Henfynyw

pentref a chymuned yng Ngheredigion

Pentref a chymuned yng nghanolbarth Ceredigion yw Henfynyw ("Cymorth – Sain" ynganiad ). Saif y pentref ger y briffordd A487 ychydig i'r de o dref Aberaeron.

Henfynyw
Eglwys Dewi Sant, Henfynyw
Mathcymuned, pentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCeredigion Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.2°N 4.3°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000369 Edit this on Wikidata
Cod postSA46 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auElin Jones (Plaid Cymru)
AS/auBen Lake (Plaid Cymru)
Map

Heblaw pentref Henfynyw ei hun, mae Cymuned Henfynyw yn cynnwys pentrefi Ffos-y-ffin, Llwyncelyn a Derwen-gam. Roedd poblogaeth y gymuned yn 1,067 yn 2001.

Ceir cysylltiad cryf rhwng yr ardal yma a Dewi Sant. Dywedir iddo gael ei addysgu yn Henfynyw, ac yn ôl un traddodiad, yma y cafodd ei eni. Cysegrir yr eglwys leol iddo. Nid yw'r adeilad presennol yn hen ond ceir Ffynnon Ddewi gerllaw a gysylltir â hanes y sant.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Elin Jones (Plaid Cymru)[1] ac yn Senedd y DU gan Ben Lake (Plaid Cymru).[2]

Cyfrifiad 2011 Golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5][6]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Henfynyw (pob oed) (1,045)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Henfynyw) (557)
  
54.3%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Henfynyw) (620)
  
59.3%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer rhwng 16 – 64 oed sydd mewn gwaith (Henfynyw) (161)
  
35.3%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau Golygu

  1. Gwefan Senedd Cymru
  2. Gwefan Senedd y DU
  3. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  4. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  5. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  6. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen marw]