Refferendwm ar bwerau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2011

Cynhaliwyd refferendwm ar ymestyn pwerau deddfu Cynulliad Cenedlaethol Cymru yng Nghymru ar 3 Mawrth 2011. Gofynnodd y refferendwm y cwestiwn hwn: "A ydych yn dymuno i'r Cynulliad allu llunio deddfau ar bob mater yn yr 20 maes pwnc y mae ganddo bwerau ynddynt?"

Mae'r erthygl hon yn rhan o'r gyfres:

Gwleidyddiaeth
Cymru




gweld  sgwrs  golygu

Os caiff pleidlais 'ydw' ar y cyfan, bydd y Cynulliad â'r gallu i lunio deddfau ar bob mater yn yr 20 maes pwnc heb orfod cael caniatâd Llywodraeth y DU. Os caiff pleidlais 'nac ydw' ar y cyfan, ni ddigwyddith unrhyw beth a bydd y system sydd gan Gymru yn parhau.[1][2]

Cyhoeddwyd canlyniadau'r refferendwm ar 4 Mawrth 2011. Ar y cyfan, pleidleisiodd 63.49% 'ydw', a phleidleisiodd 36.51% 'nac ydw'. 'Ydw' oedd y bleidlais mewn 21 o'r 22 awdurdod lleol, gyda'r eithriad i Sir Fynwy. Ar y cyfan, pleidleisiodd 35.2% o Gymru. Croesawodd Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones y canlyniad, gan ddywedyd: "Heddiw, fe gafodd hen wlad ei pharch."

Cefndir golygu

 
Siambr y Senedd.

Sefydlwyd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn 1999 yn dilyn refferendwm yn 1997. Corff datganoledig ydyw sy'n trafod polisïau ac yn cymeradwyo deddfwriaeth yn ymwneud â Chymru, ac yn dyrannu'r arian a rennir iddo gan Lywodraeth y DU. Yn wahanol i'r ddau gorff datganoledig arall a sefydlwyd ar yr un pryd fel rhan o'r broses datganoli yn y DU, sef Cynulliad Gogledd Iwerddon a Senedd yr Alban, does gan y Cynulliad Cenedlaethol ddim pwerau i godi trethi (fel yn yr Alban) nac i greu deddfau'n annibynnol ar San Steffan.

Cafodd grymoedd i basio mesurau deddfwriaethol o fewn meysydd penodol eu rhoi ar ddechrau'r Trydydd Cynulliad ym mis Mai 2007 dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Ond am fod y broses o orfod cael cymeradwyaeth San Steffan i bob deddf unigol yn un hir a chymhleth, galwodd Llywodraeth Cymru, sy'n glymblaid rhwng y Blaid Lafur a Phlaid Cymru, am ddatganoli grym deddfwriaethol i Gymru o fewn y meysydd sy'n ddatganoledig eisoes a phenderfynwyd y byddai angen cynnal refferendwm arall i'r perwyl hwnnw gan nad oedd refferendwm 1997 yn cynnwys cwestiwn am bwerau deddfwriaethol.

Y Cwestiwn golygu

Testun golygu

Testun y cwestiwn a ofynnir yw[3]:

[Rhagymadrodd]
Cynulliad Cenedlaethol Cymru: yr hyn sy'n digwydd ar hyn o bryd.
Mae gan y Cynulliad y pwerau i lunio deddfau mewn 20 maes pwnc, megis:
Amaethyddiaeth
Yr amgylchedd
Tai
Addysg
Iechyd
Llywodraeth leol
Mae'r Cynulliad yn gallu llunio deddfau ar rai materion ym mhob maes pwnc ond nid ar faterion eraill. Er mwyn llunio deddfau ar unrhyw un o'r materion eraill hyn, roedd yn rhaid i'r Cynulliad ofyn am gytundeb Senedd y DU. Yna, roedd Senedd y DU yn penderfynu bob tro a gaiff y Cynulliad lunio'r deddfau hyn neu beidio.
Ni all y Cynulliad lunio deddfau mewn meysydd pwnc fel amddiffyn, trethi neu fudd-daliadau lles. Gan i'r rhan fwyaf o bleidleiswyr pleidleisio 'ydw' mae'r Cynulliad yn gallu llunio deddfau ar bob mater yn yr 20 maes pwnc y mae ganddo bwerau ynddynt, heb orfod cael cytundeb Senedd y DU.
Cwestiwn:
A ydych yn dymuno i'r Cynulliad allu llunio deddfau ar bob mater yn yr 20 maes pwnc y mae ganddo bwerau ynddynt?
Ydw
Nac ydw

