Cysylltiadau rhyngwladol Cymru
Er fod cysylltiadau rhyngwladol yn parhau i fod yn fater a reolir gan lywodraeth y DU, heb ei ddatganoli i Gymru mae llywodraeth Cymru yn gweithio i hybu diddordeb Cymru dramor.
Mae gan lywodraeth Cymru 21 o swyddfeydd rhyngwladol ledled y byd, a chyfrifoldeb Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford yn 2023 oedd cysylltiadau rhyngwladol, ers iddo gymryd y rôl oddi wrth Eluned Morgan yn 2020.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cynnal tair mlynedd o 'Gymru mewn gwlad arall', gan gynnwys Canada yn 2022 a Ffrainc yn 2023.
Gweithgarwch rhyngwladol
golyguMae'r erthygl hon yn rhan o'r gyfres: |
|
Cymru o fewn y DU
Cymru o fewn yr UE
Gweithgarwch gwleidyddol
|
|
Er nad yw cysylltiadau rhyngwladol wedi'u datganoli i Gymru ac yn cael eu cadw a'u rheoli gan lywodraeth y DU, mae gan lywodraeth Cymru strategaeth ryngwladol.[1] Yn 2018, penodwyd Eluned Morgan, y Farwnes Morgan o Drelái yn Weinidog Cylltiadau Rhyngwladol.[2] Bu Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, yn gyfrifol am gysylltiadau rhyngwladol ers 2020.[3][4]
Swyddfeydd rhyngwladol
golyguMae polisi rhyngwladol Llywodraeth Cymru ers 2020, "Cymru, Ewrop a'r byd" yn cynnwys perthnas y wlad â'r Almaen, Ffrainc, Iwerddon, yr Unol Daleithiau a Chanada; a pherthynas rhanbarthol gyda Gwlad y Basg yn Sbaen, Llydaw yn Ffrainc a Fflandrys yng Ngwlad Belg.[5] Mae gan lywodraeth Cymru 21 o swyddfeydd rhyngwladol mewn 12 gwlad sy'n cynnwys swyddfeydd yn Llundain, Gwlad Belg, Canada, Tsieina, Iwerddon, Ffrainc, yr Almaen, India, Japan, Qatar, Emiradau Arabaidd Unedig a phum swyddfa ar draws yr Unol Daleithiau.[6]
Strategaeth
golyguGosodwyd y Strategaeth Ryngwladol yn Ionawr 2020 gan Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol ar y pryd. Mae'r strategaeth i bara 5 mlynedd ac mae'n cynnwys y nodau a ganlyn:
- codi proffil Cymru yn rhyngwladol
- tyfu economi Cymru; cynorthwyo busnesau Cymru i gynyddu allforion; annog buddsoddiad yng Nghymru; creu swyddi a chyfleoedd yng Nghymru; defnyddio a datblygu technoleg newydd
- ymrwymiad i gynaliadwyedd[7][8]
Mae gweithgaredd rhyngwladol ar gael i'r cyhoedd gyda sawl ymweliad rhyngwladol a chyfarfodydd di-ri'n cael eu cynnal yn flynyddol, gyda'r mwyaf (14) yn cael eu cynnal yn 2019. Roedd cyfarfodydd 2019 yn cynnwys cyfarfodydd rhwng y Llywydd a llysgennad Norwy a chyfarfodydd rhwng y dirprwy lywydd a llysgennad yr Eidal a chyfarfod arall gyda llysgennad Gwlad Thai.[9]
Dydd Gwyl Dewi
golyguRoedd penderfyniad Prif Weinidog Cymru i dreulio Dydd Gŵyl Dewi ym Mrwsel yn dangos newid amlwg yn strategaeth ryngwladol llywodraeth Cymru.
Ymwelodd cyn-Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, yr ymweliadau diplomyddol canlynol ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi:
- 2011: Brwsel
- 2012: Washington DC ac Efrog Newydd
- 2013: Barcelona
- 2014: Efrog Newydd
- 2015: Efrog Newydd
- 2017: Washington DC
- 2018: Montreal
Mae Mark Drakeford wedi rhoi mwy o bwyslais ar ymweliadau diplomyddol Ewropeaidd gyda mwy o ymweliadau â Brwsel:
- 2019: Brwsel a Pharis
- 2020: Brwsel
- 2022: Brwsel
- 2023: Brwsel[10]
Taith
golyguDechreuodd Cymru y rhaglen cyfnewid myfyrwyr 'Taith' ym Medi 2022 i gymryd lle cynllun Erasmus.[11] Lansiodd Jeremy Miles y cynllun sydd wedi'i “deilwra ar gyfer Cymru sy'n anelu dros bedair blynedd i ganiatâu i 15,000 o fyfyrwyr a staff o Gymru deithio dramor ac i 10,000 weithio neu astudio yng Nghymru.[12]
Masnach
golyguYn dilyn Brexit, mae llywodraeth y DU wedi negodi cytundebau masnach rydd gyda'r UE, UDA, Japan, Awstralia a Seland Newydd gyda Llywodraeth Cymru yn gweithio i sicrhau bod buddiannau Cymru yn cael eu cynnwys.[13]
Mae Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig yn cynghori ac yn dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif ar faterion datblygu economaidd, busnes, sgiliau, masnach ryngwladol, amaethyddiaeth, pysgodfeydd a bwyd.[14]
Y grŵp cynghori ar bolisi masnach sy'n cynghori Llywodraeth Cymru ar faterion masnach a thrafodaethau ar ôl Brexit.[15] Mae'n cynnwys unigolion o fusnesau sydd ag arbenigedd mewn allforio a mewnforio nwyddau a gwasanaethau.[16]
Roedd y 10 cyrchfan allforio uchaf ar gyfer Cymru yn 2022 fel a ganlyn:
- UDA
- Iwerddon
- Almaen
- Ffrainc
- Iseldiroedd
- Gwlad Belg
- Tsieina
- Canada
- Sbaen
- Twrci[17]
Ewrop
golyguMae gan lywodraeth Cymru swyddfa ryngwladol ym Mrwsel sy'n canolbwyntio'n bennaf ar faterion yr Undeb Ewropeaidd a 5 swyddfa arall ar draws Ewrop.[18] Mae Mark Drakeford wedi rhoi mwy o bwyslais ar ymweliadau diplomyddol Ewropeaidd gydag ymweliadau â Brwsel yn 2019, 2020, 2022 a 2023 ar Ddydd Gŵyl Dewi.[10]
Ar 21 Mawrth 2023, gwnaeth Llysgennad yr UE Pedro Serrano ei ymweliad cyntaf â Chymru. Ymwelodd â Chaerdydd ar y cyd â llysgenhadon Slofenia, Slofacia ac Uchel Gomisiynydd Cyprus.[19]
Ffrainc
golyguMae tua 80 o fusnesau Ffrengig wedi'u lleoli yng Nghymru sy'n cyflogi tua 10,000 o bobll. Roedd allforion o Gymru i Ffrainc yn werth cyfanswm o £1.8bn yn 2020 a Ffrainc yw'r ail gyrchfan allforio fwyaf i Gymru ar ôl yr Almaen.[20]
Ymwelodd prif weinidog Cymru, Mark Drakeford â Pharis ar 16-18 Mawrth 2023 i lansio blwyddyn "Cymru yn Ffrainc". Roedd Drakeford yn gobeithio y byddai 2023 yn "ddathliad blwyddyn o hyd o ddigwyddiadau diwylliannol, busnes a chwaraeon".[21][22] Arweiniodd y Prif Weinidog ddirprwyaeth o sefydliadau Cymreig, gan gyfarfod ag UNESCO yn eu pencadlys ym Mharis. Cyfarfu hefyd â chynrychiolwyr i nodi'r cysylltiadau rhwng Cymru a Llydaw .[20]
Gogledd America
golyguUDA
golyguMae aelodau o Gyngres yr Unol Daleithiau wedi sefydlu Cawcws Cyfeillion Cymru, gan hyrwyddo cysylltiadau diwylliannol ac economaidd rhwng UDA a Chymru.[23][24]
Ym mis Hydref 2022, aeth saith busnes o Gymru i UDA fel rhan o daith fasnach Gymreig a arweiniwyd gan lywodraeth Cymru.[25] Yn 2023, ymwelodd y Gweinidog dros yr Economi, Vaughan Gething ag arfordir gorllewinol UDA gyda'r nod o wella'r cysylltiadau economaidd rhwng Cymru ac UDA a hyrwyddo technoleg a diwydiannau creadigol Cymru.[26]
Canada
golyguDynodwyd 2022 gan lywodraeth Cymru fel blwyddyn "Cymru yng Nghanada" gyda'r nod o hyrwyddo Cymru yng Nghanada.[27] [28]
Sefydlodd Llywodraeth Cymru a Llywodraeth Quebec gynllun ariannu gyda'r nod o gefnogi sefydliadau yng Nghymru a Quebec yng Nghanada i hybu cydweithrediad. Rhoddwyd pwyslais arbennig ar adferiad gwyrdd, bydd yr economi, gwyddoniaeth, arloesi, celf a diwylliant yn cael eu blaenoriaethu.[29]
Asia
golyguQatar
