Raff ap Robert

bardd yn canu ar ei fwyd ei hun

Bardd Cymraeg o'r 16g oedd Raff ap Robert. Ni wyddys ei ddyddiadau. Roedd yn frodor o blwyf Llanynys yng nghantref Dyffryn Clwyd (Sir Ddinbych). Roedd yn dad i'r bardd Edward ap Raff.

Tras a theulu

golygu

Roedd Raff yn perthyn i deulu plas Maesmaencymro ym mhlwyf Llanynys. Ei enw llawn oedd Raff ap Robert ap Gruffudd ap Madog ap Bleddyn Sais. Ei fam oedd Sioned ferch Gruffudd o Edeirnion. Roedd cysylltiad o du mam ei dad, sef Gwladus ferch Ifan ap Bleddyn Goch, ag un o deuloedd grymusaf ardal Dinmael. Gwraig Raff oedd Gwenhwyfar ferch Edward ap Maredudd ab Adda o Drefor. Cawsant dri fab, yn cynnwys y bardd Edward ap Raff.[1]

Bywyd a gwaith

golygu

Yn ôl Siôn Tudur, gwr 'tiriog' a oedd yn canu 'ar ei fara ei hun' oedd Raff ap Robert, a diau fod a wnelo hynny â phynciau ac â daearyddiaeth ei gerddi. Gwelir bod y rhan fwyaf o'r canu yn perthyn i ddyffryn afon Clwyd a'r cyffiniau.[2]

Mae ei waith sydd ar glawr yn cynnwys cerdd foliant a sawl marwnad: i Tudur Aled a Siôn Salsbri, gŵr cyntaf Catrin o Ferain. Ceir hefyd gywydd mawl a nifer o englynion. Arferai Raff ymryson gyda Siôn Tudur a'r clerwr Robin Clidro.[2]

Llyfryddiaeth

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. Enid Roberts, Gwaith Siôn Tudur, cyfrol II (Caerdydd, 1980), tud. 504.
  2. 2.0 2.1 A. Cynfael Lake (gol.) Gwaith Raff ap Robert (Aberystwyth, 2013).