Llwyndafydd

pentref bychan ger Cwmtydu, Ceredigion

Pentref bychan yn ne Ceredigion yw Llwyndafydd (weithiau Llwyn-dafydd). Mae'n gorwedd rhai milltiroedd i'r de o dref fechan Ceinewydd ac yn rhan o gymuned Llandysiliogogo. Mae ar lan Afon Ffynnon Ddewi sy'n llifo i'r môr ger Cwmtydi, tua 2 filltir i'r gogledd-orllewin ar lan Bae Ceredigion.

Llwyndafydd
Eglwys Llandysiliogogo, Llwyndafydd, Ceredigion, Wales 2.jpg
Eglwys Llantysiliogogo, ger Llwyndafydd
Math pentrefan Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Ceredigion Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Cyfesurynnau 52.1732°N 4.384365°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/au Elin Jones (Plaid Cymru)
AS/au Ben Lake (Plaid Cymru)

Yn "Neuadd Llwyndafydd" y trigai yr uchelwr Dafydd ab Ieuan, a chredir i Harri Tudur ymweld ag ef ar ei daith i Frwydr Bosworth.[1]

Credir mai yn Llwyndafydd y bu canolfan gynharaf cwmwd Caerwedros, er bod pentref Caerwedros, i'r gogledd o Lwyndafydd, yn dwyn enw'r hen gwmwd.

Mae'r pentrefi bychain cyfagos yn cynnwys Caerwedros a Nanternis. Saif hen domen mwnt a beili Castell Caer Wedros tua hanner kilometr i'r gogledd-ddwyrain o Lwyndafydd.

Cynrychiolir y pentref yn y Cynulliad Cenedlaethol gan Elin Jones (Plaid Cymru) a'r Aelod Seneddol yw Ben Lake (Plaid Cymru).[2][3]

CyfeiriadauGolygu

  1. google.co.uk; Gweler: Bosworth: The Birth of the Tudors gan Chris Skidmore. sillefir Llwyndafydd yma fel 'Llwyn Dafydd'. Adalwyd 6 Awst 2020.
  2. Gwefan y Cynulliad; adalwyd 24 Chwefror 2014
  3. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:


  Eginyn erthygl sydd uchod am Geredigion. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.