Mudiad gweriniaethol Cymru

Symudiad gweriniaethol Cymru yw ideoleg wleidyddol dros weriniaeth Gymreig, yn hytrach na bod Cymru'n cael ei llywyddu gan frenhiniaeth y Deyrnas Unedig.

baner Cymru

Yn nodweddiadol, awgrymir yr ideoleg hon fel elfen o ffurfio Cymru annibynnol, ond gellir ei hystyried hefyd fel rhan o ddiwygio system lywodraethol y Deyrnas Unedig, a allai gynnwys cyflwyno swyddog etholedig yn bennaeth y wladwriaeth.

Rheolaeth brenhiniaeth Lloegr yng Nghymru golygu

 
Bedd Llywelyn Ein Llyw Olaf

Yn y 13eg ganrif, gorfodwyd Tywysog olaf Cymru, Llywelyn ein Llyw Olaf i gytundeb gan Edward I o Loegr a welodd bwerau Llywelyn yn gyfyngedig i Wynedd yn unig. Yn 1282 tra'n ceisio casglu cefnogaeth yng Nghilmeri ger Llanfair ym Muallt, lladdwyd Llywelyn gan un o filwyr Edward. Bu brawd Llywelyn, Dafydd ap Gruffydd, yn arwain milwyr Cymreig am gyfnod byr, ond cafodd ei ddal a'i grogi, ei dynnu a'i chwarteru gan Edward, gan ddod ag annibyniaeth Cymru i ben.[1][2]

Ers y goncwest, bu gwrthryfeloedd Cymreig yn erbyn rheolaeth Lloegr. Y gwrthryfel olaf, a’r mwyaf arwyddocaol oedd Gwrthryfel Glyndŵr 1400–1415, a adferodd annibyniaeth am gyfnod byr. Cynhaliodd Owain Glyndŵr y Senedd Gymreig gyntaf ym Machynlleth yn 1404, lle y cyhoeddwyd ef yn Dywysog Cymru ac ail senedd yn 1405 yn Harlech. Fe gafwyd cyfnod byr o annibyniaeth, ond trechwyd Glyndwr yn y pen draw ac ni chafwyd corff llywodraethol arall i Gymru tan 1999. Sefydlwyd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn 1999 a fe ailenwyd yn Senedd Cymru yn 2020.[3][4]

Yn yr 16eg ganrif, fe basiodd y Brenin Harri VIII a senedd Lloegr, y Deddfau Uno a gorfodwyd Cymru i fod yn rhan o Deyrnas Lloegr.[5]

Hanes gweriniaethiaeth yng Nghymru golygu

Cyn y Senedd golygu

Yn 1894, ymosododd David Lloyd George, AS Caernarfon, ar fawredd y frenhiniaeth yn ei ail araith yn Nhŷ'r Cyffredin.[6]

Dywedodd Cliff Bere, un o sylfaenwyr y Mudiad Gweriniaethol Cymreig, ar ddechrau’r 1950au, “Mae Coron Lloegr yn dal i fod yn rhan bwysig o beirianwaith goruchafiaeth Lloegr, gan gyhuddo gwleidyddion o bob arlliw o fod yn barod i fanteisio ar ddefnyddioldeb coron Lloegr … fel modd o gadw goruchafiaeth ar genhedloedd Celtaidd Prydain”.[7]

Yn ystod arwisgiad Charles, Tywysog Cymru ym 1969, gwelwyd gwrthwynebiad cryf gan genedlaetholwyr Cymreig, gyda'r sefyllfa wedi'i disgrifio cyn yr arwisgiad fel "rhywbeth agos at ryfela agored rhwng heddlu'r Llywodraeth a phobl ifanc Cymru".[8]

Grŵp gwleidyddol byr oedd Mudiad Gweriniaethol Sosialaidd Cymru a ddaeth i'r amlwg yn dilyn refferendwm datganoli 1979 a ymgyrchodd dros weriniaeth annibynnol Gymreig a sosialaidd.[9]

21ain ganrif golygu

Mae gan blaid fwyaf Cymru sydd o blaid annibyniaeth, sef Plaid Cymru, safbwynt niwtral ar y goron, ac mae Plaid Cymru yn cynnig cynal refferendwm ar ôl annibyniaeth ar statws y frenhiniaeth yng Nghymru. Mae gan Blaid Cymru nifer o aelodau a chefnogwyr gweriniaethol, gan gynnwys cyn arweinydd y blaid, Leanne Wood.[10][11]

Dadleuodd Bethan Sayed AS yn 2019 na ddylai aelodau’r Senedd orfod tyngu llw o deyrngarwch i’r frenhines, ac yn lle hynny y dylid caniatáu iddynt dyngu llw o deyrngarwch a gwasanaeth dros bobl Cymru.[12]

Yn 2021, fe wnaeth y grŵp Republic ariannu hysbysfyrddau ar draws Prydain yn galw am ddileu’r frenhiniaeth, gyda hysbysfyrddau yn ymddangos yng Nghymru yn Aberdâr, Abertawe a Chaerdydd yn datgan yn Gymraeg a Saesneg “nad oes angen tywysog ar Gymru”, gan gyfeirio at Charles.[13][14]

Mae Plaid Werdd Cymru yn cefnogi gweriniaeth Gymreig pe bai Cymru yn dod yn annibynnol.[15] Mae'r blaid wedi datgan pe bai refferendwm yn cael ei gynnal ar fater annibyniaeth i Gymru yna byddai'n cefnogi annibyniaeth i Gymru.[16]

Nid oes gan Propel na Cymru Sofran safbwynt ar y frenhiniaeth na Phennaeth Gwladol mewn Cymru annibynnol,[17][18] tra bod Plaid Sosialaidd Cymru yn hyrwyddo 'Cymru sosialaidd fel rhan o ffederasiwn sosialaidd o Gymru, Lloegr, yr Alban ac Iwerddon'.[19]

2022 golygu

Mae Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford wedi datgan y bydd trafodaethau yn y dyfodol am bennaeth gwladwriaeth etholedig yng Nghymru, ond "nid yr wythnos hon" yn ystod y "cyfnod o alaru" am y Frenhines.[20]

Fe wnaeth torf lleiafrifol o brotestwyr leisio eu gwrthwynebiad at ddigwyddiadau yng Nghaerdydd oedd yn cyhoeddi esgyniad Siarl III.[21] Ar ymweliad Charles â Chastell Caerdydd, cynheliwyd protest dawel yn erbyn y frenhiniaeth gan yr undebau llafur, Llafur dros Gymru Annibynnol ac ymgyrchwyr cydraddoldeb, dan arweiniad Bethan Sayed.[22]

Disgrifiodd CNN Gymru fel y wlad fwyaf 'gelyniaethus' i ymweliad Charles. Dywedodd un dyn: “Tra ein bod ni’n brwydro i gynhesu ein cartrefi, mae’n rhaid i ni dalu am eich parêd.” Ochneidiodd y Brenin Siarl, gan ddweud “o” a throi i ffwrdd. Dywedodd y dyn wedyn “Da ni’n talu £100 miliwn y flwyddyn ar gyfer chi, ac am beth?” Roedd protestwyr y tu allan i Gastell Caerdydd yn dal baneri a oedd yn dweud “Diddymu’r Frenhiniaeth”, “Dinesydd, nid ”, “Democratiaeth nawr”.[23]

Fe wnaeth aelod Senedd rhanbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru, Cefin Campbell ofyn am gymdeithas "fwy cynhwysol" ac "egalitaraidd" bresennol, nad oedd "angen brenhiniaeth o gwbl".[24][25]


Dwedodd Laura McAllister, academydd a chyn bêl-droediwr rhyngwladol ac uwch weinyddwr chwaraeon, “Rwy’n weriniaethwr ond, os ydw i’n onest, mae’n eithaf isel ar fy rhestr o flaenoriaethau fy hun. Yn bendant nid sofran etifeddol yw’r gynrychiolaeth o’m cenedl y byddwn i’n ei dewis, ond mae tlodi, addysg a newid yn yr hinsawdd yn fwy pwysig i mi na'r ddadl benodol hon.”[26]

Tywysog Cymru golygu

Cafodd arwisgiad y Tywysog Charles yn 1969 ei "groesawu'n fawr" yng Nghymru gan rai[27] ond bu protestiadau a ddisgrifiwyd fel mudiad gwrth-arwisgo, hefyd yn y dyddiau cyn y seremoni.[28][29] Roedd mudiadau ac unigolion Cymreig yn erbyn y digwyddiad yn cynnwys Dafydd Iwan,[30] Edward Millward,[31] Cofia 1282 ('Cofiwch 1282'),[32] a Chymdeithas yr Iaith Gymraeg.[33] Ar ddiwrnod yr arwisgiad, cafodd rhai protestwyr eu harestio.[34]

Ers hynny, mae sefydliadau a ffigurau amlwg eraill yng Nghymru wedi galw am roi terfyn ar y teitl Tywysog Cymru. Mae hyn yn cynnwys AS Plaid Cymru, Adam Price, a alwodd yn 2006 am refferendwm i ddod â theitl Tywysog Cymru i ben.[35] Dychwelodd yr actor Cymreig Michael Sheen ei OBE yn 2017, er mwyn iddo allu ymgyrchu i ddod â’r teitl i ben.[36]

Yn dilyn derbyn Siarl III i’r orsedd ar 8 Medi 2022, awgrymodd yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas i’r cyfryngau fod gan deitl Tywysog Cymru unrhyw "ddim ystyr iddo yn y cyfansoddiad” ac y gellid ei derfynu.[37] Pan drosglwyddwyd y teitl i'r Tywysog William o fewn ychydig ddyddiau, mynegwyd gwrthwynebiad pellach.[38] Cododd y grŵp ymgyrchu, Republic, £25,000 i osod hysbysfyrddau yn datgan "Nid oes angen tywysog ar Gymru".[39] Lansiwyd deiseb yn galw am ddileu’r teitl ‘Tywysog Cymru’, a dderbynodd dros 35,000 o lofnodion.[40] Fe wnaeth Prif Weinidog Mark Drakeford,[41] Adam Price AS,[42] Jane Dodds MS,[43] ac YesCymru[44] gydnabod fod potensial ar gyfer dadl neu penderfyniad Cymreig. Ar 6 Hydref pleidleisiodd Cyngor Gwynedd, yr awdurdod lleol lle arwisgwyd Charles yn 1969, i ddatgan gwrthwynebiad i'r teitl 'Tywysog Cymru' ac hefyd eu gwrthwynebiad i arwisgiad arall yng Nghymru.[45]

Gweriniaethwyr Cymreig golygu

Gwleidyddiaeth golygu

Celfyddydau golygu

Gweithredwyr golygu

Barn y cyhoedd golygu

Yn 2019, datgelodd arolwg barn Focaldata a gomisiynwyd gan UnHerd fod cefnogaeth y teulu brenhinol yng Nghymru ("Rwyf yn gefnogwr cryf i deyrnasiad parhaus y Teulu Brenhinol") ar ei isaf yn Nwyrain Abertawe ar 40% (21% yn gwrthwynebu) ac uchaf yn Sir Drefaldwyn ar 61% (18% yn erbyn).[69]

Cynhaliwyd yr arolwg barn gan YouGov ym mis Mawrth 2022. Gofynnodd yr arolwg am farn 3,041 o bobl Cymru am y frenhiniaeth. Dangoswyd fod 55% yn cefnogi'r frenhiniaeth tra byddai'n well gan 28% gael pennaeth gwlad etholedig (66.3% yn erbyn 33.7% heb gynnwys ddim yn gwybod/amwys).[70]

Crynodeb graffigol golygu

Tabl barn y cyhoedd yn Nghymru ar y Frenhiniaeth
Dyddiad Sefydliad Maint sampl Cefnogi'r frenhiniaeth Yn cefnogi pennaeth etholedig Ddim yn gwybod Arwain
Mawrth 2022 YouGov / Prifysgol Caerdydd[70] 3,041 55% 28% 17% 27%
Tachwedd 2019 Focaldata / Unherd[71] 21,119 (DU)

(Cymru heb ei nodi)

