Dolgran

pentref yn Sir Gaerfyrddin

Pentref bychan yn Sir Gaerfyrddin yw Dolgran. Fe'i lleolir yng ngorllewin y sir tua 5 milltir i'r de o dref Llandysul, ar ffordd wledig 2 filltir i'r de-orllewin o bentref Pencader. Mae Nant Gran yn llifo drwyddo. Mae'n rhan o blwyf eglwysig Llanfihangel-ar-Arth. Yn y gorffennol roedd efail, melin lifio a yrrwyd gan ddŵr ac un siop bob peth yn y pentref ond mae bellach yn ardal preswyl â chymysgedd o gartrefi hen a newydd.

Dolgran
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Gaerfyrddin Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52°N 4.3°W Edit this on Wikidata
Map


Eginyn erthygl sydd uchod am Sir Gaerfyrddin. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato