Efail-wen

pentref yn Sir Gaerfyrddin

Pentref yng nghymuned Cilymaenllwyd, Sir Gaerfyrddin, Cymru, yw Efail-wen, weithiau Efailwen.[1] Saif yng ngorllewin y sir, yn agos i'r ffîn a Sir Benfro, ar y briffordd A478, tua hanner y ffordd rhwng Arberth a Chrymych.

Efail-wen
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCilymaenllwyd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.895817°N 4.710902°W Edit this on Wikidata
Cod OSSN135253 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auSamuel Kurtz (Ceidwadwyr)
AS/auSimon Hart (Ceidwadwr)
Map

Yn Efail-wen y dechreuodd Helyntion Beca, gwrthryfel gwerinol yn erbyn y tollau drud a godwyd am deithio ar hyd y ffyrdd tyrpeg. Trawodd Beca gyntaf yn Efail-wen ar y 13 Mai 1839, gan falu'r dollborth yno. Fe wnaethpwyd yr un peth eto ar y 6 Mehefin yn yr un flwyddyn ac eto ar yr 17 Gorffennaf. Mae ysgol y pentref a chaffi wedi eu henwi ar ôl Beca.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Samuel Kurtz (Ceidwadwyr)[2] ac yn Senedd y DU gan Simon Hart (Ceidwadwr).[3]

Cyfeiriadau golygu