Wicipedia:Y Caffi/archif/18

Hen Bapurau Newydd Cymru hyd at 1910 golygu

Ceir ffrwyth blynyddoedd o sganio hen bapurau gan brosiect y LLlyfrgell Genedlaethol ar y we: yn fama. Mae'r stwff i gyd yn rhydd o hawlfraint a gallem ddyfynu fel y mynom! Diolch am weledigaeth y Llyfrgell unwaith eto! Llywelyn2000 (sgwrs) 19:53, 22 Mawrth 2013 (UTC)[ateb]

Cymorth hawdd ei gael mewn cyfyngder golygu

Fel rhan o fy ailwampiad o'r adran "Cymorth", dw i wedi creu tua phymtheg o fideos hyfforddi - i dywys defnyddwyr newydd drwy'r drysni a'r anialwch o sut i olygu Wicipedia. Yn ychwanegol i'r fideos yma yn yr adran hon, mae nhw wedi'u huwchlwytho i You Tube. Y cwbwl sydd angen ei wneud ydy teipio "Wicipedia Cymraeg", ac fe ddont i'r fei, neu yn fama. Llywelyn2000 (sgwrs) 08:20, 17 Mai 2013 (UTC)[ateb]

Tech newsletter: Subscribe to receive the next editions golygu

Tech news prepared by tech ambassadors and posted by Global message deliveryContributeTranslateGet helpGive feedbackUnsubscribe • 20:24, 20 Mai 2013 (UTC)
Important note: This is the first edition of the Tech News weekly summaries, which help you monitor recent software changes likely to impact you and your fellow Wikimedians.

If you want to continue to receive the next issues every week, please subscribe to the newsletter. You can subscribe your personal talk page and a community page like this one. The newsletter can be translated into your language.

You can also become a tech ambassador, help us write the next newsletter and tell us what to improve. Your feedback is greatly appreciated. guillom 20:24, 20 Mai 2013 (UTC)[ateb]


New account creation and login redesign golygu

Hi! Apologies for not posting in Welsh. (If you translate this message, feel free to replace or hide it.)

After months of testing, we're finally ready to enable the new designs for account creation and login here on Welsh Wikipedia. We plan on doing this today (May 29) around 23:00 UTC. If you're intersted in the background, there is documentation about why we did this and how we tested it.

As we announced on the blog a while back, you can try out the new look here before it's launched. (See the blog post for instructions.) If you see any lingering translation issues, please either fix them on translatewiki.net (where the volunteer translation for software is done). I am happy to help with any local customizations you think you might need, so please don't hesitate to reply here with any questions or requests.

Many thanks, Steven (WMF) (sgwrs) 22:23, 29 Mai 2013 (UTC)[ateb]


Wici BioFlits 14 Mehefin golygu

 
Brychan Dyfnaint

Rydym am ymuno efo BioFlits Cymdeithas Edward Llwyd ar 14 Mehefin, 2013 ym Mharc Dudley, Waunfawr ger Caernarfon. Byddwn yn tynnu lluniau o'r gwyfynod - a rhywogaethau eraill - ac yn eu huwchlwytho i Wici Comin a'u hychwanegu at erthyglau perthnasol. Rhydd hyn gyfle euraidd i glensio'r bartneriaeth sydd eisioes rhwng y ddwy gymdeithas mewn modd ymarferol ac i hyfforddi aelodau CELl ar sgiliau Wici. Mae nhw'n darparu lluniaeth, ond awgrymaf eich bod yn dod a'r hanfodion: coffi poeth a ballu efo chi! Cychwyn am 5.00 y pnawn a gorffen tua 12.00 yr hwyr. Bydd gen i gar yn teithio o Ruthun, os oes rhywun isio lifft. Llywelyn2000 (sgwrs) 07:06, 1 Mehefin 2013 (UTC)[ateb]

Trademark discussion golygu

Hi, apologies for posting this in English, but I wanted to alert your community to a discussion on Meta about potential changes to the Wikimedia Trademark Policy. Please translate this statement if you can. We hope that you will all participate in the discussion; we also welcome translations of the legal team’s statement into as many languages as possible and encourage you to voice your thoughts there. Please see the Trademark practices discussion (on Meta-Wiki) for more information. Thank you! --Mdennis (WMF) (talk)


rhwystrau / blocks golygu

(copiwyd o Sgwrs Defnyddiwr:Deb)

Dw i wedi cymryd golwg ar Arbennig:BlockList a dw i'n gweld llawer o rwystrau hirion yna. Dw i ddim yn eich gweld yn rhybuddio'r defnyddwyr a rwystrwyd cyn i'w rhwystro. Ar wici-en a wici-fr maen nhw'n gosod negeseuon ar y tudalennau sgwrs i rybuddio defnyddwyr am fandaliaeth - ond dim ar wici-cy, dim ond eu rhwystro, amhenodol yn aml (cyfeiriadau IP hefyd!), heb ddweud dim byd ar wahan i 'dyma rwystr i ti, y rheswm oedd hwn'. Pam? Ydych chi'n siwr bod hyn yn syniad da? Os ydych chi'n rhybuddio cyn rhwystro, mae hyn yn rhoi cyfle i'r fandal i wella'i gyfraniadau a dod yn olygydd da. Oes gwahaniaeth gyda ni os mae hyn yn bosibl, neu oes mwy o wahaniaeth gyda ni am fandaliaeth na chyfraniadau?
Dw i'n meddwl bod angen arnon ni bolisi rhwystro fel ar y wiciau eraill. Os nad oes polisi gyda ni am rwystro does dim byd i ddweud beth ni all y gweinyddwyr defnyddio fel rheswm dros rwystro, nac oes?

Beth y mae pawb yn feddwl am hyn? Fe hoffwn i, o leiaf, ysgrifennu rhywbeth sy'n edrych fel polisi rhwystro os allwn ni gytuno beth dylai e gynnwys. Hoffwn i wneud nodiadau i rybuddio defnyddwyr am fandaliaeth neu wybodaeth anghywir hefyd os oes angen.

Gyda llaw, mae llawer o dudalennau yn cysylltu â'n polisi rhwystro nad ydy'n bod.

(copied from Sgwrs Defnyddiwr:Deb)

I took a look at Arbennig:BlockList and I see a lot of long blocks there. I don't see you [all] warning the users that were blocked before blocking them. On wiki-en and wiki-fr they leave messages on the talk pages to warn users about vandalism - but not on wiki-cy, only block them, often indefinitely (IP addresses too!), without saying anything but 'here's a block for you, the reason was this'. Why? Are you sure that's a good idea? If you warn before blocking, this gives the vandal a chance to improve their contributions and become a good editor. Do we care if that's possible, or do we care more about vandalism than contributions?
I think we need a blocking policy like on the other wikis. If we don't have a policy for blocking there's nothing to say what the administrators can't use as a reason for blocking, is there?

What does everyone think about this? I would like to, at least, write something that looks like a blocking policy if we can agree on what it should include. I would like to make templates to warn users about vandalism or incorrect information if there's a need.

By the way, a lot of pages link to our nonexistent blocking policy.

Cathfolant 15:15, 8 Mehefin 2013 (UTC)[ateb]

Didn't realise that. I admit I never warn them. I've never seen a vandal on cy that didn't look like he/she knew exactly what they were doing. Deb (sgwrs) 21:14, 8 Mehefin 2013 (UTC)[ateb]
Through long experience I have to agree with Deb. I'm sure 'cy' isn't the only smaller wiki in the same situation: we just don't have the time and resources to imitate 'en' et al. I have sometimes used the warning and explanation - usually where there was an outside chance the vandalism may have been inadvertent or traceable to a school computer's IP address. I rarely give long blocks to IP addresses unless it has a record of vandalism - with many of us having dynamic IP addresses a block of 24 hours or a few days is enough in most cases (one exception, several years ago, was my series of extensive range blocks to stop a very well-known trans-wiki vandal who'd been causing mayhem here and elsewhere). Anatiomaros (sgwrs) 22:31, 8 Mehefin 2013 (UTC)[ateb]
Thank you for the explanations. I would still like to write up a blocking policy and perhaps related stuff like warnings (for those few cases where they might be useful) if we agree they should exist. I can also be more resources for you to fight vandalism and/or warn vandals with if that helps any, though not just now since I'm on a two week break from all wikis due to schoolwork and I've requested on my sgwrs defnyddiwr to have my break enforced (like this) if I don't stick to it. This break is also why I haven't replied to this for some time; I've been trying hard to stay off my wikis. Cathfolant 23:05, 10 Mehefin 2013 (UTC)[ateb]
By all means write a blocking policy for discussion, Cathfolant. We probably should have one (maybe do somewhere - I've lost track of our documents lately!). Just remember our limited resources: our main task is to expand the Wici.
PS Meanwhile ignore Wikipedia and concentrate on your school work. Pob hwyl i ti. Anatiomaros (sgwrs) 23:54, 10 Mehefin 2013 (UTC)[ateb]
I'm back at this point (obviously), and I wrote a policy for discussion, editing or anything you like. It's a subpage of my sandbox because a) I don't want to try to make this policy before we have consensus and b) it's in English because I wasn't confident I could do it in Welsh. I mean to translate it but it would take quite some work and probably someone else to fix it afterward.
(The page was originally here - yes I know, strange place to put it - and I had deleted it there but it has been restored temporarily in case you would like to see the full history. Thought that information might be useful in some way.) Cathfolant 23:55, 29 Mehefin 2013 (UTC)[ateb]
Note please that the 'cyfeiriadau' at the end are a lot of speculation and notes to myself. They should certainly not be a part of the final version; they are pretty much stuff I'd like addressed before we go any farther with this. Cathfolant 00:11, 30 Mehefin 2013 (UTC)[ateb]


Rheolwr Wicipedia yng Nghymru golygu

Mae Cymdeithas Wici Cymru a sefydlwyd yn Hydref 2012 wedi llwyddo i sicrhau £108,000 ar gyfer Prosiect Llwybrau Byw! gan Lywodraeth Cymru, yr Arolwg Ordnans a Wikimedia UK. Bydd cyfran WMUK yn mynd i gyflogi Rheolwr Wikimedia UK yng Nghymru i ddatblygu Wicipedia a'i chwaer-brosiectau. Ewch amdani! Mae'r manylion ar wefan Wici Cymru. Bydd angen nifer o hyfforddwyr yn ogystal a rheolwr. Mae hyn yn cyd-fynd â'n pen-blwydd yn 10 oed a nifer ein herthyglau yn 50,000 - yng Ngorffennaf. Llywelyn2000 (sgwrs) 19:29, 13 Mehefin 2013 (UTC)[ateb]

Penodwyd heddiw Rheolwr Wikimedia UK yng Nghymru, a cheir blog ar hyn ar eu gwefan yn fama. Robin Owain, sy'n hen gyfarwydd a Wici Cymraeg yw ei enw. Llywelyn2000 (sgwrs) 15:02, 2 Gorffennaf 2013 (UTC)[ateb]

Helo, Yn gyntaf caf sôn nad yw fy iaith frodorol Gymraeg, felly os gwelwch yn dda yn derbyn camgymeriadau oddi wrthyf, iaith doeth, ac os byddwch yn eu gweld, cywiro.

Yn awr, Efallai y bydd rhai ohonoch yn ymwybodol o Freenode. Mae system sgwrsio ras gyfnewid y rhyngrwyd sy'n galluogi defnyddwyr i drafod mewn amser real. Wikimedia wedi defnyddio Freenode am nifer o flynyddoedd ar gyfer wiki cyd-drefnu. Er fy mod yn newydd i'r Wicipedia Cymraeg, rwyf wedi creu sianel ar gyfer golygyddion i drafod materion yn ymwneud â Wicipedia hwn.

Gellir ei weld o dan #wikipedia-cy. I gysylltu ag ef, gallwch ddefnyddio cleient neu ddefnydd IRC sgwrsio ar y we Freenode yn. Fel nodyn bach, yr wyf yn gobeithio i fod yn aelod cynhyrchiol o Wicipedia hwn gan y bydd yn caniatáu i mi i fod yn fwy cynhyrchiol yn fy rôl yn y Wicidata. John F. Lewis (sgwrs) 20:40, 16 Mehefin 2013 (UTC)[ateb]

Free Research Accounts from Leading Medical Publisher. Come and Sign up! golygu

...gets Wikipedia editors free access to reliable sources that are behind paywalls. I want to alert you to our latest donation.

  • Cochrane Collaboration is an independent medical nonprofit organization that conducts systematic reviews of randomized controlled trials of health-care interventions, which it then publishes in the Cochrane Library.
  • Cochrane has generously agreed to give free, full-access accounts to medical editors. Individual access would otherwise cost between $300 and $800 per account.
  • If you are active as a medical editor, come and sign up :)

Cheers, Ocaasi 20:59, 16 Mehefin 2013 (UTC)


Enwau Gwledydd golygu

Rhag ofn iddo fynd ar goll, gweler Sgwrs:Amrywiadau ar enwau gwledydd yn Gymraeg. Unrhyw sylwadau? Neu i bleidlais... Llywelyn2000 (sgwrs) 07:37, 18 Mehefin 2013 (UTC)[ateb]

Cafwyd sgwrs ar ba fersiwn i'w ddefnyddio yma, a chytunwyd i newid y sillafiad i'r fersiwn sydd yng Ngeiriadur yr Academi. Awgrymaf ein bod yn eu newid bob yn un, gan gofnodi'r rhai a newidiwyd ar y tabl Amrywiadau ar enwau gwledydd yn Gymraeg - yn y golofn olaf. Llywelyn2000 (sgwrs) 12:30, 2 Gorffennaf 2013 (UTC)[ateb]

Hyfforddiant Wicipedia yn Nhrefynwy golygu

Bydd hyfforddiant Wicipedia ar gael yn Nhrefynwy ar yr 20fed o Orffennaf. Mae croeso i bawb ddod yno i hyfforddi, i gael eu hyfforddi neu am gloc! Llywelyn2000 (sgwrs) 17:04, 2 Gorffennaf 2013 (UTC)[ateb]

Universal Language Selector will be enabled on 2013-07-09 golygu

'Pigion' ar yr Hafan yn dangos fersiwn gwahanol o erthygl! golygu

Sylwaf heddiw mai Clwb Pêl Droed Porthmadog ydy'r erthygl ar y dudalen flaen.

Tim sy'n chwarae yn Uwchgynghrair Principality Cymru ydi Clwb Pêl Droed Porthmadog; mae wedi'i leoli ym Mhorthmadog, Gwynedd.

Yn anffodus, tydy'r clwb o Bort heb fod yn Uwchgynghrair Cymru ers tymhorau maith, felly es i olygu a diweddaru'r erthygl yn syth. Ond yn rhyfedd ddigon mae'r wybodaeth ar yr erthygl yn wahanol ac weid bod felly ers o leiaf blwyddyn. Sut bod hyn yn digwydd? (Wedi croes bostio hyn ar dudalen sgwrs Hafan hefyd). --Rhyswynne (sgwrs) 08:27, 16 Gorffennaf 2013 (UTC)[ateb]

Wedi ei sortio - ymddengys mai yma y storir y wybodaeth. Serch hynny, mae angen rhyw ffordd o sicrhau mai;r fersiwn cyfredol sy'n ymddangos ar yr Hafan. --Rhyswynne (sgwrs) 08:39, 16 Gorffennaf 2013 (UTC)[ateb]

Adolygiadau Llyfrau Cymraeg Gwales golygu

Symudwyd y drafodaeth i Wicipedia:Wicibrosiect Llyfrau Gwales.

50 000 articles golygu

Congratulations from Alemannic Wikipedia! --Holder (sgwrs) 05:41, 20 Gorffennaf 2013 (UTC)[ateb]

Many thanks! You have the eyes of a Hawk! Llywelyn2000 (sgwrs) 06:17, 20 Gorffennaf 2013 (UTC)[ateb]

Golygydd newydd golygu

Mae'r Visual Editor ar eich Wici nawr! I'w droi ymlaen, ewch i "Dewisiadau" (top dde) a dewiswch y tab "Golygu" a sgroliwch i lawr i'r gwaelod ("Galluogi'r Golygydd Gweledol)". Mae 'na lot o waith cyfieithu wedi mynd i fewn i hwn, yn bennaf gan Lloffiwr, yn rhanol gen i. Dydy'r fersiwn Beta, ym mhob iaith ddim yn berffaith, ac mae trafodaethau a newidiadau'n digwydd yr eiliad hon! Er enghraifft, ni ellir dewis rhai symbolau arbennig yn hawdd - ŵ, ŷ...

Bathom y term "Y Golygydd Gweledol" heb fawr o drafferth na meddwl: oes 'na gynnig gwell? e.e. GolGwel? GwelGol? A beth am newid enw'r botwm i "Newid y côd" (yn hytrach na: "Newid cod y dudalen")? ... Llywelyn2000 (sgwrs) 08:13, 23 Gorffennaf 2013 (UTC)[ateb]

Gofynnir am gymorth i wneud sgrinluniau ar Gymorth Iaith.
Rwyf wedi adrodd hanes un problem gyda'r Golygydd Gweledol ar yr adborth ar MediaWiki.org. Y broblem yw nad oes llythrennau Cymraeg wedi eu gosod yn barod i'w clicio er mwyn eu gosod yn y testun, fel sydd yn y bariau offer islaw'r blwch golygu hwn. Nid yw hyn yn broblem i'r rhai sydd â chyfrifiaduron neu declynnau eraill lle mae'r bysellfwrdd wedi ei addasu i deipio'n hwylus yn Gymraeg (gyda'r rhaglen To Bach er enghraifft). Ond mae'n broblem os nad yw'r bysellfwrdd wedi ei addasu. Gai holi faint ohonom ni fyddai'n gorfod defnyddio 'cut and paste' i ysgrifennu'r llythrennau Cymraeg pe na bai'r bar offer llythrennau i gael islaw? Lloffiwr (sgwrs) 20:45, 12 Awst 2013 (UTC)[ateb]
Yn fy marn i mae cael y llythrennau Cymraeg (a'r lleill - Â â Ê ê Î î Ô ô Û û Ŵ ŵ Ŷ ŷ Ä ä Ë ë Ï ï Ö ö Ü ü Ẅ ẅ Ÿ ÿ Á á É é Í í Ó ó Ú ú Ẃ ẃ Ý ý À à È è Ì ì Ò ò Ù ù Ẁ ẁ Ỳ ỳ - a'r gweddill sydd ar gael rwan hefyd) yn hanfodol. Byddai bod hebddynt yn israddio'r Gymraeg - ac yma ar y Wici Cymraeg, o bob man! - ac yn creu gwaith golygyddol ychwanegol di-derfyn i ni'r cyfranwyr rheolaidd hefyd. Mae angen atgoffa Meta fod Wicipedia yn brosiect amlieithog. Anatiomaros (sgwrs) 21:19, 12 Awst 2013 (UTC)[ateb]
Os dw i'n deall yn iawn, rhyw dri ohonyn nhw sydd ddim yn gweithio ar hyn o bryd, ond basa'n dda eu cael; mae 'copio a phastio o Word neu debyg allan ohoni. Un mater arall ydy nad yw'r ffynonellau o fewn erthygl ddim yn cael eu rhestru drwy ddefnyddio GolGwel ee cymerwch dudalen (megis Edward Snowden) sydd a llawer o gyfeiriadau, a hitiwch un o'r 3 botwm ac nid yw'n rhestru'r cyfeiriadau / ffynonellau er mwyn eu hail-ddefnyddio. Yn bendant dydw i ddim yn bwriadu defnyddio hwn fy hun! Ydy o'n ddefnyddiol i olygyddion newydd? Nac ydy; nid heb ddotio'r "i", croesi'r "t" a thoi'r "w"! Llywelyn2000 (sgwrs) 06:26, 13 Awst 2013 (UTC)[ateb]
Gallwch roi adborth ar MediaWiki. Lloffiwr (sgwrs) 22:08, 15 Awst 2013 (UTC)[ateb]


Pywikipedia is migrating to git golygu

Hello, Sorry for English but It's very important for bot operators so I hope someone translates this. Pywikipedia is migrating to Git so after July 26, SVN checkouts won't be updated If you're using Pywikipedia you have to switch to git, otherwise you will use out-dated framework and your bot might not work properly. There is a manual for doing that and a blog post explaining about this change in non-technical language. If you have question feel free to ask in mw:Manual talk:Pywikipediabot/Gerrit, mailing list, or in the IRC channel. Best Amir (via Global message delivery). 13:03, 23 Gorffennaf 2013 (UTC)[ateb]

Awydd hyfforddi neu gael eich hyfforddi? golygu

 
Hyfforddi sgiliau Wicipedia yng Ngorffennaf 2013.
Eisiau dysgu sgiliau Wici?

Cysylltwch a fi drwy ebost. Ewch i fy nhudalen defnyddiwr, ac fe welwch ar yr ochr chwith (o dan Glôb Wici) y dewis yma: 'Anfon e-bost at y defnyddiwr hwn'; cliciwch arno a danfonwch pwt amdanoch. Fe allwn drefnu i gyfarfod grwp ohonoch sy'n rhannu yr un diddordeb. Byddwn yn targedu: clybiau'r Fermwyr Ifanc, Merched y Wawr, Cerddwyr Cymru, amgueddfeydd bach a mawr, grwpiau o ffotograffwyr lleol, staff cynghorau sir, papur bro, mudiadau a chwmnioedd - unrhyw un sydd eisiau ehangu'r wybodaeth sydd ar Wici-bach-ni.

Wicipedwyr profiadol

Os oes gennych ddiddordeb hyfforddi, naill ai ledled Cymru neu yn eich hardal, danfonwch ebost ataf (ebost wici ar fy nhudalen defnyddiwr). Byddwn yn talu swm teg iawn am ddiwrnod o waith (£160 y dydd a chostau aros / teithio), neu fin nos os ydych yn gweithio. Nid oes raid i chi roi eich enw iawn, hyd yn oed! Neu gadewch neges / syniadau yma.

Ymlaen! Llywelyn2000 (sgwrs) 16:28, 29 Gorffennaf 2013 (UTC)[ateb]

VisualEditor and your Wikipedia golygu

Greetings,

The Wikimedia Foundation will soon turn on VisualEditor for all users, all the time on your Wikipedia. Right now your Wikipedia does not have any local documents on VisualEditor, and we hope that your community can change that. To find out about how you can help with translations visit the TranslationCentral for VisualEditor and read the easy instructions on bringing information to your Wikipedia. The User Guide and the FAQ are very important to have in your language.

We want to find out as much as we can from you about VisualEditor and how it helps your Wikipedia, and having local pages is a great way to start. We also encourage you to leave feedback on Mediawiki where the community can offer ideas, opinions, and point out bugs that may still exist in the software that need to be reported to Bugzilla. If you are able to speak for the concerns of others in English on MediaWiki or locally I encourage you to help your community to be represented in this process.

If you can help translate the user interface for VisualEditor to your language, you can help with that as well. Translatewiki has open tasks for translating VisualEditor. A direct link to translate the user interface is here. You can see how we are doing with those translations here. You need an account on Translatewiki to translate. This account is free and easy to create.

If we can help your community in any way with this process, please let me know and I will do my best to assist your Wikipedia with this |exciting development. You can contact me on my meta talk page or by email. You can also contact Patrick Earley for help with translations and documents on Mediawiki. We look forward to working with you to bring the VisualEditor experience to your Wikipedia! Keegan (WMF) (talk) 19:00, 30 Gorffennaf 2013 (UTC)[ateb]

Distributed via Global message delivery. (Wrong page? Fix here.)


Eisteddfod golygu

Hei oll!!! Pa hwyl? Beth am ddathlu ein pen-blwydd yn 10 oed efo cacen yn y steddfod? Ga i awgrymu: 5.00 yn M@es (uned Hacio'r Iaith); dw i'n trafod fy swydd efo Wikimedia am 4.00 yn M@es, felly, ble bynnag y bydd dau neu dri wedi ymgynull... Dewch am sgwrs a llond ceg o siocled! Neu a oes awgrym arall? Llywelyn2000 (sgwrs) 11:29, 3 Awst 2013 (UTC)[ateb]

Erthyglau ar fathemateg golygu

Helo.
'Rwy'n bwriadu ehangu (neu gychwyn) erthyglau ar fathemateg, gan mai hwn oedd pwnc fy ngradd.

  1. Oes barn ar ba erthyglau sy' angen sylw penna? Ar hyn o bryd 'rwy wedi dewis golgu System cyfesurynnau mwy neu lai ar hap.
  2. Ac oes barn hefyd ynglŷn â seilio'r erthygau Cymraeg ar rai sy'n bodoli e.e. yn Saesneg, gan mai rhai technegol, ffeithiol ydynt?

Diolch!
Pwynt technegol: 'Rwy'n bwriadu cadw at gonfensiynnau mathemateg drwy ddefnyddio symbolau Rhufeinig a Groegaidd, heb eu Cymreigeiddio. Hynny yw, byddai ( ) Rhufeinig yn dynodi pwynt a theta Roegaidd ( ) yn dynodi ongl, er enghraifft. Tybiaf bod hyn yn dderbyniol.
Rhyswatkin (sgwrs) 13:53, 4 Awst 2013 (UTC)[ateb]

Mae'r erthygl System cyfesurynnau wedi'i datblygu'n fendigedig gen ti. A chytunaf yn llwyr efo ti ar dy sylwadau ar y symbolau mathemategol. Efallai mai'r erthygl Mathemateg yw'r un bwysicaf i'w ehangu. Gwnmes ychydig waith arni fis yn ôl, ond o'i gwella, bydd yn blatfform deifio neu'n fan cychwyn da i weddill y maes. Llywelyn2000 (sgwrs) 07:26, 9 Awst 2013 (UTC)[ateb]
Un peth bach arall: wyt ti'n ymwybodol o'r ffaith fod Wicipedia Cymraeg yn derbyn ac yn deall yr iaith feddalwedd, fathemategol R, Rmetrics, ggplot2 a ieithoedd eraill; mae rhestr o symbolau hefyd ar gael fel man cychwyn. Dw i 'di canolbwyntio ar ystadegau yn y dolenni yma ond mae eraill ar gael yn fama sy'n addas ar gyfer wici. Llywelyn2000 (sgwrs) 07:40, 9 Awst 2013 (UTC)[ateb]
Gwaith bendigedig, Rhys. Dwi'n cytuno efo Llywelyn fod y symbolau Rhufeinig a Groeg yn hollol dderbyniol. Anatiomaros (sgwrs) 17:46, 9 Awst 2013 (UTC)[ateb]
Diolch - daw'r rhestr yn ddefnyddiol dwi'n siwr. Rhyswatkin (sgwrs) 12:29, 14 Awst 2013 (UTC)[ateb]

Wiki Loves Monuments 2013 (Cystadleuaeth Rijksmonument) golygu

Wiki Loves Monuments in Wales: Welsh translations needed golygu

Hello all, This year Wiki Loves Monuments is also being organised in Wales. This will result in uploading of many pictures of monuments which can be used to illustrate articles. We would like to provide the banners, templates and labels of the upload campaigns used with the picture contest also in Welsh so that as much as possible people can participate in their own language. To make that possible we need some lines of text to be translated into Welsh. You can give translations on this page, then I will copy them to the right place, or give your translations on the linked pages.

  1. For the Central Notice shown in September above all Wikipedia articles:
    • To translate: Wiki Loves Monuments: Photograph a monument, help Wikipedia and win!
      • Cynnig: Wiki Loves Monuments: Tynnwch lun o heneb, gan gynorthwyo Wicipedia, ac ennill!
  2. Commons:Template:Wiki Loves Monuments 2013/cy (used on files to mark they are uploaded during the contest)
  3. Commons:Template:Upload campaign header Wiki Loves Monuments August/cy (used above the upload wizard saying that the picture contest has not started yet)
    • To translate: Wiki Loves Monuments 2013 has not started yet.
      • Cynnig: Nid yw Wiki Loves Monuments 2013 wedi dechrau eto.
    • To translate: Wiki Loves Monuments will start in September. You may still share your images, but they will not be eligible for the competition.
      • Cynnig: Bydd Wiki Loves Monuments yn dechrau ym mis Medi. Gallwch uwchlwytho eich lluniau cyn hynny, ond ni fyddant yn gymwys i ennill gwobr.
  4. Commons:Template:Upload campaign header Wiki Loves Monuments finished/cy (used above the upload wizard saying that the picture contest is over)
    • To translate: Wiki Loves Monuments 2013 is closed.
      • Cynnig: Mae Wiki Loves Monuments 2013 wedi cau.
    • To translate: You may still share your images, but they will not be part of the competition.
      • Cynnig: Gallwch uwchlwytho eich lluniau o hyd, ond ni fyddant yn ran o'r gystadleuaeth.
  5. Commons:Template:Upload campaign header Wiki Loves Monuments no contest/cy (used above the upload wizard of a country which does not participate)
    • To translate: This country does not participate this year in Wiki Loves Monuments 2013.
    • To translate: You are welcome to upload pictures with this upload wizard, but they will not be part of the photo competition.
      • Cynnig: Mae croeso i chi uwchlwytho eich lluniau trwy'r dewin uwchlwytho hwn, ond ni fyddant yn ran o'r gystadleuaeth tynnu lluniau.
  6. Commons:Template:Upload campaign use Wiki Loves Monuments/cy (used after someone has uploaded a file)
    • To translate: Thank you for submitting your photos to Wiki Loves Monuments.
      • Cynnig: Diolch am uwchlwytho'ch ffotograffau i Wiki Loves Monuments.
    • To translate: Our volunteers will add photos to the relevant articles and lists.
      • Cynnig: Bydd ein gwirfoddolwyr yn gosod lluniau yn yr erthyglau a'r rhestrau perthnasol.
  7. Commons:Template:Upload campaign header wlm-uk/cy (for above the upload wizard during September)
    • To translate: Wiki Loves Monuments 2013 United Kingdom Upload Wizard.
      • Cynnig: Dewin Uwchlwytho Wiki Loves Monuments 2013 yn y Deyrnas Unedig.
    • To translate: Website of the contest
      • Cynnig: Gwefan y gystadleuaeth
    • To translate: Other countries
      • Cynnig: Gwledydd eraill
  8. For a label above a field where uploaders can enter the (unique) identifier (code) of a monument:
    • To translate: Monument ID
      • Cynnig: ID yr heneb

The last one is a system message that must be translated here.

You can translate the lines on Commons by creating a subpage with the translation, or put the translation below here or above under the English lines and I will create the subpage on Commons. The ones without a link should be translated here. I will visit this page the coming days. Thanks for the help! Romaine/Romaine (sgwrs) 12:12, 13 Awst 2013 (UTC)[ateb]

Oes rhywun am wella'r cynigion? Nid oes llawer o ieithoedd wedi mentro cyfieithu teitl y gystadleuaeth Wiki Loves Monuments. Ond os oes gan rywun deitl bachog i'w gynnig, gallem wneud, glei.

Some draft translations added - please leave a while Romaine, for comment by other Welsh speakers, before transferring. Lloffiwr (sgwrs) 21:58, 15 Awst 2013 (UTC)[ateb]

Thank you very much for translating! Due time pressure and as we want to be able to test everything the coming two weeks, I had to transfer the translations already. If you want to change the translation for "Monument ID", let me know in my talk page. I changed the links above to the Welsh template itself so if there are any changes needed, you can directly change it in there. Thanks again for the help! Welcome to Wiki Loves Monuments! Romaine (sgwrs) 17:11, 17 Awst 2013 (UTC)[ateb]
Baswn i'n dweud yn rhan yn lle yn ran achos bod fy llyfr yn dweud 'Words beginning with ll and rh do not mutate after yn' ond nid fy mamiaith yw Cymraeg felly cewch anwybyddu fy awgrymiad. Cathfolant (sgwrs) 19:30, 26 Awst 2013 (UTC)[ateb]

Galw ffotograffwyr Cymru!!! golygu

 
Un o enillwyr y llynedd. Adfeilion yn rhanbarth Dolnośląskie o Wlad Pwyl. Llun gan Zetem.

Haia! Bydd y gystadleuaeth ffotograffiaeth fyd-eang FWYAF yn cychwyn ar ddechrau Medi, am gyfnod o fis. Gellwch uwchlwytho unrhyw lun a dynwch yn ystod y mis i'r gystadleuaeth.

Cymrwch gip ar y wefan yn fama a'r un i wledydd Prydain yn fama - i weld sut i fynd ati. Y thema eleni ydy unrhyw adeilad sydd wedi'i gofrestru (gan CADW yng Nghymru).

Mae na griw am ddod at ei gilydd i dynnu lluniau yng Nghaer ar y 7fed o fis Medi - beth am i griw o Gymru ddod at ei gilydd yno? Neu mewn man arall ee Sain Ffagan? Danfonwch ebost ataf neu gadewch neges ar fy nhudalen sgwrs. Llywelyn2000 (sgwrs) 13:47, 28 Awst 2013 (UTC)[ateb]

Gyda llaw, gallwch weld y lluniau llwyddiannus ac aflwyddiannus y llynedd yn fama. Llywelyn2000 (sgwrs) 14:44, 28 Awst 2013 (UTC)[ateb]
Gellir cynnwys cestyll ac adeialadau eraill hefyd. Mae'r rhan fwyaf o gestyll Cymru yn Radd l. Ceir rhestr gynhwysfawr o bob un Gradd l, ll* a ll yng Nghymru (fwy neu lai!) ar Wici-en yn [Category:Lists of buildings and structures in Wales fama]. Mor wych fyddai medru cyfieithu, addasu ac ychwanegu at y rhain yn Gymraeg! Llywelyn2000 (sgwrs) 12:03, 30 Awst 2013 (UTC)[ateb]
Hefyd mae'r tabl yma yn nodi adeiladau rhestredig yn ôl sir, gradd ac yn adnabod unrhwy fylchau. Llywelyn2000 (sgwrs) 01:31, 31 Awst 2013


Yn yr 8 diwrnod diwethaf, mae 239 o ffotograffau o Gymru wedi eu huwchlwytho a 435 o'r Alban a 2,287 o Loegr. Gweler yma. Llywelyn2000 (sgwrs) 23:20, 8 Medi 2013 (UTC)[ateb]

Yn yr 18 diwrnod diwethaf mae'r niferoedd fel a ganlyn (gweler: [16]): Lloegr 4438, Cymru 791, yr Alban 608 a Gogledd Iwerddon 11. I roi hyn yn ei berspectif, mae Gwlad Pwyl wedi uwchlwytho 20,362 o ffotograffau a'r Almaen 19584. Mae gwledydd Prydain a Gog Iwerddon yn 8fed! Llywelyn2000 (sgwrs) 08:42, 18 Medi 2013 (UTC)[ateb]
Gyda llaw, diolch i Lloffiwr, mae'r fersiwn i uwchlwytho gyda'ch ffôn clyfar rwan ar gael yn Gymraeg; lawrlwythwch yr ap. Mae'n dweud wrthoch ble mae'r adeilad cofrestredig agosaf atoch yn otomatig. Llywelyn2000 (sgwrs) 09:13, 18 Medi 2013 (UTC)[ateb]

Daeth y gystadleuaeth i ben. Dyma'r niferoedd a uwchlwythwyd: Lloegr 8,605; Cymru 1,801; yr Alban 1,395 a Gogledd Iwerddon 36. Diolch i bawb a gyfrannodd! Llywelyn2000 (sgwrs) 12:36, 2 Hydref 2013 (UTC)[ateb]

Cyhoeddi enwau'r enillwyr golygu

Cyhoeddwyd enwau'r enillwyr, a gellir gweld rhai gwledydd Prydain ac Iwerddon fama ar wefan Wikimedia UK neu [17]. Diolch i bawb a uwchlwythodd - o leiaf fe ddaeth Cymru'n ail! Hwre! Llywelyn2000 (sgwrs) 21:37, 30 Hydref 2013 (UTC)[ateb]

Dull mewnbynnu nodau diacritig Cymraeg i'r ULS (Universal Language Selector) golygu

Nid yw'r ULS ar waith eto ar Wicipedia Cymraeg, ond fe fydd ar gael yma yn hwyr neu'n hwyrach. Mae'n cael ei ddefnyddio ar Gomin Wikimedia yn barod (ar y pen chwith i'r bar offer ar frig y dudalen). Mae bosib gosod modd i fewnbynnu'r nodau diacritig Cymraeg yn weddol hwylus i'r rhai hynny ohonom sy'n gweithio drwy declyn heb fysellbwrdd Cymraeg. Dyma restr o'r ieithoedd sydd wedi gosod modd mewnbynnu arbennig yn barod, ar MediaWiki.org. Er enghraifft, dyma'r llwybrau byr i'r nodau Almaeneg. Rwyn cynnig i ni ofyn i'r technegwyr osod llwybrau byr i'r Gymraeg, i'r holl lafariaid fel a ganlyn, a hynny er nad ydym yn defnyddio pob un ohonynt yn aml:

ÂâÊêÎîÔôÛûŴŵŶŷ ÄäËëÏïÖöÜüẄẅŸÿ ÁáÉéÍíÓóÚúẂẃÝý ÀàÈèÌìÒòÙùẀẁỲỳ

A pha lwybrau byr y dylem holi amdanynt? Beth am:

  • ^a = â
  • ~a = ä neu :a = ä
  • ?a = á
  • `a = à

ac yr un modd i'r llythrennau eraill. Ydy'r symbolau ^ ~ ? ` i gael ar bob teclyn? Os nad ydynt, all rhywun gynnig gwelliant i'r cynllun hwn? Bydd y technegwyr yn gallu cadarnhau bod y cyfuniadau yr holwn amdanynt yn ddoeth.

Pan fydd yr ULS ar gael, byddwn yn gallu defnyddio'r modd mewnbynnu hwn yn y Golygydd Gweledol (VisualEditor), gobeithio. Lloffiwr (sgwrs) 20:20, 19 Awst 2013 (UTC)[ateb]

Mae safonau, megis RFC1345, ar gyfer deugraffau ac ni ddylid mynd ati i ddyfeisio systemau newydd. Mae RFC1345 yn cynnig a>, a:, a! ac a' ar gyfer yr enghreifftiau uchod. Mae 'na systemau eraill eithaf poblogaidd yn cael eu defnyddio gan feddalwedd sy'n gweithredu allweddi cyfansoddi ( 'compose keys' ). Adolygiad heb ei lofnodi gan Defnyddiwr:Ffwrnais ar 29 Awst 2013 am 11:39
Diolch am y sylw a'r cysylltau. Y rheswm dros peidio cynnig a' oedd ei fod yn digwydd yn rhy aml yn Gymraeg - a'r, a'u, a'i, a'n, a'ch, ayb. Mae To Bach yn defnyddio allweddellau gwahanol eto! Y peth callaf i wneud efallai byddai holi cyngor gan y datblygwyr am y posibiliadau, ac yna trafod rheiny. Lloffiwr (sgwrs) 19:51, 4 Medi 2013 (UTC)[ateb]
Mae hyn yn gam yn ^ol! Bwriad y GolGwel ydy Golygu symlach na'r hen drefn, ond gan nad yw'n caniatáu i ni glicio ar un lythyren gyda nod / symbol arno (fel a wneir ar hyn o bryd) yna bydd 99% o'r defnyddwyr yn anghofio pa fotymau sydd angen eu gwthio i greu 'r nod. Fedrwn ni o leiaf cynnwys y linell gyfan o nodau (uchod) fel bod opsiwn i'w copio / pastio? Llywelyn2000 (sgwrs) 06:04, 27 Awst 2013 (UTC)[ateb]
Un ychwanegiad arall garwn ei weld ydy rhestr o dempledi ffynonellau, fel y gellir eu defnyddio'n hwylus. Llywelyn2000 (sgwrs) 06:04, 27 Awst 2013 (UTC)[ateb]
Beth sydd o'i le efo'r drefn bresennol? Dwi ddim yn deall y rhesymeg tu ôl i hyn o gwbl. Pam gymhlethu pethau? Anatiomaros (sgwrs) 23:03, 30 Awst 2013 (UTC)[ateb]
Paid a dychryn! Mae'r dull confensiynol yn aros yr un fath - yn union yr un fath. Opsiwn ydy'r Golygydd Gweladwy, sydd i'w ganfod yn "Newisiadau"'r Defnyddiwr. Un cyfeiriad at hwn sydd yn yr adran Cymorth, a dyna ni. Pe bai'n datblygu'n haws na'r dull confensiynol, yna wrth gwrs gallem drafod ei wneud yn default. Ar hyn o bryd mae Lloffiwr yn gweithio'n galed iawn i wneud hynny, a bydda unrhyw welliant yn cael ei groesawu, dw i'n siwr. Ar hyn o bryd, mae'r acen grom ayb yn achosi pryder i ni, a pheth da ydy trio datrus y problemau hynny er mwyn (efallai!) canfod dull haws o olygu sy'n debycach i olygu Google Docs. Y consensws ar visual editor (sydd yn dal ar Beta!) ydy ei fod yn glogyrnaidd, yn araf ac yn drafferthus mewn mannau. Ond mae unrhyw ymgais i symlhau pethau, fel y dywedi, yn beth da. Llywelyn2000 (sgwrs) 04:53, 31 Awst 2013 (UTC)[ateb]
Nid oes angen yr ULS ar Wicipedia Cymraeg wrth ddefnyddio'r golygydd arferol oherwydd bod y nodau diacritig wrth law. Nid oes ei angen ar y rhai hynny ohonom sy'n defnyddio bysellfwrdd wedi ei addasu i'r Gymraeg chwaith (ee trwy'r rhaglen To Bach). Ar wicis eraill megis Comin Wikimedia y byddai fwya o ddefnydd ar hyn o bryd (mae'r ULS ar gael yn barod ar y Comin - fe'i welwch ar frig y dudalen ar ffurf enw iaith presennol y rhyngwyneb). Ond mae'n well cynnig y cyfle i drafod y pethau hyn ar Wicipedia Cymraeg gan mai yma y mae'r gymuned Wici Cymraeg ar ei mwyaf niferus.
Rwyn cydnabod nac ydy hi'n amlwg bod modd gosod bysellfwrdd gwahanol i fysellfwrdd y peiriant drwy'r ULS - nid pawb fydd yn chwarae digon gyda'r ULS i ddod o hyd i'r dewisiadau mewnbynnu. Ond dyw hynny ddim yn ddadl dros peidio a'i gynnig i'r rhai sydd am fentro i'w ddefnyddio. Dwi'n meddwl y byddaf fi fy hunan yn defnyddio'r bysellfwrdd Almaeneg ar yr ULS o dro i dro. Eto i gyd, nid oes rhaid bod ar frys i osod bysellfwrdd Cymraeg ar yr ULS - byddai falle o fantais disgwyl i weld pa gynllun fydd yn cael ei weithredu ar y Golygydd Gweledol i'w wneud yn hawdd ysgrifennu'r llythrennau gyda'r diacritics. Lloffiwr (sgwrs) 20:21, 4 Medi 2013 (UTC)[ateb]

HTTPS for users with an account golygu

Greetings. Starting on August 21 (tomorrow), all users with an account will be using HTTPS to access Wikimedia sites. HTTPS brings better security and improves your privacy. More information is available at m:HTTPS.

If HTTPS causes problems for you, tell us on bugzilla, on IRC (in the #wikimedia-operations channel) or on meta. If you can't use the other methods, you can also send an e-mail to https@wikimedia.org.

Greg Grossmeier (via the Global message delivery system). 18:54, 20 Awst 2013 (UTC) (wrong page? You can fix it.)[ateb]

Cyfieithu'r single user login finalisation announcement golygu

Gai ofyn a all rhywun fynd ati i adolygu'r darpar gyfieithiad o'r 'single user login finalisation announcement' ar Meta, fel ein bod yn derbyn hwn yn Gymraeg. Ar ôl adolygu, bydd angen newid y cyflwr i 'ready'. Dwi ddim yn siwr pryd y caiff ei gyhoeddi; yn wir, efallai ei bod yn rhy hwyr yn barod. Lloffiwr (sgwrs) 20:15, 21 Awst 2013 (UTC)[ateb]

  Llywelyn2000 (sgwrs) 14:09, 28 Awst 2013 (UTC)[ateb]


Rhwystro neu flocio? golygu

Symudwyd y sgwrs yma o'r dudalen Wicipedia:Cymorth iaith gan Lloffiwr (sgwrs) 10:01, 26 Awst 2013 (UTC)[ateb]

Dyw'r rhyngwyneb ddim yn gyson am hyn. Oes gwahaniaeth rhwng beth y mae'r geiriau yn olygu neu ydyn nhw'n golygu'r un peth?

Rydych chi'n rhwystro defnyddiwr ond wedyn mae'r defnyddiwr wedi cael ei flocio... Cathfolant (sgwrs) 16:16, 1 Gorffennaf 2013 (UTC)[ateb]

Does dim gwahaniaeth ystyr. Mae'n wir bod anghysondeb. Does dim llawer o ots gennyf p'un ai 'rhwystro' neu 'flocio' neu 'atal' sy'n cario'r dydd, ond mae'n well gennyf 'bloc' yn hytrach na 'rhwystr' fel enw. Lloffiwr (sgwrs) 22:20, 4 Gorffennaf 2013 (UTC)[ateb]
Gweler Sgwrs_Wicipedia:Geirfa#Geirfa. Mae gen i ryw frith go' y cafwyd trafodaeth ar hwn ar y Caffi rywdro, ond allai ddim cael gafael arno ar hyn o bryd. Lloffiwr (sgwrs) 12:37, 5 Gorffennaf 2013 (UTC)[ateb]
Cytuno efo Lloffiwr bod "blocio" yn air gwell. Be sy'n bwysig ydy ein bod yn hyfforddi ysgolion sut i gadw llygad a monitro eu defnyddwyr eu hunain, fel nad oes yn rhaid i ni eu blocio. Mae yna ddyletswydd arnyn nhw i wneud hyn, dw i'n meddwl, a chynyddu'r wybodaeth amdanynt hefyd. Mae blocio yn creu wal ac yn negyddol; mae'n rhaid i ni eu haddysgu sut i olygu a cadw llygad ar eu defnyddwyr. Parthed defnyddwyr eraill, wel dw i ychydig yn fwy goddefgar na rhai (er gwell neu er waeth!) ac yn ceisio eu haddysgu hwythau am gyfnod. Llywelyn2000 (sgwrs) 16:19, 5 Gorffennaf 2013 (UTC)[ateb]
Rwyn gyndyn iawn o newid pethau un ffordd na'r llall heb gael barn rhagor o bobl. Beth am symud y sgwrs hwn i'r Caffi? Lloffiwr (sgwrs) 11:00, 10 Awst 2013 (UTC)[ateb]
Fel Lloffiwr, does dim llawer o ots gen i pa air a ddefnyddir. Mae 'blocio' yn eglurach efallai, er ei fod yn air benthyg. Cadwer y drefn sydd gennym ni achos mae pethau pwysicach sy'n galw am ein sylw ac amser. Anatiomaros (sgwrs) 17:20, 26 Awst 2013 (UTC)[ateb]
Dw i wedi defnyddio 'rhwystro' yn unig yn y polisi achos bod y Nodyn:Defnyddiwr a rwystrwyd yn ei ddefnyddio. Cathfolant (sgwrs) 19:49, 26 Awst 2013 (UTC)[ateb]
Mae'r naill neu'r llall yn addas, ond mae cysondeb hefyd yn bwysig. Mae'n llai o waith newid 'rhwystro'. Llywelyn2000 (sgwrs) 05:43, 27 Awst 2013 (UTC)[ateb]

Wicipedia'r Dyfodol... golygu

Cipolwg ar bethau yn 2015 (yn Saesneg) ...

http://www.iberty.net/2013/08/the-hidden-wikipedia.html

Yhh! Cadwn y Brawd Mawr o'r drws. Llywelyn2000 (sgwrs) 07:30, 29 Awst 2013 (UTC)[ateb]

Rhybudd amserol am y ffordd mae'r rhyngrwyd cyfan yn mynd hefyd. Cadwer pethau'n syml a rhwydd ar Wici fel bod pawb yn gallu cyfrannu a chreu yn uniongyrchol ar y dudalen heb apps a rhyngwynebau a ballu - dyna ei ogoniant yn fy marn i. Anatiomaros (sgwrs) 22:54, 30 Awst 2013 (UTC)[ateb]

Cyfieithu erthyglau Saesneg golygu

 oes unrhyw rheswm ni allaf cyfieithu erthygl Saesneg i'w ddefnyddio yn Wicipedia Cymraeg? Danielt998 (sgwrs) 13:22, 30 Awst 2013 (UTC)[ateb]

Dim o gwbwl. Mae nhw'n cyfieithu'r rhan fwyaf o erthyglau sydd ar Wiki-en o'r Gymraeg, beth bynnag! ;-). Llywelyn2000 (sgwrs) 13:43, 30 Awst 2013 (UTC)[ateb]
Dw i wedi cyfieithu dwy erthygl eisoes felly mae'n ffodus y gellir ei wneud. Diolch.
Mae gan Wicipedia Saesneg Hawdd ryw reol am 'roi'r ddolen barhaol i'r erthygl a gyfieithwyd o Wicipedia Saesneg yn y crynodeb golygu neu ar y dudalen sgwrs er mwyn cadw at y Creative Commons License'; dwi'n ceisio gwneud hyn neu rywbeth tebyg gydag erthyglau dwi'n cyfieithu i'r Gymraeg hefyd ond dw i heb weld rheol fel hynny yma. Cathfolant (sgwrs) 15:46, 30 Awst 2013 (UTC)[ateb]
Gallaf weld y rhesymeg gyda hynna ar y Saesneg Syml, ond gan bod dolenni rhyngwici ar y chwith at erthyglau mewn ieithoedd eraill, dw i ddim yn gweld angen rhoi dolen arbennig at erthygl Saesneg (neu ba bynnag iaith y cyfieithwyd). Ymhen amser bydd eraill yn golygu'r erthygl (efallai), felly fydd byth gair am air ta beth.--Rhyswynne (sgwrs) 20:55, 30 Awst 2013 (UTC)[ateb]
Mae Rhys yn iawn ac mae rheol Saesneg Syml yn rhyfedd. Dydym ni ddim eisiau dolenni i argraffiadau Wici eraill yn yr erthygl ei hun - os gwelaf nhw dwi'n eu tynnu! Anatiomaros (sgwrs) 22:59, 30 Awst 2013 (UTC)[ateb]
Rhyfedd efallai, ond nid yn yr erthygl ei hun ond yn y crynodeb golygu (fel gwnes i yma) neu ar y dudalen sgwrs. Dyma'r polisi perthnasol. Cathfolant (sgwrs) 00:31, 31 Awst 2013 (UTC)[ateb]
Da ni wedi trafod dolennu geiriau o fewn erthygl i'r Wiki Saesneg o'r blaen, ac wedi rhoi ein rhesymau yn ei erbyn. Llywelyn2000 (sgwrs) 05:25, 31 Awst 2013 (UTC)[ateb]
Polisi Sefydliad Wikimedia yw cyhoeddi testun yn ôl termau'r trwyddedau CC BY-SA 3.0 a'r GFDL. Mae cydnabod awduron erthygl a gaiff ei gopïo neu ei addasu (sy'n cynnwys ei gyfieithu) yn ran o dermau'r trwyddedau. Felly, pan fyddwn yn cyfieithu o ryw wici arall sy'n ran o Sefydliad Wikimedia, rhaid cydnabod yr awduron. Mae gosod cyswllt at y dudalen yn y crynodeb golygu yn ateb gofynion y drwydded oherwydd bod yr awduron yn cael eu rhestri yn hanes y dudalen honno. Gall y cyswllt fod yn un wici fel hyn [[enghraifft]] neu yn URL, a welir o glicio'r 'ddolen barhaol' ar y chwith. Gweler hefyd y cyngor manylach ar Wicipedia Saesneg. Lloffiwr (sgwrs) 21:52, 2 Medi 2013 (UTC)[ateb]
Pwynt da - do'n i ddim wedi ystyried hynny. Ro'n i wedi camddeall neges wreiddiol Cathfolant pan ymatebais gyntaf, ond mae beth mae o/hi yn ei wneud felly nid yn unig yn ymarfer da, ond yn ofynnol er mwyn cydymffurfio gyda'r drwydded.--Rhyswynne (sgwrs) 22:39, 2 Medi 2013 (UTC)[ateb]
Newydd ddarllen ar y Wikipedia Saesneg bod Nodyn (sydd ddim ar gael yma?) yn nodi bod erhtygl wedi ei gyfieithu o erthygl mewn iaith arall.


Gŵyl Golwg golygu

Ddydd Sadwrn yma (7fed o Fedi), bydd sesiynnau hyfforddi sgiliau Wicipedia'n digwydd ar gampws y brifysgol yn Llanbed. Piciwch draw i ddweud helo neu i helpu.

Dyw'r rhaglen ddim yn sôn pa bryd nac ymhle y bydd y sesiynau. A fydd gliniaduron ar gael yno neu oes rhaid dod ag un gyda ni? Lloffiwr (sgwrs) 20:34, 4 Medi 2013 (UTC)[ateb]
Mor falch o glywed y medri ddod! Mae'n cael ei chynnal ar gampws Prifysgol y Drindod Dewi Sant, sydd ddim yn lle anferthol. Mater o ddarganfod ble wrth y drws, faswn i'n meddwl. Byddaf wrth y brif fynedfa am 10.15. Newydd ebostio Owain i weld a oes wi-ffi ayb. Llywelyn2000 (sgwrs) 13:59, 5 Medi 2013 (UTC)[ateb]
Newydd gael y neges hon gan Owain: Mae’r Fro drws nesaf i’r Cwmwl yn yr ŵyl felly rhyw ardal bach digidol. Mae hyn oll yn agos iawn at y Stafell Sgwrsio felly tipyn o fwrlwm yn yr ardal yma gobeithio. 99.9% yn siŵr fod (cysylltiad) di-wifr, ond jyst angen profi fory pan fyddai ar y safle. Cofiwch, chwi Wicipedwyr glân a hawddgar, mae eich Wici a'ch hiaith eich hangen! Dewch draw i listio! ayb ayb. Llywelyn2000 (sgwrs) 17:01, 5 Medi 2013 (UTC)[ateb]

150 o Lyfrgellwyr wedi cael eu hyfforddi mewn sgiliau Wiki! golygu

Newydd ddod ar draws hwn: http://blog.wikimedia.org/2012/08/30/whole-network-public-libraries-begins-wikipedia-collaboration-catalonia/ !!! Anhygoel! Fedrwn ni wneud yr un peth yng Nghymru? '''Defnyddiwr:John Jones''' (sgwrs) 15:17, 4 Medi 2013 (UTC)[ateb]

Mi wnes i gwrdd a Carme, merch ifanc tua 33 oed yn y Llyfrgell Brydeinig chydig yn ôl. Hi ydy Prif Lyfrgellydd Catalonia. Mae hi ac Alex am ddod draw i Gymru i drafod eu gwaith, cyn hir. Rhagor am hyn eto, ond diolch am y ddolen - doeddwn i heb weld y darn. Bril! Gyda llaw, os oes gen ti awydd hyfforddi sgiliau wici i lyfgellwyr, cysyllta efo fi (ebost ar fy nhudalen defnyddiwr). Llywelyn2000 (sgwrs) 15:39, 4 Medi 2013 (UTC)[ateb]

Polisi rhwystro drafft golygu

Dwi wedi ysgrifennu'r drafft yma; symudais i fe i Wicipedia:Polisi rhwystro ond dyw e heb ei dderbyn eto felly symudodd Llywelyn e yn ol i fy mharth defnyddiwr. Dwi eisiau cael sgwrs am ei dderbyn neu beidio os yn bosibl, os gwelwch yn dda. (Fyddaf i ddim yn gallu cymryd rhan yn aml iawn achos bod ysgol/gwaith cartref/ayb gyda fi.) Cathfolant (sgwrs) 00:56, 6 Medi 2013 (UTC)[ateb]

Gwahoddiad i Gynhadledd Cyfoeth yr Amrywiaeth golygu

Ar y 9fed ar 10fed o Dachwedd 2013 bydd Wikimedia Deutschland, ar y cyd gyda Wikimedia UK, yr Iseldiroedd a'r Sefydliad yn trefnu Cynhadledd i drafod Cyfoeth yr Amrywiaeth (Diversity Conference), o fewn Wicipedia a'i chwiorydd. Ceir rhagor o fanylion yn Meta yn y fan hon. Gellwch wneud cais am gostau, a deallaf yr edrychir yn ffafriol ar unrhyw Wicipediwr Cymraeg. Llywelyn2000 (sgwrs) 17:47, 9 Medi 2013 (UTC)[ateb]

Wicidestun golygu

 

Mae'n bosib y byddwn yn defnyddio Wicidestun law yn llaw gyda Wicipedia ac yn dolennu i fewn ac allan o'r naill i'r llall ee gyda thestun megis Adolygiadau Gwales. Ga i alw am gymorth i sicrhau fod y strwythur (ee categoriau, eglurhad) yn lân ac yn daclus, os gwelwch yn dda? Dw i ddim yn gofyn am ychwanegu cynnwys megis darnau llenyddol. Mi dria i gyfieithu'r logo. Diolch, ond bydd llawer yn gwylio'r hyn sy'n digwydd ar Wicidestun yn ofalus yn ystod y misoedd nesaf!!! Llywelyn2000 (sgwrs) 17:47, 9 Medi 2013 (UTC)[ateb]

Logo newydd ei uwchlwytho; bydd yn ei le cyn pen dim. Llywelyn2000 (sgwrs) 20:10, 9 Medi 2013 (UTC)[ateb]
Mae'r logo Cymraeg bellach wedi ymddangos. Un fod cam bach i fod dynol... Llywelyn2000 (sgwrs) 08:31, 13 Tachwedd 2013 (UTC)[ateb]

Taflenni Cymraeg Ymaelodi (Wikimedia UK) golygu

Bydd sawl taflen Gymraeg yn cael eu haddasu ar gyfer eu hargraffu. Mae'r cyntaf yn fama; ychwanegwch eich sylwadau / newidiadau / ychwanegiadau os gwelwch yn dda. Diolch. Llywelyn2000 (sgwrs) 12:58, 24 Medi 2013 (UTC)[ateb]

Gwychder. Mond wedi cael cyfle i ddarllen tud. 1 a dachrau tud. 2 ac wedi gwneud mân newidiadau. Dau (neu dri) beth arall:
1. Gwledydd Prydain vs Y Deyrnas Unedig - gan mai dros y wladwriaeth bresenol mae Wikimedia UK yn gweithredu (i fod) a nid dros Ynys Brydain yn unig, dw i'n meddwl mai Y Deyrnas Unedig ddylid gael ei ddenfyddio.
2. "Comin Creu" - meddwl mod i'n iawn i ddeud bod y bathiad (da) yma'n cael ei ddefnyddio ar gyfer Creative Commons (y drwydded) a Wikimedia Commons (y wefan/brosiect cynnal cyfryngau) yn beth dw i wedi ei ddarllen hyd yma. Gan bod cymaint o enwau ac acronymau newydd yn cael eu taflu at ddarllenwyr sydd o bosib neb glywed am dim un ohonynt o'r blaen, mae eisiau cymryd gofal gyda chysondeb. Mae'r un peth yn wir am Wicipedia/Wikipedia - dylid falle ond defnyddio yr c os mai sôn ma y gwyddoniadur Cymraeg a k pan yn sôn am y prosiect gwyddoniadur amlieithog.--Rhyswynne (sgwrs) 14:12, 24 Medi 2013 (UTC)[ateb]
Bril; diolch Rhys. Dwi wedi ychwanegu Gogledd Iwerddon at wledydd Prydain. Mae'r gwahaniaeth a nodaist rhwng WiKipedia a WiCipedia, gobeithio, yn union fel rwyt yn ei ddisgrifio. Efallai i mi lithro unwaith. Mae hwn yn wahaniaeth pwysig sydd angen ei gadarnhau'n ymarferol yn Wicipedia. O ran y defnydd o Comin Creu, cyfieithiad ydy'r darn yma o Creative Commons, ac efallai y byddai'n syniad da roi'r Saesneg mewn cromfachau gan mai bathiad eitha newydd ydy o. Diolch yn fawr am dy ymateb: os weli di ragor - newidia nhw! Llywelyn2000 (sgwrs) 18:56, 24 Medi 2013 (UTC)[ateb]
Creu Comin: Rhaid i mi ddeud, tydi o ddim yn glir i mi at beth a gyfeirir ato, e.e
Tud 1.
Mae pob brawddeg mae nhw'n ei gyfrannu, pob llun, pob clip sain a fideo yn cael ei drwyddedu ar un o drwyddedau Comin Creu (neu Creative Commons) sef un arall o chwiorydd Wikipedia.
Tud 2.
Y chwaer hynaf yn y teulu ydy Wikipedia, ond mae eraill. Mae'r rhain yn cynnwys Comin Creu, sef stordy digidol o destun, fideo, sain,.....
Hefyd ar Tud 2.
un o drwyddedau Comin Creu (Creative Commons)
Tud 3.
o dan drwydded ein chwaer brosiect Comin Creu ("Creative Commons")
Ac eithrio'r cyfeiriad cyntaf ar yr ail dudalen, ble cyfeirir at Y Comin Wikimedia (a dyna'r enw a ddefnyddir ar y wefan ei hun), mae pob un arall yn cyfeirio at y drwydded Creative Commons dw i'n meddwl.
Felly dw i'n cynnig mai 'Comin Wikimedia' sy'n cael ei ddefnydido ar gyfer y stordy.
Yn achos Creative Commons, er bod hi'n rhannu'r un delfrydau a Wikipedia, dw i'n ddim yn meddwl y dylid cyfeirio ati fel 'chwaer brosiect i'r Wikipedia' gan ei fod yn gorff/mudiad/elusen ar wahan, mae posib drysu wedyn gyda gwir chwaer brosiectau, megis, Wicidestun ayyb.
O ran defnyddio 'Comin Creu' fel bathiad Cymraeg, tydi ieithoedd eraill ddim yn trosi'r enw (gweler Catalaneg). Gan nad oes dim lleoleiddio i'r Gymraeg wedi digwydd eto, cynnigaf gadw'r enw fel Creative Commons yn unig.--Rhyswynne (sgwrs) 22:17, 24 Medi 2013 (UTC)[ateb]
Dydy Comin Creu ddim yn chwaer brosiect swyddogol, ti'n iawn ond yn sicr mae'n dod o'r un stabl. Dw i wedi dileu'r 'chwaer brosiect' yn y cyswllt yma ac wedi cywiro Mae'r rhain yn cynnwys Comin Creu, sef stordy digidol o destun, fideo, sain,..... i Mae'r rhain yn cynnwys Comin Wikimedia, sef stordy digidol o destun, fideo, sain,..... Lithriad bler!
O ran terminoleg, mae gwirioneddol angen trafod hyn. Mae gwefan Gymraeg Comin Wikimedia (a "Comin" a ddefnyddiwyd gan fwyaf ar Wicipedia ers deng mlynedd) yn cynnwys dwy ffurf: rwyt yn cyfeirio at y cyntaf "Comin Wikimedia" ond mae'r Teitl o dan y logo'n gweiddi "Wikimedia Commons"! Mae angen cysondeb a phenderfyniad ar hyn yn Wicipedia:Geirfa, Sgwrs Wicipedia:Geirfa neu'r Caffi. Felly hefyd gyda Creative Commons. Tan hynny, gall y daflen ddangos y ffurfiau: Comin Wikimedia a Comin Creu (Creative Commons). Llywelyn2000 (sgwrs) 22:55, 24 Medi 2013 (UTC)[ateb]

Aelodaeth golygu

Baswn i'n cynnwys rhywbeth am y ffaith bod aelodau yn gallu gwneud cais am microgrants o hyd at £250. Siwr byddai o ddiddordeb!--Rhyswynne (sgwrs) 22:17, 24 Medi 2013 (UTC)[ateb]

Micro nawdd: dw i'n cyfeirio at hyn: a'r hawl i chi wneud cais am nawdd ariannol. Llywelyn2000 (sgwrs) 22:55, 24 Medi 2013 (UTC)[ateb]
Cynnwys dy fanylion

Rhwng dau feddwl gyda hyn, ar un llaw mae'n rhoi enw/wyneb i bobl, sy'n beth da, ond fl all hefyd olygu bydd y daflen wedi dyddio unwaith daw'r brosiect i ben (ymhen llai na blwyddyn erbyn hyn). Nid bod hyn yn broblem fawr, gan y dangosith bod gweithgarwch ar droed yng Nghymu'n barod. Ar yr un nodyn, oes ganddot ti gyfeirad ebost personol swyddogol gyda Wikimedia Uk, neu un genreric fel Rheolwr Cymru, i'w gynnwys ar y daflen ac i mi falle ei chyferio at eraill?--Rhyswynne (sgwrs) 22:17, 24 Medi 2013 (UTC)[ateb]

Mae'r opsiwn yno i roi enw neu beidio. Ebost swyddogol: oes, ond mae eisiau clirio hyn, neu mi fydd yn llawn sbam! Llywelyn2000 (sgwrs) 22:55, 24 Medi 2013 (UTC)[ateb]
Diolch am ymateb. Llywelyn2000 (sgwrs) 22:55, 24 Medi 2013 (UTC)[ateb]

My apologies, this message is in English. Please translate if needed.

Greetings!

I am happy to announce that we have scheduled this Wikipedia to receive Notifications (formerly called Echo) on 8 October.

Notifications is an improvement on how you can view and receive messages on Wikipedia and track how your contributions have been effected, as well as when you are mentioned on a talk page. Notifications is now being used on over two dozen Wikipedias and we're happy to add this latest group. You can find more information in the help page.

  • There are still three priorities to double check for translations to make sure you get the best experience possible:

If you have any questions you can email me, kpeterzell [AT] wikimedia [DOT] org or you can contact me on my meta talk page. We're really looking forward to the release! Keegan (WMF) (talk) 06:21, 26 Medi 2013 (UTC)[ateb]

(via the Global message delivery system). 06:21, 26 Medi 2013 (UTC) (wrong page? You can fix it.)

Rhyddhau Ffotograffau ar gynnwys agored golygu

Mae 3 o'r storfâu ffotograffig y genedl yn gwrthod rhyddhau eu lluniau ar drwydded cynnwys agored oherwydd eu bont yn dymuno gwneud arian o'u gwerthu.

Yn dilyn 3 Chais am Wybodaeth (FoIR) i dri o'r cyrff mwyaf yng Nghymru sy'n gwarchod ffotograffau'r genedl, dyma'r wybodaeth a ddaeth i'r fei:

Y Comisiwn Brenhinol Dros Henebau

Dyma'u datganiad ychydig wythnosau yn ôl: The commercial reuse (of our photographs) is a source of income for RCAHMW, and we may wish to levy a charge on such reuse by licensing it ourselves. Creative Commons license CC BY-SA would undermine this ability. FoIR dyddiedig Chwefror 2013

Roedd y cyfansm cyfartalog yr arian a dderbyniwyd ganddynt dros y 5 mlynedd diwethaf ddeutu £3,900 - cyn tynnu costau gweinyddol, argraffu, post ayb.

CADW

Cyfanswm cyfartalog yr arian a godwyd yn flynyddol, dros y 5 mlynedd diwethaf: £950 - cyn tynnu costau gweinyddol, argraffu, post ayb. FoIR Chwefror 2013

Amgueddfa Genedlaethol Cymru

The first year Amgueddfa Cymru – National Museum Wales made a profit from the sale of images was in 2012 – 2013 with a profit of £1,201. I can confirm that all previous years we have not record any profits for the sale of images. FoIR Medi 2013

Mae Peilot ar y cyd rhwng yr Amgueddfa Genedlaethol, y Comisiwn Brenhinol a'r Llyfgell Genedlaethol wedi bod ar y gweill, bellach, ers blwyddyn i ymchwilio i effaith rhyddhau lluniau ar CC-BY-SA. Mae'r Llyfgrell Genedlaethol, fel y gwyddom ar flaen y gad (yn fyd-eang) o ran rhannu'r hyn sydd ganddynt ar gynnwys agored. Fodd bynnag, yn y gwanwyn, trodd y Comisiwn Brenhinol ar eu sodlau gan benderfynnu peidio a chyfranu lluniau i'r prosiect.

Fy marn bersonnol i yw na ddylai'r ychydig arian a dderbyniant o elw am werthu ein lluniau - os oes elw ar ddiwedd y dydd! - fod yn faen tramgwydd rhag rhannu eiddo Cymry yn ôl i ddwylo'r werin. Trethi sydd wedi talu am y ffotograffau hyn a byddai rhyddhau'r holl luniau ar CC-BY-SA yn golygu fod y mynediad i'r lluniau'n cynyddu'n aruthrol. Dadl arall gan Cadw a'r Comisiwn Brenhinol yw fod eu holl gynnwys wedi ei drwyddedu ar "Crown Copyright". Mae hi'n bryd i Lywodraeth Cymru ryddhau'r tlysau caeedig hyn yn ôl i'r parth cyhoeddus er mwyn i bawb fedru eu gweld. Llywelyn2000 (sgwrs) 17:16, 1 Hydref 2013 (UTC)[ateb]

WiciAddysg Caerdydd 1 -2 Tachwedd golygu

 
Gareth Morlais, y Siaradwr Gwâdd yn annerch y dorf.

Mae'r datblygiadau diweddaraf i'w gweld yma ar wefan Wikimedia UK. Bydd y Prifardd Sion Aled yn cyfieithu - felly dewch a iaith y Nefoedd gyda chi!

Bydd un o gewri'r genedl yn annerch... cadwch eich llygaid ar y dudalen! Llywelyn2000 (sgwrs) 17:51, 5 Hydref 2013 (UTC)[ateb]

Atal y Wasg! - WiciGyfarfod yn y Futures Inn, Caerdydd ar y nos Wener am 6.30. Mynediad am ddim - ond talwch eich hun am eich peint o SA! Llywelyn2000 (sgwrs) 14:19, 7 Hydref 2013 (UTC)[ateb]

Cafwyd WiciFlits hynod lwyddiannus yn Sain Ffagan (3 Tachwedd 2013) ac mae rhai o'r ffotograffau wedi cychwyn ein cyrraedd ni mewn dau le ar hyn o bryd: commons:Category:Living Paths a commons:Category:LivingPaths. Cofiwch - gallwch eu tagio ar erthyglau addas, neu greu erthygl newydd ar gyfer pob adeilad rhestredig sydd ar y safle. Beth am fap hefyd yn dangos safleoedd yr adeiladau? Llywelyn2000 (sgwrs) 20:40, 8 Tachwedd 2013 (UTC)[ateb]

yn dilyn y gynhadledd...

Speak up about the trademark registration of the Community logo. golygu

Sorry for speaking in English. Just to make the community aware that there is a page that can help find Welsh articles which are not yet added to Wikidata at Arbennig:UnconnectedPages. They can be added like this: Adding cy:Althorne. Hope it helps the project! Delsion23 (talk) 22:56, 8 Hydref 2013 (UTC)[ateb]

Newid pennawd erthygl golygu

Sut mae newid Pennawd Erthygl? Yr wyf wedi dechrau tudalen William Watkin Edwards Wynne efo "S" yn ormodol yn Edward(s)ond rwy'n meth gweithio allan sut i newid y teitl AlwynapHuw (sgwrs) 01:31, 9 Hydref 2013 (UTC)[ateb]

Cymerwch olwg ar y ddelwedd esboniadol. Ewch am y triongl bach du. Dewisiwch "Symud" a golygwch eich teitl.
 
Pob hwyl! '''Defnyddiwr:John Jones''' (sgwrs) 09:38, 9 Hydref 2013 (UTC)[ateb]


Iawn, wedi dilyn y cyfarwyddyd uchod -ond mae'r erthygl efo'r enw camgymeriadol yn dal i fodoli - sut mae cael gwared ohonno?

Nac ydi ddim, mae mewn coch: William Watkin Edwardss Wynne bellach!--Rhyswynne (sgwrs) 11:08, 14 Hydref 2013 (UTC)[ateb]
Ond mae o dal yno! Mae llwyth o "bobl coch" ar y rhestrau o ASau yr wyf wedi eu cyfranu ac mewn erthyglau eraill, megis gwahoddiad i eraill cychwyn erthygl! Does dim croeso i neb ychwanegu wybodaeth at gochni William Watkin Edwardss Wynne, nid un heb wybodaeth pellach amdano mohono ond un na fu'n bod, sut mae cael gwared ohonno?
Bach yn trici esbonio hyn, ond heblaw am y ddwy ddolen goch at 'Willaims Watkin Edwardss Wynne' yn y rhan yma o'r Caffi ganddot ti a fi, does nunlle arall ar y Wicpedia yn pwyntio tuag ato. O dan 'Blwch offer' ar y ddewislen chwith mae modd clicio 'Beth sy'n cysylltu yma' i weld pa erthyglau neu dudalennau eraill o fewn Wicipedia sydd â dolen ar dudalen pendodol. Mae'n swnio'n hurt, ond mae hefyd modd gwneud hyn gyda erthygl/tudalen nad yw'n bodoli eto (ee y dudalen dan sylw yma.) Diben hyn yw gwel dos oes yna ddolen coch at erthygl penodol o fwy nag un lle, felly mae'n flaenoriaeth creu'r erthygl. Gallfa i greu dolen Dyn Bach O'r Lleuad, ond tydy o ddim yn bodoli nes bod rhywun yn clicio arno, teipio rhywbeth, ac yna gwasgu 'Cadw'r dudalen' ar y gwaelod. Gobeithio bod hyn yn gwenud rhywfaint o synnywr. --Rhyswynne (sgwrs) 09:32, 16 Hydref 2013 (UTC)[ateb]

Nodyn:Infobox UK place golygu

Newydd gael cip ar erthygl Rhymni. Mae 3 peth yn fy nharo am y wybodlen:

  1. Prif Ardal - Dw i'n meddwl mai trosiad wael o Principal Area ydy hwn, sy'n gwenud dim synnywr yn Gymraeg ac ond ar yr un Saesneg i dawelu nytars Traditional Counties Preservation Society neu be bynnag. Cynnigaf 'Sir' neu 'Sir/Awdurdod Lleol, neu 'Awdurdod Lleol'.
  2. Rhanbarth - Mae hwn yn cyferio at Ranbarthau Lloegr, ond hyd yn oed pan adewir yn mae syn wag (fel yn achos llefydd Cymru), mae'r gair 'Rhanbarth' dal yn ymddangos.
  3. Etholaethau - Dangosir etholaeth/rhanbarth UE ac etholaeth San Steffan, ond ddim etholaeth/rhanbarth Cynulliad Cenedlaethol - sefyllfa anfoddhaol.

Mae trwsio 1. yn hawdd (wedi i ni gyduno ar eiriad), ac mae'n deybyg mai dim ond addasu cod y nodyn sydd eisiau ar gyfer 2. a 3. ond dw i ddim yn siwr sut i wneud hynny.--Rhyswynne (sgwrs) 08:56, 10 Hydref 2013 (UTC)[ateb]

Ymateb sydyn i sylwadau Rhys:
  1. Dwi'n cytuno'n llwyr. Dwi'n cofio'n dda y dadleua am y defnydd o'r term Saesneg gwirion (fathwyd gan ryw fiwrocrat o Sais) ar y wici Saesneg ac mae'n wir mai pleidwyr adweithiol y "siroedd traddodiadol" oedd prif gefnogwyr y term. Y gwir ydy nad oes neb ar wahan i'r wici S. a rhai dogfennau cyfreithiol yn defnyddio'r term o gwbl. 'Sir' (term sy'n cynnwys 'dinasoedd sirol' fel Caerdydd) yw'r term naturiol.
  2. Am yr ail bwynt, gan nad oes rhanbarthau swyddogol yng Nghymru does dim angen y gair yn y blwch.
  3. Cytuno'n llwyr efo Rhys am hyn hefyd. Beth am newid 'rhanbarth' i 'etholaeth Cynulliad' yn y blwch gwybodaeth?
Mae angen ailwampio'r nodyn fel 'Infobox Wales place' felly. Anatiomaros (sgwrs) 22:24, 10 Hydref 2013 (UTC)[ateb]
  1. Cytuno. Fe allwn gael gwared a hwn yn reit hawdd.
  2. Fel dw i wedi dweud o'r blaen mae na ysbryd yn y peiriant yn cyboli'r data dan y pennawd "Rhanbarth": dw i wedi gadael sawl neges ar en a neb wedi medru'i ddatrus; na xxGlennxx - gweler yma. Felly allan a'r cena drwg yma hefyd yn fy marn i.
  3. Os sbiwch ar yr erthygl ar Aberystwyth fe welwch fod yna dri phennawd gwleidyddol / etholaethau ac mae'r Cynulliad yn un ohonyn nhw. Felly hefyd y Bermo ac Aberteifi. Golygydd diog y tro yma dw i'n meddwl! Mae'n ddigon hawdd ei ychwanegu, Rhys! Llywelyn2000 (sgwrs) 23:49, 10 Hydref 2013 (UTC)[ateb]
Dw i wedi newid "Prif Ardal" i "Sir unedol". Fedrwn ni ddim ei ddileu yn gyfangwbwl gan fod yr enw hwn yn galw'r map manwl. Onid Awdurdod unedol ddylem ei ddefnyddio? Unrhyw sylwadau? Llywelyn2000 (sgwrs) 19:23, 11 Hydref 2013 (UTC)[ateb]
Dw i'n meddwl *meddwl* nad yw pob un o'r 22 yn 'awdurdod unedig' neu rhywbeth sili fel'na. Beth am jyst 'Awdurdod Lleol'?
Parthed problem 3, gweld rwan bod modd ei drwsio yn wedodl hawdd. Ydy o werth ychwanegu'r maes 'Etholaeth Cynulliad at y wybodlen, ar mai ar gyfer y DU ydyw? Gellir ei adael yun wag wedyn i lefydd tu hwnt i Gymru. Neu man a man hefyd ychwnaegu Senedd Alaban a Chynulliad Golgledd Iwerddon hefyd? Drapai na ellir cuddio Rhanbarth Lloegr.--Rhyswynne (sgwrs) 12:35, 14 Hydref 2013 (UTC)[ateb]
Ynglŷn â'r siroedd a'r dinasoedd sirol. Dwi ddim yn hollol sicr am y term 'awdurdod unedig' chwaith, ond mae'r siroedd - yn cynnwys y 'bwrdeistrefi sirol' a'r 'dinasoedd sirol' - yn siroedd. Ni fyddai rhoi 'Awdurdod lleol' yn iawn achos yr awdurdodau lleol ydy'r cynghorau, nid yr ardaloedd/siroedd eu hunain (e.e. Cyngor Sir Powys yw'r awdurdod lleol sy'n rhedeg sir neu 'ardal awdurdod lleol' Powys). Gellid rhoi 'Ardal awdurdod lleol' yn y blwch ond yn fy marn i mae 'Sir' yn symlach ac mae'r ddolen yn arwain at yr erthygl ar lywodraeth leol yng Nghymru sy'n esbonio'r sefyllfa. Yn anffodus dydy'r term 'Sir unedol' ddim yn bodoli, hyd y gwn i, felly mae'n rhaid newid hynny eto: ei newid i 'Sir', plaen a syml, yw fy nghynnig i. Anatiomaros (sgwrs) 16:58, 14 Hydref 2013 (UTC)[ateb]
1. Newidiwyd i "Sir" yn y wybodlen. Mae sawl "Sir" yn bodoloi, fel yr un oddi tano, ond dw i ddim yn meddwl y bydd amwysedd!
2. Rhanbarth. Dw i'n dal i adael negeseuon yn y llefydd priodol! Mi fachith sgodyn cyn hir!
3. Rhys - heb ei ychwanegu ar yr erthygl Rhymni oedd hwn, fel soniais uchod. Does dim problem yn y wybodlen - mae na adran ynddo am Gymru a'r Alban. Y person wnaeth ei drosglwyddo o en i cy yn yr erthygl yma sydd ar fai! Fe ychwanegais i'r wybodlen ar Rhymni trida bedwar yn ol. Llywelyn2000 (sgwrs) 20:28, 14 Hydref 2013 (UTC)[ateb]
Diolch. Ymddengys bod aros am ymateb gan 'en' fel Aros Am Godot! Anatiomaros (sgwrs) 21:51, 14 Hydref 2013 (UTC)[ateb]
Medd un crwydryn wrth y llall! Llywelyn2000 (sgwrs) 21:56, 14 Hydref 2013 (UTC)[ateb]

8 Islwybr yn troi'n 6! golygu

Mae na ddau walch yn dadlau y dylid dileu dau lwybr yn ne Cymru. Tybed a wnewch chi gymryd cip ar y ddadl - a bwrw pleidlais! Diolch o galon, Llywelyn2000 (sgwrs) 20:06, 19 Hydref 2013 (UTC)[ateb]

Ymhellach
  1. Pan fo Article for Deletion Request yn cael ei wneud ar Wici-en, mae'n ofynol i'r person sy'n gwneud hynny hefyd roi gwybod i'r cymunedau / prosiectau perthnasol (gweler yma). Wnaeth y person hwnnw (Sionk) ddim roi gwybod i ni nac i Prosiect:Cardiff. Mi wnes i hynny.
  2. Ga i hefyd dynnu eich sylw at y ffaith fod Defnyddiwr:Cathfolant wedi codi materion sy'n ymwneud ag arwahanrwydd Wici-cy - a Pholisiau'r Wicipedia Cymraeg ar y dudalen article for Deletion (yn fama). Cyfeirio mae o (neu hi), dw i'n cymryd, at sgwrs a fu rhyngom yn Ebrill 2013 ar y dudalen Sgwrs:Arabeg. Diolch - Llywelyn2000 (sgwrs) 10:27, 25 Hydref 2013 (UTC)[ateb]
1 - diolch am esbonio, mae hyn yn gwneud synnwyr.
2 - ydw. Cathfolant (sgwrs) 03:17, 26 Hydref 2013 (UTC)[ateb]

Hyfforddi'r Hyfforddwyr golygu

 
Rhai o'r darpar hyfforddwyr ar y cwrs yng Nghaerdydd; Chwefror 2014.

Mae na gwrs Hyfforddi'r Hyfforddwyr ymlaen ar 23-4 Tachwedd yng Nghaerdydd, wedi'i drefnu ac i gyrraedd achrediad Wikimedia UK. Sgriblwch eich sgwigl, a welai chi yno! Llywelyn2000 (sgwrs) 15:34, 22 Hydref 2013 (UTC)[ateb]

Gohiriwyd yr uchod, eithr aildrefnwyd cwrs arall yng Nghaerdydd ar y 1af a'r ail o Chwefror, 2014. Chwaneg o fanylion yma. Rhoddir blaenoriaeth i Gymry Cymraeg (nid cyntaf i'r felin) felly nodwch eich rhinweddau! Welai chi yno! Llywelyn2000 (sgwrs) 11:09, 16 Rhagfyr 2013 (UTC)[ateb]

WiciGyfarfod yng Nghaerdydd Tachwedd y 1af - am 6.30 golygu

 
Urban Tap House

Bydd cyfarfod yn yr Urban Tap House yng Nghaerdydd nos Wener y 1af o Dachwedd... a bydd yn gyfle anffurfiol i sgwrsio - ym mhob iaith y dymunwch gyda wicipedwyr hen a newydd o Gymru a gwledydd fel Norwy ac UDA; bydd Alex Hinojo yno ar ran Wicipedia Catalonia hefyd! Mae'r WiciGyfarfod yma'n cyd-fynd gyda'r WiciAddysg yn y Bae. Dewch am beint, cherry-bincs neu sudd oren... a sgwrs! Llywelyn2000 (sgwrs) 20:30, 23 Hydref 2013 (UTC)[ateb]

Angen barn golygu

Mae angen eich barn ar ddau gwestiwn yma: Sgwrs Wicipedia:Wicibrosiect Llyfrau Gwales os gwelwch yn dda. Yn ogystal a hyn, gweler: Sgwrs:Igor Janev.

Diolch am ymateb. Llywelyn2000 (sgwrs) 21:52, 30 Hydref 2013 (UTC)[ateb]

Llyfryn: Gwerthuso ansawdd erthygl Wicipedia golygu

 
Llyfryn Drafft i'w brawfddarllen

Fel rhan o'r prosiect Llwybrau Byw, mae nifer o lyfrynnau wrthi'n cael eu cyfieithu i'w hargraffu (ar papur). Isod, ceir cyfieithiad o'r llyfryn Evaluating Wikipedia article quality. Tybed a wnewch chi brawf ddarllen y canlynol os gwelwch yn dda a chynnwys unrhyw sylwadau ar ddiwedd yr erthygl. Diolch yn fawr. Cofiwch mai ar gyfer ei hargraffu mae'r canlynol, ac nid ar gyfer Wici, felly ni fydd angen côd-wici. Bydd yn haws i chi brawfddarllen yn y ffesest golygu. Bydd angen cipuniau o'r Wici Cymraeg, wrth gwrs (!), i gyd-fynd a'r testun.

Sylwadau:

  • 'Cymheriaid' - er mwyn symleiddio, all hyn gael ei neiwd i 'gyd-olygwyr'?
  • Mae wyth esiampl o Arwyddion Rhybudd - oes cymaint a hyn yn bodoli ar cy:wp hyd yma?!
  • Pennawd 'Conclusion' - dim cyfieithiad - cynnigaf 'I gloi'?
  • Falle fi sy heb sylwi, ond ydy cyfiriad www y Wicipedia Cymraeg i'w weld yn rhywle?

Fel arall, gwaith rhagorol eto a phwysig.--Rhyswynne (sgwrs) 09:11, 31 Hydref 2013 (UTC)[ateb]

Diolch yn fawr iawn Rhys. Dw i wedi eu derbyn i gyd, yn rhadlon. Yr 8 Arwyddion Rhybudd: mi ges olwg arnyn nhw ddoe ac mae angen eu chwyynu a'u cysoni gryn dipyn. Fe wnawn hynny cyn i'r daflen gael ei chyhoeddi. Diolch. Llywelyn2000 (sgwrs) 10:10, 31 Hydref 2013 (UTC)[ateb]
Mae fersiwn 2 rwan ar Comin (gweler y ddolen / ddelwedd uchod). Unrhyw sylwadau / cywiriadau os gwelwch yn dda? Llywelyn2000 (sgwrs) 16:02, 10 Chwefror 2014 (UTC)[ateb]
Os nad oes newidiadau o fewn y deuddydd nesaf, fe yrrir y llyfryn at yr argraffydd. Os oes, nodwch nhw isod os gwelwch yn dda: Llywelyn2000 (sgwrs) 11:26, 21 Chwefror 2014 (UTC)[ateb]
Dwi wedi sylwi ar ddau deipo ar tud 8: (dibynadw>dibynadwy a Amragor>Am ragor). Dau beth arall ar duadlen 8 - ydy '[:w:en:Category:Bookshelf Project]' yn mynd i olygu unrhyw beth i rai sydd ddim yn gyfarwydd â chystrawed MediaWiki (neu ydy URL llawn yn rhy hir a hyll)? Hefyd tydy'r ysgrifen mân 10% post-consumer recycled fiber, elemental chlorine-free process, produced using renewable power yn y gornel dde isa heb ei drosi :-).
Mae logo a chyfeiriad Mikimedia UK ar y cefn heb unrhyw esboniad pam. A'i nhw sy'n noddi/argraffu (os felly, beth am nodi 'Argraffwyd gan...' uwch ei ben os nad ydw i heb ei fethu, ac hefyd beth am gynnwys dolen at unai https://wikimedia.org.uk/ neu https://wikimedia.org.uk/wiki/Main_Page/cy ?--Rhyswynne (sgwrs) 12:17, 21 Chwefror 2014 (UTC)[ateb]
Diolch Rhys! Dw i wedi newid nhw i gyd ar wahan i'r ddolen at WMUK - gan fod cyfeiriad ar y clawr at: wicipediacymraeg.org Can diolch. Llywelyn2000 (sgwrs) 17:27, 21 Chwefror 2014 (UTC)[ateb]
Llyfryn arall i'w brawfddarllen

 
Instructor Basics gwreiddiol Wnewch chi adael eich sylwadau ar dudalen Sgwrs y ffeil, os gwelwch yn dda. Llywelyn2000 (sgwrs) 07:32, 13 Mai 2014 (UTC)[ateb]

Introducting Beta Features golygu

(Apologies for writing in English. Please translate if necessary)

We would like to let you know about Beta Features, a new program from the Wikimedia Foundation that lets you try out new features before they are released for everyone.

Think of it as a digital laboratory where community members can preview upcoming software and give feedback to help improve them. This special preference page lets designers and engineers experiment with new features on a broad scale, but in a way that's not disruptive.

Beta Features is now ready for testing on MediaWiki.org. It will also be released on Wikimedia Commons and MetaWiki this Thursday, 7 November. Based on test results, the plan is to release it on all wikis worldwide on 21 November, 2013.

Here are the first features you can test this week:

Would you like to try out Beta Features now? After you log in on MediaWiki.org, a small 'Beta' link will appear next to your 'Preferences'. Click on it to see features you can test, check the ones you want, then click 'Save'. Learn more on the Beta Features page.

After you've tested Beta Features, please let the developers know what you think on this discussion page -- or report any bugs here on Bugzilla. You're also welcome to join this IRC office hours chat on Friday, 8 November at 18:30 UTC.

Beta Features was developed by the Wikimedia Foundation's Design, Multimedia and VisualEditor teams. Along with other developers, they will be adding new features to this experimental program every few weeks. They are very grateful to all the community members who helped create this project — and look forward to many more productive collaborations in the future.

Enjoy, and don't forget to let developers know what you think! Keegan (WMF) (talk) 19:43, 5 Tachwedd 2013 (UTC)[ateb]

Distributed via Global message delivery (wrong page? Correct it here), 19:43, 5 Tachwedd 2013 (UTC)

Call for comments on draft trademark policy golygu

Bocs cynrychiolwyr etholaethau Ewrop golygu

Rwy'n trio cyfiethu hon i'r Gymraeg o North Wales (European Parliament constituency) i Gogledd Cymru (Etholaeth Senedd Ewrop) ond wedi methu ym mhob ymgais. Help plis!

Elected Name Party
1979 Beata Brookes Ceidwadwyr
1989 Joe Wilson Llafur

  Cwblhawyd

Mae'r opsiwn gen ti rwan: ac mae'r naill neu'r llall yn edrych yn dda. Llywelyn2000 (sgwrs) 19:07, 16 Rhagfyr 2013 (UTC)[ateb]

Golygathon Abertawe golygu

 
Rhai o aelodau'r Golygathon; Llyfrgell Abertawe, Ionawr 2014.

Bydd Golygathon a sesiwn hyfforddi sgiliau wici yn Llyfrgell Abertawe ar ddydd Sul y 26ed o Ionawr. Byddwn yn canolbwyntio ar 200 mlwyddiant Seren Gomer ar ffeminist ac addysgwr Dr Emily Phipps. Unrhyw syniadau am gyhoeddusrwydd? Llywelyn2000 (sgwrs) 16:20, 3 Rhagfyr 2013 (UTC) Llywelyn2000 (sgwrs) 08:10, 4 Ionawr 2014 (UTC)[ateb]

Gwerthfawrogir unrhyw gymorth i hyrwyddo'r sesiwn yma. Diolch. Llywelyn2000 (sgwrs) 08:10, 4 Ionawr 2014 (UTC)[ateb]
Mae 'na boster (Saesneg) yn hysbysebu'r digwyddiad ar brif ddesg y llyfrgell ac yn sôn am yr angen i archebu lle ymlaen llaw ond dyna ni. Os alla i helpu mewn unrhyw fodd, gad neges ar fy nhudalen sgwrs. Pwyll (sgwrs) 09:48, 4 Ionawr 2014 (UTC)[ateb]
Mi ddanfona i gyfieithiad atyn nhw! Mae Menter Iaith Tawe wedi derbyn un ac yn bwriadu ebostio eu rhestr. Wyt ti'n medru dod? Os wyt, wnei di ddysgu sgiliau sylfaenol i grwp bychan Cymraeg? Llywelyn2000 (sgwrs) 11:54, 4 Ionawr 2014 (UTC)[ateb]
Ydw, dw i'n bwriadu bod yno, er nad ydw i wedi archebu fy lle eto. Dw i'n byw yn ddigon agos felly âf i mewn 'na fory i wneud hynny. Dim problem o ran helpu eraill chwaith. Fe ranna i unrhyw beth dw i'n gwybod gydag eraill ac fe gyfeiria i unrhyw gwestiynau mwy dyrys at Wicipedwyr mwy abl! Gobeithio fod hyn o ryw help. Hefyd, a fyddai'n syniad cysylltu ag Adrannau'r Gymraeg yn Ysgol Gyfun Gŵyr ac Ysgol Gyfun Bryntawe - efallai fod myfyrwyr 6ed dosbarth ganddynt a fyddai'n hoffi cyfrannu? Pwyll (sgwrs) 18:10, 4 Ionawr 2014 (UTC)[ateb]
Syniadau gwerth chweil! Cofia roi dy enw (fel wicipediwr) yn fama. Efallai y gelli drafod efo'r ddwy ysgol y broblem o flocio cyfeiriadau IP ysgolion, a sut y gall yr ysgol fonitro'r defnydd o Wicipedia. Mae sawl ysgol yn y gorffennol, hefyd, wedi defnyddio wici i gyhoeddi gwaith cwrs (ee Siwan (drama) neu Eleanor Butler a Sarah Ponsonby). Mae na brosiect arloesol ar y gweill gyda'r adran ieithoedd hefyd yn y Brifysgol (mwy cyn hir) a gobeithiwn y bydd nifer o'r myfyrwyr a'r staff hefyd yn bresennol. Edrychaf ymlaen yn arw i'th gyfarfod!!! Llywelyn2000 (sgwrs) 10:55, 5 Ionawr 2014 (UTC)[ateb]

Egeinion Gwleidyddol ASau dinod golygu

Y mae canlyniadau pob etholiad Cymreig ers 1832 gennyf, ac yr wyf yn ceisio rhoi'r wybodaeth ar Wicipidia pob yn dipyn - mae pob canlyniad yn nodi bod hwn a hwn wedi ei ethol ac wedi gwasanaethu ein cenedl fel AS. Be di'r peth gorau i wneud efo'r buddugol?

Heb wybodaeth bellach a'i gwell yw gadael eu henwau'n ddu heb gyswllt ychwanegol atynt; creu linc coch, i ddangos bod diddordeb am wybodaeth amgen, neu greu eginyn sy'n dweud dim amgen na Roedd John Jones yn Aelod Seneddol Etholaeth Lle Bethma?

Yr hyn rwy'n gwneud ar hyn o bryd yw creu Linc mewn gobaith - ond yn ansicr os ydy hyny'n gwasanaethu'r safwe!AlwynapHuw (sgwrs) 05:32, 10 Rhagfyr 2013 (UTC)[ateb]

Cwestiwn gwerth ei ofyn, ond sdim 'polisi' fel y cyfryw am hyn - mae fyny i'r sawl sy'n creu'r erthygl. Fel y gweli mae'r Wicipedia yn frith o ddolenni coch a tydi hynny ddim yn edrych yn wych. Fel ti'n deud, 'linc mewn gobaith' ydynt i gyd fel arfer, ond os nad wyt ti'n rhagweld dy fod di am greu erthygl amdanynt yn y dyfodol agos, falle gwell fyddai ei adael fel ysgrifen du. --Rhyswynne (sgwrs) 08:54, 10 Rhagfyr 2013 (UTC)[ateb]
Mae'n gas gen innau ormodedd o ddolenni coch, ond y cwestiwn sylfaenol yma ddylem ei ofyn ydy hwn: a yw pob AS / AC yn haeddu erthygl ar Wici? Ac yn fy marn i, mae nhw! Llywelyn2000 (sgwrs) 19:16, 16 Rhagfyr 2013 (UTC)[ateb]

Rhoi canlyniadau chwilio pan nad yw erthygl yn bodoli golygu

Rhag ofn nad yw'n dod i'ch sylw, dyma gynnig (dewisiol) y gellir ei ychwanegu ar y wici yma, sef os deallaf yn iawn, gallwch chwilio am air, ac hyd yn oed os nad oes erthygl ar cy:wp, bydd yn dangos yr erthygl ar wicipedia neu brosiectau WikiMedia eraill. Y ddadl yw bydd hyn yn annog pobl i ddod i cy:wp i chwilio bob tro hyd yn oed os nad yw'r chwilydd yn meddwl bod hi'n debygol bydd yr erthygl yn bodoli'n Gymraeg yn y lle cyntaf.--Rhyswynne (sgwrs) 10:51, 12 Rhagfyr 2013 (UTC)[ateb]


Dim yn hapus efo'r syniad yma, yn y Wicipidia Cymraeg, yn arbennig.
Fel cyfrannwr, prin fy mod am drafferthu edrych ar dudalen sydd a linc glas ati pan fo cymaint o'r hyn rwy'n creu yn frith o linciau coch.
I ddefnyddwyr byddai cymaint o'r ffug linciau glas yn cael eu cyfeirio at erthyglau Saesneg fel byddid teg gofyn a oes pwynt i Wicipedia Cymraeg o gwbl?
Y peth gwaethaf byddid creu cylch dieflig lle nad yw linciau gwag Cymraeg yn cael eu llenwi, gan eu bod yn cysylltu ag erthyglau Saesneg a bod yr angen am Wicipidia Cymraeg yn dod i ben. AlwynapHuw (sgwrs) 05:26, 14 Rhagfyr 2013 (UTC)[ateb]
Dw i wedi gadael sylw ar y dudalen Sgwrs berthnasol. Llywelyn2000 (sgwrs) 19:19, 16 Rhagfyr 2013 (UTC)[ateb]

Ffrwd dyddiadau etholiadol golygu

Wrth gasglu'r data am etholaeth Sir Gaernarfon, rwyf wedi sylweddoli fy mod wedi gosod rhai canlyniadau etholiad o'r hynaf i'r diweddaraf ac eraill o’r diweddaraf i'r hynaf, am wn i mae angen cysondeb. Os ffafriaeth am y naill neu'r llall?

O ran natur fy ffynonellau mae'n haws sgwennu o'r hynaf i'r diweddaraf, ond o ran yr hyn rwy'n debygol o eisiau o ymchwilio Wicipidia, byddwn yn fwy tebygol o eisiau’r wybodaeth ddiweddaraf yn gyntaf. Be di barn eraill?AlwynapHuw (sgwrs) 03:08, 13 Rhagfyr 2013 (UTC)[ateb]

Byddwn yn diolchgar am ymateb gan fod rhif y dudalenau bydd angen eu newid yn cynyddu! —Cafodd y sylw hwn heb lofnod ei ychwanegu gan AlwynapHuw (sgwrscyfraniadau) 05:41, 21 Chwefror 2014 (UTC)[ateb]
Cytuno bod angen cysondeb. Yn bersonol baswn i'n deud diweddaraf ar y top, ond dw i'n meddwl gyda'r mwyafrif o restrau yma (ac ar en), dechrau gyda'r hynnaf mae'r mwyafrif, felly baswn i'n gwneud felly.--Rhyswynne (sgwrs) 09:36, 21 Chwefror 2014 (UTC)[ateb]
Dw inna'n meddwl: hynaf -> diweddaraf. Mae rhain yn gaffaeliad gwerth chweil. Llywelyn2000 (sgwrs) 17:58, 21 Chwefror 2014 (UTC)[ateb]

Rhoi Lliw a Dolen i Blaid golygu

Efo nifer o gysylltiadau at bleidiau gwleidyddol nad ydynt yn bod bellach ac ambell un sy ddim yn fawr eu cefnogaeth yr wyf wedi osgoi "nam" trwy beidio a rhoi Bocs ymgeisydd etholiad gyda dolen plaid (a lliw) iddi; po fwyaf yr wyf yn gwneud hyn po fwyaf rwy'n gweld ei fod yn annerbyniol - mae angen cysylltu at bleidiau megis y Loonies a Plaid y Ddeddf Naturiol heb son am raniadau'r Blaid Ryddfrydol megis y Coalition Liberals a'r National Liberals; ond rwy'n methu canfod sut mae creu Nodyn:Plaid Newydd/meta/lliw na Nodyn:Plaid Newydd/meta/enwbyr!AlwynapHuw (sgwrs) 03:08, 13 Rhagfyr 2013 (UTC)[ateb]

Symudwyd gweddill y drafodaeth hon i: Sgwrs Nodyn:Election box begin.

Al Lewis golygu

Mae Al Lewis wedi rhoi caniatad i ni ddefnyddio unrhyw luniau a thestun o'i wefan. Llywelyn2000 (sgwrs) 17:24, 16 Rhagfyr 2013 (UTC)[ateb]

Tasg arall golygu

Mae tua 40 o wybodlenni infobox-UK wedi cael eu rhoi mewn erthyglau am bentrefi yng Ngheredigion a Sir Gaerfyrddin (gweler yma). Mae hanner eu cynnwys yn Saesneg ac mae angen eu cywiro. Dwi wedi gwneud rhyw hanner dwsin ond mae'n lot o waith i wneud y cyfan. Pe bai pawb yn medru aberthu 10 munud bob sesiwn i wirio un neu ddau byddai'r gwaith yn cael ei wneud mewn byr amser. Hefyd mae rhywbeth yn bod ar y rhan o'r nodyn sy'n rhoi dolenni (coch) ar y gwaelod i restrau llefydd ac mae angen ei drwsio. Anatiomaros (sgwrs) 21:58, 18 Rhagfyr 2013 (UTC)[ateb]

   Llywelyn2000 (sgwrs) 09:47, 19 Rhagfyr 2013 (UTC)[ateb]


Grêt! Diolch i ti a'r bot unwaith eto. Mae'n ymddangos fod 'na broblem o hyd efo'r dolenni coch i restrau o lefydd, sy'n dangos dolen i 'Restr llefydd yn Sir Gaerfyrddin' hyd yn oed os ydy'r pentref yng Ngheredigion - gweler Pont-Siân er emghraifft. Dim o bwys mawr am rwan, ond mae'n od er hynny. Anatiomaros (sgwrs) 21:52, 19 Rhagfyr 2013 (UTC)[ateb]

Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig golygu

Tybed a wneith rhywun wiro'r erthygl hon a Meysydd Afon Conwy os gwelwch yn dda - o ran ffeithiau. Gallem ychwanegu is gategoriau fel siroedd ayb eto, a'r 'Shown within Wales'! Mi wneith BOtwm yrru dros 800 os yw'n gywir. ON Nadolig Llawen i bawb! Llywelyn2000 (sgwrs) 01:31, 25 Rhagfyr 2013 (UTC)[ateb]

Diolch. 890 newydd. Sylwadau / newidiadau ar dudalen sgwrs BOTwm Crys os gwelwch yn dda. BOT-Twm Crys (sgwrs) 23:15, 26 Rhagfyr 2013 (UTC)[ateb]
Wedi gadael sylw ar dudalen sgwrs BOTwm Crys. --Rhyswynne (sgwrs) 09:36, 27 Rhagfyr 2013 (UTC)[ateb]

Arddull iaith botymau gorchymyn yn y rhyngwyneb golygu

Mae Cymrodor wedi dechrau sgwrs ar translatewiki.net yn cynnig ein bod yn newid arddull y botymau sy'n gorchymyn y cyfrifiadur i weithredu i fod yn ferfenwau yn hytrach nac yn orchmynion amhersonol.

Cefndir y dewis arddull yw hyn. Yn iaith wreiddiol y rhyngwyneb, Saesneg, maent yn defnyddio ffurf gorchmynnol y ferf ar y botymau sy’n gorchymyn y cyfrifiadur – Save, Delete ayb. Maent yn defnyddio’r ‘infinitive’ heb y ‘to’ mewn mannau eraill megis ar deitlau, penawdau a chysylltau – Save, Delete eto. Felly mae amwyster yn y rhyngwyneb Saesneg nag yw’n digwydd mewn llawer o ieithoedd eraill. Yn Gymraeg y ffurf addas at bwrpas y botymau sy’n gorchymyn y cyfrifiadur yw’r gorchymyn amhersonol (Cadwer, Dileer) a’r ffurf addas at bwrpas pennawd, teitl a chyswllt yw’r berfenw (Cadw, Dileu). Does dim amwyster yn codi yn Gymraeg oherwydd nad yw’r ffurfiau hyn yr un fath. Y mae canllawiau cyfieithu ar y we yn argymell peidio defnyddio'r un gair i gyfieithu dau wahanol derm. Y mae’n ddefnyddiol cael y ffurfiau gwahanol hyn ar y cysylltau sy’n ymddwyn fel botymau gorchymyn ("action-links" megis Crebacher, Cuddier, Dileer) yn hytrach na mynd at flwch deialog lle mae’n rhaid cadarnhau’r weithred cyn y caiff ei chyflawni.

Ond nid oes unrhyw feddalwedd neu wefan Gymraeg heblaw ni wedi dewis yr arddull hon ar gyfer y botymau gorchymyn. Yn hytrach maent i gyd wedi dewis cadw’r amwyster sydd yn y Saesneg, gan ddefnyddio’r berfenw drwyddi draw. Felly mae Cymrodor wedi cynnig y dylem gydymffurfio â phawb arall er mwyn cael un arddull cyson ar gyfer meddalwedd Cymraeg drwyddi draw (gweler y sgwrs ar translatewiki.net).

Byddwn yn falch petai defnyddwyr Wicipedia yn gallu trafod hyn a phleidleisio o blaid neu yn erbyn y cynnig i newid ffurf y botymau gorchymyn i’r berfenw. Lloffiwr (sgwrs) 17:43, 5 Ionawr 2014 (UTC)[ateb]

Cynnig: Newid ffurf y botymau gorchymyn i'r berfenw

  • Yn erbyn - Lloffiwr (sgwrs) 17:43, 5 Ionawr 2014 (UTC)[ateb]
  • Yn erbyn. Mae na goblyn o waith da wedi'i wneud dros y blynyddoedd gan Lloffiwr; a byddai newid y rheol yn golygu affliw o lot o waith ychwanegol; buaswn yn amcangyfrif tair wythnos o waith soled. Mae cynyddu nifer yr erthyglau ar Wicipedia a Wicidestun i mi'n flaenoriaeth, ynghyd a rhyddhau cynnwys ar drwydded agored. Mae rhai o dermau'r modd gorchmynol amhersonol, fodd bynnag, yn Sain Ffaganaidd, a dw i'n siwr nad yw 99% o'r genhedlaeth ifanc yn eu deall ac efallai y gall Cymrodor ailgyflwyno'i ddadl gan nodi rhai o'r termau hynafol hynny. Mae "Rhodder heibio" yn un o'r rheiny ac weithiau dw i'n disgwyl gweld "Deledd dy deyrnas" ar y sgrin! Geirfa ddealladwy sydd ei angen, heb lastwreiddio ychwaith! Pe bai Cymrodor wedi bod wrthi ar translatewiki am beth amser, neu'n ymgymryd a'r gwaith aruthrol o'u newid, yna efallai y byddwn yn cytuno gyda rhai newidiadau. Ond heb yr addewid hwnnw yna, mi gytuna i gyda Lloffiwr. Llywelyn2000 (sgwrs) 20:11, 5 Ionawr 2014 (UTC)[ateb]
Dwi ddim yn ofni'r gwaith o newid yr arddull, dyw e ddim yn gymhleth, a bydd dim brys i'w gyflawni beth bynnag. Ond os am newid, gwell gwneud yn gynt na hwyrach, oherwydd mynd yn fwy o waith po hiraf y gadewn ni hyn y bydd hi. Lloffiwr (sgwrs) 22:23, 5 Ionawr 2014 (UTC)[ateb]
  • Ar y ffens. Ddim yn siwr pa ffordd i bleidleisio ar hyn o bryd. Hyd heddiw, doedd heb fy nharo pa mor ffurfiol oedd y Gymraeg. O glicio ar dudalen Newidiadau diweddar, dw i rwan yn gweld y geiriau "Cuddier", "Dangoser" a "Crebacher". Mae'n andodd cael cydbwysedd rhwng bod yn hygyrch i bawb a dumbing-down. Dw i am drio lledaenu'r sgwrs i drio cael ymateb a barn eraill (nad ydynt o anghenraid yn gyfranwyr at y Wicipedia ond sydd efallai'n ei ddefnyddio).--Rhyswynne (sgwrs) 13:23, 6 Ionawr 2014 (UTC)[ateb]
  • O blaid. Dw i wastad wedi gweld berfau mewn rhyngwyneb - ym mhob sefyllfa, gan gynnwys botymau a theitlau - fel infinitives. I mi, dydi'r testun ar y botwm ddim yn orchymyn, ond yn label sy'n esbonio beth sy'n digwydd os ti'n clicio. A dydi hyn ddim jesd oherwydd yr amwyster yn Saesneg - dw i'n eithaf siŵr bod rhyngwynebau Ffrangeg yn defnyddio'r infinitive hefyd (Sauvegarder, Supprimer ayyb). Mae'r ffurfiau fel "Dangoser" yn edrych braidd yn lletchwith i mi. Ifanceinion (sgwrs) 22:39, 6 Ionawr 2014 (UTC)[ateb]
  • Yn erbyn Newid di-angen a gwastraff adnoddau amser: gweler dadleuon Lloffiwr a Llywelyn uchod. Anatiomaros (sgwrs) 23:40, 7 Ionawr 2014 (UTC)[ateb]
  • O blaid. O'n i ddim yn ymwybodol o'r defnydd yma a mae e i'w weld yn chwithig iawn i fi. Mae nhw'n orchymynion i rywun arall nid rywbeth rydych yn wneud eich hun (ond mi fyddai 'cuddiaf' 'dangosaf' yn od hefyd). Dwi'n credu fod unrhyw newid sy'n gwneud Wicipedia yn fwy cyfeillgar a haws i'w ddefnyddio yn beth da. Dwi'n deall y bydd peth gwaith i wneud i gysoni pethau ond does dim brys i wneud (dwi'n barod i helpu os oes angen). Dafyddt (sgwrs) 00:01, 15 Ionawr 2014 (UTC)[ateb]

Y Wyddor Gymraeg ar MediaWiki golygu

Mae Wikipedia/MediaWiki yn dilyn trefn y Wyddor Saesneg ar hyn o bryd. Gweler unrhyw dudalen categori am enghraifft. Fyddai fe'n bosib i ddatblygu ategyn i MediaWiki sydd yn newid Y Wyddor i'r Gymraeg. Gellid dilyn patrymlyn Geiriadur Prifysgol Cymru sydd yn cynnwys llythyrennau Cymraeg fel DD, LL yn ogystal â Z ac ati (y gair Zwinglïaidd ayyb!). --Oergell (sgwrs) 17:50, 7 Ionawr 2014 (UTC)[ateb]

Syniad da - ond amhosib i wneud (am wn i) efo algorithm yn unig - mae angen rhestr o eithriadau (e.e. bod 'arholiad' yn cynnwys R-H a dim Rh). Ond dylai fod yn iawn ar gyfer penawdau tudalen categori wrth gwrs. Ifanceinion (sgwrs) 20:38, 7 Ionawr 2014 (UTC)[ateb]
Mater o ffeilio cais ydy o ar Bugzilla; mae'r cyfarwyddiadau yn fama. Llywelyn2000 (sgwrs) 21:58, 7 Ionawr 2014 (UTC)[ateb]
Yn gyntaf, mae angen i'r gymuned gytuno fod hyn yn beth da. Fedra i ddim gweld dim yn erbyn defnyddio ein hwyddor ein hunain (!) ond mae angen consensws! Felly gadewch eich "Aye!" neu eich "Nag aye!" arferol. Dw i wedi cofrestru efo Bugzilla (Byg 59800), a mi wna i'r cais gynted a bydd consensws wedi'i gyrraedd. Llywelyn2000 (sgwrs) 22:16, 7 Ionawr 2014 (UTC)[ateb]
Diolch am y consensws: Bron a gorffen: https://gerrit.wikimedia.org/r/#/c/106163/ Llywelyn2000 (sgwrs) 00:01, 8 Ionawr 2014 (UTC)[ateb]
Beth yw eich barn?

Cytuno. Llywelyn2000 (sgwrs) 22:16, 7 Ionawr 2014 (UTC)[ateb]

Cytuno, ond fel dywed Ifanceinion bydd yn dda cael modd o nodi eithriadau, nid yn unig o eiriau ac enwau Cymraeg ond hefyd o ieithoedd eraill (er enghraifft mae Chicago yn dechrau gyda "c", nid yr "ch" Gymraeg). —Adam (sgwrscyfraniadau) 22:58, 7 Ionawr 2014 (UTC)[ateb]

Cytuno, ond mae gan Ifanceinion ac Adam bwynt da hefyd. Anatiomaros (sgwrs) 23:45, 7 Ionawr 2014 (UTC)[ateb]

Consensws wedi'i gyrraedd, a'r wyddor ar waith. Diolch i bawb. Llywelyn2000 (sgwrs) 00
04, 8 Ionawr 2014 (UTC)
(Gyda llaw, a fydd angen nodi pob eithriad ar restr rhywle er mwyn i'r meddalwedd fedru eithrio tudalennau? Byddai hynny'n golygu gwiro popeth sydd yma bron!) Anatiomaros (sgwrs) 01:02, 8 Ionawr 2014 (UTC)[ateb]
Oes yna'r fath beth, unai yma neu ar y Wikipedia Saesneg rhestr yn nodi POB erthygl yn nhrefn yr wyddor/yr wyddor Saesneg? Fallai wedyn byddai'n haws adnabod enwau erthyglau neu ddarpar erthyglau y dylid eu heithrio.--Rhyswynne (sgwrs) 09:55, 8 Ionawr 2014 (UTC)[ateb]


Geiriau i'w heithrio

Defnyddier y canlynol: {{DEFAULTSORT|C‌hicago}} ayb''' ar gychwyn y Categoriau, ayb. Gweler: yma. Llywelyn2000 (sgwrs) 13:28, 8 Ionawr 2014 (UTC)[ateb]

Rhestr geiriau i'w heithrio

Cysylltu erthyglau canlyniad etholiad a'r Saesneg golygu

Er fy mod i, ac eraill, wedi ceisio cysylltu erthyglau am etholaethau unigol a'r erthyglau cyffelyb yn y fain, sylwaf nad ydy rhoi clec ar y ddolen "English" yn cysylltu at erthygl Saesneg am yr etholaeth ond yn cysylltu at:

https://en.wikipedia.org/wiki/Template:Election_box_candidate_with_party_link

A oes modd cael gwared â'r fath wendid yn y blwch cyd gysylltu ieithyddol? AlwynapHuw (sgwrs) 04:00, 8 Ionawr 2014 (UTC)[ateb]

Mae'n ymddangos bod nam yn rhywle. Erbyn hyn mae dolenni rhyngwici yn cael eu rheoli gan Wikidata, ac yn achos Ceredigion (etholaeth seneddol), mae Wikidata'n dweud bod y ddolen 'English' yn pwyntio i'r lle cywir, ond mewn gwirionedd tydi o ddim. Heb glicio a bob un, on mae hwn yn broblem gyda o liaf hanner dwsin o erthyglau eraill am Etholaethau Seneddol. Wedi adrodd y broblem yma.--Rhyswynne (sgwrs) 09:37, 8 Ionawr 2014 (UTC)[ateb]

Swydd Newydd: Cydlynydd Hyfforddiant yng Nghymru golygu

 
Aled Powell

Braf iawn ydy cael datgan fod Wici Cymru a Wikimedia UK yn chwilio am ail berson i weithio ar y Prosiect Llwybrau Byw!

Mae'r hysbyseb a'r Disgrifiad Swydd i'w gweld yma. Robin Owain, Rheolwr Wikimedia UK yng Nghymru. Llywelyn2000 (sgwrs) 14:57, 8 Ionawr 2014 (UTC)[ateb]

Brafiach fyth yw cael datgan fod Aled Powell wedi'i benodi i'r swydd. Yn fab fferm o ardal Llanelidan, mae Aled wedi treulio blynyddoedd yn Corea ble bu'n darlithio yn Saul, ac mewn gwledydd diddorol eraill. Mae'n adnabyddus i ni Wicipedwyr fel Defnyddiwr:Cymrodor a charwn ei longyfarch ar ei swydd ac edrychaf ymlaen at gydweithio gyda fo. Bydd yn cael ei gyflogi gan Wicimedia DU ar secondiad i Wici Cymru. Robin Owain (WMUK) (sgwrs) 22:37, 22 Chwefror 2014 (UTC)[ateb]

Ffotograffau i'w hychwanegu ar ein herthyglau golygu

Mae na gannoedd o ffotograffau da o Gymru wedi'u huwchlwytho yn y fan yma; llawer ohonyn nhw'n broffesiynol iawn gan Les. Byddai'n wych pe baem yn eu hychwanegu i'r erthyglau priodol. Llywelyn2000 (sgwrs) 15:25, 13 Ionawr 2014 (UTC)[ateb]

Lluniau bendigedig o'r safon uchaf - diolch i Les am ei gymwynas!
Ia, mae angen delweddau ar sawl tudalen, ond gobeithio bydd y testun ei hun ddim yn cael ei foddi mewn môr o luniau. Byddwch yn ddethol - mae dau neu dri o luniau da, perthnasol, yn well na dwsin o rai cyffredin. Cofiwch hefyd fod categorïau manwl iawn yn cael eu datblygu ar Gomin ac felly mae modd rhoi dolen i Gomin ar waelod y dudalen i bobl cael gweld cant o luniau o ryw bentref bychan neu afon ayyb. Sôn am Gomin, gyda ymhell dros 100,000 o ddelweddau o Gymru i'w trefnu mae angen cymorth pobl sy'n nabod eu hardal i'w rhoi mewn categorïau priodol; ar hyn o bryd mae gan rai siroedd miloedd o ddelweddau heb gategori manwl - gweler categori Gwynedd, er enghraifft. Anatiomaros (sgwrs) 17:17, 14 Ionawr 2014 (UTC)[ateb]
Mae'r rhain o safon arbennig! Ble y ceir rhagor o fanylion am Brosiect Llwybrau Byw? '''Defnyddiwr:John Jones''' (sgwrs) 17:58, 18 Ionawr 2014 (UTC)[ateb]
Welcome Images - 100,000 o ffotograffau!
 
Lloyd George yn ystyried y Ddeddf Yswiriannau 1912.

Mae Welcome Images wedi trwyddedu dros 100,000 o'u casgliad ar drwydded CC-BY. Mae gen i erthygl fechan ar flog WMUK yn fama. Ceir nifer o luniau addas ar gyfer Wici; dw i wedi uwchlwytho tri, ond bydd bot yn gwneud hyn yn otomatig cyn hir. Mae llun un o frodorion y Navaho wedi'i uwchlwytho a chartwn ar erthygl Lloyd George. Mwynhewch! Llywelyn2000 (sgwrs) 15:15, 22 Ionawr 2014 (UTC)[ateb]

Lluniau John Thomas

O'r diwedd, wedi blynydoedd hirion o waith, mae holl luniau'r hen JT ar Comin. Gallwch eu defnyddio ar Wici, fel y mynnoch! Rydym hefyd mewn trafodaethau gyda'r Llyfrgell i ryddhau'r rhain ar gydraniad uwch. Llywelyn2000 (sgwrs) 08:42, 7 Chwefror 2014 (UTC)[ateb]

Symud tudalennau pentrefi a chymunedau golygu

Mae angen cael cyfle i drafod rhai o'r newidiadau hyn. Gweler Sgwrs:Rhestr cymunedau Cymru. Dwi'n awgrymu rhestr o enwau i'w drafod (neu ddim efallai) er mwyn cael consensws, yn enwedig yn achos: 1. Symud tudalen am rywle amlwg e.e. Y Waun er mwyn gwahaniaethu rhyngddo a lleoedd llai amlwg (a bod yn garedig!); 2. Newid enw Cymraeg am un Saesneg. Anatiomaros (sgwrs) 23:44, 15 Ionawr 2014 (UTC)[ateb]

Newydd weld hwn! Mae hyn yn gwneud synnwyr.
Awgrymaf barhau'r drafodaeth ar y dudalen Sgwrs a awgrymaist: Sgwrs:Rhestr cymunedau Cymru. Llywelyn2000 (sgwrs) 16:18, 7 Chwefror 2014 (UTC)[ateb]

Request for comment on Commons: Should Wikimedia support MP4 video? golygu

I apologize for this message being only in English. Please translate it if needed to help your community.

The Wikimedia Foundation's multimedia team seeks community guidance on a proposal to support the MP4 video format. This digital video standard is used widely around the world to record, edit and watch videos on mobile phones, desktop computers and home video devices. It is also known as H.264/MPEG-4 or AVC.

Supporting the MP4 format would make it much easier for our users to view and contribute video on Wikipedia and Wikimedia projects -- and video files could be offered in dual formats on our sites, so we could continue to support current open formats (WebM and Ogg Theora).

However, MP4 is a patent-encumbered format, and using a proprietary format would be a departure from our current practice of only supporting open formats on our sites -- even though the licenses appear to have acceptable legal terms, with only a small fee required.

We would appreciate your guidance on whether or not to support MP4. Our Request for Comments presents views both in favor and against MP4 support, based on opinions we’ve heard in our discussions with community and team members.

Please join this RfC -- and share your advice.

All users are welcome to participate, whether you are active on Commons, Wikipedia, other Wikimedia project -- or any site that uses content from our free media repository.

You are also welcome to join tomorrow's Office hours chat on IRC, this Thursday, January 16, at 19:00 UTC, if you would like to discuss this project with our team and other community members.

We look forward to a constructive discussion with you, so we can make a more informed decision together on this important topic. Keegan (WMF) (talk) 06:46, 16 Ionawr 2014 (UTC)[ateb]

Cynhadledd Hacio'r Iaith golygu

Cofiwch fod Cynhadledd Hacio'r Iaith yng Nghanolfan Bedwyr, Y Ganolfan Rheolaeth Busnes, Prifysgol Bangor, Bangor. 14-15 Chwefror. Chwaneg o wybodaeth yma. Welai chi yno! Heb ei arwyddo: Llywelyn2000

Categorïau bywyd golygu

Dwi am greu categorïau ar gyfer anifeiliaid a phlanhigion yn ôl gwlad, sy'n cyfateb i'r categorïau Saesneg Fauna by country a Flora by country, a'r uwch-gategori Biota by country. Mae gan Eiriadur Bruce "ffawna a fflora" ar gyfer fauna and flora, a "biota" ar gyfer biota, ond hefyd y geiriau cyffredin "anifeiliaid", "planhigion" a "bywyd". Oes unrhyw ffafriaeth dros ddefnyddio'r termau Cymraeg naturiol, neu ddefnyddio'r ffurfiau Lladinaidd/Groegaidd? Unrhyw syniad os yw ysgolion a phrifysgolion yn defnyddio "ffawna", "fflora" a "biota"? —Adam (sgwrscyfraniadau) 19:47, 19 Ionawr 2014 (UTC)[ateb]

Does gen i ddim syniad am y defnydd o'r termau hyn mewn addysg; dyna fyddai'r maen prawf, mae'n debyg. Tra bod 'fflora' yn swnio'n iawn mae 'ffawna' braidd yn lletchwith, er yn ddealladwy. Yn bersonol mae'n well gen i'r enwau Cymraeg naturiol.
ON Mae gennym Categori:Byd natur Cymru (am S. 'Natural history of Wales') hefyd. Anatiomaros (sgwrs) 01:10, 20 Ionawr 2014 (UTC)[ateb]
Rydw i wedi ymchwilio i'r defnydd o'r termau gan brifysgolion, cynghorau lleol a gwarchodfeydd natur. Mae rhai'n defnyddio ffawna a fflora ac eraill yn defnyddio anifeiliaid a phlanhigion, ond ar y cyfan mae Prifysgolion Aberystwyth a Bangor yn defnyddio ffawna a fflora yn eu cyrsiau. Byddai'n defnyddio ffawna, fflora, a biota os nad oes gwrthwynebiad. —Adam (sgwrscyfraniadau) 14:06, 8 Chwefror 2014 (UTC)[ateb]

Cydlynydd Wicipedia y Coleg Cymraeg golygu

Ar yr 21ain o Ionawr 2014 hysbysebodd y Coleg swydd Cydlynydd Wicipedia ar eu gwefan; gweler ein hadran ddatblygu am fwy o fanylion. Llywelyn2000 (sgwrs) 21:36, 23 Ionawr 2014 (UTC)[ateb]

Hysbyseb uniaith Saesneg wedi'i hatal golygu

Ymddangosodd hysbyseb uniaith Saesneg ar Wici am chydig ddyddiau, oherwydd blerwch ar Meta. Ymddiheurwyd i ni yma. Fel arfer mae'r amhrisiadwy Lloffiwr yn ymosod arnyn nhw cyn iddyn nhw ymddangos ond y tro hyn, doedden nhw heb roi rhybydd. I weld yr hysbysebion sydd ar y gweill cymrwch gip ar fama. Llywelyn2000 (sgwrs) 20:50, 6 Chwefror 2014 (UTC)[ateb]

Taflen Ymaelodi Cymraeg golygu

 
Rhan o'r fersiwn Gymraeg.

Mae'r daflen hon wedi'i chyhoeddi (800 copi) ers Rhagfyr. Llywelyn2000 (sgwrs) 09:42, 10 Chwefror 2014 (UTC)[ateb]

Tyrd â chopiau i Hacio'r Iaith 2014 plîs, dw i heb ymaelodi eto ond wedi bwriadu gwneud ers tro.--Rhyswynne (sgwrs) 10:48, 10 Chwefror 2014 (UTC)[ateb]

Universal Language Selector will be enabled by default again on this wiki by 21 February 2014 golygu

On January 21 2014 the MediaWiki extension Universal Language Selector (ULS) was disabled on this wiki. A new preference was added for logged-in users to turn on ULS. This was done to prevent slow loading of pages due to ULS webfonts, a behaviour that had been observed by the Wikimedia Technical Operations team on some wikis.

We are now ready to enable ULS again. The temporary preference to enable ULS will be removed. A new checkbox has been added to the Language Panel to enable/disable font delivery. This will be unchecked by default for this wiki, but can be selected at any time by the users to enable webfonts. This is an interim solution while we improve the feature of webfonts delivery.

You can read the announcement and the development plan for more information. Apologies for writing this message only in English. Thank you. Runa


Prifysgol Bangor yn cydweithio gyda Wicimedia golygu

 

Ymddangosodd y blog / datganiad hwn ar wefan y brifysgol heddiw. Cyfeirir yma at Dafydd Chan a soniodd am ei waith yng Nghynhadledd Hacio'r Iaith fwrw'r Sul; gweler y llun. Gweler y cyflwyniad iddo hefyd ar Gossamer Threads Llywelyn2000 (sgwrs) 18:56, 21 Chwefror 2014 (UTC)[ateb]

Hyd yn oed pe bai modd cael peiriant cyfieithu perffaith o erthyglau mewn iaith arall i'r Gymraeg, yr hyn na ellir cyfieithu ydy naws Cymreig erthygl. Yr wyf wedi ceisio creu erthygl ar Roderic Bowen yma - i mi fel Cymro Cymraeg Pwyllgor Bowen ar Arwyddion Dwyieithog oedd cyfraniad mwyaf y gwron; I Sais roedd ei gefnogaeth i grogi a chwipio troseddwyr yn bwysicach! Er dderbyn y byddai'n braf cael miloedd o erthyglau wedi eu cyfieithu o'r Saesneg i gynyddu rhif y tudalennau Cymraeg, rhaid gochel rhag colli naws Cymreig / Cymraeg ein safwe. Mae'r Gymraeg yn iaith annibynnol a'r gymdeithas Gymraeg yn gymdeithas annibynnol, nid jest cyfieithiad (stim ots pa mor gywir) o'r Saesneg na'r Seisnig! Rwy'n pryderu am wneud cyfiethu Wikipedia yn rhy hawdd AlwynapHuw (sgwrs) 05:08, 25 Chwefror 2014 (UTC)[ateb]
Cytuno'n llwyr. Llywelyn2000 (sgwrs) 08:11, 25 Chwefror 2014 (UTC)[ateb]

Amendment to the Terms of Use golygu


Gwybodlenni Dinasoedd yr DU golygu

Credaf fod angen ei wneud rhywbeth ynglŷn a'r anghysondeb gyda gwybodlenni a ddefnyddir ar gyfer dinasoedd yn y Deyrnas Unedig ar fan hyn (gweler Manceinion, Bryste a Chaerdydd ar gyfer tri math gwahanol a ddefnyddir ar y foment). Rwy'n credu bod angen un gwybodlen i'w gytuno a defnyddio ar draws y bwrdd. Fi jyst yn meddwl ei fod yn edrych yn well i gael rhywfaint o unffurfiaeth. Llewpart (sgwrs) 21:24, 24 Chwefror 2014 (UTC)[ateb]

Gwell nodion cyson na nodion anghyson, mae'n wir. Cathfolant heb fewngofnodi 22:13, 24 Chwefror 2014 (UTC)[ateb]
Cytuno y dylid cael cysondeb. Byddai hyfyd yn gyfle i wirio'r sefyllfa ble mae meysydd coll/anghywir gyda ni hefyd + ein paratoi at ddyfodiad Wikidata. Ddim yn siwr beth mae hyn yn ei olygu o ochr dechnegol, h.y drwy drosi o un gwybodlen i'r llall ac os bydd bot yn gallu gwneud hyn. Oes un gwybodlen yn edrych yn well nag eraill + pa un sy'n cael ei ddefnyddio fwyaf? Wyt ti eisiau llunio cynnig yma i ddewis un yn benodol fel y gallwn bleidleisio arno a rhoi sylw Llewpart?--Rhyswynne (sgwrs) 08:52, 25 Chwefror 2014 (UTC)[ateb]

Ffiwsilwyr Cymreig Brenhinol golygu

Mae 'na ddalen yma o'r enw Ffiwsilwyr Cymreig Brenhinol. Pan grëwyd yr erthygl y teitl oedd Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig sef yr enw byddwn i'n defnyddio ar gyfer y gatrawd - Ffiwsilwyr Brenhinol ydynt o gefndir Cymreig, nid Ffiwsilwyr Cymreig sy'n cefnogi'r Brenin. Mae gwefan y Ffiwsilwyr hefyd yn defnyddio'r enw Cymraeg Y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig [18] a oes modd troi'r enw yn ôl i'r enw a oedd ar yr erthygl wreiddiol? AlwynapHuw (sgwrs) 04:01, 25 Chwefror 2014 (UTC)[ateb]

Cytuno. Ff Br Cy sydd gan Gwyddoniadur Cymru hefyd (gweler tud 359). Llywelyn2000 (sgwrs) 08:28, 25 Chwefror 2014 (UTC)[ateb]
Wedi ei newid.--Rhyswynne (sgwrs) 08:53, 25 Chwefror 2014 (UTC)[ateb]
DiolchAlwynapHuw (sgwrs) 14:10, 25 Chwefror 2014 (UTC)[ateb]

Aseiniaid 12-wythnos i ysgrifennu erthygl ar Wicipedia golygu

Mae'r ddogfen The Syllabus: A 12-week assignment to write a Wikipedia article... wedi'i gyfieithu a'i pharatoi ar gyfer y wasg. A wnewch chi os gwelwch yn dda nodi unrhyw sylwadau neu gywiriadau isod. Fel teitl: "Aseiniaid 12-wythnos i ysgrifennu erthygl ar Wicipedia" neu "Aseiniaid 12-wythnos i ysgrifennu erthygl Wikipedia"? Dwedwch eich dweud! Llywelyn2000 (sgwrs) 10:00, 28 Chwefror 2014 (UTC)[ateb]

Call for project ideas: funding is available for community experiments golygu

 

I apologize if this message is not in your language. Please help translate it.

Do you have an idea for a project that could improve your community? Individual Engagement Grants from the Wikimedia Foundation help support individuals and small teams to organize experiments for 6 months. You can get funding to try out your idea for online community organizing, outreach, tool-building, or research to help make Wicipedia better. In March, we’re looking for new project proposals.

Examples of past Individual Engagement Grant projects:

Proposals are due by 31 March 2014. There are a number of ways to get involved!

Hope to have your participation,

--Siko Bouterse, Head of Individual Engagement Grants, Wikimedia Foundation 19:44, 28 Chwefror 2014 (UTC)[ateb]

Proposed optional changes to Terms of Use amendment golygu

Hello all, in response to some community comments in the discussion on the amendment to the Terms of Use on undisclosed paid editing, we have prepared two optional changes. Please read about these optional changes on Meta wiki and share your comments. If you can (and this is a non english project), please translate this announcement. Thanks! Slaporte (WMF) 21:56, 13 Mawrth 2014 (UTC)[ateb]

Amlygrwydd golygu

Mae gan y Wicipedia Cymraeg yr hawl i greu ei rheolau ei hunain - cyn belled a'n bod o fewn Amcanion Sefydliad Wicimedia. Mae sawl un wedi nodi dros y blynyddoedd gan gynnwys Defnyddiwr:Anatiomaros, Defnyddiwr:AlwynapHuw ac eraill . Mae ein diffiniad ni o beth sy'n haeddu ei le ar wici'n whanol iawn i en e.e. y drafodaeth a gafwyd ar siopau Cymraeg ble rydym yn ehangu'r ffiniau ac yn fwy goddefol nag en ar y meincnodau o'n polisi Wicipedia:Amlygrwydd. Ddoe, ceisiodd un o ddefnyddwyr Wikipedia Saesneg ddileu tudalen gan Defnyddiwr:Adam, gan roi Nodyn:Delete arno. Er mwyn cryfhau ein arwahanrwydd fel Wici, carwn nodi rhai o'r mannau hyn yn y Poisi Amlygrwydd, gyda thrafodaeth ar y dudalen Sgwrs. Llywelyn2000 (sgwrs) 08:32, 14 Mawrth 2014 (UTC)[ateb]

Beth yw'r dudalen cafodd ei nodi i'w dileu? Rwyf wedi gweld eich newidiadau i Wicipedia:Amlygrwydd ac yn cytuno gyda nhw. Cymrodor (sgwrs) 09:29, 14 Mawrth 2014 (UTC)[ateb]
Gweler: Sgwrs Defnyddiwr:TeleComNasSprVen parthed hwn. Llywelyn2000 (sgwrs) 10:07, 14 Mawrth 2014 (UTC)[ateb]
Yn bersonol, byddwn yn gosod y bar o "amlygrwydd" yn llawer is o ran Wicipedia na fyddwn o ran Wikepedia. Prin fod pob Cymro mawr o bwys i'r byd mawr Saesnig. Ei bod yn bwysig i ni sy'n cyfrif ar ein parth bach yma o'r we, nid ei fod yn bwysig i nhw.

Does dim angen Wicipidia i ganfod hanes Lloyd George na Nai Bevan. Y boi na fu'n AS Sir bethma am dri mis cyn etholiad '74 yw'r un byddwn i'n chwilio amdano ar Wicipidia gyntaf! Mi fûm yn mynwenta'n lleol yn niweddar a chanfod bedd Fferyllfardd, yr ail gofadail mwyaf ym mynwent plwyf Llansanffraid Glan Conwy; o chwilota doedd o ddim yn y Bywgraffiadur (rhy ddinod, o bosib) ond roedd llawer o gyfeiriad ato ar Bapurau Cymru ar Lein - dim mor ddinod yn ei ddydd. A dyma i mi cyfyng gyngor y ddadl dinodedd ar Wicipeda; mae'r Cymro Mawr yn cael ei lle ar Wiki'r byd. - mae angen lle i arwyr bro ar Wiki Cymru; parth sy'n ateb y cwestiwn pwy yw'r boi sy'n cael ei gofio gan Ail cofadail mwyaf fy mhentref? nid parth sy'n cyfieithu cac am bethau sy'n haws eu darllen yn y Fain!

Cytuno cant y cant efo'r hyn a ddywedi, ac mae ein Polisi Amlygrwydd yn nodi'r gwahaniaethau hyn: Mae ein diffiniad ni o genedlaethol, yn wahanol i ddiffiniad y Wicipedia Saesneg... Pwynt da gen ti yngly a phobl a pedd yn amlwg yn eu hoed a'u hamser, ond bellach a anghofiwyd amdanyn nhw a dw i wedi newid y polisi i adlewyrchu hyn. Nid adlewyrchiad o Wkipedia ydyan ni ond cefnfor o wybodaeth unigryw am y genedl a thrwy lygad y genedl Gymreig, am amrantiad swil cyn i ni ddiflannu.

There is a cross-wiki discussion in progress as to whether c: should be enabled globally as an interwiki prefix for links to the Wikimedia Commons. As your wiki has several pages or redirects whose titles begin with "C:", they will need to be renamed if this proposal gains consensus. Please take a moment to participate in the discussion. Thank you.

Mae trafodaeth traws-wici ar y gweill ynghylch a c: dylid galluogi yn fyd-eang fel rhagddodiad rhyngwici ar gyfer cysylltiadau i'r Wikimedia Commons. Fel eich wiki wedi sawl tudalennau neu ailgyfeiriadau eu teitlau yn dechrau gyda "C:", bydd angen iddynt gael eu hailenwi os bydd y cynnig hwn yn ennill consensws. Os gwelwch yn dda cymryd hyn o bryd i gymryd rhan yn y drafodaeth. Diolch yn fawr. TeleComNasSprVen (sgwrs) 10:27, 14 Mawrth 2014 (UTC)[ateb]

Many thanks for the explanation, which should have been placed here before clamping a delete template on a page. The page (not pages) you refer to seems to be a typo. I also suggest that you leave a message on the page's creator to explain your actions. Llywelyn2000 (sgwrs) 11:08, 14 Mawrth 2014 (UTC)[ateb]
Helo! May I apologise for the overenthusiasm of my colleague TCNSV (and indeed for speaking in English here) - he should have taken the time to examine your processes. Does there need to be an equivalent of the English "AfD" made for C:CYF, or will a discussion here suffice? I'm currently doing the rounds of wikis with "C:" titles in order to update the Meta discussion on their status. Cheers, Scott (sgwrs) (meta:User:Scott / en:User:Scott) 16:59, 19 Mawrth 2014 (UTC)[ateb]

Her Diwylliant Catalonia golygu

Rhwng 16 Mawrth - 15 Ebrill fe gynhelir Her Diwylliant Catalonia, sef ymgais i gyfieithu erthyglau sy'n ymwneud â diwylliant Catalonia i ieithoedd eraill. Rwyf wedi rhestru fy hun i ddweud y byddaf yn cymryd rhan - beth am i eraill yma wneud yr un fath?

  1. Hyd yn oed os ydych ond yn creu/gwella un erthygl yma am Gatalonia, daw a kudos i'r Wicipedia Cymraeg o gyfeirad y Catalanwyr. Gan bod Wicipedwyr Catalonia yn grwp mawr, gweithgar a threfnus dros ben, synwn i ddim na fyddent yn fodlon talu'r gymwynas yn ôl mewn rhyw ffordd.
  2. Byddai'n dda gweld sut mae'r system yn gweithio, gan y gall fod yn rhywbeth i'w efelychu yn y dyfodol.
  3. Beth am drefnu cwrdd â golygwyr eraill i gyd-olygu. Trefnwch rhywbeth yn lleol i chi gwrdd gydag un golygydd arall mewn tafarn fin nos/ar benwythnos a gweld pwy arall ddaw. Falle hyd yn oed gwahodd ex-pat o Gatalonia draw - mae nifer ohonynt yng Nghymru!

--Rhyswynne (sgwrs) 16:47, 14 Mawrth 2014 (UTC)[ateb]

Mae gennym ni WiciBrosiect tebyg ar y gweill yn barod Rhys: Llwybrau Byw! Beth am fynd ati i greu rhestr o'r 100 person / lle pwysicaf yng Nghymru a gofyn i'r Catalanwyr (a'r 280 iaith arall) greu erthyglau amdanyn nhw a'u nodi yma. Neu fynd ati dy hun i gyfrannu erthyglau, gan eu hychwanegu ar y rhestr yn fama. Mae'r prosiect Catalaneg yn werth chweil, ond yn bersonol, mae creu erthyglau am Gymru a hyfforddi golygyddion newydd yn flaenoriaeth. Llywelyn2000 (sgwrs) 07:30, 16 Mawrth 2014 (UTC)[ateb]

Catalan Culture Challenge golygu

I apologize if this message is not in your language. Please help translate it.

The Catalan-speaking world... Want to find out more? From March 16 to April 15 we will organise the Catalan Culture Challenge, a Wikipedia editing contest in which victory will go to those who start and improve the greatest number of articles about 50 key figures of Catalan culture. You can take part by creating or expanding articles on these people in your native language (or any other one you speak). It would be lovely to have you on board. :-)

We look forward to seeing you!

Amical Wikimedia--Kippelboy (sgwrs) 08:29, 15 Mawrth 2014 (UTC)[ateb]

Hyrwyddo Wicipedia drwy Ffrwti.com golygu

Helo na Wicipedwyr! Dwi wedi dechrau gwefan newydd o'r enw Ffrwti sydd yn casglu newyddion Cymraeg ar y we, creu trends Twitter Cymraeg, a rhoi llwyfan agored i flogwyr gyhoeddi hefyd.

Meddwl o'n i y byddai na fodd cydweithio gyda chi i hyrwyddo Wicipedia? Does dim un gwefan newyddion hyd y gwn yn gwneud unrhyw hyrwyddo cyson o Wicipedia ond hoffwn i feddwl y gallai Ffrwti gyflawni rôl fel'na. Rhai syniadau sydd gen i:

  • Erthygl yr wythnos - tynnu sylw pobl at erthyglau da sydd yn rhoi mwy o wybodaeth yn Gymraeg nag y mae'n nhw mewn ieithoedd eraill. Os gallwch chi awgrymu rhestr o erthyglau galla i sgwennu cofnod wythnosol amdano ar ddiwrnod penodol o'r wythnos.
  • Ymgyrch olygu - cydweithio i hyrwyddo ymgyrch i olygu cyfres o erthyglau dros gyfnod gosodedig. Mae cael Wicipedia iach yn dda i iechyd y we Gymraeg - hpaus i hyrwyddo golygathons arlein bach at feysydd penodol.
  • Gall Robin neu aelodau eraill Wicipedia fewngofnodi i Ffrwti eich hunain ar wahan i hyn i hyrwyddo pethau penodol fel prosiectau GLAM neu ddigwyddiadau. Mae'r adran Ffrwti Ni / cymuned yn agored i chi ei ddefnyddio. Dim ond mewngofnodi gyda login Twitter sydd angen a gallwch sgwennu cofnod. Byddwn ni wedyn yn ei hyrwyddo ar draws ein cyfrifon cymdeithasol.

Hapus i drafod ymellach. Cysylltwch ar gol@ffrwti.com

Rhodri ap Dyfrig Ffrwti.com

Syniadau gwych! Llywelyn2000 (sgwrs) 18:28, 24 Mawrth 2014 (UTC)[ateb]
Dyma'r gyntaf yn y gyfres #wicillun - cofiwch ei aildrydar / postio i Facebook ac ati! Erthygl Wicipedia yr Wythnos...Wenglish --Rhodri ap Dyfrig (sgwrs) 13:31, 31 Mawrth 2014 (UTC)[ateb]

Changes to the default site typography coming soon golygu

This week, the typography on Wikimedia sites will be updated for all readers and editors who use the default "Vector" skin. This change will involve new serif fonts for some headings, small tweaks to body content fonts, text size, text color, and spacing between elements. The schedule is:

  • April 1st: non-Wikipedia projects will see this change live
  • April 3rd: Wikipedias will see this change live

This change is very similar to the "Typography Update" Beta Feature that has been available on Wikimedia projects since November 2013. After several rounds of testing and with feedback from the community, this Beta Feature will be disabled and successful aspects enabled in the default site appearance. Users who are logged in may still choose to use another skin, or alter their personal CSS, if they prefer a different appearance. Local common CSS styles will also apply as normal, for issues with local styles and scripts that impact all users.

For more information:

-- Steven Walling (Product Manager) on behalf of the Wikimedia Foundation's User Experience Design team

Does neb wedi sylwi ar hyn?? A pham mae'r neges yn Saesneg bob amser? Does neb i'w chyfieithu byth? Pfft. Cathfolant (sgwrs) 15:09, 8 Ebrill 2014 (UTC)[ateb]

Categori:Pentrefi Môn a Categori:Pentrefi Ynys Môn yn bodoli golygu

Cynnigaf bod ni'n newid y 80+ sydd yn Categori:Pentrefi Môn a'u hychwanegu at y 70+ yn Categori:Pentrefi Ynys Môn gan mai Ynys Môn ydy enw 'swyddogol' yr sir ac mai dynna sut mae gweddill Cymru wedi eu categoreiddio. Mae hyn bach yn llafurus felly falle gallwn ofyn i bot wneud y gwaith drostom.--Rhyswynne (sgwrs) 21:17, 6 Ebrill 2014 (UTC)[ateb]

Diolch Rhys!    - Llywelyn2000 (sgwrs) 21:57, 6 Ebrill 2014 (UTC)[ateb]


Sianel IRC golygu

Dw i wedi sylwi ar y ffaith nad oes sianel irc gennym ni (wedi anghofio ble mae'r dudalen), tra bod sianeli ar gyfer yr ieithoedd eraill - dyma gamwedd, credaf. Fyddai'n dda o beth i gael sianel irc, ydych chi'n credu? #wikipedia-cy yn fwy na thebyg, byddwn yn hapus i'w greu os mae eisiau arnoch. Cathfolant (sgwrs) 21:51, 15 Ebrill 2014 (UTC)[ateb]

Llwybrau Byw yn helpu ieithoedd leiafrifol! golygu

Dwi ar ganol llwytho 700 o gymunedau Cymru ar Wicipedia Gaeleg yr Alban (neu fama). Mi wnes i yr un peth yr wthnos dwaetha ar Gaeleg Iwerddon a Llydaweg. Dyma help bach i'n brodyr Celtaidd!!! Diolch i Aled am y bas data a Robin am wersi ar AWB. Wici Rhuthun 1 (sgwrs) 10:30, 22 Ebrill 2014 (UTC)[ateb]

British Pathé yn rhyddhau dros 80,000 o ffilmiau golygu

Mae yna stwff da am Gymry ac o Gymru ymhlith yr 80,000 o ffilmiau mae Pathé wedi'u rhyddhau ar drwydded arferol You Tube: pel-droed, rygbi a llawer am Lloyd George ee hwn am Lloyd George. Gweler yma. Mae na drafodaethau'n digwydd ynglyn a'u rhoi ar Comin Wicimedia, ond does na ddim llawer o siawns! Llywelyn2000 (sgwrs) 15:18, 24 Ebrill 2014 (UTC)[ateb]

Y golygydd beta golygu

Oes modd golygu erthyglau ar Wicipedia Cymraeg gyda'r golygydd beta sydd ar gael ar rai Wikipedias eraill? Rwy'n ffeindio ysgrifennu erthyglau o dan y system bresennol yn llafurus iawn weithau! Diolch Llusiduonbach (sgwrs) 09:36, 26 Ebrill 2014 (UTC)[ateb]

Wedi dod o hyd i'r ateb: nac oes, ddim eto oherwydd yr hen ŵ ac ŷ eto! Llusiduonbach (sgwrs) 17:03, 26 Ebrill 2014 (UTC)[ateb]
Fe ddaeth yn rhan gynhenid (default) ar y rhyngwyneb am gyfnod o tua 5 mis. Fel y dywedi, oherwydd problemau gyda'r symbolau gwahanol (didolonod, to bach ayb) fe'i roddwyd fel opsiwn ac mae dal yno. I'w droi ymlaen dos i dy ddewisiadau -> Nodweddion beta -> VisualEditor. Mae na fideo syml hefyd ar sut i'w ddefnyddio yn yr adran Gymorth (y ddewislen ar y chwith). Llywelyn2000 (sgwrs) 17:59, 26 Ebrill 2014 (UTC)[ateb]

Polisi newydd: Dim ymchwil gwreiddiol golygu

Dw i wedi addasu'r fersiwn Saesneg. Sylwadau os gwelwch yn dda, ar dudalen Sgwrs y Polisi. '''Defnyddiwr:John Jones''' (sgwrs) 20:19, 29 Ebrill 2014 (UTC)[ateb]

Gweler yma: Wicipedia:Dim ymchwil gwreiddiol.--Rhyswynne (sgwrs) 22:13, 29 Ebrill 2014 (UTC)[ateb]

No one needs free knowledge in Esperanto golygu

There is a current discussion on German Wikipedia on a decision of Asaf Bartov, Head of WMF Grants and Global South Partnerships, Wikimedia Foundation, who rejected a request for funding a proposal from wikipedians from eowiki one year ago with the explanation the existence, cultivation, and growth of the Esperanto Wikipedia does not advance our educational mission. No one needs free knowledge in Esperanto. On meta there has also started a discussion about that decision.

Wicigyfarfod Caerdydd Rhif 3 golygu

Cynhelir y trydydd Wicigyfarfod yng Nghaerdydd yn y Central Bar, Plas Windsor, ar ddydd Sadwrn 31 Mai. Dyma'r dudalen ar Meta-Wiki am ragor o wybodaeth ac i nodi os oes gennych ddiddordeb mewn dod. Croeso cynnes i bawb! Ham (sgwrs) 16:32, 5 Mai 2014 (UTC)[ateb]

Oes na rywun wedi gadael nodyn ar dudalen sgwrs defnyddwyr - yn eu hysbysu? Efallai na fyddaf, bellach yn medru mynychu'r cyfarfod, oherwydd amgylchiadau personol. Cawn weld! Llywelyn2000 (sgwrs) 05:38, 24 Mai 2014 (UTC)[ateb]
Wedi gwneud ar en:wp ar dudalennau rhai gysylltodd parthed y cyfarfodydd blaenorol. Am wneud yma ar ambell un rwan. --Rhyswynne (sgwrs) 17:49, 28 Mai 2014 (UTC)[ateb]
Bril! Mae dyfodol wici yn dy law! Llywelyn2000 (sgwrs) 06:32, 29 Mai 2014 (UTC)[ateb]

Helo ’na,

Yn ystod mis Mai rydym yn eich gwahodd i gymryd rhan mewn cystadleuaeth ysgrifennu erthyglau am ddinas Umeå yng ngogledd Sweden, sef un o Briffddinasoedd Diwylliant Ewrop eleni. Hoffem ni pe bai’r 40 erthygl pwysig yma yn gallu cael eu cyfieithu yn eich iaith, am ein bod yn bwriadu gosod arwyddion QRpedia nesaf at yr adeiladau hynny, a fydd yn ei wneud yn haws i ymwelwyr fwynhau hanes a diwylliant y ddinas. Umeå felly bydd y ddinas Wicipedia cyntaf yn y gwledydd Nordig, yn dilyn esiampl Trefynwy a Pedia Trefynwy! : )

Gobeithiwn y byddwch yn ymuno â’r hwyl a sbri yn cyfieithu neu’n gwella’r 40 erthygl yma ac yn ennill gwobrwyon gwych!

Yn gywir, John Andersson (WMSE) (sgwrs) 13:50, 8 Mai 2014 (UTC) (rheolwr prosiect Umepedia)[ateb]

ON. Diolch yn fawr iawn i Marc Haynes am gyfieithu’r neges hon! : )

Diddorol gweld wicis eraill yn ceisio hyfforddi eu hymwelwyr (a'u cydwladwyr) ar hanes eu cenedl. Llywelyn2000 (sgwrs) 05:35, 24 Mai 2014 (UTC)[ateb]

Newydd ddod ar draws hwn! Wel am syniad rhagorol! Fedrwn ni lenwi'r blychau? '''Defnyddiwr:John Jones''' (sgwrs) 20:15, 11 Mai 2014 (UTC)[ateb]

Media Viewer golygu


Greetings, my apologies for writing in English.

I wanted to let you know that Media Viewer will be released to this wiki in the coming weeks. Media Viewer allows readers of Wikimedia projects to have an enhanced view of files without having to visit the file page, but with more detail than a thumbnail. You can try Media Viewer out now by turning it on in your Beta Features. If you do not enjoy Media Viewer or if it interferes with your work after it is turned on you will be able to disable Media Viewer as well in your preferences. I invite you to share what you think about Media Viewer and how it can be made better in the future.

Thank you for your time. - Keegan (WMF) 21:29, 23 Mai 2014 (UTC)[ateb]

--This message was sent using MassMessage. Was there an error? Report it!


Logo Wici Cymru golygu

Mae dros blwyddyn wedi mynd heibio ers lansio cystadleuaeth i gael logo ar gyfer Cymdeithas Wici Cymru a dim ond cynnigion Llywelyn2000 wedi'u rhoi ymlaen. Hoffwn gyflwyno fy nghynnig i. Mae'n cadw at yr amodau (e.e. tri lliw), yn defnyddio prif nodweddion logos gwahanol cymunedau Wikimedia, yn adnabyddus fel logo sy'n perthyn i deulu Wikimedia, yn adnabyddus fel rhywbeth sy'n gysylltiedig â Chymru, ac hefyd yn edrych yn digon eglur ac amlwg wrth cael ei ddangos/argraffu yn du a gwyn. Yn syml, yn amlwg, ac yn adnabyddadwy, dwi'n gobeithio. Bydd angen y geiriau "Wici Cymru" neu "Cymdeithas Wici Cymru" wrth y logo ar gyfer rhai defnyddiau - un fersiwn gyda'r enw islaw'r logo a fersiwn arall gyda'r enw i'r dde o'r logo.

Croesawaf eich sylwadau. Cymrodor (sgwrs) 13:55, 25 Mai 2014 (UTC)[ateb]

Perffaith! Llywelyn2000 (sgwrs) 07:13, 28 Mai 2014 (UTC)[ateb]

Cadw neu ddileu? golygu

Mae'r Categori yma'n llawn o bytiau sy'n rhy fach i'w galw'n egin, hyd yn oed! Cadw neu ddileu? Llywelyn2000 (sgwrs) 07:11, 28 Mai 2014 (UTC)[ateb]

Hy! Newydd weld fod y Wici Aeleg wrthi'n uwchlwytho efo bot miloedd o egin-erthyglau llai e.e. West Feliciana Parish, Louisiana! - Llywelyn2000 (sgwrs) 08:56, 28 Mai 2014 (UTC)[ateb]

Cymru ddim yn genedl! golygu

Ar en mae na ddadl ddiddorol yn datblygu: nad yw Cymru ddim yn cael ei derbyn ar restr anthemau cenedlaethol gan nad yw'n genedl sofran! Dw i wedi cyfuno ein herthygl ni i gwmpasu pob cenedl dan haul. Llywelyn2000 (sgwrs) 21:35, 30 Mai 2014 (UTC)[ateb]

Media Viewer is now live on this wiki golygu


 
Media Viewer lets you see images in larger size

Greetings— and sorry for writing in English, please translate if it will help your community,

The Wikimedia Foundation's Multimedia team is happy to announce that Media Viewer was just released on this site today.

Media Viewer displays images in larger size when you click on their thumbnails, to provide a better viewing experience. Users can now view images faster and more clearly, without having to jump to separate pages — and its user interface is more intuitive, offering easy access to full-resolution images and information, with links to the file repository for editing. The tool has been tested extensively across all Wikimedia wikis over the past six months as a Beta Feature and has been released to the largest Wikipedias, all language Wikisources, and the English Wikivoyage already.

If you do not like this feature, you can easily turn it off by clicking on "Disable Media Viewer" at the bottom of the screen, pulling up the information panel (or in your your preferences) whether you have an account or not. Learn more in this Media Viewer Help page.

Please let us know if you have any questions or comments about Media Viewer. You are invited to share your feedback in this discussion on MediaWiki.org in any language, to help improve this feature. You are also welcome to take this quick survey in English, en français, o español.

We hope you enjoy Media Viewer. Many thanks to all the community members who helped make it possible. - Fabrice Florin (WMF) (talk) 21:54, 19 Mehefin 2014 (UTC)[ateb]

--This message was sent using MassMessage. Was there an error? Report it!