Southgate, Ceredigion

pentref yng Ngheredigion

Pentref ar gwr deheuol Aberystwyth, Ceredigion, yw Southgate[1] (Saesneg; ymddengys nad oes enw Cymraeg).[2] Fe'i lleolir yng nghymuned Llanfarian ar groesffordd ar y ffordd A487 ger Penparcau, rhwng Llanbadarn Fawr a Rhydyfelin. Saif Southgate ar dir rhwng afon Rheidol ac afon Ystwyth. Mae wedi dod yn faesdref allanol o Aberystwyth erbyn hyn.

Southgate
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCeredigion Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.398316°N 4.063513°W Edit this on Wikidata
Cod OSSN595795 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auElin Jones (Plaid Cymru)
AS/auBen Lake (Plaid Cymru)
Map
Erthygl am y pentref yng Ngheredigion yw hon. Am ddefnydd arall o'r enw gweler Southgate.

Enwyd y pentref ar ôl tollborth deheuol Aberystwyth. Ailgodwyd adeilad y tollborth yn Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan.

Y "Southgate" gwreiddiol, sydd yn Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan heddiw

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Elin Jones (Plaid Cymru)[3] ac yn Senedd y DU gan Ben Lake (Plaid Cymru).[4]

Cyfeiriadau

golygu
  1. British Place Names; adalwyd 13 Rhagfyr 2019
  2. Enwau Cymru, sy'n rhoi Southgate fel enw'r pentref
  3. Gwefan Senedd Cymru
  4. Gwefan Senedd y DU
  Eginyn erthygl sydd uchod am Geredigion. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.