Gwbert

pentref yng Ngheredigion

Pentref bychan yng nhymuned y Ferwig, Ceredigion, yw Gwbert[1][2] ("Cymorth – Sain" ynganiad ). Saif i'r gogledd-orllewin o dref Aberteifi, ym mhen draw ffordd y B4548, ar ochr ogleddol aber Afon Teifi. Gerllaw saif Craig Gwbert ac ychydig ymhellach i'r gogledd ar hyd yr arfordir mae Ynys Aberteifi. Yr adeilad mwyaf yn y pentref yw'r Cliff Hotel.

Gwbert
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirY Ferwig Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.11°N 4.68°W Edit this on Wikidata
Cod OSSN175465 Edit this on Wikidata
Cod postSA43 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auElin Jones (Plaid Cymru)
AS/auBen Lake (Plaid Cymru)
Map

Mae’r twyni tywod i'r de ac i'r dwyrain o'r pentref yn dirwedd hanesyddol, ond pentref cymharol newydd yw Gwbert ei hun, yn dyddio o'r 20g.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Elin Jones (Plaid Cymru)[3] ac yn Senedd y DU gan Ben Lake (Plaid Cymru).[4]

Cyfeiriadau golygu

  1. "Enwau Lleoedd Safonol Cymru", Comisiynydd y Gymraeg; adalwyd 26 Mehefin 2023
  2. British Place Names; adalwyd 26 Mehefin 2023
  3. Gwefan Senedd Cymru
  4. Gwefan Senedd y DU

Dolen allanol golygu