We Didn't Start the Fire

Cân gan y cerddor Americanaidd Billy Joel yw We Didn't Start the Fire. Rhyddhawyd fel sengl ar 27 Medi 1989, ac ymddangosodd ar yr albwm Storm Front yn yr un flwyddyn. Mae'r geiriau yn cynnwys rhestr o gyfeiriadau byr, cyflym at fwy na 100 o ddigwyddiadau enwog a ddigwyddodd rhwng 1949, y flwyddyn cafodd Joel ei eni, a 1989, pan ryddhawyd y gân. Cafodd y gân ei enwebu ar gyfer Gwobr Grammy Record y Flwyddyn, a roedd y gân yn lwyddiant mawr, yn cyrraedd rhif 1 yn yr Unol Daleithiau ar ddiwedd 1989.

We Didn't Start the Fire
Enghraifft o'r canlynolsengl Edit this on Wikidata
GwladUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Rhan oStorm Front Edit this on Wikidata
IaithSaesneg Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi10 Tachwedd 1989 Edit this on Wikidata
Label recordioColumbia Records Edit this on Wikidata
Genrecerddoriaeth roc Edit this on Wikidata
Rhagflaenwyd ganBaby Grand Edit this on Wikidata
Olynwyd ganLeningrad Edit this on Wikidata
Cynhyrchydd/wyrMick Jones Edit this on Wikidata
CyfansoddwrBilly Joel Edit this on Wikidata

Hanes golygu

Cafodd Joel y syniad am y gân pan wrth iddo droi’n 40 oed. Roedd e mewn stiwdio recordio a chyfarfododd i Sean Lennon a oedd yn 21 blwydd oed, a ddywedodd "Mae'n amser ofnadwy i fod yn 21!" Atebodd Joel wrtho, "Ie, dwi'n cofio pan o'n i'n 21 oed - roeddwn i'n meddwl ei fod yn amser ofnadwy ac fe gawson ni Fietnam, a problemau cyffuriau, a phroblemau hawliau sifil ac roedd popeth i'w weld yn ofnadwy." Atebodd y ffrind, "Ie, ie, ie, ond mae'n wahanol i chi. Roeddech chi'n blentyn yn y pumdegau ac mae pawb yn gwybod na ddigwyddodd dim yn y pumdegau". Ail-adroddodd Joel, "Arhoswch funud, oni chlywsoch chi am Ryfel Corea nac Argyfwng Suez?" Dywedodd Joel taw'r penawdau hyn oedd y fframwaith sylfaenol ar gyfer y gân. Mae Joel hefyd wedi beirniadu'r gân ar seiliau cerddorol. Yn 1993, wrth ei drafod gyda'r gwneuthurwr ffilmiau dogfen David Horn, siaradodd Joel yn anffafriol am y gân: "Cymerwch gân fel 'We Didn't Start the Fire.' Mewn gwirionedd nid yw'n llawer o gân... Os byddwch yn cymryd yr alaw ar ei phen ei hun, ofnadwy. Fel dril deintydd."

Pan ofynnwyd iddo a oedd yn fwriadol yn bwriadu croniclo'r Rhyfel Oer gyda'i gân,[1] ymatebodd, "Roeddwn yn lwcus bod yr Undeb Sofietaidd wedi penderfynu cau'r siop [yn fuan ar ôl rhyddhau'r gân]", a bod gan hwn "cymesuredd, roedd wedi bod 40 mlynedd" ac roedd e wedi'i fyw drwyddo. Pan ofynnwyd iddo a fyddai'n gwneud cân diluynnol ynglŷn â'r flwynyddoedd ar ôl y digwyddiadau yn y gân wreiddiol, dywedodd Joel "Na, ysgrifennais un gân yn barod ac nid wyf yn credu ei bod mor dda â hynny i ddechrau gyda, yn felodaidd."[2]

Fideo cerddoriaeth golygu

Cafodd y fideo cerddoriaeth ar gyfer y sengl ei gyfarwyddo gan Chris Blum.[3] Mae'r fideo yn dechrau gyda chwpl briod newydd yn mynd i mewn i'w cegin steil 1940au. Mae'n dangos digwyddiadau yn eu bywyd domestig dros y pedwar degawd nesaf, gan gynnwys cael plant, eu twf, eu wyrion, ac yn y pen draw marwolaeth tad y teulu. Dangosir treigl amser trwy ailaddurno ac uwchraddio'r gegin o bryd i'w gilydd, tra bod Billy Joel yn edrych ymlaen yn y cefndir yn ddinewid.

Digwyddiadau hanesyddol y cyfeirir atynt yn y gân golygu

Mae geiriau'r gân yn gyflym, a soniwyd am nifer o bobl a ddigwyddiadau mewn un gair yn unig. Ysgrifennodd Steven Ettinger: "Gwnaeth Billy Joel tynnu sylw at delweddau, digwyddiadau, a phersonoliaethau mawr iawn y hanner-ganrif hon mewn cân tri-munud o hyd... Roedd yn gorlwyth gwybodaeth pur, cân a tybiodd ein bod ni'n gwybod yn union beth yr oedd yn canu amdanynt... Yr hyn oedd wir yn brawychus oedd sylweddoli bod ni, y grandawyr, yn deall rhan fwyaf o'r cyfeiriadau."[4]

Isod rhestrir y digwyddiadau yn y trefn maent yn ymddangos yn y gân (gyda geiriau Joel ar gyfer pob un yn ymddangos mewn print trwm), sydd bron yn gyfan gwbl gronolegol.[5] Mae'r rhestr ganlynol yn cynnwys enwau wedi ehangu, cyfieithiadau, a enwau mwy disgrifiadol er eglurder. Mae digwyddiadau o amrywiaeth o gyd-destunau - fel adloniant poblogaidd, materion tramor, a chwaraeon - yn gymysg, gan roi argraff o ddiwylliant yr amser yn ei gyfanrwydd. Mae 119 o eitemau wedi'u rhestru yn y gân.

1940au golygu

1949 golygu

  • Daeth Harry Truman yn arlywydd yr Unol Daleithiau ar ôl cael ei ethol ym 1948 i'w ail dymor a'r un olaf; cyn hyn daeth yn arlywydd yn dilyn marwolaeth Franklin D. Roosevelt. Caniataodd ddefnyddio bomiau atomig ar Hiroshima a Nagasaki yn Japan yn ystod yr Ail Ryfel Byd, ar 6 Awst 1945 a'r 6 Awst 1945, yn y drefn honno.
  • Mae Doris Day yn serennu yn y ffilmiau My Dream Is Yours ac It's a Great Feeling . Roedd ei ffilm gyntaf Romance on the High Seas yn 1948 yn cynnwys y gân boblogaidd "It's Magic".
  • Red China: Mae Plaid Gomiwnyddol Tsieina yn ennill Rhyfel Cartref Tsieina, yn sefydlu Gweriniaeth Pobl Tsieina.
  • Mae Johnnie Ray yn arwyddo ei gontract recordio cyntaf gydag Okeh Records, er na fyddai’n dod yn boblogaidd am ddwy flynedd arall.
  • Mae South Pacific, y sioe gerdd poblogaidd, yn agor ar Broadway ar 7 Ebrill 1949.
  • Newyddiadurwr radio a phapur newydd oedd Walter Winchell a ddyfeisiwyd y golofn clecs.
  • Mae Joe DiMaggio a’r New York Yankees yn cyrraedd pum Cyfres y Byd yn y 1940au, gan ennill pedwar ohonynt.

1950au golygu

1950 golygu

  • Mae Joe McCarthy, Seneddwr yr Unol Daleithiau, yn da sylw cenedlaethol ac yn cychwyn ei groesgad gwrth-Gomiwnyddiaeth gyda'i araith ar Lincoln Day.
  • Etholir Richard Nixon i Senedd yr Unol Daleithiau.
  • Mae Studebaker, cwmni ceir poblogaidd, yn dechrau ei gwymp ariannol.
  • Mae teledu yn dod yn gyffredin ledled Ewrop a Gogledd America.
  • Mae Gogledd Corea a De Korea yn dechrau rhyfela ôl i luoedd y Gogledd symud i'r de ar 25 Fehefin 1950.
  • Mae Marilyn Monroe yn ymddangos mewn pum ffilm, gan gynnwys The Asphalt Jungle ac All About Eve.

1951 golygu

1952 golygu

  • Mae Dwight D. Eisenhower yn cael ei ethol gyntaf yn Arlywydd yr Unol Daleithiau, yn ennill yn ysgubol gan 442 i 89 o bleidleisiau etholiadol.
  • Mae brechlyn ar gyfer polio yn cael ei arbrofi'n breifat gan Jonas Salk.
  • Mae gan Loegr frenhines newydd: mae Elizabeth II yn esgyn i'r orsedd ar ôl marwolaeth ei thad, Siôr VI. Byddai'n cael ei choroni y flwyddyn nesaf.
  • Mae Rocky Marciano yn trechu Jersey Joe Walcott, gan ddod yn bencampwr paffio pwysau trwm y byd.
  • Mae gan Liberace sioe deledu adloniant cerddorol boblogaidd yn y 1950au.
  • Hwyl fawr Santayana: Bu farw George Santayana, athronydd, ysgrifydd, bardd, a nofelydd, ar 26 Fedi 1952.

1953 golygu

  • Bu farw Joseph Stalin, arweinydd yr Undeb Sofietaidd, ar 5 Fawrth 1953.
  • Mae Georgy Maksimilianovich Malenkov cymryd dros Stalin am chwe mis yn dilyn ei farwolaeth.
  • Gamal Abdel Nasser yw gwir bŵer y tu ôl i'r Aifft, yn gweithio fel gweinidog i Muhammad Naguib.
  • Bu farw Sergei Prokofiev, y cyfansoddwr, ar 5 Fawrth 1953, yr un diwrnod â Stalin.
  • Mae Winthrop Rockefeller a'i wraig Barbara yn dechrau ysgaru'n gyhoeddus, gan ddod i ben ym 1954, yn torri record gyda setliad $5.5 miliwn.[6]
  • Mae Roy Campanella, chwaraewr pêl fas Eidalaidd-Americanaidd / Affricanaidd-Americanaidd ar gyfer y Brooklyn Dodgers, yn derbyn gwobr Chwaraewr Mwyaf Gwerthfawr y Gynghrair Genedlaethol am yr eildro.
  • Bloc comiwnyddol: Mae gwrthryfel 1953 yn Nwyrain yr Almaen yn cael ei falu gan y Volkspolizei a'r Grŵp o Lluoedd Sofietaidd yn yr Almaen.

1954 golygu

1955 golygu

  • Bu farw Albert Einstein ar 18 Ebrill 1955 yn 76 oed.
  • Mae James Dean yn yn serennu yn East of Eden a Rebel Without a Cause, yn cael ei enwebu am Wobr Academi am yr Actor Gorau, a bu farw mewn damwain car ar 30 Fedi 1955 yn 24 oed.
  • Mae gan Brooklyn's dîm buddugol: Mae'r Brooklyn Dodgers yn ennill eu Cyfres Byd gyntaf a'r unig Gyfres cyn iddynt symud i Los Angeles.
  • Cyfres deledu byr Disney yw Davy Crockett am y ffinwr chwedlonol o'r un enw. Roedd y sioe yn boblogaidd iawn gyda bechgyn ifanc ac fe ysbrydolodd y ffasiwn byr "cap coonskin".
  • Peter Pan: Flwyddyn ar ôl i Walt Disney Animation Studios ryddhau addasiad animeiddiedig o’r ddrama gan JM Barrie, darlledwyd sioe gerdd lwyfan 1954 o’r un enw ar NBC yn fyw ac mewn lliw.
  • Mae Elvis Presley yn arwyddo gyda RCA Records ar 21 Dachwedd 1955, yn ddechrau ei yrfa bop, ac yn mynd ymlaen i lwyddiant mawr fel y "Brenin Roc a Rôl".
  • Mae Disneyland yn agor ar 17 Orffennaf 1955, parc thema cyntaf Walt Disney.

