Bryn Saith Marchog

pentre bach gwledig yn Sir Ddinbych
(Ailgyfeiriad o Brynsaithmarchog)

Pentref bach gwledig yng nghymuned Gwyddelwern, Sir Ddinbych, Cymru, yw Bryn Saith Marchog[1] ("Cymorth – Sain" Bryn Saith Marchog ) neu Brynsaithmarchog.[2] Saif ar lan ddwyreiniol Afon Clwyd gyferbyn â phentref Derwen, tua 5 milltir i'r gogledd o Gorwen. Mae ar ffordd yr A494.

Bryn Saith Marchog
Mathpentrefan Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Ddinbych Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
GerllawAfon Clwyd Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.040278°N 3.379167°W Edit this on Wikidata
Cod OSSJ076500 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruKen Skates (Llafur)
AS/au y DUSimon Baynes (Ceidwadwyr)
Map

Cyfeirir at Fryn Saith Marchog yng Nghainc Gyntaf y Mabinogi, chwedl Branwen ferch Llŷr. Cyfeiriad onomastig i esbonio enw lle ydyw. Pan â Bendigeidfran i Iwerddon mae'n gadael saith tywysog a'u saith marchog i warchod Ynys Prydain. Nid enwir y marchogion ond ceir cyfeiriad at y lle:

Yn Edeirn[i]on yd edewit y gwyr hynny, ac o achaws hynny y dodet Seith Marchawc ar y dref.[3]

Mae Ifor Williams yn nodi, gan ddilyn awgrym yr Athro Joseph Loth, fod 'seith/saith' yn gallu golygu "sant" mewn Cymraeg Canol. Mae'n bosibl felly mai "Bryn Sant Marchog" a olygid yn wreiddiol (ceir enghreifftiau o'r enw 'Sadwrn Farchog' am Sant Sadwrn hefyd).[4]

Y pentre dan fantell o eira, a Moelydd Clwyd yn y cefdir

Pobl o Fryn Saith Marchog

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. British Place Names; adalwyd 10 Rhagfyr 2021
  2. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
  3. Ifor Williams (gol.), Pedair Cainc y Mabinogi (Caerdydd, 1930). tud. 38.
  4. Pedair Cainc y Mabinogi, tud. 191.