Defnyddiwr:Ham II/Pwll tywod 2
Terminoleg (posibl):
Heb ffynhonnell
golyguAmrywiol
golygu-
Erthygl: Catrin o Ferain
-
Erthygl: Beibl a William Morgan
-
Bridget Bevan (portread gan John Lewis)
Y Gogledd
golyguGwynedd, Clwyd
-
Pont-y-Pair (II*) gan Paul Sandby
-
Croes Eliseg (I)
Y Canolbarth
golyguCeredigion, Powys
Y De-Ddwyrain
golyguSir Gâr, Sir Benfro
-
Clodfawr yn WLM 2014
Erthygl: Dolwilym (beddrod siambr)
Y De-Orllewin
golyguMorgannwg, Gwent
Crib Goch
golyguMynydd ym Mharc Cenedlaethol Eryri wedi ei ffurfio trwy effaith rhewlifau yw Crib Goch (923m).
Castell Dolbadarn
golyguSaif Castell Dolbadarn ar fryn creigiog gerllaw Llyn Padarn, bron rhwng y llyn yma a Llyn Peris, yn agos i bentref Llanberis yng Ngwynedd. Dolbadarn oedd prif amddiffynfa Tywysogion Gwynedd yng nghantref Arfon. Adeiladwyd y castell gan Llywelyn ap Iorwerth (Llywelyn Fawr) i amddiffyn y ffordd trwy Nant Peris o'r arfordir gogleddol i galon Eryri. Credir fod caer wedi bod yno o'r chweched ganrif, ond mae'r rhannau hynaf o'r adeiladau presennol yn dyddio o gyfnod Llywelyn.
Eglwys Gadeiriol Tyddewi
golyguEglwys Gadeiriol Tyddewi, yn ninas fechan Tyddewi yn Sir Benfro, yw canolfan Esgobaeth Tyddewi a phrif sedd Esgob Tyddewi. Saif yr eglwys gadeiriol ar y safle lle yn ôl traddodiad y sefydlwyd cymuned o fynachod gan Dewi ei hun yn y 6ed ganrif.
Stadiwm y Mileniwm
golyguSaif Stadiwm y Mileniwm yng Nghaerdydd, ar lannau Afon Taf. Dyma stadiwm cenedlaethol Cymru. Fe'i hadeiladwyd yn 1999, ar gyfer Cwpan Rygbi'r Byd. Fe gostiodd £126 miliwn i Undeb Rygbi Cymru ac fe'i hariannwyd gan fuddsoddiad preifat, arian y Loteri a benthyciadau.
Pont y Borth
golyguPont y Borth yw’r bont barhaol gyntaf rhwng Ynys Môn a’r tir mawr, ac mae’n parhau i gludo’r A5.
Abaty Tyndyrn
golyguSaif Abaty Tyndyrn ar lan Afon Gwy ger pentref Tyndyrn, Sir Fynwy. Sefydlwyd yr abaty gan Walter de Clare, Arglwydd Cas-gwent, ym 1131. Hon oedd ond yr ail sefydliad Sistersaidd ar Ynys Prydain a'r cyntaf yng Nghymru.
Castell Caerffili
golyguCastell yng nghanol tref Caerffili a adeiladwyd rhwng 1268 a 1271 yw Castell Caerffili. Castell tua 1.2ha cydganol yw e gyda ffos o'i gwmpas. Hwn yw'r castell mwyaf yng Nghymru a'r ail fwyaf yng ngwledydd Prydain. Adeiladwyd y castell ar safle hen gaer Rufeinig gynharach, gan Gilbert de Clare, Arglwydd Morgannwg a oedd o dras Normanaidd. Yr amcan oedd rhwystro'r Tywysog Llywelyn ap Gruffudd rhag ychwanegu'r tiroedd i'w Dywysogaeth. Llwyddodd Llywelyn gipio'r castell yn 1270 ond mewn blwyddyn roedd de Clare yn dechrau ailadeilad'r castell eto
Gregynog
golyguPlasdy hanesyddol yw Gregynog, a leolir yng nghymuned Tregynon, Powys. Caiff ei redeg heddiw fel canolfan cynadledda gan Brifysgol Cymru. Roedd yn rhodd i'r brifysgol ym 1963 gan y chwiorydd Margaret a Gwendoline Davies, wyresau'r gŵr busnes llwyddiannus, David Davies Llandinam. Mae'n gartref i Wasg Gregynog sy'n argraffu llyfrau cain mewn argraffiadau cyfyngedig. Er 1932, cynhelir Gŵyl Gerddoriaeth Gregynog yno, sydd wedi denu rhai o enwau mawr y byd cerddorol fel Ralph Vaughan Williams, Gustav Holst, Benjamin Britten ac Edward Elgar.
Castell Harlech
golyguSaif Castell Harlech uwchben dref Harlech a Bae Tremadog yn ne Gwynedd. Mae'r castell heddiw yn ngofal Cadw. Gosodwyd y castell ar restr Safleoedd Treftadaeth y Byd UNESCO, fel un o gestyll a muriau trefol Edward I, brenin Lloegr yng Ngogledd Cymru, yn 1986. Adeiladwyd y castell gan Edward I, brenin Lloegr, rhwng 1283 a 1290. Cynlluniwyd y castell consentrig gan James o St George.
Eglwys Gadeiriol Llandaf
golyguLleolir Eglwys Gadeiriol Llandaf yn Llandaf, sy'n un o faesdrefi Caerdydd. Hi yw'r brif gadeirlan a'r unig gadeirlan Anglicanaidd yn y brifddinas. Sefydlwyd cysegr yno yn y flwyddyn 560 OC ac mae'r gadeirlan bresennol wedi'i chysegru i'r Saint: Pedr, Paul, Dyfrig, Teilo ac Euddogwy. Mae'n ganolfan i Esgobaeth Llandaf.
Yr Hen Goleg, Aberystwyth
golyguMae adeilad yr Hen Goleg ar rodfa’r môr yn Aberystwyth yn adeilad rhestredig Gradd I ac yn eiddo i Brifysgol Aberystwyth. Mae’n enghraifft o adeilad yn yr arddull neo-gothig o’r 19fed ganrif. Yr adeilad hwn oedd yr adeilad cyntaf i'w brynu yn yr ymgyrch i sefydlu Prifysgol Cymru. Erbyn 2014 mae’r rhan fwyaf o weithgareddau’r coleg wedi cael eu symud o’r adeilad hwn, ac mae cynlluniau ar y gweill i addasu’r adeilad at ddefnydd newydd.
Bae Caerdydd
golyguArdal yn Nghaerdydd, prifddinas Cymru, yw Bae Caerdydd. Roedd porthladd Caerdydd yn cael ei adnabod fel Tiger Bay, ac ar un adeg hwn oedd un o borthladdoedd mwyaf prysur y byd. Ar ôl cyfnod hir o ddirywiad, mae'r ardal wedi cael ei hadnewyddu ac yn cael ei hadnabod fel 'Bae Caerdydd'. Ond mae llawer o bobol leol yn dal i'w alw e'n Tiger Bay o hyd. Mae'r ardal yn boblogaidd ar gyfer y celfyddydau, bywyd nos ac adloniant. Daw'r twf aruthrol yma ar ôl adeiladu argae ar draws y bae, gan greu llyn enfawr. Yr oedd hyn yn ddadleuol iawn ar y pryd, ac yr oedd hefyd yn ofid fod y gymuned leol a oedd yn bodoli yn Tiger Bay yn cael ei chwalu.
Eglwys Gadeiriol Llanelwy
golyguEglwys Gadeiriol Llanelwy yw cadeirlan Esgobaeth Llanelwy a sedd Esgobion Llanelwy, yn Llanelwy, Sir Ddinbych.
