Pla biwbonig

(Ailgyfeiriad o Pla llinorog)

Un o dri math o bla a achosir gan facteria Yersinia pestis yw pla biwbonig neu pla llinorog.[1] ("Pla septisemig" a "phla niwmonig" yw'r ddau arall.) Lledaenir pla bubonig fel arfer gan chwain heintus o anifeiliaid bach (yn enwedig o lygod mawr). Ar ôl i chwain heintus frathu bod dynol, mae'r bacteria'n teithio trwy'r pibellau lymff i nod lymff, gan beri iddo chwyddo. Un i saith diwrnod ar ôl i'r dioddefwr gael ei heintio, bydd ef neu hi'n profi symptomau gan gynnwys twymyn, cur pen, a chwydu. Mae'r nodau lymff yn yr ardal agosaf at y brathiad chwain yn mynd yn chwyddedig ac yn boenus, ac efallai y byddant yn torri ar agor.

Pla biwbonig
Enghraifft o'r canlynoldosbarth o glefyd Edit this on Wikidata
Mathy pla, clefyd nod lymff, clefyd Edit this on Wikidata
SymptomauOerni, llethdod edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Rhestr Afiechydon
Pigiad
Pwyswch ar dangos i weld y rhestr.
Y blwch hwn: gweld  sgwrs  golygu

Heb driniaeth, mae pla yn arwain at farwolaeth o 30% i 90% o'r rhai sydd wedi'u heintio. Fel arfer mae marwolaeth, os yw'n digwydd, yn digwydd o fewn deg diwrnod. Nid oes brechlyn effeithiol i atal pla. Mae sawl gwrthfiotig yn effeithiol ar gyfer triniaeth, ond hyd yn oed gyda thriniaeth, mae tua 10% o ddioddefwyr yn marw.

Rhwng 2010 a 2015 roedd 3,248 o achosion wedi'u dogfennu ledled y byd, a arweiniodd at 584 o farwolaethau. Y gwledydd sydd â'r nifer fwyaf o achosion yw Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo, Madagasgar a Periw.

Y pla biwbonig oedd achos y Pla Du a ysgubodd trwy Asia, Ewrop ac Affrica yn y 14g gan ladd amcangyfrif o 50 miliwn o bobl. Roedd y clefyd hefyd yn gyfrifol am y Pla Iwstinian yn yr Ymerodraeth Fysantaidd yn y 6g, yn ogystal â'r epidemig enfawr a effeithiodd ar Tsieina, Mongolia ac India a ddechreuodd yn nhalaith Yunnan ym 1855.

Mae'r term "biwbonig" yn deillio o'r gair Groeg βουβών, sy'n golygu "arffed".

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Plague"; Cyfundrefn Iechyd y Byd; adalwyd 19 Awst 2020