golyguYm mis Medi 2022, roedd Llywodraeth Cymru yn gwrthod rhai galwadau i gau swyddfa Qatar Cymru oherwydd pryderon am hawliau dynoll. Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn gobeithio ymgysylltu â gwledydd sydd â hawliau dynol gwahanol i Gymru, er mwyn dylanwadu ar newid yno.[30]
Japan
golyguAr 14 Rhagfyr 2022, cynhaliodd Llysgennad Japan yn y DU, Hayashi Hajime a Phrif Weinidog Cymru, Mark Drakeford dderbyniad yn Llysgenhadaeth Japan yn Llundain i nodi 50 mlynedd o gysylltiadau economaidd rhwng Japan a Chymru.[31]
Trwy Strategaeth Ryngwladol Llywodraeth Cymru, llofnododd llywodraeth Cymru Femorandwm Cyd-ddealltwriaeth (MoU) gyda Llywodraeth Japan, i gryfhau perthnasoedd gan gynnwys cyfnewid economaidd; celfyddydau a diwylliant; chwaraeon; academia; twristiaeth; bwyd a diod.[32]
Affrica
golyguNod rhaglen Cymru ac Affrica a weithredir gan lywodraeth Cymru yw cefnogi pobl yng Nghymru i helpu i drechu tlodi yn Affrica.[33]
Mae'r rhaglen Cyfleoedd Dysgu Rhyngwladol (ILO) yn rhaglen ar gyfer arweinwyr a rheolwyr profiadol yng Nghymru i dreulio 8 wythnos yn Lesotho, Namibia, Somaliland neu Wganda.[34]
Mae cynllun grantiau Cymru ac Affrica yn gynllun grant ar gyfer grwpiau a sefydliadau cymunedol yng Nghymru sy'n gweithio yn Affrica Is-Sahara.[35]
Mae Hub Cymru Africa yn sefydliad sydd â'r nod o gefnogi Rhwydwaith Cysylltiadau Iechyd Cymru ac Affrica, y Panel Cynghori Is-Sahara a Masnach Deg Cymru. Mae wedi'i lleoli yng Nghanolfan Gymreig Materion Rhyngwladol.[36]
Mae Maint Cymru (Size of Wales) yn sefydliad sy'n ceisio cynnal ardal o goedwig drofannol Affricanaidd o faint tebyg i Gymru. Cefnogir y mudiad gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru (CCGC) a Llywodraeth Cymru.[37][38]
Chwaraeon
golyguAr gyfer Cwpan y Byd FIFA 2022 yn Qatar, dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn anelu at farchnata Cymru i'r Byd drwy bwysleisio Cymru fel gwlad agored, flaengar, sy'n ddymunol ar gyfer busnes a thwristiaeth. Lansiodd Llywodraeth Cymru ymgyrch farchnata fyd-eang gan gynnwys ymgyrch wedi'i hanelu at UDA ac Ewrop.[39]
Roedd disgwyl i Lywodraeth Cymru wario £1.8m i hybu cyfranogiad Cymru yng Nghwpan y Byd. Gosodwyd y rhain i gynnwys gŵyl greadigrwydd a diwylliant, cyngerdd yng Ngogledd America ac Amgueddfa Bêl-droed i Gymru.[40]
Teithiodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford a gweinidogion llafur eraill Cymru i Qatar ar gyfer cwpan pêl-droed y byd lle byddai'n anelu at "hyrwyddo cynhwysiant" yn ogystal â "pharch at hawliau dynol" yn ystod Cwpan y Byd FIFA 2022.[41]
Uwchgynhadledd NATO 2014
golyguCynhaliwyd uwchgynhadledd NATO Cymru 2014 yng Ngwesty Hamdden y Celtic Manor yng Nghasnewydd. Cafodd yr arweinwyr, gan gynnwys arlywydd yr UDA, Barack Obama eu cyfarch gan Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones. Dywedodd y Prif Weinidog, "Mae'r cynulliad mwyaf erioed o arweinwyr rhyngwladol i gymryd lle yn y DU yn dechrau yn ein mamwlad yma ac yn awr,"
“Mae Uwchgynhadledd Nato Cymru yn foment gyffrous a hanesyddol i'n gwlad ac rwy'n hyderus y byddwn yn disgleirio ar lwyfan y byd.”[42]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Guidance on devolution". GOV.UK (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-04-12.
- ↑ Reeves, Rosanne; Aaron, Jane (2020-06-04), "Gwyneth Vaughan, Eluned Morgan and the Emancipation of Welsh Women", Women's Writing from Wales before 1914 (Routledge): 128–144, ISBN 978-0-429-33086-5, http://dx.doi.org/10.4324/9780429330865-9, adalwyd 2023-04-12
- ↑ "Rt Hon Mark Drakeford MS: First Minister of Wales". GOV.WALES (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2023-04-12. Cyrchwyd 2023-04-12.
- ↑ Powney, Mark (2020-10-12). "First Minister Takes on Responsibilities for International Trade". Business News Wales. Cyrchwyd 2023-04-12.
- ↑ "Wales, Europe and the world: the Welsh Government's International Strategy". Senedd Research.