Beirniadaeth golygu

Hwn yw'r testun terfynol a gyhoeddwyd gan y Comisiwn Etholiadol ar ôl tua 10 wythnos o drafod ac ystyriaeth. Beirniadwyd penderfyniad y Comisiwn i gynnwys rhagymadrodd ar y papur pleidleisio, a ddisgrifiwyd fel "rhyw fath o ddoethuriaeth ar y cyfansoddiad Prydeinig" gan yr Arglwydd Dafydd Elis Thomas AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Dywedodd ei fod yn "sarhad ar etholwyr" a doedd dim angen ei gael o gwbl.[4] Ond mewn cyfiawnhad o'r penderfyniad, dywedodd y Comisiwn Etholiadol eu bod yn meddwl nad oedd y cyhoedd yn deall y cwestiwn yn iawn na'r rheswm dros bleidleisio. Ond mynnodd Dafydd Elis Thomas nad oedd y cwestiwn yn gymhleth:

"Y cwestiwn yw, a ddylai'r Cynulliad Cenedlaethol gael yr hawl i ddeddfu mewn meysydd lle mae ganddo eisoes gyfrifoldeb, a gwneud hynny heb ymgynghori â senedd San Steffan. Dyw hynny ddim yn gymhleth yn fy marn i, a petai'r cwestiwn yn cael ei ofyn yn y modd amlwg yna dwi'n credu bod modd ei ateb un ffordd neu'r llall. Bu llawer gormod o bwyslais mewn ysgrifennu rhyw fath o ddoethuriaeth ar y cyfansoddiad Prydeinig fel rhan o'r cwestiwn yn hytrach na gwneud y cwestiwn yn glir a dealladwy."[4]

Polau piniwn a sylwadau golygu

Yn 2007, awgrymodd un pôl efallai y byddai 47% o Gymry yn dweud Ydw mewn pleidlais refferendwm, gyda 44% yn erbyn.[5] Darganfuwyd pôl a gynhaliwyd ym mis Chwefror 2008 mai 49% o blaid senedd sydd â hawliau i wneud deddfau llawn a 41% yn erbyn.[6] Ar 3 Chwefror 2010, cefnogodd y Western Mail ymgyrch Ydw.[7] Darganfuwyd pôl BBC a gyhoeddwyd ar 1 Mawrth 2010 bod codiad mewn cefnogaeth o ran deddfu llawn, hyd at 56%, gyda 35% yn erbyn, ond yr oedd Nick Bourne, arweinydd Plaid Geidwadol Cymru, yn amheugar o ganlyniadau'r pôl.[8]

Isod a geir tabl crynodol o ganlyniadau'r pôl o flaen llaw ar gyfer y refferendwm.

Dyddiad Sefydliad Ydw Nac ydw Ni fyddaf yn pleidleisio Wn i ddim
25-28 Chwefror 2011 Grŵp Marchnata ac Ymchwilio 49% 22% - 28%
21-23 Chwefror 2011 YouGov (sicr i bleidleisio) 67% 33% - -
24-26 Ionawr 2011 Archifwyd 2011-02-07 yn y Peiriant Wayback. YouGov 46% 25% 8% 21%
20-22 Rhagfyr 2010 Archifwyd 2011-02-21 yn y Peiriant Wayback. YouGov 48% 30% 8% 14%
25-28 Tachwedd 2010 Archifwyd 2010-12-26 yn y Peiriant Wayback. ICM (sicr i bleidleisio) 70% 30% - -
25-28 Tachwedd 2010 Archifwyd 2010-12-26 yn y Peiriant Wayback. ICM (popeth) 57% 24% - 18%
22-24 Tachwedd 2010 Archifwyd 2011-10-16 yn y Peiriant Wayback. YouGov 52% 29% 7% 13%
19-22 Tachwedd 2010 Ymchwil Cenedl (sicr i bleidleisio) 73% 23% - 4%
19-22 Tachwedd 2010 Ymchwil Cenedl (popeth) 60% 28% - 13%
25-27 Hydref 2010[dolen marw] YouGov 49% 30% 5% 15%
27 - 29 Medi 2010[dolen marw] YouGov 48% 32% 6% 15%
26 - 28 Gorffennaf 2010 Archifwyd 2011-02-21 yn y Peiriant Wayback. YouGov 48% 34% 5% 14%

Canlyniadau golygu

Canlyniad cenedlaethol golygu

Canlyniad cyffredinol: Ydw[9]

Cyfrifwyd y canlyniadau a'u cyhoeddwyd ar 4 Mawrth 2011, yn lleol yn gyntaf ac wedyn yn ffurfiol yn y Senedd.