48% 25% 28% 23%
7-23 Chwefror 2019 ICM Unlimited / BBC Cymru[72] 1,000 62% 18% 2% 44%
Mai 2018 DeltaPoll / Cyfnewid Polisi[73][74] 513 49% 18% 6% 31%
12–24 Mehefin 2009 Beaufort Research / BBC[75][76] 922 59% 29% - 30%
1999 Beaufort Research / BBC[77] 1,000 62% - - -

Gweler hefyd golygu

Cymru golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "Kings and Princes of Wales". Historic UK (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-02-08.
  2. "BBC Wales - History - Themes - Chapter 8: The end of Welsh independence". www.bbc.co.uk. Cyrchwyd 2022-07-06.
  3. "OwainGlyndwr - Parliaments". www.owain-glyndwr.wales. Cyrchwyd 2022-02-08.
  4. "Welsh assembly renamed Senedd Cymru/Welsh Parliament". BBC News (yn Saesneg). 2020-05-06. Cyrchwyd 2022-06-13.
  5. "Wales under the Tudors". History. UK: BBC. 2010-10-15. Cyrchwyd 2010-12-29.
  6. "Campaigns in Wales | The National Library of Wales". www.library.wales. Cyrchwyd 2022-03-05.
  7. Wiliam, Mari Elin (2022). "Monarchy and National Identity: Wales and the 1953 Coronation". Cultural and Social History 0 (0): 1–22. doi:10.1080/14780038.2022.2060903. ISSN 1478-0038. https://doi.org/10.1080/14780038.2022.2060903.
  8. Deacon, Thomas (24 Chwefror 2019). "Prince Charles, the investiture and the bombs: How Welsh nationalists tried to stop it". Wales Online. Cyrchwyd 24 Medi 2022.
  9. Jones, Douglas (2017-10-15). The Communist Party of Great Britain and the National Question in Wales, 1920-1991 (yn Saesneg). University of Wales Press. t. 258. ISBN 978-1-78683-132-3.
  10. Jones, Richard Wyn (14 Mai 2018). "Severn bridge shows Plaid should embrace republicanism | Richard Wyn Jones". WalesOnline.
  11. "[:cy]Maniffesto[:en]Manifesto[:]".
  12. "Call for alternative to Welsh Assembly oath to Queen". BBC News (yn Saesneg). 2019-04-27. Cyrchwyd 2022-02-21.
  13. "'Wales doesn't need a prince': Anti-monarchy billboards spark backlash". Sky News (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-02-21.
  14. Harrison, Rhodri (2021-09-14). "Prince Charles appears on billboards with slogan 'Wales doesn't need a prince'". WalesOnline (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-02-21.
  15. "Public Administration". policy.greenparty.org.uk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-05-02. Cyrchwyd 2023-01-09.
  16. @ (24 Hydref 2020). "Today, Wales Green Party has committed to campaigning in favour of an Independent Wales in the event of a referendum. A huge thanks to all those who helped create and pass this motion!" (Trydariad). Cyrchwyd 24 Hydref 2020 – drwy Twitter.CS1 maint: numeric names: authors list (link)
  17. "The WNP Statement". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 29 Tachwedd 2020. Cyrchwyd 23 Tachwedd 2021.
  18. "Manifesto – Cymru Sovereign". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 6 Mai 2021. Cyrchwyd 23 Tachwedd 2021.
  19. Thraves, Alec. "What We Stand For – Socialist Party Wales".
  20. "Drakeford: 'There's no rush' for an investiture for new Prince of Wales". ITV News (yn Saesneg). 2022-09-12. Cyrchwyd 2022-09-14.
  21. (yn en) Anti-royalist demonstrators at Scotland, Wales events. 2022-09-11. https://www.rte.ie/news/uk/2022/0911/1321825-british-royals-latest/.
  22. "King Charles III: Public invited to greet monarch in Cardiff". BBC News. 15 Medi 2022. Cyrchwyd 15 Medi 2022.
  23. "Watch: Protestor challenges King Charles over cost of monarchy as CNN describes Wales as most 'hostile' country". Nation.Cymru (yn Saesneg). 2022-09-16. Cyrchwyd 2022-09-16.
  24. "Prince of Wales announcement was divisive, says senior Plaid politician". BBC News (yn Saesneg). 2022-09-22. Cyrchwyd 2022-09-24.
  25. "Senedd Election: Regional seats announced". South Wales Guardian (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-05-08.
  26. McAllister, Laura (2022-10-01). "The future of the monarchy merits proper debate | Laura McAllister". WalesOnline (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-10-14.
  27. Berry-Waite, Lisa (22 Mai 2022). "The Investiture of the Prince of Wales". The National Archives blog.
  28. Ellis, John Stephen (2008). Investiture: Royal Ceremony and National Identity in Wales, 1911-1969 (yn Saesneg). University of Wales Press. t. 207. ISBN 978-0-7083-2000-6.
  29. "50 years since the Investiture". National Library of Wales Blog. 1 Gorffennaf 2019. Cyrchwyd 11 Medi 2022.
  30. Jones, Craig Owen (Summer 2013). ""Songs of Malice and Spite"?: Wales, Prince Charles, and an Anti-Investiture Ballad of Dafydd Iwan". Music and Politics 7 (2). doi:10.3998/mp.9460447.0007.203. ISSN 1938-7687. http://hdl.handle.net/2027/spo.9460447.0007.203.
  31. "Prince Charles' Wales Investiture Was As Controversial As 'The Crown' Shows". Bustle (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-09-08.
  32. "50 years since the Investiture". National Library of Wales Blog (yn Saesneg). 2019-07-01. Cyrchwyd 2022-09-08.
  33. Ellis, John Stephen (2008). Investiture: Royal Ceremony and National Identity in Wales, 1911-1969 (yn Saesneg). University of Wales Press. t. 206. ISBN 978-0-7083-2000-6.
  34. Stephen), Ellis, John S. (John (2008). Investiture : royal ceremony and national identity in Wales, 1911-1969. University of Wales Press. t. 235. OCLC 647632453.
  35. "Plaid Cymru objections to Prince of Wales". Western Mail. 8 Awst 2006. Cyrchwyd 18 Hydref 2022.
  36. "Michael Sheen returned OBE to air views on royal family". the Guardian (yn Saesneg). 2020-12-29. Cyrchwyd 2022-09-08.
  37. "'Devolved, democratic' Wales doesn't 'need' a Prince of Wales any more says Lord Elis-Thomas". Nation.Cymru (yn Saesneg). 2022-09-08. Cyrchwyd 2022-09-08.
  38. "Declaring a new Prince of Wales with no discussion with the people of Wales wasn't right". Nation.Cymru (yn Saesneg). 2022-09-10. Cyrchwyd 2022-09-10.
  39. "'Wales doesn't need a prince': Anti-monarchy billboards spark backlash". Sky News (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-02-21.
  40. "Prince and Princess of Wales 'quell concerns' over investiture". 27 Medi 2022.
  41. Hayward, Will (2022-09-16). "Mark Drakeford says 'We need to have a debate about the Prince of Wales'". WalesOnline (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-10-06.
  42. Owen, Cathy (2022-09-13). "Plaid leader wants vote on William's investiture as Prince of Wales". WalesOnline (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-10-06.
  43. "Prince William will be the last Prince of Wales, historian predicts". ITV News (yn Saesneg). 2022-09-22. Cyrchwyd 2022-09-24.
  44. "YesCymru statement - Prince of Wales". YesCymru EN (yn Saesneg). 13 Medi 2022. Cyrchwyd 2022-09-21.
  45. "Gwynedd says no to new Prince of Wales - authority votes against another investiture, says title should be abolished". Nation.Cymru (yn Saesneg). 2022-10-06. Cyrchwyd 2022-10-06.
  46. "Mark Drakeford on drugs, the monarchy and his vision for Wales, as he launches his manifesto". ITV News. 12 Tachwedd 2018. Cyrchwyd 8 Mai 2019.
  47. Wheeler, Brian (24 Medi 2014). "Secret life of Labour's republicans". BBC News. Cyrchwyd 8 Mai 2019.
  48. "Our Supporters Include..." Republic. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 26 Medi 2009.
  49. Bodden, Tom (4 Mehefin 2011). "Plaid Cymru AMs to snub Queen's official opening of Welsh Assembly". North Wales Live. Cyrchwyd 12 Medi 2022.
  50. WalesOnline (2022-10-30). "'Westminster could learn something from the Royals about how to treat Wales'". WalesOnline (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-12-06.
  51. "Our Supporters Include..." Republic. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 26 Medi 2009.
  52. "'I'm a republican' says Ken Skates as he defends 'Prince of Wales Bridge' name change". Nation.Cymru. 16 Mai 2018. Cyrchwyd 12 Medi 2022.
  53. "Our Supporters Include..." Republic. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 26 Medi 2009.
  54. Wintour, Patrick (4 Mawrth 1996). "Blair dogged by monarchy debate". The Guardian. Nodyn:ProQuest.
  55. Kingsley Martin, The Crown and the Establishment (Llundain: Hutchinson), tt.137-39)
  56. "Our Supporters Include..." Republic. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 26 Medi 2009.
  57. McAllister, Laura (2022-10-01). "The future of the monarchy merits proper debate". WalesOnline. Cyrchwyd 2022-10-03.
  58. BBC News, BBC News.
  59. Richardson, Jay. "Lloyd Langford: Old Fashioned : Reviews 2014 : Chortle : The UK Comedy Guide". www.chortle.co.uk. Cyrchwyd 13 Mehefin 2019.
  60. Ballin, Malcolm (2013). Welsh periodicals in English, 1882-2012. Cardiff: University of Wales Press. ISBN 978-1783165612.
  61. "Our Supporters Include..." Republic. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 26 Medi 2009.
  62. Moore, Dylan (7 Mehefin 2022). "Coronation Everest: A Welsh republican at the summit of monarchy and imperial adventure". The National (Wales). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2022-12-31. Cyrchwyd 12 Medi 2022. Writing to mark the fiftieth anniversary of the expedition in 2003, Morris wryly observes that her role in reporting the successful ascent was "very improbabl[e], for I am a lifelong republican", nevertheless describing the coincidence of the queen’s coronation and the breaking news of Everest's conquest as ‘a happy conjunction’.
  63. Gwyn A. Williams, Review of The Enchanted Glass by Tom Nairn, Marxism Today (Mehefin 1988), t.43
  64. "Republicans to protest at royal visit". Wales Online. 25 Ebrill 2012. Cyrchwyd 13 Mehefin 2019.
  65. Foster, Charles Robert (1980). Nations without a State : ethnic minorities in Western Europe. Michigan: Praeger. ISBN 0030568072.
  66. "Laochra Uladh : Meanwhile in Wales - "Timeline of Welsh Events, 1946-1956"". Laochra Uladh. 2 Mehefin 2013.
  67. Luain, Cathal Ó. "Rare Film Footage of Max and Welsh at 1916 Rising Fiftieth Anniversary". Agence Bretagne Presse (yn Ffrangeg). Cyrchwyd 13 Mehefin 2019.
  68. Gossedge, Rob; Morra, Irene, gol. (2016). The new Elizabethan age : culture, society and national identity after World War II. I.B.Tauris. ISBN 978-0857728678.
  69. "Support for Royals lower across west Wales and valleys, poll shows". Nation.Cymru (yn Saesneg). 2019-11-21. Cyrchwyd 2022-02-21.
  70. 70.0 70.1 "Platinum Jubilee: How strong is Wales' bond with the monarchy?". BBC News (yn Saesneg). 2022-05-31. Cyrchwyd 2022-06-02.
  71. Clements, Laura (2019-11-22). "The areas of Wales that love the Royal Family the most (and the least)". WalesOnline (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-06-03.
  72. "BBC Wales: St. David's Day Poll 2019" (PDF).
  73. Monarchy & Union Poll (PDF). DeltaPoll. 2018.
  74. "SUPPORT FOR THE UNION AND THE MONARCHY (WALES) | Deltapoll". Deltapoll | Deltapoll. 2018-05-22. Cyrchwyd 2022-11-10.
  75. "Poll shows support for monarchy". BBC News Online. 30 Mehefin 2009. Cyrchwyd 18 Medi 2022.
  76. "Monarchy backed by 59% in Wales" (yn Saesneg). 2009-06-30. Cyrchwyd 2022-09-19.
  77. "Wales backs Charles for king". BBC News Online. 25 Mehefin 1999. Cyrchwyd 18 Medi 2022.