Ardal yng nghymuned Aberystwyth, Ceredigion, Cymru, yw Buarth Mawr, sydd 75.1 milltir (120.8 km) o Gaerdydd a 179.4 milltir (288.7 km) o Lundain.

Buarth Mawr
Mathcymdogaeth Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirAberystwyth Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.4156°N 4.0787°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auElin Jones (Plaid Cymru)
AS/auBen Lake (Plaid Cymru)
Map

Ffiniau'r ardal fechan, glos yn fras yw'r twmpyn sydd rhwng Stryd y Dollborth i'r gogledd, Ffordd Llanbadarn i'r dwyrain a Stryd Thespis i'r gorllewin. Mae'n cynnwys tai teras a thai pâr gyda cyfuniad o fyfyrwyr a phreswylwyr tymor hir a theuluoedd yn byw yn yr ardal. Ar gornel Ffordd Llanbadarn a Stryd y Dollborth, (lle mae'r A44 a'r A470 yn cwrdd) lleolir tafarn enwog, Y Cŵps.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Elin Jones (Plaid Cymru)[1] ac yn Senedd y DU gan Ben Lake (Plaid Cymru).[2]

Cyfeiriadau golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am Geredigion. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.