Saron, Sir Ddinbych
Pentref bychan yn Sir Ddinbych yw Saron (weithiau Pentre Saron ( ynganiad ) 0, e.e. ar fapiau'r Arolwg Ordnans). Saif ar ffordd gefn, i'r gogledd-orllewin o Ruthun ac i'r de-orllewin o dref Dinbych. Mae yng nghymuned Llanrhaeadr-yng-Nghinmeirch.
Math | anheddiad dynol |
---|---|
Enwyd ar ôl | Capel Saron |
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Ddinbych |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.13385°N 3.45259°W |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Gareth Davies (Ceidwadwyr) |
AS/au y DU | James Davies (Ceidwadwyr) |
- Am leoedd a phethau eraill o'r un enw gweler Saron (tudalen wahaniaethu).
Capel
golyguEnwyd y pentref ar ôl y capel lleol, Capel Saron (Methodistiaid Calfinaidd), a godwyd yn 1826, gydag ysgoldy a thŷ capel wedi eu hychwanegu yn 1908.[1] Yn 2014 roedd y capel yn dal i fynd.[2]
Pobl o Saron
golyguRoedd teulu'r awdur a newyddiadurwr Frank Price Jones ar ochr ei dad yn hannu o Saron.[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 Frank Price Jones, Crwydro Gorllewin Dinbych (Cyfres Crwydro Cymru, 1969).
- ↑ Capel Saron Archifwyd 2016-03-04 yn y Peiriant Wayback, gwefan Cyngor Sir Ddinbych.
Dinas
Llanelwy
Trefi
Corwen · Dinbych · Llangollen · Prestatyn · Rhuddlan · Rhuthun · Y Rhyl
Pentrefi
Aberchwiler · Betws Gwerful Goch · Bodelwyddan · Bodfari · Bontuchel · Bryneglwys · Bryn Saith Marchog · Carrog · Cefn Meiriadog · Clocaenog · Cwm · Cyffylliog · Cynwyd · Derwen · Diserth · Y Ddwyryd · Efenechtyd · Eryrys · Four Crosses · Gallt Melyd · Gellifor · Glyndyfrdwy · Graeanrhyd · Graigfechan · Gwyddelwern · Henllan · Loggerheads · Llanarmon-yn-Iâl · Llanbedr Dyffryn Clwyd · Llandegla · Llandrillo · Llandyrnog · Llandysilio-yn-Iâl · Llanelidan · Llanfair Dyffryn Clwyd · Llanferres · Llanfwrog · Llangwyfan · Llangynhafal · Llanrhaeadr-yng-Nghinmeirch · Llanynys · Maeshafn · Melin y Wig · Nantglyn · Pandy'r Capel · Pentrecelyn · Pentre Dŵr · Prion · Rhewl (1) · Rhewl (2) · Rhuallt · Saron · Sodom · Tafarn-y-Gelyn · Trefnant · Tremeirchion