Rhandir-mwyn

pentref yn Sir Gaerfyrddin

Pentref bychan yng ngogledd Sir Gaerfyrddin yw Rhandir-mwyn (hefyd: Rhandirmwyn ac weithiau Rhandir Mwyn). Fe'i lleolir yng nghymuned Llanfair-ar-y-bryn tua 6 milltir i'r gogledd o dref Llanymddyfri ar lôn fynydd sy'n dringo o Lanymddyfri i gyfeiriad Ystrad Ffin a Llyn Brianne.

Rhandir-mwyn
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Gaerfyrddin Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.0784°N 3.7748°W Edit this on Wikidata
Cod OSSN784437 Edit this on Wikidata
Map
Am y nofel gan Marion Eames, gweler Y Rhandir Mwyn.

Cyfeiria'r gair 'mwyn' yn yr enw at y gweithfeydd mwyn a fu yn yr ardal ar un adeg. Ymsefydlodd nifer o estronion yno i weithio yn y mwyngloddfeydd yn y 19g, nifer ohonyny yn Gernywiaid, ond cawsant ei gyd eu cymathu i'r gymdeithas leol a dod yn siaradwyr Cymraeg.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. Aneirin Talfan Davies, Crwydro Sir Gár (Llyfrau'r Dryw, Llandybie, 1955; ail argraffiad 1977), tud. 61.


  Eginyn erthygl sydd uchod am Sir Gaerfyrddin. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato