Pentref bychan yn sir Ceredigion yw Llwyn-y-groes. Fe'i lleolir yn ne'r sir, tua 8-9 milltir i'r de-ddwyrain o Aberaeron.

Llwyn-y-groes
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCeredigion Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.187874°N 4.056545°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auElin Jones (Plaid Cymru)
AS/auBen Lake (Plaid Cymru)
Map

Mae'n rhan o gymuned Nancwnlle a phlwyf Gartheli. Saif ar groesffordd wledig gyda brif lôn yn ei gysylltu â phentref Capel Betws Leucu a Dyffryn Aeron, tua milltir i'r gogledd, a gyda Llangybi i'r de. Rhed ffordd arall o Lwyn-y-groes i gyfeiriad Dyffryn Teifi, i'r dwyrain.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Elin Jones (Plaid Cymru)[1] ac yn Senedd y DU gan Ben Lake (Plaid Cymru).[2]

Cyfeiriadau golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am Geredigion. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.