Maenordeilo (pentref)

pentref yn Sir Gaerfyrddin

Pentref bychan yng nghymuned Maenordeilo a Salem, Sir Gaerfyrddin, Cymru, yw Maenordeilo (Seisnigiad: Manordeilo). Fe'i lleolir ar y ffordd A40 tua 5 milltir i'r gogledd-ddwyrain o Landeilo i gyfeiriad Llanymddyfri.

Maenordeilo
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirMaenordeilo a Salem Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.9164°N 3.9367°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auAdam Price (Plaid Cymru)
AS/auJonathan Edwards (Annibynnol)
Map

Enwir y pentref ar ôl cwmwd Maenor Deilo. Hwn oedd safle prif ganolfan y cwmwd yn yr Oesoedd Canol.

Mae'r pentref yn rhan o gymuned Maenordeilo a Salem ac mae'n gorwedd ym mhlwyf eglwysig Llandeilo Fawr. Llifa Afon Tywi heibio i'r de o'r pentref.

Cyfeiriadau golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am Sir Gaerfyrddin. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato