Carmel, Sir Gaerfyrddin

pentref yn Sir Gaerfyrddin

Pentref yng nghymuned Llanfihangel Aberbythych, Sir Gaerfyrddin, Cymru, yw Carmel.[1][2] Fe'i lleolir yn ne'r sir ar yr A476 rhwng Cross Hands a Llandeilo, tua 2 filltir i'r gorllewin o Landybie.

Carmel
Carmel: y mast teledu
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Gaerfyrddin Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.8295°N 4.0536°W Edit this on Wikidata
Cod OSSN585165 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auAdam Price (Plaid Cymru)
AS/auJonathan Edwards (Annibynnol)
Map
Am leoedd eraill o'r un enw, gweler Carmel (gwahaniaethau).

Ar bwys y pentref ceir Gwarchodfa Natur Cenedlaethol Carmel, sy'n cynnwys hen goedwig a system o gaeau hanesyddol.

Ceir mast teledu mawr ar gwr y pentref sy'n gwasanaethu rhan fawr o Sir Gaerfyrddin.

Fel sawl lle arall yng Nghymru, mae enw'r pentref yn tarddu o'r enw beiblaidd Mynydd Carmel.

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 25 Chwefror 2022
  Eginyn erthygl sydd uchod am Sir Gaerfyrddin. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato