Ffair-rhos

pentref yng Ngheredigion

Pentref yng nhymuned Ystrad Fflur, Ngheredigion, yw Ffair-rhos[1][2] ("Cymorth – Sain" ynganiad ). Saif gerllaw Llynnoedd Teifi rhwng Pontrhydfendigaid ac Ysbyty Ystwyth.

Ffair-rhos
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCeredigion Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.3°N 3.8°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auElin Jones (Plaid Cymru)
AS/auBen Lake (Plaid Cymru)
Map

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Elin Jones (Plaid Cymru)[3] ac yn Senedd y DU gan Ben Lake (Plaid Cymru).[4]

Pentre'r Beirdd golygu

Adnabyddir Ffair-rhos yn aml fel "Pentre'r Beirdd" - y tri mwyaf amlwg yw Evan Jenkins, Dafydd Jones a W. J. Gruffydd (Elerydd). Enillodd Dafydd Jones y Goron Genedlaethol yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Aberafan 1966. Ym 1955 enillodd W. J. Gruffydd y Goron ym Mhwllheli am ei bryddest ar y testun 'Ffenestri' gan ailadrodd y gamp yn Eisteddfod Caerdydd ym 1960 ar y testun 'Unigedd'. Bu'n Archdderwydd Cymru rhwng 1984 a 1986.

Cyfeiriadau golygu

  1. "Enwau Lleoedd Safonol Cymru", Comisiynydd y Gymraeg; adalwyd 26 Mehefin 2023
  2. British Place Names; adalwyd 26 Mehefin 2023
  3. Gwefan Senedd Cymru
  4. Gwefan Senedd y DU