Henllan, Ceredigion

pentref yng Ngheredigion

Pentref yng nghymuned Llandyfrïog, Ngheredigion yw Henllan ("Cymorth – Sain" ynganiad ). Saif ar isffyrdd oddi ar ffordd yr A484 o Aberteifi i Gaerfyrddin, tua 4 milltir i’r dwyrain i Gastellnewydd Emlyn a bellach, oherwydd datblygiadau llawn bylchau mae wedi ymuno â phentref bach 'Trebedw'. Saif y pentref i'r de i Reilffordd Dyffryn Teifi yng nghanol coetiroedd serth (llawer ohonynt â Gorchmynion Cadw Coed arnynt) yn Nyffryn Teifi.

Henllan
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirLlandyfrïog Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.0391°N 4.3962°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruElin Jones (Plaid Cymru)
AS/au y DUBen Lake (Plaid Cymru)
Map
Erthygl am y pentref yng Ngheredigion yw hon. Am ddefnydd arall o'r enw gweler Henllan.

Mae rhagor na 90 o aneddau yn Henllan. Mae yno swyddfa bost a chyfleusterau cymunedol lleol; mae'n dibynnu ar Aber-banc am ysgol gynradd ac ar Gastellnewydd Emlyn am siopau a gwasanaethau eraill. Caiff yr iaith Gymraeg ei siarad yn feunyddiol yno. Mae Henllan ar lwybr bysys rhwng Llandysul a Chastellnewydd Emlyn, ac mae gwasanaeth dyddiol arno. Mae nifer o fentrau yn y pentref, gan gynnwys yr hen orsaf reilffordd, sy'n ganolfan i Gymdeithas Gwarchod Rheilffordd Dyffryn Teifi, ac yn gyfleuster twristaidd pwysig i'r ardal. Ceir ystafelloedd arwerthu yn y pentref ac i’r de mae hen wersyll carcharorion rhyfel sy'n cael ei ddefnyddio at ddibenion diwydiant ysgafn a storio bellach.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Elin Jones (Plaid Cymru)[1] ac yn Senedd y DU gan Ben Lake (Plaid Cymru).[2]

Cyfeiriadau

golygu