Sgwd yr Eira
golyguRhaeadr yw Sgwd yr Eira, ar Afon Hepste, ger Ystradfellte, Powys. Mae'n gorwedd yn ardal fynyddig y Fforest Fawr ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ac mae'n un o atyniadau mwyaf adnabyddus y parc hwnnw. Mae'n disgyn 27 metr (tua 50 troedfedd) dros dalcen o graig rhwng dwy lan yr afon, sy'n culhau yma. Ar ôl llifo dros y graig mae'r afon yn lledu eto. Un filltir yn is i lawr mae'n ymuno yn Afon Mellte. Ystyr y gair 'sgwd' yn nhafodiaith De Cymru yw "rhaeadr" ac mae 'eira' yn cyfeirio at wynder y dŵr sy'n disgyn dros y graig, yn ôl pob tebyg.
Neuadd y Ddinas, Caerdydd
golyguAdeilad ym Mharc Cathays, Caerdydd, yw Neuadd y Ddinas, a'i adeiladwyd rhwng 1901 a 1905. Fe'i gynlluniwyd ar y cyd â Llys y Goron Caerdydd gan y penseiri Lanchester, Stewart a Rickards, a enillodd y gystadleuaeth ar gyfer y ddau adeilad ym 1897. Ystyrir Neuadd y Ddinas yn un o uchafbwyntiau'r adfywiad o bensaernïaeth Baróc yn nheyrnasiad Edward VII.
Castell Conwy
golyguCastell canoloesol yn nhref Conwy ar lan afon Conwy yw Castell Conwy. Cynllunwyd y castell gan y pensaer Ffrengig James o St George ac fe'i adeiladwyd gan Edward I, brenin Lloegr, er fod Rhisiart o Gaer yn gyfrifol yn y dechrau (1283). Adeiladwyd y castell a'r dref gaerog ar ben adfeilion Abaty Aberconwy, a ddinistrwyd gan Edward er mwyn defnyddio'r safle, ac mae mur o gwmpas y dref gyfan.
Pwll Mawr
golyguAmgueddfa cloddio glo ym Mlaenafon, Torfaen, yn ne Cymru ydy Amgueddfa Lofaol Cymru neu Pwll Mawr. Mae'n un o amgueddfeydd ffederal Amgueddfa Cymru.
Llyfrgell Genedlaethol Cymru
golyguLlyfrgell adnau cyfreithiol Cymru yw Llyfrgell Genedlaethol Cymru, a leolir yn Aberystwyth. Mae ganddi gyfrifoldeb dros gasglu deunydd print, ffotograffau, mapiau, lluniau, llawysgrifau, CD-ROMau ac archifau gyda phwyslais arbennig ar ddeunydd Cymreig a Cheltaidd. Sefydlwyd y Llyfrgell yn 1907 wedi ymgyrch hir a phoblogaidd a gychwynwyd yn Eisteddfod Genedlaethol Yr Wyddgrug 1873. Cedwir rhai o'r llawysgrifau Cymreig pwysicaf yn Adran Llawysgrifau a Chofysgrifau'r llyfrgell, gan gynnwys Llyfr Du Caerfyrddin, Llyfr Taliesin, Llyfr Gwyn Rhydderch, Y Llyfr Du o'r Waun a Llawysgrif Hendregadredd. Yr oedd nifer o'r llawysgrifau hyn yn rhodd i'r llyfrgell newydd gan Syr John Williams yn 1909. Defnyddiwyd yr adeilad am y tro cyntaf ym 1916.
Castell Caernarfon
golyguCastell sydd yng nghanol tref Caernarfon, Gwynedd ac ar lannau Afon Seiont ac Afon Menai yw Castell Caernarfon, safle strategol a phwysig iawn yn ystod goresgyniad y Normaniaid, y Sacsoniaid a'r Saeson. Fe'i codwyd gan Edward I, brenin Lloegr rhwng 1283 a 1330. Mae'n gastell consentrig wedi ei gynllunio gan James o St George, a'r muriau wedi cael eu cynlluno i edrych fel muriau amddiffynnol Caergystennin. Mae Castell Caernarfon yn gampwaith ymhlith cestyll gogledd Cymru ac, fel un o'r cestyll hynny, mae ar restr Safleoedd Treftadaeth y Byd UNESCO ers 1986.