Llan-llwch

pentref yn Sir Gaerfyrddin

Pentref yng nghymuned Caerfyrddin, Sir Gaerfyrddin, Cymru, yw Llan-llwch[1] neu Llanllwch.[2] Mae wedi ei leoli tua ddwy filltir i'r gorllewin o dref hanesyddol Caerfyrddin, ger ffordd yr A40 a'r rheilffordd o Gaerfyrddin i Sir Benfro.

Llan-llwch
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCaerfyrddin Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.845°N 4.3442°W Edit this on Wikidata
Cod OSSN386188 Edit this on Wikidata
Map

Mae yno wasanaeth bws yn rhedeg yn ddyddiol o'r pentref a gwasanaeth parcio a theithio yn Nantyci hanner milltir allan o'r pentref sy'n teithio i Gaerfyrddin pob pymtheg munud. Ceir eglwys sy'n cynnal gwasanaethau wythnosol ac mae milfeddygfa newydd Caerfyrddin yn y pentref.

Brig y Faenor, Llan-llwch

Hanes Llanllwch

golygu

Mae'r enw Llan-llwch yn golygu "llyn" neu "pwll" a fodolodd yn yr ardal. Hen enw Cymraeg ar bwll ydy llwch fel a geir yn Talyllychau - o'r un gwreiddyn â Loch yn Gaeleg. Yn wir, yr enw Cymraeg i'r lle yn 1298 oedd Lanlok. Heddiw mae'r ardal yn dal i fod yn gorsiog ac adnabyddir yr ardal i'r dwyrain o Lanllwch yn "Llanllwch Bog" neu "Morass" fel y cafodd ei henwi yn 1811.

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Enwau Lleoedd Safonol Cymru" Archifwyd 2023-03-30 yn y Peiriant Wayback, Comisiynydd y Gymraeg; adalwyd 7 Mehefin 2023
  2. British Place Names; adalwyd 7 Mehefin 2023