Tre-lech, Sir Gaerfyrddin

pentref yn Sir Gaerfyrddin
(Ailgyfeiriad o Trelech, Sir Gaerfyrddin)

Pentref a chymuned yn Sir Gaerfyrddin yw Tre-lech. Saif mewn ardal wledig iawn, tua hanner y ffordd rhwmng Caerfyrddin ac Aberteifi a heb fod ymhell o'r ffin a Sir Benfro. Yn ôl cyfrifiad 1991 roedd poblogaeth ardal Cyngor Cymuned Tre-lech a'r Betws yn 696, gyda 70% ohonynt yn siarad Cymraeg. Mae tafarn yno - ("Tafarn Beca"), ond does dim siop yn y pentref ar hyn o bryd.

Trelech
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth745 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Gaerfyrddin Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd4,689.46 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.9453°N 4.5006°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000558 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auSamuel Kurtz (Ceidwadwyr)
AS/auSimon Hart (Ceidwadwr)
Map
Am leoedd eraill o'r un enw, gweler Trelech.

Ganwyd y Parchedig David Rees ar ffermdy Gelli Lwyd ym mhlwyf Tre-lech ym 1801, a dyma fan geni'r awdur a'r newyddiadurwr Perceval Gibbon (1879–1926) hefyd.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Samuel Kurtz (Ceidwadwyr)[1] ac yn Senedd y DU gan Simon Hart (Ceidwadwr).[2]

Cyfrifiad 2011 golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5][6]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Tre-lech, Sir Gaerfyrddin (pob oed) (745)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Tre-lech, Sir Gaerfyrddin) (440)
  
59.7%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Tre-lech, Sir Gaerfyrddin) (461)
  
61.9%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed (Tre-lech, Sir Gaerfyrddin) (93)
  
31.6%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau golygu

  1. Gwefan Senedd Cymru
  2. Gwefan Senedd y DU
  3. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  4. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  5. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  6. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen marw]

Dolenni allanol golygu