1956 golygu

1957 golygu

  • Mae gwrthdaro yn Little Rock, Arkansas wrth i'r Llywodraethwr Orval Faubus atal y Little Rock Nine rhag mynychu Ysgol Uwchradd Little Rock Central, ac mae'r Arlywydd Eisenhower yn defnyddio'r byddin i'w wrthweithio.
  • Mae Boris Pasternak, yr awdur o Rwsia, yn ysgrifennu'r nofel Doctor Zhivago.
  • Mae Mickey Mantle yng nghanol ei yrfa llwyddiannus fel chwaraewr allanol ar gyfer y New York Yankees.
  • Mae Jack Kerouac yn ysgrifennu'r nofel On the Road, gwaith diffiniol Cenhedlaeth y Bitniciaid.
  • Sputnik yw'r lloeren artiffisial gyntaf, a lansiwyd gan yr Undeb Sofietaidd ar 4 Hydref 1957, yn dechrau'r ras ofod.
  • Mae Zhou Enlai, Premier Gweriniaeth Pobl Tsieina, yn goroesi ymgais i'w lofruddio ar yr awyren Kashmir Princess.
  • Mae'r ffilm The Bridge on the River Kwai, addasiad o nofel 1954 o'r un enw, yn cael ei ryddhau ac yn derbyn saith Gwobr Academi, gan gynnwys y Llun Gorau.[7]

1958 golygu

  • Mae Libanus mewn argyfwng gwleidyddol a chrefyddol sydd yn y pen draw yn achosi ymyrraeth gan yr Unol Daleithiau.
  • Etholir Charles de Gaulle fel arlywydd cyntaf Pumed Weriniaeth Ffrainc yn dilyn Argyfwng Algeria.
  • Mae pêl fas yn Califfornia yn cychwyn wrth i'r Brooklyn Dodgers a New York Giants symud i Califfornia yn dod yn y Los Angeles Dodgers a San Francisco Giants. Nhw yw'r timau cyntaf ynm Major League Baseball i orllewin Kansas City.
  • Lladdiad Starkweather: Mae sbri llofruddiaeth Charles Starkweather yn dal sylw America. Mae'n lladd un ar ddeg o bobl yn bennaf yn Lincoln, Nebraska, rhwng 25 - 29 Ionawr, cyn cael ei ddal yn Douglas, Wyoming.
  • Plant Thalidomide: Roedd gan lawer o ferched beichiog sy'n cymryd y cyffur Thalidomide blant â namau geni.

1959 golygu

  • Bu farw Buddy Holly mewn damwain awyren ar 3 Chwefror 1959 ynghyd â Ritchie Valens a The Big Bopper, mewn diwrnod a gafodd effaith mawr ar roc a rôl a diwylliant ieuenctid.
  • Mae Ben-Hur, ffilm a addaswyd o nofel 1880 Lew Wallace, Ben-Hur: A Tale of the Christ ac sy'n serennu Charlton Heston, yn ennill un ar ddeg Wobr yr Academi, gan gynnwys y Llun Gorau.
  • Space Monkey: Ar y Jupiter AM-18, Able a Miss Baker yw'r ddau anifail cyntaf i'w gael eu lansio gan NASA i'r gofod a ddychwelyd i'r Ddaear yn fyw.
  • Mae sefydliadau'r Mafia o dan sylw'r FBI.
  • Mae cylchoedd Hula yn gwerthu dros 100 miliwn.
  • Daw Fidel Castro i rym ar ôl chwyldro yng Nghiwba, ac mae'n ymweld â'r Unol Daleithiau y flwyddyn honno ar daith answyddogol deuddeg diwrnod.
  • Mae Edsel yn 'no-go': Mae cynhyrchiad y car hwn yn dod i ben ar ôl tair blynedd oherwydd gwerthwyd yn wael.

1960au golygu

1960 golygu

  • U-2: Saethwyd i lawr awyren ysbïo Americanaidd U-2, a beilotwyd gan Francis Gary Powers, dros yr Undeb Sofietaidd, gan achosi Argyfwng U-2 1960.
  • Mae'r CIA yn achub Syngman Rhee ar ôl iddo cael ei orfodi i ymddiswyddo fel arweinydd De Korea, gan ei fod wedi twyllo etholiad ac ysbeilio mwy nag $20 miliwn.
  • Datgelwyd Payola, taliadau anghyfreithlon am ddarlledu caneuon ar y radio, i'r cyhoedd, diolch i dystiolaeth Dick Clark o flaen y Gyngres.
  • Mae John F. Kennedy, seneddwr o Massachusetts, yn curo'r Is-lywydd Richard Nixon yn etholiad cyffredinol ar 8 Tachwedd 1960.
  • Mae'r dawns The Twist yn dod yn poblogaidd diolch i cân Chubby Checker o'r un enw.
  • Psycho: Ffilm gyffro Alfred Hitchcock, wedi'i seilio ar nofel gan Robert Bloch ac wedi'i haddasu gan Joseph Stefano. Mae'n garreg filltir mewn sinema trais graffig.
  • Belgaid yn y Congo: Datganwyd Gweriniaeth y Congo (Leopoldville) annibynniaeth o Wlad Belg ar 30 Fehefin, gyda Joseph Kasavubu yn Arlywydd a Patrice Lumumba yn Brif Weinidog.

1961 golygu

1962 golygu

  • Lawrence of Arabia: Rhyddhawyd y ffilm bywgraffiadol o TE Lawrence, yn serennu Peter O'Toole, yn yr Unol Daleithiau ar 16 Ragfyr. Aeth ymlaen i ennill Wobrau'r Academi.
  • Beatlemania Prydeinig: Mae Ringo Starr yn ymuno'r Beatles, grŵp roc o Prydain, fel drymiwr, ynghyd â Brian Epstein fel rheolwr. Yn fuan iawn nhw yw band roc enwocaf y byd, a defnyddir y gair "Beatlemania" gan y wasg am frwdfrydedd eu cefnogwyr. Ym 1964, byddai eu taith o amgylch yr Unol Daleithiau yn nodi dechrau'r "Goresgyniad Prydeinig".
  • Ole Miss: Roedd reiat rhwng pobl y De a oedd yn cefnogi arwahaniad, a lluoedd ffederal a gwladwriaethol, o ganlyniad i gorfodol Mhrifysgol Mississippi i ymrestru'r myfyriwr du James Meredith.
  • Hedfanodd John Glenn yr orchwil orbitol Americanaidd gyntaf gyda pobl, o'r enw "Friendship 7", ar 20 Chwefror.
  • Liston yn curo Patterson: Paffiodd Sonny Liston a Floyd Patterson ar gyfer pencampwriaeth pwysau trwm y byd ar 25 Fedi. Dyma oedd y tro cyntaf erioed i Patterson gael ei llorio, ac ond un o wyth colled yn ei yrfa broffesiynol 20 mlynedd.

1963 golygu

  • Pab Pawl: Etholwyd Cardinal Giovanni Montini i fod yn pab ac yn cymryd yr enw Paul VI.
  • Mae Malcolm X yn gwneud ei ddatganiad drwgenwog "Mae'r ieir wedi dod adref i glwydo" yn sôn am lofruddiaeth Kennedy, gan beri i Genedl Islam ei wahardd; tua phymtheng mis yn ddiweddarach, mae ef ei hun yn cael ei lofruddio wrth baratoi i wneud araith.
  • Rhyw gwleidydd Prydeinig: Mae'r Ysgrifennydd Gwladol dros Rhyfel Prydeinig, John Profumo, yn cael perthynas â Christine Keeler, dawnswraig, ac yna mae'n dweud celwydd wrth gael ei holi amdano o flaen Tŷ'r Cyffredin. Pan ddaeth y gwir i'r golwg, achosodd ei ymddiswyddiad ei hun tra'n tanseilio hygrededd y Prif Weinidog Harold Macmillan.
  • Chwythwyd JFK i ffwrdd: Mae'r Arlywydd John F. Kennedy yn cael ei lofruddio ar 22 Dachwedd wrth reidio mewn car agored trwy Dallas.

1965 golygu

  • Rheoli genedigaeth: Yn gynnar yn y 1960au, mae dulliau atal cenhedlu, a elwir yn boblogaidd fel "y bilsen", ar gael ar y farchnad am y tro gyntaf, ac maent yn hynod boblogaidd. Yn nhreial Griswold v. Connecticut ym 1965 ceisiodd gyfraith Connecticut gwahardd dulliau atal cenhedlu. Ym 1968, rhyddhaodd y Pab Paul VI llythyr Pabaidd o’r enw Humanae vitae a ailddatganodd bod dysgu Catholigaidd yn gweld dulliau atal cenhedlu artiffisial yn bechod.
  • Ho Chi Minh: Comiwnydd o Fietnam, a oedd yn Arlywydd Fietnam rhwng 1954–1969. Ar 2 Fawrth, mae Operation Rolling Thunder yn gychwyn trwy fomio llinell gyflenwi Llwybr Ho Chi Minh o Ogledd Fietnam i wrthryfelwyr y Viet Cong yn y de. Ar 8 Fawrth, glaniodd milwyr cyntaf yr Unol Daleithiau, 3,500 o forluoedd, yn Ne Fietnam.

1968 golygu

  • Mae Richard Nixon yn ôl eto: Etholwyd y cyn Is-lywydd Nixon yn Arlywydd ym 1968.

1969 golygu

  • Moonshot: Mae Apollo 11, yn glanio ar y lleuad yn llwyddiannus.
  • Woodstock: Gŵyl roc a rôl enwog yn 1969 a ddaeth i fod yn uchafbwynt y mudiad gwrthddiwylliant.

1970au golygu

19721975 golygu

  • Watergate: Sgandal wleidyddol a ddechreuodd pan dorwyd i mewn i bencadlys y Pwyllgor Cenedlaethol Democrataidd yng nghanolfan swyddfa Watergate yn Washington, DC yn ystod 1972. Ar ôl hyn dechreuodd y sibrydion y gallai'r Arlywydd Richard Nixon fod wedi'i wybod am y ddigwyddio a cheisio ei guddio. Byddai'r sgandal yn arwain at ymddiswyddiad yr Arlywydd Nixon ar 9 Awst 1974; hwn yw'r unig amser hyd yma i unrhyw arlywydd ymddiswyddo.
  • Roc pync: Mae adlach yn erbyn roc cynyddol y 1970au cynnar yn arwain at ymddangosiad bandiau newydd fel The Ramones (a sefydlwyd ym 1974) a'r Sex Pistols (a sefydlwyd flwyddyn yn ddiweddarach).

19761977 golygu

(Sylwch: soniwyd am ddigwyddiad o 1976 rhwng ddigwyddiadau 1977 i wneud i'r gân swnio'n yn well.)

  • Daeth Menachem Begin yn Brif Weinidog Israel ym 1977 ac mae'n negodi'r Cytundeb Camp David gydag arlywydd yr Aifft ym 1978.
  • Mae Ronald Reagan, cyn-lywodraethwr Califfornia, yn cychwyn ei ail ymgyrch Arlywyddol ym 1976. O'r diwedd mae'n ennill yn yr etholiad nesaf ym 1980.
  • Palestina: Mae'r gwrthdaro parhaus rhwng Israel a Phalestina yn gwaethygu wrth i Israeliaid sefydlu aneddiadau yn y Lan Orllewinol, a gynhaliwyd yn flaenorol gan yr Iorddonen ar gyfer Palestiniaid nad oeddent yn Iddewon ar ôl rhyfel 1948.
  • Terfysgaeth ar y awyren: Mae llawer o herwgipio awyrennau yn digwydd, yn benodol, herwgipiad Palestinaidd o Air France Flight 139, ac Operation Entebbe yn Wganda.

1979 golygu

  • Ayatollahs yn Iran: Yn ystod Chwyldro Iran yn 1979, dymchwelir y Shah seciwlar gyda chefnogaeth yr Orllewin wrth i'r Ayatollah Ruhollah Khomeini ennill pŵer a yn creu cymdeithas Islamaidd.
  • Rwsiaid yn Afghanistan: Ar ôl iddynt symud i mewn i Afghanistan ar 24 Ragfyr, mae lluoedd Sofietaidd yn ymladd rhyfel deng mlynedd hyd at 1989.

1980au golygu

1981 golygu

  • Wheel of Fortune: Cafodd y sioe gemau teledu boblogaidd hyn, a oedd yn darlledu ers 1975, sawl newid yn gynnar yn yr 1980au. Roedd rhain yn cynnwys cyflogi Pat Sajak yn gyflwynydd ym 1981, Vanna White yn gyflwynwraig ym 1982, a syndiceiddio ym 1983. Mae'r tri newid hyn i gyd yn parhau i fod yn weithredol trwy 2019.

1983 golygu

  • Sally Ride: Ar 18 Fehefin daeth yn fenyw Americanaidd gyntaf yn y gofod trwy hedfan yn Challenger ar y genhadaeth STS-7.
  • Hunanladdiad metel trwm: Yn y 1970au a'r 1980au, daeth bandiau metel trwm yn boblogaidd. Cafodd Ozzy Osbourne a Judas Priest eu siwio am hunanladdiadau ei ffans ar ôl gwrando ar eu caneuon "Suicide Solution" a "Better By You, Better Than Me".
  • Dyledion tramor: Roedd diffygion masnach a chyllideb yn gyffredin yr UD
  • Cyn-filwyr digartref: Adroddir bod cyn-filwyr Rhyfel Fietnam, gan gynnwys nifer anabl, yn ddigartref ac yn dlawd.
  • AIDS: Casgliad o symptomau a heintiau mewn pobl sy'n deillio o'r difrod penodol i'r system imiwnedd a achosir gan haint gyda HIV. Fe'i canfyddir a'i gydnabod yn gyntaf yn yr 1980au, ac roedd yn ddod yn bandemig.
  • Cynyddodd y defnydd o gocên crac yn yr 1980au.

1984 golygu

  • Bernie Goetz: Ar 22 Rhagfyr saethodd Goetz bedwar dyn ifanc, yn dweud eu bodyn ceisio ei fygio ar isffordd Efrog Newydd. Cafodd Goetz ei gyhuddo o geisio llofruddio ond fe’i cafwyd yn ddieuog o’r cyhuddiadau, er ei fod yn euog o gario gwn didrwydded.

1988 golygu

  • Hypodermics ar y lan: Canfyddwyd wastraff meddygol wedi'i olchi i fyny ar draethau Long Island, New Jersey, a Connecticut ar ôl cael ei ddympio'n anghyfreithlon ar y môr. Cyn y digwyddiad hwn, roedd gwastraff a ollyngwyd yn y cefnforoedd yn cael eu anghofio. Cyfeiriwyd at hyn fel un o'r trobwyntiau hanfodol ym marn boblogaidd ar amgylcheddaeth.

1989 golygu

  • Mae Tseina o dan rheolaewth filwrol: Ar 20 Fai, mae Tseina yn cyhoeddu rheolaeth filwrol, yn arwain at ddefnyddio lluoedd milwrol yn erbyn myfyrwyr sy'n protestio i ddod â phrotestiadau Tiananmen i ben.
  • Rhyfeloedd cola roc a rholer: Mae cwmnioedd mawr diodydd meddal Coke a Pepsi yn cynnal ymgyrchoedd marchnata gan ddefnyddio sêr roc a rôl a cherddoriaeth boblogaidd i gyrraedd demograffig yr arddegau ac oedolion ifanc.

Pobl golygu

  • Billy Joel - lleisiau, clavinet, offerynnau taro
  • Liberty DeVitto - drymiau, offerynnau taro
  • David Brown - prif gitâr
  • Hela Joey - gitâr rhythm
  • Crystal Taliefero - llais cefnogi, offerynnau taro
  • Schuyler Deale - gitâr fas
  • John Mahoney - allweddellau
  • Sammy Merendino - offerynnau taro electronig
  • Kevin Jones - rhaglennu'r bysellfwrdd
  • Doug Kleeger - effeithiau swnio a threfniadau cerddorol

Cyfeiriadau golygu

  1. The song describes events between 1949 (when the Soviet Union detonated their first atomic bomb and 1989 (when the Berlin Wall fell).
  2. Billy Joel Q&A: Tell Us About 'We Didn't Start The Fire?' University of Oxford, May 5, 1994 – https://www.youtube.com/watch?v=Dx3T8pbDcms
  3. Garcia, Alex S. Billy Joel – We didn't start the fire Archifwyd 2018-10-21 yn y Peiriant Wayback.. MVDBase – Music Video Database.
  4. Ettinger, Steven (2003). Torah 24/7: A Timely Guide for the Modern Spirit. Devorah Publishing Company. t. 2. ISBN 1-930143-73-7. Cyrchwyd April 2, 2010.
  5. Joel, Billy. "Lyrics: We Didn't Start the Fire". www.billyjoel.com. Cyrchwyd August 24, 2009.
  6. Bernstein, Adam (May 21, 2008). "Obituaries: Barbara Sears Rockefeller, 91; Miss Lithuania, Millionaire Bride". The Washington Post.
  7. "The 30th Academy Awards – 1958". oscars.org. Cyrchwyd March 6, 2017.