Agor y brif ddewislen

Pentref bychan gwledig yn sir Ceredigion yw'r Cnwch Coch (weithiau 'Cnwch-coch'). Fe'i lleolir yng ngogledd y sir tua 8-9 milltir i'r dwyrain o Aberystwyth.

Cnwch Coch
Daearyddiaeth
Sir Ceredigion Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Gwleidyddiaeth
AC/au Elin Jones (Plaid Cymru)
AS/au Ben Lake (Plaid Cymru)
Cnwch Coch.

Gorwedd y Cnwch Coch ym mhlwyf eglwysig Llanfihangel-y-Creuddyn, tua hanner ffordd rhwng pentref Llanfihangel, i'r gogledd, a'r Trawscoed i'r de. Mae'n rhan o gymuned Trawsgoed.

Ceir eglwys yn y pentref. Tardda ffrwd Afon Magwr ger y Cnwch Coch, gan lifo wedyn dros gwrs byr i ymuno ag Afon Ystwyth ger Abermagwr.

Ystyr y gair cnwch yw 'chwydd, crwmp' (sef codiad tir yn yr achos yma): mae'n elfen gyffredin mewn enwau lleoedd yng ngogledd Ceredigion ond prin yw'r enghreifftiau y tu allan i'r ardal honno.[1]

Cynrychiolir y pentref yn y Cynulliad Cenedlaethol gan Elin Jones (Plaid Cymru) a'r Aelod Seneddol yw Ben Lake (Plaid Cymru).[2][3]

CyfeiriadauGolygu

  1. Geiriadur Prifysgol Cymru, cyf 1, tud. 523.
  2. Gwefan y Cynulliad; adalwyd 24 Chwefror 2014
  3. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014



  Eginyn erthygl sydd uchod am Geredigion. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.