Iran

gwlad yng ngorllewin Asia
(Ailgyfeiriad o Iraniaid)

Gwlad yng ngorllewin Asia sy'n cael ei chyfri'n rhan o'r Dwyrain Canol yw Gweriniaeth Islamaidd Iran (Persieg: جمهوری اسلامی ايران, sy'n cael ei lefaru fel [dʒomhuːɾije eslɒːmije iːɾɒn]), neu Iran. Hyd at 1935 fe'i galwyd yn Persia.[1] Y gwledydd cyfagos yw Pacistan ac Affganistan i'r dwyrain, Tyrcmenistan i'r gogledd-ddwyrain, Aserbaijan ac Armenia i'r gogledd-orllewin, a Thwrci ac Irac i'r gorllewin. Mae gan y wlad arfordir ar Fôr Caspia yn y gogledd ac ar y Gwlff a Gwlff Oman yn y de. Tehran yw prifddinas y wlad, a'r ddinas fwyaf. Ers y Chwyldro Islamaidd yn 1979 mae Iran yn Weriniaeth Islamaidd.

Iran
Gweriniaeth Islamaidd Iran
جمهوری اسلامی ايران (Persieg)
Jomhuri-ye Eslāmi-ye Irān
Arwyddairاستقلال، آزادی، جمهوری اسلامی Edit this on Wikidata
Mathgwladwriaeth sofran, Gweriniaeth Islamaidd, gwlad Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlAryan Edit this on Wikidata
PrifddinasTehran Edit this on Wikidata
Poblogaeth86,758,304 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1 Ebrill 1979 (Government of Iran) Edit this on Wikidata
AnthemNational Anthem of the Islamic Republic of Iran Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethEbrahim Raisi Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+03:30, Cylchfa Amser Iran, Asia/Tehran Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Perseg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolY Dwyrain Canol, De-orllewin Asia Edit this on Wikidata
GwladBaner Iran Iran
Arwynebedd1,648,195 ±1 km² Edit this on Wikidata
GerllawMôr Caspia, Gwlff Persia, Gwlff Oman Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaAffganistan, Pacistan, Twrci, Irac, Aserbaijan, Armenia, Tyrcmenistan, Nakhchivan Autonomous Republic, Sawdi Arabia, Coweit, Bahrain, Oman, Catar, Yr Emiradau Arabaidd Unedig Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau32°N 53°E Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff gweithredolGovernment of Iran Edit this on Wikidata
Corff deddfwriaetholIslamic Consultative Assembly Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y wladwriaeth
Prif Arweinydd Aran Edit this on Wikidata
Pennaeth y wladwriaethAli Khamenei Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Arlywydd Gweriniaeth Islamaidd Iran Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethEbrahim Raisi Edit this on Wikidata
Map
Ariannol
Cyfanswm CMC (GDP)$359,097 million, $388,544 million Edit this on Wikidata
Arianrial Iranaidd Edit this on Wikidata
Cyfartaledd plant1.707 Edit this on Wikidata
Mynegai Datblygiad Dynol0.774 Edit this on Wikidata

Mae Iran yn gartref i un o wareiddiadau hyna'r byd,[2][3], gan ddechrau gyda ffurfiad teyrnasoedd yr Elamite yn y bedwaredd mileniwm CC. Cafodd ei uno gyntaf gan y Mediaid yn y 7g CC, a a thyfodd i'w hanterth (yn diriogaethol) yn y 6g CC, pan sefydlodd Cyrus Fawr yr Ymerodraeth Achaemenaidd, a ddaeth yn un o'r ymerodraethau mwyaf mewn hanes a'r ymerodraeth 'superpower' gyntaf yn y byd.[4]

Syrthiodd yr ymerodraeth i Alecsander Fawr yn y 4g CC ac fe'i rhannwyd yn sawl gwladwriaeth Hellenistig. Sefydlodd gwrthryfel yn Iran Ymerodraeth Parthian yn y 3g CC, a olynwyd yn y drydedd ganrif OC gan yr Ymerodraeth Sassanaidd, pŵer mwya'r byd am y pedair canrif nesaf.[5][6] Gorchfygodd Mwslimiaid Arabaidd yr ymerodraeth yn y 7g OC, a arweiniodd at Islameiddio Iran. Wedi hynny daeth yn brif ganolfan diwylliant a dysgu Islamaidd, gyda'i chelf, llenyddiaeth, athroniaeth, a phensaernïaeth yn ymledu ar draws y byd Mwslemaidd a thu hwnt yn ystod yr Oes Aur Islamaidd. Dros y ddwy ganrif nesaf, daeth cyfres o linachoedd Mwslimaidd brodorol i'r amlwg cyn i'r Twrciaid Seljuq a'r Mongols orchfygu'r rhanbarth.

Yn y 15g, ailsefydlodd y Safavids brodorol wladwriaeth unedig Iran a hunaniaeth genedlaethol a throsi'r wlad yn Islam Shia.[7] O dan deyrnasiad Nader Shah yn y 18g, daeth Iran yn bwer mawr yn y byd unwaith eto,[8] ond erbyn y 19g arweiniodd cyfres o wrthdaro â Rwsia at golledion tiriogaethol sylweddol.[9][10] Yn gynnar yn yr 20g cafwyd Chwyldro Cyfansoddiadol Persia. Arweiniodd ymdrechion i wladoli ei gyflenwad tanwydd ffosil gan gwmnïau’r Gorllewin at coup Eingl-Americanaidd ym 1953, a arweiniodd at fwy o reolaeth unbenaethol o dan Mohammad Reza Pahlavi a dylanwad gwleidyddol cynyddol y Gorllewin.[11] Aeth ati i lansio cyfres bellgyrhaeddol o ddiwygiadau ym 1963.[12] Ar ôl Chwyldro Islamaidd Iran, sefydlwyd y Weriniaeth Islamaidd bresennol ym 1979 gan Ruhollah Khomeini, a ddaeth yn Arweinydd Goruchaf cynta'r wlad.

Ystyrir yn eang bod llywodraeth Iran yn awdurdodaidd, ac mae wedi denu beirniadaeth eang am ei chyfyngiadau a'i cham-driniaeth yn erbyn hawliau dynol a rhyddid sifil,[13][14][15][16] gan gynnwys honiadau o sawl ymateb treisgar i brotestiadau torfol, etholiadau annheg., a hawliau cyfyngedig i fenywod a phlant.

Caiff Iran ei hystyried yn bwer rhanbarthol a chanolig, ac mae ei lleoliad yn cael ei gyfri'n strategol ac yn ddaear-wleidyddol (geopolitaidd) ar gyfandir Asia. Mae'n aelod sefydlol o'r Cenhedloedd Unedig, yr ECO, yr OIC, ac OPEC. Mae gan y wlad gronfeydd wrth gefn enfawr o danwydd ffosil - gan gynnwys cyflenwad nwy naturiol ail-fwya'r byd a'r bedwaredd gronfa olew fwyaf.[17] Adlewyrchir etifeddiaeth ddiwylliannol gyfoethog y wlad yn rhannol gan ei 22 Safle Treftadaeth y Byd UNESCO.[18] Mae Iran yn parhau i fod yn gymdeithas luosog sy'n cynnwys nifer o grwpiau ethnig, ieithyddol a chrefyddol, a'r mwyaf ohonyn nhw yw'r Persiaid, yr Azeris, y Cwrdiaid, y Mazandaranis a'r Lurs.[19]

Geirdarddiad golygu

Mae'r term Iran yn tarddu'n uniongyrchol o Ērān mewn Persieg Canol, a gofnodwyd yn gyntaf mewn arysgrif o'r 3g yn Naqsh-e Rostam , gyda'r arysgrif Partheg a oedd gydag ef yn defnyddio'r term Aryān, yn cyfeirio at yr Iraniaid. Mae'r ērān ac aryān Iraneg Canol yn ffurfiau lluosog o enwau gentilig ēr- (Perseg Canol) ac ary- (Partheg), ill dau'n deillio o iaith Proto-Iranaidd * arya- (sy'n golygu " Aryan", hy "o'r Iraniaid"),[20][21] a gydnabyddir fel deilliad o'r iaith Proto-Indo-Ewropeg *ar-yo-, sy'n golygu "un sy'n ymgynnull (yn fedrus)".[22]

Yn yr ieithoedd Iranaidd, ardystir y gentilig fel hunan-ddynodwr, wedi'i gynnwys mewn arysgrifau hynafol a llenyddiaeth yr Avesta.[21] Yn ôl mytholeg Iran, daw enw'r wlad o'r enw Iraj, tywysog chwedlonol a shah [23]

Yn hanesyddol, cyfeiriwyd at Iran fel Persia gan awduron o'r Gorllewin,[24] gan gynnwys ysgrifau haneswyr Gwlad Groeg a gyfeiriodd at Iran fel Persís (Groeg Hynafol: Περσίς; o'r Hen Berseg 𐎱𐎠𐎼𐎿 Pārsa),[25] sy'n golygu "gwlad y Persiaid", tra bod Persis ei hun yn un o daleithiau Iran hynafol a elwir heddiw yn Fars.[26] Oherwydd agosatrwydd yr hen Roegiaid a'r Persiaid, parhaodd y term, hyd yn oed ymhell ar ôl y Rhyfeloedd Greco-Persia (499-494 CC).

Hanes golygu

Cynhanes golygu

 
Paentiad ogof yn ogof Doushe, Lorestan, o'r 8fed mileniwm CC [27]

Mae'r arteffactau archeolegol cynharaf yn Iran, fel y rhai a gloddiwyd yn Kashafrud a Ganj Par yng ngogledd Iran, yn cadarnhau presenoldeb dynol yn Iran ers y Paleolithig Isaf.[28] Mae arteffactau Neanderthalaidd Iran o'r Paleolithig Canol wedi'u darganfod yn bennaf yn rhanbarth Zagros, mewn safleoedd fel Warwasi ac Yafteh.[29][30]  O'r 10fed i'r seithfed mileniwm CC, dechreuodd cymunedau amaethyddol cynnar ffynnu yn rhanbarth Zagros ac o'i amgylch yng ngorllewin Iran, gan gynnwys Chogha Golan,[31][32] Chogha Bonut,[33] a Chogha Mish.[34][35][36]

Mae olion dynol mewn pentrefi wedi'u grwpio yn ardal Susa, fel y'u pennir gan ddyddio radiocarbon, yn amrywio o 4395-3955 i 3680-3490 CC.[37] Mae yna ddwsinau o safleoedd cynhanesyddol ar draws Llwyfandir Iran, sy'n tystio fod diwylliannau hynafol ac aneddiadau trefol yma yn y bedwaredd mileniwm CC.[38][39][40]

Yn ystod yr Oes Efydd, roedd tiriogaeth Iran heddiw yn gartref i sawl gwareiddiad, gan gynnwys Elam, Jiroft, a Zayanderud. Datblygodd Elam, yr amlycaf o'r gwareiddiadau hyn, yn y de-orllewin ochr yn ochr â'r rhai ym Mesopotamia, a pharhaodd i fodoli hyd nes i ymerodraethau Iran ddod i'r amlwg. Roedd dyfodiad ysgrifennu yn Elam yn gyfochrog â Sumer, a datblygwyd sgript mewn Elameg (neu 'Elamiteg') yn y drydedd mileniwm CC.[41]

O'r 34ydd i'r 20g CC, roedd gogledd-orllewin Iran yn rhan o ddiwylliant Kura-Araxe, a oedd yn ymestyn i'r Cawcasws ac Anatolia cyfagos. Ers yr ail mileniwm CC, ymgartrefodd yr Assyriaid yng ngorllewin Iran gan ymgorffori'r rhanbarth o fewn eu tiriogaethau.

Hynafiaeth glasurol golygu

 
Rhyddhad bas yn Persepolis, yn darlunio’r Mediaid a’r Persiaid unedig

Erbyn yr ail mileniwm CC, roedd pobloedd hynafol Iran (y Kura-Araxe) wedi cyrraedd yr hyn sydd bellach yn Iran o'r Steppe Ewrasiaidd,[42] gan gystadlu ag ymsefydlwyr brodorol y rhanbarth.[43] Wrth i'r Iraniaid wasgaru i ardal ehangach Iran Fwyaf a thu hwnt, roedd ardal Iran heddiw yn cynnwys y Mediaid, Persiaid a'r Parthiaid.

O ddiwedd y 10g CC i ddiwedd y 7g CC, roedd pobloedd Iran, ynghyd â'r teyrnasoedd "cyn-Iranaidd", yn dod o dan dra-arglwyddiaeth yr Ymerodraeth Assyriaidd, a leolwyd yng ngogledd Mesopotamia.[44]  O dan y brenin Cyaxares, aeth y Mediaid a'r Persiaid i gynghrair â'r rheolwr Babilonaidd Nabopolassar, yn ogystal â'r cyd- Scythiaid a Chimmeriaid o Iran, a gyda'i gilydd fe wnaethant ymosod ar Ymerodraeth Assyria. Drwy'r rhyfel cartref hwn, ysbeiliwyd Ymerodraeth Assyria (616 - 605 CC), a thrwy hynny ryddhawyd y bobl o dair canrif o reolaeth gan Asyria.[44] Wedi uno'r llwythau Mediaid dan y Brenin Deioces yn 728 CC, sefydlwyd Ymerodraeth y Mediaid a oedd, erbyn 612 CC, yn rheoli bron holl diriogaeth Iran heddiw a dwyrain Anatolia.[45] Roedd hyn yn nodi diwedd Teyrnas Urartu hefyd, a gafodd ei goncro a'i diddymu wedi hynny.[46][47]

Bioamrywiaeth golygu

 
Llewpard Persia, wedi'i restru fel Mewn Perygl ar Restr Goch IUCN .

Mae bywyd gwyllt Iran yn cynnwys sawl rhywogaeth anifail, gan gynnwys eirth, y lyncs Ewrasiaidd, llwynogod, gasels, bleiddiaid llwyd, jacals, panthers, a moch gwyllt.[48][49] Ceir anifeiliaid domestig eraill yn Iran gan gynnwys: byfflo dŵr Asiaidd, camelod, gwartheg, asynnod, geifr, ceffylau, a'r defaid . Mae eryrod, hebogau, petris, ffesantod a storciaid hefyd yn frodorol.

Un o aelodau enwocaf bywyd gwyllt Iran yw'r cheetah Asiatig sydd mewn perygl difrifol, a elwir hefyd yn cheetah Iran, y gostyngwyd ei niferoedd yn fawr ar ôl Chwyldro 1979.[50] Mae llewpard Persia , sef isrywogaeth llewpard mwyaf y byd sy'n byw yn bennaf yng ngogledd Iran, hefyd wedi'i restru fel rhywogaeth sydd mewn perygl. Collodd Iran ei holl lewod Asiatig a'r teigrod Caspia sydd bellach wedi diflannu erbyn rhan gynharach yr 20fed ganrif.[51]

Daearyddiaeth golygu

Mae llwyfandir uchel yng nghanol Iran sy'n cynnwys sawl anialwch a chorsdir. Amgylchynnir hyn gan gyfres o gadwyni mynyddig; y pwysicaf yw mynyddoedd Zagros i'r gorllewin, mynyddoedd Alborz a Kopet i'r gogledd, a rhanbarth anial o fryniau uchel i'r dwyrain. Mynydd Damavand (18,406 troedfedd, 5,610 m), i'r gogledd o Tehran, yw mynydd uchaf y wlad.

Mae'r rhan fwyaf o'r boblogaeth yn byw yn y gogledd-orllewin ac ar lan Môr Caspia, sy'n cael y rhan fwyaf o'r glaw; mewn rhannau o'r de a'r dwyrain mae glaw yn brin iawn. Dyma'r 18ed gwlad mwyaf o ran arwynebedd (sef 1,648,195 km², 636,372 milltir sgwâr) a phoblogaeth o dros 70 miliwn.

Pobl golygu

Er bod y mwyafrif o bobl Iran yn Bersiaid (Iraniaid), ceir yn ogystal sawl grwp ethnig llai, yn arbennig ar ymylon y wlad, e.e. Tyrciaid, Cyrdiaid, Armeniaid ac Arabiaid, a llwythau brodorol lleiafrifol fel y Bakhtyari.

Iaith a diwylliant golygu

Ffarsi (Perseg diweddar) yw iaith y mwyafrif, ond siaredir ieithoedd llai hefyd, e.e. Cyrdeg yn y gogledd-orllewin. Mae'r Berseg yn iaith hynafol sydd wedi cynhyrchu un o lenyddiaethau mawr y byd, sef llenyddiaeth Berseg. Ymhlith meistri mawr y llenyddiaeth honno, gellid enwi Omar Khayyam a Hafiz (gweler hefyd Rhestr llenorion Perseg hyd 1900).

Yn yr hen Bersia Zoroastriaeth, crefydd y proffwyd Zarathustra, oedd y brif grefydd. Datblygodd y grefydd allan o'r grefydd amldduwaidd frodorol gyda Ahura Mazda yn brif dduw ac Anahita yn dduwies boblogaidd. Cymerodd Islam lle'r hen grefydd gyda dyfodiad yr Arabiaid ond parhaodd Zoroastriaeth serch hynny ac mae'r grefydd yn dal i oroesi mewn mannau. Heddiw mae mwyafrif helaeth y boblogaeth yn Fwslemiaid Shia. Ymhlith canolfannau crefyddol Iran y mae dinas sanctaidd Qom sy'n atynnu nifer o bererinion.

Gwleidyddiaeth golygu

 
Ali Khamenei yn pleidleisio yn etholiad arlywyddol 2017

Mae'r system wleidyddol wedi ei sefydlu ar Gyfansoddiad 1979. Yr Uwch Arweinydd sy'n gyfrifol am oruchwylio polisiau'r Llywodraeth.[52] Ef sy'n gyfrifol hefyd am y fyddin a diogelwch y wlad a'r unig un a gaiff benderfynu mynd i ryfel.

Llywydd presennol Iran ydy Hassan Rouhani, a gafodd ei ethol yn 2013; bydd ei dymor yn dod i ben yn 2017.

Economi golygu

Enwog yn y gorffennol am ei grefftwaith cain a'i charpedi moethus, heddiw mae Iran yn wlad sy'n perchen ar rhai o'r cronfeydd olew pwysicaf yn y byd: ei chronfeydd nwy yw'r ail fwyaf drwy'r byd, yn dilyn rwsia, gyda 33.6 triliwn metr ciwb[53] a'r drydedd wlad fwyaf o ran y cynhyrchu, yn dilyn Indonesia a Rwsia.

 
Sgiwyr yn Dizin, Iran

O ran ei holew crai, cronfeydd olew Iran yw'r pedwerydd mwyaf ar y Ddaear, gydag amcangyfrif o 153,600,000,000 barrels.[54]

Yn 2014, roedd GDP Iran yn $404.1 biliwn ($1.334 triliwn yn ôl PPP), neu $17,100 yn ôl Purchasing power parity y pen.[55]

Taleithiau a siroedd golygu

Rhennir Iran yn 31 talaith (ostān), a reolir gan lywodraethwyr apwyntiedig (استاندار, ostāndār). Rhennir y taleithiau hyn yn siroedd (shahrestān), a rhennir yn ardaloedd (bakhsh) ac is-ardaloedd (dehestān) yn eu tro.[54]

 
Taleithiau Iran

Nid yw'r map yn dangos ynysoedd deheuol talaith Hormozgan (#20 isod):

1. Tehran
2. Qom
3. Markazi
4. Qazvin
5. Gīlān
6. Ardabil
7. Zanjan
8. Dwyrain Azarbaijan
9. Gorllewin Azarbaijan
10. Kurdistan
11. Hamadān
12. Kermanshah
13. Īlām
14. Lorestān
15. Khūzestān
16. Chaharmahal a Bakhtiari
17. Kohgiluyeh a Boyer-Ahmad
18. Bushehr
19. Fārs
20. Hormozgān
21. Sistān a Baluchestān
22. Kermān
23. Yazd
24. Isfahan
25. Semnān
26. Māzandarān
27. Golestān
28. Gogledd Khorasan
29. Razavi Khorasan
30. De Khorasan
31. Alborz


Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. A. Fishman, Joshua (2010). Handbook of Language and Ethnic Identity: Disciplinary and Regional Perspectives (Volume 1). Oxford University Press. t. 266. ISBN 978-0-19-537492-6. " "Iran" and "Persia" are synonymous" The former has always been used by the Iranian speaking peoples themselves, while the latter has served as the international name of the country in various languages
  2. Whatley, Christopher (2001). Bought and Sold for English Gold: The Union of 1707. Tuckwell Press.
  3. Lowell Barrington (2012). Comparative Politics: Structures and Choices, 2nd ed.tr: Structures and Choices. Cengage Learning. t. 121. ISBN 978-1-111-34193-0. Cyrchwyd 21 Mehefin 2013.
  4. David Sacks; Oswyn Murray; Lisa R. Brody; Oswyn Murray; Lisa R. Brody (2005). Encyclopedia of the ancient Greek world. Infobase Publishing. tt. 256 (at the right portion of the page). ISBN 978-0-8160-5722-1. Cyrchwyd 17 Awst 2016.
  5. Stillman, Norman A. (1979). The Jews of Arab Lands. Jewish Publication Society. t. 22. ISBN 978-0-8276-1155-9.
  6. Jeffreys, Elizabeth; Haarer, Fiona K. (2006). Proceedings of the 21st International Congress of Byzantine Studies: London, 21–26 August, 2006, Volume 1. Ashgate Publishing. t. 29. ISBN 978-0-7546-5740-8.
  7. Andrew J. Newman (2006). Safavid Iran: Rebirth of a Persian Empire. I.B. Tauris. ISBN 978-1-86064-667-6. Cyrchwyd 21 Mehefin 2013.
  8. Axworthy, Michael (2006). The Sword of Persia: Nader Shah, from Tribal Warrior to Conquering Tyrant. I.B. Tauris. tt. xv, 284. ISBN 978-0-85772-193-8.
  9. Fisher et al. 1991.
  10. Dowling, Timothy C. (2014). Russia at War: From the Mongol Conquest to Afghanistan, Chechnya, and Beyond. ABC-CLIO. tt. 728–730. ISBN 978-1-59884-948-6.
  11. Cordesman, Anthony H. (1999). Iran's Military Forces in Transition: Conventional Threats and Weapons of Mass Destruction. t. 22. ISBN 978-0-275-96529-7.
  12. Graham, Robert (1980). Iran: The Illusion of Power. London: St. Martin's Press. tt. 19, 96. ISBN 978-0-312-43588-2.
  13. "2018 will go down in history as a year of shame for Iran". www.amnesty.org (yn Saesneg). Cyrchwyd 14 Mawrth 2019.
  14. "Nasrin Sotoudeh sentenced to 33 years and 148 lashes in Iran". www.amnesty.org (yn Saesneg). Cyrchwyd 14 Mawrth 2019.
  15. "Women's Rights in Iran". Human Rights Watch (yn Saesneg). 28 Hydref 2015. Cyrchwyd 14 Mawrth 2019.
  16. "Iran". freedomhouse.org. 30 Ionawr 2019. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-04-30. Cyrchwyd 2021-08-10.
  17. "Iran's president: New oil field found with over 50B barrels". AP NEWS. 2019-11-10. Cyrchwyd 2019-11-10.
  18. "World Heritage List". UNESCO.
  19. "Iran". The World Factbook. Central Intelligence Agency (United States). Cyrchwyd 24 Mai 2018.
  20. MacKenzie, David Niel (1998). "Ērān, Ērānšahr". Encyclopedia Iranica. 8. Costa Mesa: Mazda. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 13 Mawrth 2017.
  21. 21.0 21.1 Schmitt, Rüdiger (1987), "Aryans", Encyclopedia Iranica, vol. 2, New York: Routledge & Kegan Paul, pp. 684–687, http://www.iranicaonline.org/articles/aryans
  22. Laroche. 1957.
  23. Shapour Shahbazi, Alireza. "IRAJ". Encyclopædia Iranica website. Cyrchwyd 30 Mawrth 2014.
  24. A. Fishman, Joshua (2010). Handbook of Language and Ethnic Identity: Disciplinary and Regional Perspectives (Volume 1). Oxford University Press. t. 266. ISBN 978-0-19-537492-6. " "Iran" and "Persia" are synonymous" The former has always been used by the Iranian speaking peoples themselves, while the latter has served as the international name of the country in various languages
  25. Persia, Encyclopædia Britannica, "The term Persia was used for centuries ... [because] use of the name was gradually extended by the ancient Greeks and other peoples to apply to the whole Iranian plateau."
  26. Wilson, Arnold (2012). "The Middle Ages: Fars". The Persian Gulf (RLE Iran A). Routledge. t. 71. ISBN 978-1-136-84105-7.
  27. M, Dattatreya; al (14 Mawrth 2016). "Researchers Discover 7,000-Year-Old Cemetery in Khuzestan, Iran". Realm of History (yn Saesneg). Cyrchwyd 2 Mehefin 2019.
  28. Biglari, Fereidoun; Saman Heydari; Sonia Shidrang. "Ganj Par: The first evidence for Lower Paleolithic occupation in the Southern Caspian Basin, Iran". Antiquity. Cyrchwyd 27 April 2011.
  29. "National Museum of Iran". Pbase.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 26 Gorffennaf 2013. Cyrchwyd 21 Mehefin 2013.
  30. J. D. Vigne; J. Peters; D. Helmer (2002). First Steps of Animal Domestication, Proceedings of the 9th Conference of the International Council of Archaeozoology. Oxbow Books, Limited. ISBN 978-1-84217-121-9.
  31. Nidhi Subbaraman. "Early humans in Iran were growing wheat 12,000 years ago". NBC News. Cyrchwyd 26 Awst 2015.
  32. "Emergence of Agriculture in the Foothills of the Zagros Mountains of Iran", by Simone Riehl, Mohsen Zeidi, Nicholas J. Conard – University of Tübingen, publication 10 Mai 2013
  33. "Excavations at Chogha Bonut: The earliest village in Susiana". Oi.uchicago.edu. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 25 Gorffennaf 2013. Cyrchwyd 21 Mehefin 2013.
  34. K. Kris Hirst. "Chogha Mish (Iran)". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 6 Tachwedd 2013. Cyrchwyd 18 December 2013.
  35. Collon, Dominique (1995). Ancient Near Eastern Art. University of California Press. ISBN 978-0-520-20307-5. Cyrchwyd 4 Gorffennaf 2013.
  36. "New evidence: modern civilization began in Iran". News.xinhuanet.com. 10 Awst 2007. Cyrchwyd 21 Mehefin 2013.
  37. D. T. Potts (1999). The Archaeology of Elam: Formation and Transformation of an Ancient Iranian State. Cambridge University Press. tt. 45–46. ISBN 978-0-521-56496-0. Cyrchwyd 21 Mehefin 2013.
  38. "New evidence: modern civilization began in Iran". News.xinhuanet.com. 10 Awst 2007. Cyrchwyd 21 Mehefin 2013.
  39. "Panorama – 03/03/07". Iran Daily. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 12 Mawrth 2007. Cyrchwyd 21 Mehefin 2013.
  40. "Iranian.ws, "Archaeologists: Modern civilization began in Iran based on new evidence", 12 August 2007". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-06-26. Cyrchwyd 2021-08-10.
  41. "Ancient Scripts:Elamite". 1996. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 13 Mai 2011. Cyrchwyd 28 April 2011.
  42. Basu, Dipak. "Death of the Aryan Invasion Theory". iVarta.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 29 Hydref 2012. Cyrchwyd 6 Mai 2013.
  43. Cory Panshin. "The Palaeolithic Indo-Europeans". Panshin.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 29 Mehefin 2013. Cyrchwyd 21 Mehefin 2013.
  44. 44.0 44.1 Roux, Georges (1992). Ancient Iraq. Penguin Adult. ISBN 978-0-14-193825-7.
  45. "Median Empire". Iran Chamber Society. 2001. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 14 Mai 2011. Cyrchwyd 29 April 2011.
  46. A. G. Sagona (2006). The Heritage of Eastern Turkey: From Earliest Settlements to Islam. Macmillan Education AU. t. 91. ISBN 978-1-876832-05-6.
  47. "Urartu civilization". allaboutturkey.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 1 Gorffennaf 2015. Cyrchwyd 26 Awst 2015.
  48. April Fast (2005). Iran: The Land. Crabtree Publishing Company. t. 31. ISBN 978-0-7787-9315-1.
  49. Eskandar Firouz (2005). The Complete Fauna of Iran. I.B. Tauris. ISBN 978-1-85043-946-2.
  50. Grazia Borrini-Feyerabend; M. Taghi Farvar; Yves Renard; Michel P Pimbert; Ashish Kothari (2013). Sharing Power: A Global Guide to Collaborative Management of Natural Resources. Routledge. t. 120. ISBN 978-1-136-55742-2.
  51. Guggisberg, C.A.W. (1961). Simba: The Life of the Lion. Howard Timmins, Cape Town.
  52. [1] Archifwyd 2013-06-12 yn y Peiriant Wayback. adalwyd 13 Mai 2008
  53. "BP Cuts Russia, Turkmenistan Natural Gas Reserves Estimates". WSJ.com. 12 Mehefin 2013. Cyrchwyd 24 Mehefin 2013.
  54. 54.0 54.1 "CIA.gov". CIA.gov. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 13 Mehefin 2007. Cyrchwyd 7 April 2012.
  55. CIA World Factbook. "Iran". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-11-19. Cyrchwyd 7 Awst 2012.