Mewn 21 allan o 22 awdurdod unedol, Ydw oedd y bleidlais. Sir Fynwy oedd yr unig ardal i bleidleisio Nac ydw. Roedd yn rhaid i'r Sir ailgyfrif, ond 'Nac ydw' oedd y bleidlais yn y diwedd, gyda 320 pleidlais yn unig rhyngddynt.[10]

Y canlyniad cyffredinol oedd:

Ydw :
517,132 (63.49%)
Nac ydw :
297,380 (36.51%)

Nifer o bleidleiswyr (yn ôl Comisiwn Etholiadol): 35.2%[11]

Nifer o bleidleisiau a gyfrifwyd: 814,512.[11]

Canlyniadau yn ôl awdurdod unedol golygu

 
Map canlyniadau Refferendwm Datganoli Cymru 2011.
Awdurdod unedol Nifer o bleidleiswyr Pleidlais Ydw Pleidlais Nac ydw
Ynys Môn 43.83% 64.77% 35.23%
Blaenau Gwent 32.44% 68.87% 31.13%
Pen-y-bont ar Ogwr 35.64% 68.11% 31.89%
Caerffili 34.55% 64.35% 35.65%
Caerdydd 35.16% 61.39% 38.61%
Sir Gaerfyrddin 44.36% 70.82% 29.18%
Ceredigion 44.07% 66.24% 33.76%
Conwy 33.79% 59.72% 40.28%
Sir Ddinbych 34.47% 61.85% 38.15%
Sir y Fflint 29.45% 62.06% 37.94%
Gwynedd 43.39% 76.03% 23.97%
Merthyr Tudful 30.12% 68.86% 31.14%
Sir Fynwy 35.83% 49.36% 50.64%
Castell-nedd Port Talbot 38.00% 73.00% 27.00%
Casnewydd 27.90% 54.76% 45.24%
Sir Benfro 38.73% 54.98% 45.02%
Powys 39.68% 51.64% 48.36%
Rhondda Cynon Taf 34.62% 70.71% 29.29%
Abertawe 32.90% 63.21% 36.79%
Torfaen 33.82% 62.78% 37.22%
Bro Morgannwg 40.10% 52.54% 47.46%
Wrecsam 27.04% 64.09% 35.91%

[11]

Dadansoddiad ardaloedd lleol golygu

Nifer o bleidleiswyr

Uchaf: Sir Gaerfyrddin - 44.36%

Isaf: Wrecsam - 27.04%

Pleidlais

% uchaf o bleidlais Ydw: Gwynedd - 76.03%

% uchaf o bleidlais Nac ydw: Sir Fynwy - 50.64%

Cyfeiriadau golygu

  1. Am beth y mae'r refferendwm yn sôn? Archifwyd 2011-02-28 yn y Peiriant Wayback. o'r Comisiwn Etholiadol
  2. Fideo'r BBC gyda gwybodaeth ynglŷn â deddfu yng Nghymru ar y meysydd pynciau nad ydynt yn ddatganoledig.
  3. "Refferendwm: Y cwestiwn terfynol", Newyddion BBC Cymru, 09.10.2010
  4. 4.0 4.1 "'Rhagair refferendwm yn sarhad' medd y llywydd", Newyddion BBC Cymru, 03.10.2010.
  5. Guto Thomas, Wales referendum: Has the nation warmed to devolution?, Newyddion BBC, 2 Mawrth 2011
  6. (Saesneg) Welsh Open to Full Law-Making Parliament: Angus Reid Global Monitor. Angus-reid.com.
  7. http://www.walesonline.co.uk/news/welsh-politics/welsh-politics-news/2011/02/03/yes-vote-is-sensible-option-91466-28106140/
  8. Powys, Betsan. 'Support grows' for full law-making Wales assembly (en) , Newyddion BBC, 1 Mawrth 2010. Cyrchwyd ar 27 Mehefin 2010.
  9. Newyddion BBC Cymru, Cymru'n dweud Ie, Newyddion BBC, 3 Mawrth 2011
  10. "Y Comisiwn Etholiadol, Authorities | Sir Fynwy, Y Comisiwn Etholiadol, 3 Mawrth 2011". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-08-05. Cyrchwyd 2011-03-04.
  11. 11.0 11.1 11.2 "Y Comisiwn Etholiadol, Canlyniad, Y Comisiwn Etholiadol, 3 Mawrth 2011". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-08-05. Cyrchwyd 2011-03-04.