn'... Dw i'n cynnig ein bod yn ailwampio 'Pigion' - sy'n newid yn wythnosol - fel bod pob un yn:

  1. Cynnwys llun da (neu well)
  2. Yn berthnasol i'r amser mae'n ymddangos (mae rhai heddiw ee Dewi Sant ar Wyl Dewi, Llywelyn ar * Wythnos 11 Rhagfyr) pan fo hynny'n bosibl
  3. yn faterion sy'n codi o erthygl dda, nid egin crap

Y ddalen flaen yw'r brif ddrws, ac ar hyn o bryd mae na fwlch mawr gwyn, hyll ynddo. Y cwbwl sydd angen ei wneud ar y cychwyn ydy chwyddo'r llun, os yw'n un da, er mwyn llenwi'r bwlch. Os nad, yna dewis erthygl dda gyda llun da, yn ei le. Llywelyn2000 (sgwrs) 19:23, 15 Mawrth 2016 (UTC)[ateb]

Gan nad oedd gwrthwynebiad, dw i wedi cynyddu maint y rhan fwyaf o'r delweddau, a'u canoli. Ond mae rhai o safon isel (IAWN!) a rhai o'r erthyglau yn boring. Os oes gennych syniadau am bigion diddorol gyda llun wgych, ewch ati i newid y rhain, a gadewch nodyn ar ol yr heiffen, fel bod pawb yn rhwyfo efo'i gilydd. I'w ffindio, rhowch 'Nodyn:Pigion/Wythnos' o flaen rhif yr wythnos. Diolch - Llywelyn2000 (sgwrs) 08:23, 18 Mai 2016 (UTC)[ateb]
  • Wythnos 5 -
  • Wythnos 9 -
  • Wythnos 16 -
  • Wythnos 22 -
  • Wythnos 23 -
  • Wythnos 26 -
  • Wythnos 27 -
  • Wythnos 28 -
  • Wythnos 30 -
  • Wythnos 31 -
  • Wythnos 33 -
  • Wythnos 34 -
  • Wythnos 37 -
  • Wythnos 43 -
  • Wythnos 44 -
  • Wythnos 49 -
  • Wythnos 51 -

Golygathon a wicibrosiect Deffro'r Ddraig golygu

Dolen i'r wicibrosiect Cymraeg - Deffro'r Ddraig'

 

Mae na brosiect sy'n cael ei ariannu gan Wicimedia UK ar enwiki, ac mae nhw wedi'n gwahodd ni ar cy i gyfrannu erthyglau ar Gymru. Mae na chydig o docynnau Amason i'r enillwyr, a sesiwn yn y Llyfrgell Genedlaethol i ysgogi hynny. Un syniad sydd gen i ydy sgwennu erthyglau ar y merched hynny yn y Bywgraffiadur Cymreig Arlein sydd HEB erthygl; ond wrth gwrs, gallwch ddilyn eich trywydd eich hunain os oes well gennych chi. Mae Ham wedi cychwyn rhestr o erthyglau hanfodol, hefyd, er mwyn ffocysu'r ymosodiad! Mae angen rhywle i chi nodi unrhyw erthyglau newydd da ni'n eu creu a dyna ni: awe! Llywelyn2000 (sgwrs) 07:43, 16 Mawrth 2016 (UTC)[ateb]

Ers 1995 Meic Stephens sydd wedi bod yn gyfrifol am y mwyafrif o lithau coffa Cymreig yn The Independent. I ganfod fynnhonell am erthyglau posib am ferched rhowch enw Meic yn y blwch ymchwil ar dudalen we'r papur http://www.independent.co.uk/ neu archif y papur (trwy adnoddau allanol LlGC https://www.llgc.org.uk/cy/darganfod/adnoddau-eraill/tanysgrifiadau-ac-adnoddau-eraill/) gan cadw llygad am enwau benywaidd yn y canlyniadau.AlwynapHuw (sgwrs) 02:36, 29 Mawrth 2016 (UTC)[ateb]
Os hoffech gymryd rhan yn y gystadleuaeth, ychwanegwch eich enwau fan hyn os gwelwch yn dda! Ham II (sgwrs) 20:14, 30 Mawrth 2016 (UTC)[ateb]

