Nanternis

pentrefan yng Ngheredigion

Pentref bychan yng nghymuned Llandysiliogogo, Ceredigion, yw Nanternis. Gorwedd Nanternis ar lethrau Cwm Soden tua dwy filltir i'r de o dref fechan Ceinewydd. Mae Afon Soden a red drwy'r pentref yn llifo i'r môr i'r gogledd o Gwmtydu tua milltir i'r gogledd-orllewin ar lan Bae Ceredigion.

Nanternis
Mathpentrefan Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCeredigion Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.184134°N 4.380797°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auElin Jones (Plaid Cymru)
AS/auBen Lake (Plaid Cymru)
Map

Yn yr Oesoedd Canol roedd yn rhan o gwmwd Caerwedros. Heddiw mae'n rhan o gymuned a ward Llandysiliogogo. Ceir yno nifer o anheddau, ffermydd a chapel lle mae Eglwys Annibynnol Nanternis (1867-) yn parhau i addoli ers dros 150 o flynyddoedd. Codwyd festri'r capel yn 1925. Mae'n parhau i gael defnydd crefyddol a chymdeithasol gan drigolion yr ardal. Mae Capel Neuadd (MC) sydd gerllaw i gyfeiriad Llwyndafydd wedi ei ddatgorffori.

Mae'r pentrefi bychain cyfagos yn cynnwys Caerwedros, Llwyndafydd a Cross Inn.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Elin Jones (Plaid Cymru)[1] ac yn Senedd y DU gan Ben Lake (Plaid Cymru).[2]

Cyfeiriadau golygu