Gwyddoniaeth a thechnoleg yng Nghymru

Gwyddonwyr golygu

 
William Jones (mathemategydd); y cyntaf i ddefnyddio'r symbol π (/p/).

Cyfranodd llawer iawn o wyddonwyr o Gymry at wyddoniaeth dros y 400 mlynedd diwethaf, gan gynnwys dau enillydd y wobr Nobel: Brian David Josephson (g. 1940) a Bertrand Russell (18 Mai 1872 – 2 Chwefror 1970), y biolegydd Alfred Russel Wallace a'r economegydd Clive W. J. Granger (g. 1934). Robert Recorde (1510 - 1558) o Ddinbych-y-pysgod a greodd symbol yr hafaliad (=) ac William Jones (1675 - 1749) oedd y cyntaf i ddefnyddio'r symbol π (/p/) i gynrychioli cymhareb y cylchedd i'r diamedr yn 1796.

Gwyddonwyr benywaidd o Gymru golygu

Ymhlith gwyddonwyr benywaidd o Gymru mae:[1]

  • Lucy Thomas (1781-1847): Fe'i gelwir yn "Fam diwydiant glo Cymru". Gyda'i gŵr Robert Thomas a'i mab William, sefydlodd system i fasnachu glo Cymru yn Llundain.
  • Dr Martha Hughes Cannon (1857-1932): fe'i ganwyd yn Llandudno a daeth yn ffisegydd a Suffragette amlwg yn Unol Daleithiau America. Ceir cerflun wyth troedfedd yn Utah i'w choffâu.
  • Yr Athro Gwendolen Rees FRS (1906-1994): swolegydd a'r arbenigwraig mwyaf blaenllaw ym maes mwydod parasytic. Ym 1971 fe'i hetholwyd yn Gymrawd o'r Gymdeithas Frenhinol: y Cymro neu Gymraes cyntaf.
  • Yr Athro Tavi Murray. yn y Mwmbwls mae Tavi'n byw ac mae'n arbenigwraig ar fforio pegynol (polar explorer) ac yn rhewlifwraig. Mae wedi gwneud ymchwil trylwyr iawn i mewn i effaith rhewlifoedd yn ymdoddi ac yn codi lefel y môr.
  • Beti Williams MBE: cyn-Gyfarwyddwr IT Cymru. Dros y blynyddoed bu'n flaenllaw iawn yn ysbrydoli pobl ifanc i ymgymryd a gyrfa mewn technoleg a chyfrifiadureg.
  • Yr Athro Karen Holford: peiriannydd a ffisegydd siartredig sydd wedi arwain ymchwil i gynllunio ceir e.e. Jaguar, Rover a BMW. Mae wedi derbyn nifer o wobrau am ei gwaith dros y blynyddoedd gan gynnwys gwobr yr Academi Brenhinol yn 2002 a Chymraes y Flwyddyn yn 2006.
  • Yr Athro Meena Upadhyaya: genetegydd meddygol sydd wedi ennill clod rhyngwladol. Mae ei gwaith yn cynnwys ymchwilio i wella bywydau pobl sydd a chyflwr meddygol etifeddol enbyd. Yn 2011 sefydlodd Upadhyaya Wobrau ar gyfer Asiaid am Gyflawni gwaith Gwyddonol.

Bioamrywiaeth ac Iechyd golygu

Mae'r sector bioamrywiaeth ac iechyd yn un bwysig yng Nghymru, sy'n un o ardaloedd mwyaf blaenllaw Ewrop gyda dros 250 o gwmniau wedi'u lleoli yno.[2] Ceir sawl disgyblaeth yn y sector sy'n deillio o'r prifysgolion: meddygaeth, electroneg, cemeg a chyfrifiadureg. Datblygir cyffuriau newydd gan Ysgol Fferylliaeth Cymru ble mae molecylau bach a mawr sy'n seiliedig ar bolymerau yn cael eu dyfeisio a'u gwerthuso er mwyn trin clefydau fel canser, heintiau firol a bacteriol a chlefydau trofannol.

Ymhlith y cyrff blaenllaw byd-eang mae Uned Ymchwil Trin Briwiau, Prifysgol Caerdydd sy'n arbenogo mewn briwiau megis wlserau a daw 5 prifysgol at ei gilydd yn y Sefydliad Peirianneg ac Atgyweirio Meinwe. Mae TrichoTech, sydd wedi'i sefydlu yng Nghaerdydd, wedi dyfeisio offer i ganfod pa gyffuriau y bu pobl yn eu cymryd drwy ddefnyddio samplau o'u gwallt.[3] Defnyddir cynrhon gwyrdd yn ne Cymru i drin wlserau a briwiau eraill ac fe'u defnyddir drwy Ewrop. Defnyddir protocol yr Athro Archie Cochrane, Caerdydd fel safon fyd-eang ar gyfer gwerthuso cyffuriau ac mae Canolfan Delweddu Ymchwil yr Ymennydd (CUBRIC), Prifysgol Caerdydd yn un o'r cyntaf drwy wledydd Prydain i gyfuno technolegau diweddaraf o sganio'r ymennydd.

Un o batholegwyr mwyaf blaenllaw'r byd ydy Syr Bernard Knight, sydd wedi cynnal dros 25,000 post mortem.[4]

Adeiledd golygu

Bu Cymru ar y blaen o ran adeiladu pontydd ac adeiladau eraill drwy'r defnydd helaeth o garreg a haearn bwrw. Yr enghraifft gynharaf drwy'r DU o bont ffordd a gynhaliwyd gan geblau yw honno sy'n croesi Afon Wysg yn Stryd George yng Nghasnewydd; cwbwlhawyd pont grog haearn gynta'r byd yn 1826 gan Thomas Telford sef Pont y Borth. Cododd Telford draphont yr un mor enwog yn 1805 ac sy'n garreg filltir yn hanes camlesi, a hynny dros Ddyffryn Dyfrdwy ym Mhontcysyllte rhwng pentrefi Trefor a Froncysyllte, i'r dwyrain o Langollen.

Telegyfathrebu a Thechnoleg Gwybodaeth golygu

 
Teledeipiadur David Edward Hughes; gwnaed gan Siemens und Halske, yr Almaen gyda phellter o 300-400 km. Amgueddfa (Muzeum Techniki).

Gwyddonydd a dyfeisydd cynnar oedd David Edward Hughes (16 Mai 183122 Ionawr 1900) o'r Bala a ddyfeisiodd y teledeipiadur (neu'r telegraph) yn 1855 a'r meicroffon yn 1878. Bu Cymru'n flaenllaw iawn yn y sector telegyfathrebu o hynny hyd at waith cyfoes ar y rhyngrwyd gan Donald Watts Davies a arloesodd drwy rannu data digidol yn "becynnau" yn y Labordy Ffisegol Cenedlaethol yn y 1960au. Yn 1911 gwnaed trosglwyddiad ffôn radio cyntaf'r byd o'r awyr i'r ddaear gan Harry Grindell Matthews yn Nhrelái. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, datblygwyd Radar i'w defnyddio yn yr awyr gan Edward George Bowen CBE (1911–1991).

Ceir 9 Technium yng Nghymru ac neilltuwyd dwy ohonynt ar gyfer y sector telegyfathrebu: Technium Digidol Abertawe (technoleg amlgyfrwng, animeiddio, e-ddysgu ayb) a Thechnium OpTIC yn Llanelwy sy'n gyfrifol am optroneg.

Trosglwyddwyd tonnau radio dros ddŵr am y tro cyntaf erioed gan Guglielmo Marconi rhwng Larnog ac Ynys Echni yn y Môr Hafren ym 1867.

Ynni golygu

Mae Cymru wastad wedi bod yn gyfoethog o ran deunyddiau crai ynni naturiol a chynaladwy gyda llawer o danwyddau ffosil megis glo a nwy o dan y môr - a cheir mwy na digon o law a gwynt! Mae Cymru'n arwain yn y maes hwn yn ôl llawer[5] e.e. mae fferm wynt Gwynt y Môr ger y Rhyl ar fin cynhyrchu 750 MW o drydan sy'n ei gwneud yr ail fwyaf yn y byd yn 1914. Bu glo Cymru'n troi tyrbeini stêm llongau a threnau am ganrifoedd a cheir aceri o goed a phlanhigion eraill sydd wedi'u defnyddio drwy'r oesau i greu ynni.

Defnyddiwyd y môr a'i lanw i droi melin ŷd yng Nghaeriw yn y 16g a chafodd y batri nwy cyntaf (sef rhagflaenydd i'r gell danwydd) ei datblygu yng nghanol y 19g gan William Robert Grove (11 Gorffennaf 18111 Awst 1896) o Abertawe. Ym 1974 agorwyd Gorsaf Bŵer Dinorwig ar gost o £425 million; dyma orsaf storio a phwmpio dŵr mwya'r byd.

Mae cwmni Enfis, hefyd o Abertawe, wedi datblygu araeau golau sy'n trosglwyddo golau pwer uchel iawn ac maent wedi creu pecyn LED disgleiriaf y byd. Yn Hydref 2008 agorwyd canolfan ymchwil i ynni hydrogen ac ym Mhorth Talbot cychwynwyd ar y gwaith llosgi sglodion pren mwya'r byd[6] ar gost o £400 miliwn.

Ym 1921 agorwyd y burfa olew fawr gyntaf yng ngwledydd Prydain yn Llandarcy ac yn Aberdaugleddau ceir un o'r prosiectau hydrocarbon mwyaf yn Ewrop: sef mewnforio ac ailnwyeiddio Nwy Naturiol Hylifedig.

Mae dau gwmni yng Nghymru'n arloesi mewn paneli solar mwy effeithiol: G24 o Gaerdydd a Technium OpTIC a Phrifysgol Glyn Dŵr yn Llanelwy.

Peirianneg golygu

Datblygodd y sector peirianneg yng Nghymru yn bennaf o'r gwaith glo, haearn a dur ac mae yno draddodiad hir o arloesi yn y sector hon e.e. rholio cledrau ar gyfer rheilffyrdd, cynhyrchu tunplat a chaenau ac aloeon arbenigol. Crewyd cadwynau holl longau "Llynges Frenhinol" y DU rhwng yr 1980au a'r Rhyfel Byd Cyntaf gan Brown Lenox o Bontypridd. Dyma'r cwmni a wnaeth gadwynau enfawr llong ager Brunel sef y Great Eastern a chadwynau ar gyfer Cunard gan gynnwys y QE2.

Gwnaed camau breisio iawn gan Control Techniques Cyf yn y Drenewydd pan wnaed gyriant rheoli cyflymder motors trydan effeithiol.

Yr amgylchedd a synhwyryddion golygu

Tom Parry Jones o Lion Laboratories yn y Barri yw dyfeisydd y synhwyrydd alcohol a ddefnyddir gan heddluoedd y byd ac ECHA Microbiology yw'r enw mwyaf ym maes mesur halogiad gan ficrobau mewn tanwydd awyren. Gwnaed cyfraniad amhrisiadwy gan Syr John Houghton i'r frwydr yn erbyn newid yn yr hinsawdd; roedd yn gyd-enillydd Gwobr Nobel 2007.

Technoleg sy'n seiliedig ar waith EnviroGene Cyf o Ystrad Mynach sydd yn ein galluogi heddiw i ddarganfod a dynodi llygredd ar draethau a ddyfrffyrdd. Efallai mai un o wyddonwyr mwyaf yr 20g yw'r Dr Lyn Evans (ganed 1945) a oedd yn gyfarwyddwr prosiect CERN, ger Genefa yn y Swistir, sef y posiect gwyddonol mwyaf a welodd y byd erioed; arloesodd gyda'r Gwrthdrawydd hadronnau mawr.

Deunyddiau golygu

Fel y dywedwyd eisoes mae Cymru'n gyfoethog o ddeunyddiau crai a hi am ganrifoedd oedd yn gyfrifol am osod prisiau'r byd ar ddeunyddiau e.e. glo yng Nghaerdydd, copr yn Abertawe, llechi yng ngogledd Cymru a thunplat yn Llanelli.[7]

Datblygwyd dull o astudio wynebau grisial gan William Miller o Lanymddyfri yng nghanol y 19g a mabwysiadwyd y dull hwn fel safon drwy'r byd, safon a gaiff ei adnabod fel "Mynegeion Miller". Tua'r un cyfnod tyfodd Gwaith Copr Hafod, yng Nghwm Tawe, i fod y gweaith fwyaf o'i fath; y dyn y tu ôl i'r cyfan oedd Henry Hussey Vivian. Dechreuwyd rhoi cwrw mewn caniau dur tunplat ym Mragdy Felinfoel ym 1935 - y tro cyntaf i hyn gael ei wneud drwy'r byd.

Mae cwmni Richard Moorhead & Laing o Ruthun wedi arloesi gyda dau ddeunydd cynaladwy: dunyddiau gwastraff swmpus yn lle sment sy'n arbed 20% i'r adeiladydd a'u defnydd o ganghennau coed helyg yn lle concrid. Caiff lliain concrit ei dreialu gan gwmni o Bontypridd ar gyfer llochesi argyfwng.

Trafnidiaeth golygu

Pe bai'n fyw, byddai'r gwneuthurwr ceir ac awyrennwr Charles Stewart Rolls (27 Awst 187712 Gorffennaf 1910) o Drefynwy'n ymfalchio yn y ffaith fod yng Nghymru ddau o weithfeydd awyrlongau mwya'r byd. Mae'r sector awyrofod wedi tyfu ers gwaith arloesol Rolls (sefydlydd y cwmni Rolls Royce): mae holl adenydd ar gyfer pob un o awyrennau Airbus wedi'u cynhyrchu ym Mrychdyn, ger Wrecsam ers 2002 pan ddechreuodd ar adenyddion yr A380.

Ym 1962 cychwynnwyd y gwasanaeth rheolaidd cyntaf yn y byd ar hofrenfad (neu long hofran) a hynny rhwng y Rhyl a Lerpwl. Ar yr un gwynt, cychwynwyd gwasanaeth rheolaidd cynta'r byd gan hofrennydd rhwng Caerdydd, Wrecsam a Lerpwl ym 1950.[8]

Yma hefyd, ym 1804, y gwnaed siwrnai trên cynta'r byd a hynny ym Merthyr Tudful, diolch i Richard Trevithick. Mae Adran Peirianneg Sifil Prifysgol Abertawe'n torri tir newydd o ran cyflymder cerbyn tir. Maent wedi Car Uwchsonig Thrust drwy ddefnyddio uwchgyfrifiadur Cray a phrofwyd ei allu ym Mhentwyn ym 1997 pan gyrhaeddodd y car gyflymdra o 763mya.

Cyfeiriadau golygu

  1. www.chwaraeteg.com; Archifwyd 2014-08-03 yn y Peiriant Wayback. adalwyd 13 Mehefin 2014
  2. Cymru'n Llwyddo gan Lywodraeth y Cynulliad; ISBN 978 7504 5146 8; WAG10-10868; Rhagfyr 2010.
  3. [1] Gwefan TrichoTech; Concateno TrichoTech, the Family Law and Child Protection division of Concateno; adalwyd 27/12/2012
  4. Cymru'n Llwyddo gan Lywodraeth y Cynulliad; ISBN 978 7504 5146 8; WAG10-10868; Rhagfyr 2010; tudalen 8.
  5. Cymru'n Llwyddo gan Lywodraeth y Cynulliad; ISBN 978 7504 5146 8; WAG10-10868; Rhagfyr 2010; tudalen 31.
  6. [2] Gwefan Saesneg y BBC; Port Talbot biomass energy plant faces wait on pellets bid; 11 Medi 2012; adalwyd 27 Rhagfyr 2012
  7. Cymru'n Llwyddo gan Lywodraeth y Cynulliad; ISBN 978 7504 5146 8; WAG10-10868; Rhagfyr 2010; tudalen 47.
  8. Cymru'n Llwyddo gan Lywodraeth y Cynulliad; ISBN 978 7504 5146 8; WAG10-10868; Rhagfyr 2010; tudalennau 53-55.