- ↑ "International offices". GOV.WALES (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-04-02.
- ↑ "Welsh Government International Office Remits" (PDF).
- ↑ "International strategy [HTML]". GOV.WALES (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-04-12.
- ↑ "International Activity". senedd.wales (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-04-12.
- ↑ 10.0 10.1 "First Minister's Brussels trip reflects shift in international strategy". Nation.Cymru (yn Saesneg). 2023-03-02. Cyrchwyd 2023-04-13.
- ↑ "Wales places thousands on new Erasmus programme while Scots scheme yet to begin". HeraldScotland (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-04-13.
- ↑ "'An outward-looking nation': Wales unveils Brexit-busting international exchange programme to replace Erasmus+". Nation.Cymru (yn Saesneg). 2022-02-02. Cyrchwyd 2023-04-13.
- ↑ "International trade policy". GOV.WALES (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-04-12.
- ↑ "Economy, Trade, and Rural Affairs Committee". senedd.wales (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-04-12.
- ↑ "Trade Policy Advisory Group". GOV.WALES (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-04-12.
- ↑ "Membership: Trade Policy Advisory Group". GOV.WALES (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-04-12.
- ↑ "What does Wales export globally - and who is buying?". BBC News (yn Saesneg). 2023-03-23. Cyrchwyd 2023-04-12.
- ↑ "International offices". GOV.WALES (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-04-13.
- ↑ "EU Ambassadors make joint visit to Wales | EEAS Website". www.eeas.europa.eu. Cyrchwyd 2023-04-13.
- ↑ 20.0 20.1 Hayward, Will (2023-03-16). "Mark Drakeford visits France to meet companies investing in Wales". WalesOnline (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-04-13.
- ↑ "Written Statement: Ministerial Overseas Visit to Paris (30 March 2023)". GOV.WALES (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-04-13.
- ↑ "Wales First Minister hails centuries-old relations in France, laments Brexit-fueled 'fissures in UK'". France 24 (yn Saesneg). 2023-03-16. Cyrchwyd 2023-04-13.
- ↑ "Congressional Friends of Wales Caucus Welcomes First Minister Carwyn Jones | Congressman Morgan Griffith". Morgangriffith.house.gov. 6 September 2016. Cyrchwyd 23 September 2017.
- ↑ "Welsh First Minister visits Washington and New York City". GOV.UK. Cyrchwyd 24 September 2019.
- ↑ "Welsh firms visit the USA to boost trade and export links". GOV.WALES (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-04-12.
- ↑ "Written Statement: Ministerial Overseas Visit to the USA (4 April 2023)". GOV.WALES (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-04-12.
- ↑ "Wales in Canada 2022". Wales (yn Saesneg). 2022-03-11. Cyrchwyd 2023-04-13.
- ↑ "Wales in Canada; A Year to Remember". Welsh Government (yn Saesneg). 2023-04-11. Cyrchwyd 2023-04-13.
- ↑ "Funding: Wales-Quebec joint call for proposals 2022". GOV.WALES (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-04-13.
- ↑ Wightwick, Abbie (2022-09-30). "Welsh Gov rejects calls to shut Qatar office despite torture allegations". WalesOnline (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-04-13.
- ↑ "Marking 50 Years of Japanese Investment in Wales". Business News Wales. 2022-12-14. Cyrchwyd 2023-04-13.
- ↑ "Initiative to encourage economic co-operation with Oita, Japan [HTML]". GOV.WALES (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-04-13.
- ↑ "Wales and Africa". GOV.WALES (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-04-13.
- ↑ "International Learning Opportunities programme [HTML]". GOV.WALES (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2023-04-13. Cyrchwyd 2023-04-13.
- ↑ "Welsh Government Wales and Africa Grant Scheme". WCVA (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-04-13.
- ↑ "Hub Cymru Africa | Supporting Global Solidarity". Hub Cymru Africa (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-04-13.
- ↑ "Support for 'Size of Wales' rainforest campaign". BBC News (yn Saesneg). 2011-05-22. Cyrchwyd 2023-04-13.
- ↑ Kelsey, Chris (2015-09-17). "Size of Wales wants your money to help double area of rainforest protected". WalesOnline (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-04-13.
- ↑ Sands, Katie (2022-11-14). "The video being used to market Wales to the world during the World Cup". WalesOnline (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-04-13.
- ↑ "Welsh Government to spend £1.8m promoting Wales' participation at the World Cup in Qatar". ITVNews.
- ↑ "World Cup 2022: Mark Drakeford to 'shine a light' on Qatar rights". BBC News (yn Saesneg). 2022-10-29. Cyrchwyd 2023-04-13.
- ↑ "World comes to Wales for 2014 Nato Summit in Newport". BBC News (yn Saesneg). 2014-09-04. Cyrchwyd 2023-04-13.