Nodyn Internet Archive golygu

Mae Internet Archive https://archive.org/ yn wych o adnodd i'r sawl sy'n cyfrannu i Wicipedia mae'n cynnwys miloedd o Lyfrau (gan gynnwys rhai cannoedd yn y Gymraeg a mwy o rai Cymreig), ffilmiau, sgyrsiau radio, darluniau sy'n rhydd o hawlfraint ac ati.. Ar enwici mae modd gosod nodyn chwilio'r archif trwy ddefnyddio'r nodyn {.{Internet Archive author |sname=Joseph Mary Plunkett |sopt=t}}, nid yw'n gweithio ar dudalen Cymraeg, mae cyfeirio at y ffynhonnell ar yr erthygl am Plunkett yn creu URL sy'n hyll o hir ac yn pwyso bron i 2kb. A oes modd creu'r nodyn yn y Gymraeg? AlwynapHuw (sgwrs) 07:03, 19 Mawrth 2016 (UTC)[ateb]

Mae'n edrych yn iawn o fama! ;-) Llywelyn2000 (sgwrs) 09:32, 19 Mawrth 2016 (UTC)[ateb]

Ysgolheigion Preswyl golygu

 

Ymgeisiwch i fod yr 'Ysgolhaig Preswyl Wicipedia' cyntaf ym Mhrydain! Mae'r Llyfrgell Gendelaethol yn chwilio am o leiaf un Wicipediwr profiadol i greu a gwella cynnwys Wicipedia yn ymwneud â Chymru a'i phobl. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael mynediad o bell i'r rhan fwyaf o e-adnoddau allanol a byddant yn derbyn arweiniad a chefnogaeth gan y Wicipediwr Preswyl presennol. Mae'r Llyfrgell wedi ymrwymo i'r prosiect a bydd yn ymdrechu i ddarparu cyngor arbenigol ac arweiniad ymchwil i’r ysgolheigion yn ôl yr angen. —Cafodd y sylw hwn heb lofnod ei ychwanegu gan Jason.nlw (sgwrscyfraniadau) 12:26, 24 Mawrth 2016 (UTC)[ateb]

Adalwyd golygu

Helô

All rhywun ddeud wrtha i o ble yn union y mae'r rhediad 'adalwyd' yn tarddu? Ni alla i ddod o hyd i'r ferf 'adalu', neu yn wir, unrhyw ferf a fyddai'n rhoi'r ffurf 'adalwyd'. Nid oes dim cyfatebol yng Ngeiriadur Prifysgol Cymru [[1]]. Pwy all fwrw goleuni ar y mater yma, am fy mod yn ofni mai camgymeriad yw 'adalwyd' am 'accessed'.

Hold on! Mystery solved! Daw o 'adalw' [[2]] —Cafodd y sylw hwn heb lofnod ei ychwanegu gan 80.234.185.89 (sgwrscyfraniadau) 12:19, 26 Mawrth 2016

Tybed ai "ad-alwyd" sydd yma, sef "ad-alw" neu "ail-alw" tebyg i "adrefnu" neu "ad-drefnu" neu "ail-drefnu" ? (dim ond awgrym) madog1000 (sgwrs) 10:59, 15 Ebrill 2016 (UTC)[ateb]

Ar y Dydd hwn 28 Mawrth golygu

Rwy'n tybio bod y sylw am Bryn Fôn yn drysu dau ddigwyddiad. Ar Sul y Blodau 1980 roeddwn yn un o dros hanner cant o bobl i'w harestio gan heddlu'n ymchwilio i losgi tai haf. Doedd Bryn dim yn un o'r criw. Arestiwyd Bryn ym 1990, fel rhan o'r un ymchwiliad, ond nid ar Sul y Blodau. AlwynapHuw (sgwrs) 04:19, 28 Mawrth 2016 (UTC)[ateb]

Diolch Alwyn. Fedri di wiro'r erthyglau perthnasol, ac ychwanegu'r gyfeiriadaeth o bapurau newydd ayb? Dw i wedi tynnu'r gsylw ar Ar y dydd hwn, am rwan. Llywelyn2000 (sgwrs) 07:39, 28 Mawrth 2016 (UTC)[ateb]
Wedi gwneud, os am gynwys cyrch Sul y Blodau eto, digwyddodd ar 30 Mawrth 1980 AlwynapHuw (sgwrs) 02:38, 29 Mawrth 2016 (UTC)[ateb]
Bril. Llun da, hefyd, oes gen ti gydraniad uwch? Pe baet yn ei roi ar Comin, fe gaiff ei ddefnyddio gan ieithoedd eraill, cofia. Oes na chwaneg? Llywelyn2000 (sgwrs) 07:03, 29 Mawrth 2016 (UTC)[ateb]