A Tour round North Wales

(Ailgyfeiriad o Tour round North Wales)

Mae A tour round North Wales, performed during the summer of 1798; containing not only the description and local history of the country but also, a sketch of the history of the Welsh bards; and essay on the language; observations on the manners and customs; and the habitats of above 400 of the more rare native plants ; intended as a Guide to future Tourists yn llyfr gan William Bingley, (Ionawr 1774 - 11 Mawrth, 1823) a gyhoeddwyd mewn dwy gyfrol y gyntaf gan argraffwasg E. Williams, Llundain ym 1800 a'r ail gan Gwmni Cyhoeddi Longman & Rees ym 1804.

A Tour round North Wales
Enghraifft o'r canlynolgwaith llenyddol Edit this on Wikidata
Wynebddalen Cyfrol 1

Mae copi digidol o'r llyfr ar gael i'w darllen yn di dal ar wefan Internet Archive.[1]

Ffynonellau golygu

Mae'r llyfr yn ddibynnol iawn ar weithiau eraill yn bennaf Itinery John Leland a A Tour in Wales Thomas Pennant. Mae ei bennod ar Sir Fôn yn ddibynnol iawn ar Mona Antiqua Restaurata Henry Rowlands a'i bennod ar y beirdd Cymreig yn gwneud defnydd helaeth ar lyfr Edward Jones Musical and Poetical Relicks of the Welsh Bards.

Cyfrol I golygu

Mae'r llyfr yn disgrifio taith dri mis gwariodd Bingley yn ystod gwyliau o Goleg Peterhouse, Caergrawnt yn y flwyddyn 1798, pan lesteiriwyd pobl rhag mynd ar y Grand Tour ffasiynol arferol gan yr helyntion ar gyfandir Ewrop, yn arbennig yn Ffrainc oherwydd y Chwyldro Ffrengig.

Mae ei daith yn cychwyn yng Nghaer ac yn rhoi amlinelliad o hanes y ddinas. Mae'n symud ym mlaen i Sir y Fflint ac yn sôn am Benarlâg, Treffynnon a Llaneurgain. Mae'n mynd i Ruddlan ac yn trafod brwydr Morfa Rhuddlan.

Mae'n ymweld ag Abergele, Llanddulas, Penmaen Rhos a Chonwy, lle mae'n disgrifio pysgota am berlau yn afon Conwy. O Gonwy mae'n ymweld â Chastell y Penrhyn, Bangor, a Chaernarfon. Yn ystod ei daith o Gaernarfon i Lanberis mae'n rhoi cofnod o hanes Marged uch Ifan. Mae Bingley yn ymweld â nifer o fynyddoedd Eryri gan gynnwys mynd ar daith i gopa'r Wyddfa. Mae'r bennod am ei daith i'r mynyddoedd hefyd yn cynnwys disgrifiadau o rai o blanhigion unigryw'r ardal.

Mae Bingley yn dychwelyd i Gaernarfon lle mae'n dal fferri i Ynys Môn gan ymweld â Llanedwen, Caergybi, Amlwch, Biwmares a Phlas Newydd. Wedi dychwelyd i'r tir mawr mae'n teithio trwy Gapel Curig i Lanrwst, Dolwyddelan a Ffestiniog. O Ffestiniog mae'n ymweld â Beddgelert a Chricieth. Yna mae'n teithio i lawr arfordir Meirion trwy Harlech ac Abermaw (lle horribly unpleasant) i Ddolgellau gan ymweld â Chastell Harlech, Cromlech Gwern Einion, Ynys y Brawd ac Abaty Cymer ar ei siwrne. Yn Nolgellau arhosodd yng Ngwesty'r Llew Aur, lle'r oedd y gwin yn wael a'r gwlâu yn anghyffyrddus. Wedi taith i Dal y Llyn ac i gopa Cader Idris mae'n mynd ymlaen i Fachynlleth ac yn ymweld â senedd-dy Owain Glyndŵr. Mae'r gyfrol yn darfod gydag ymweliadau i'r Drenewydd, Llanidloes a Threfaldwyn.[2]

Cyfrol II golygu

 
Wynebddalen yr 2il Gyfrol

Yn y cyflwyniad i'r gyfrol gyntaf mae Bingley yn mynegi ei fwriad i ysgrifennu am daith sy'n dechrau yng Nghaer ac yn darfod yn yr Amwythig a wnaed ganddo ym 1798 ond mae'r gyfrol yn darfod yn Nhrefaldwyn. Teitl llawn yr ail gyfrol yw North Wales; including its scenery, antiquities, customs, and some sketches of its natural history delinated from two exursions through all the interesting parts of that country during the summers of 1798 and 1801. Mae deg pennod gyntaf yr ail gyfrol yn ail gyhoeddiad o gynnwys y gyfrol gyntaf. Mae penodau un ar ddeg i ddau ar hugain o'r ail gyfrol yn darllen fel parhad o'r un daith, sydd yn darfod yn yr Amwythig. Gan hynny mae'n anodd gweithio allan lle mae taith 1798 yn darfod a lle mae taith 1801 yn dechrau.

Wedi ei ymweliad â chastell Trefaldwyn yn y gyfrol gyntaf mae Bingley yn mynd trwy Lanymynech i'r Trallwng. Mae'n croesi Clawdd Offa ac yn rhoi rhywfaint o hanes y clawdd. Mae'n croesi'r ffin i Groesoswallt ac yn trafod y berthynas gythryblus rhwng Cymry a Saeson y ffin a chysylltiad hir Croesoswallt a Chymru. O Groesoswallt mae'n teithio i Riwabon gan ymweld â Chastell y Waun ar y ffordd. Wrth aros yn Rhiwabon mae'n mynd am wibdaith i Fangor-is-y-coed ac yn ymweld â'r mynachdy. Mae'n teithio o Riwabon i Wrecsam lle mae'n ymweld â Phlas Erddig, yn mynychu ffair yn y dref, ac yn ymweld â chastell yr Holt. Mae'n teithio o Wrecsam i'r Wyddgrug gan ymweld â Chastell Caergwrle a maes Brwydr yr Haleliwia. Yn yr Wyddgrug mae'n ymweld â'r eglwys a'r castell. O'r Wyddgrug mae'n teithio trwy Ruthun i'r dirty, ill built and disagreeable town of Llangollen. Mae'n ymweld â Chastell Dinas Bran ond yn methu ymweld â Merched Llangollen ym Mhlas Newydd.

Mae Bingley yn ymadael a Llangollen gan deithio trwy Lyndyfrdwy a heibio Plas Llandrillo i Gorwen (sydd hefyd yn disagreeable little town). Wedi ymweld â Phont y Glyn mae'n teithio ar hyd dyffryn Edeirnion i'r Bala gan ymweld â Rhaeadr Cynwyd ag eglwys Llandderfel ar y ffordd. Dydy Llyn Tegid ddim at ei ddant gan nad yw'r dirwedd o'i hamgylch yn ddigon hardd. Mae'n gwario deuddydd yn teithio o'r Bala i'r Amwythig gan ddod a'i daith i ben trwy roi disgrifiad o'r dref a'i hynodion.[3]

Mae penodau olaf y gyfrol yn rhoi'r braslun o hanes beirdd Cymru; a thraethawd ar yr iaith; arsylwadau ar foesau ac arferion; a thrafodaeth am gynefinoedd rhagor na 400 o'r planhigion brodorol mwy prin a addawyd yn y gyfrol gyntaf.

Cyfeiriadau golygu

  1. "Internet Archive: Digital Library of Free & Borrowable Books, Movies, Music & Wayback Machine". archive.org. Cyrchwyd 2019-12-29.
  2. Bingley, William (1800). A tour round North Wales, performed during the summer of 1798; containing not only the description and local history of the ocuntry but also, a sketch of the history of the Welsh bards; and essay on the language; observations on the manners and customs; and the habitats of above 400 of the more rare native plants. Copi o gyfrol 1 ar Internet Archive: London : E. Williams.CS1 maint: location (link)
  3. Bingley, William (1804). North Wales; including its scenery, antiquities, customs, and some sketches of its natural history;. Copi o Gyfrol 2 ar Internet Archive: London, T. N. Longman and O. Rees.CS1 maint: location (link)