Mochdre, Conwy
Pentref a chymuned ym mwrdeistref sirol Conwy, Cymru, yw Mochdre.[1][2] Mae'n gorwedd i'r gorllewin o Fae Colwyn ac i'r dwyrain o Gyffordd Llandudno. Hyd Ebrill 1974 bu'r pentref yn rhan o Fwrdeistref Ddinesig Bae Colwyn; heddiw mae'n gymuned ar wahân gyda phoblogaeth o 1,862 (Cyfrifiad 2001). Rhed yr A55 a Rheilffordd Arfordir Gogledd Cymru heibio i Fochdre ar ei ymyl ogleddol.
Math | pentref, cymuned |
---|---|
Enwyd ar ôl | mochyn |
Poblogaeth | 1,923, 2,005 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Conwy |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 280.88 ha |
Cyfesurynnau | 53.29°N 3.76°W |
Cod SYG | W04000133 |
Cod OS | SH826786 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Darren Millar (Ceidwadwyr) |
AS/au y DU | Gill German (Llafur) |
- Am y pentref o'r un enw ym Mhowys, gweler Mochdre, Powys.
Mabinogi
golyguCeir chwedl onomatig sy'n esbonio tarddiad enw'r pentref yn chwedl Math fab Mathonwy, yn y Mabinogi. Mae Gwydion a chwmni o ryfelwyr Gwynedd yn cyrchu llys Pryderi yn Nyfed ac yn dwyn moch lledrithiol Pryderi. Ar eu taith yn ôl i'r gogledd, a rhyfelwyr Dyfed yn dynn ar eu sodlau, arosant mewn sawl llecyn a enwir yn "Fochdref" neu "Fochnant" byth ar ôl hynny. Yr olaf o'r rhain, cyn croesi afon Conwy i Wynedd, yw safle pentref Mochdre:
- Ac oddi yna [Mochnant ym Mhowys] y cerddasant hyd yng nghantref Rhos, ac yno y buant y nos honno i mewn y dref a elwir etwa ["o hyd"] Mochdref.[3]
Hanes
golyguMae pentref Mochdre yn rhan o blwyf Llangystennin, ac mae eglwys y plwyf yn adnabyddus fel enghraifft dda o eglwysi Cymreig yr Oesoedd Canol; yn ôl traddodiad mae'n sefyll ar safle'r eglwys gyntaf i gael ei chodi yng Nghymru.
Erbyn heddiw mae Mochdre yn bentref mawr gyda sawl stad o dai diweddar, ystâd ddiwydiannol sylweddol (Parc Busnes Mochdre), tafarn adnabyddus a siopau lleol. Ers peth amser mae'r pentref yn dioddef problemau cymdeithasol o achos yfed ar y stryd gan bobl ifanc a fandaliaeth.
Cyfrifiad 2011
golyguYng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[4][5][6][7]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
- ↑ British Place Names; adalwyd 21 Tachwedd 2021
- ↑ Ifor Williams (gol.), Pedair Cainc y Mabinogi, tud. 71. Mewn orgraff ddiweddar.
- ↑ "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
- ↑ Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
- ↑ Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
- ↑ Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen farw]
Trefi
Abergele · Bae Colwyn · Betws-y-Coed · Conwy · Cyffordd Llandudno · Degannwy · Hen Golwyn · Llandudno · Llanfairfechan · Llanrwst · Penmaenmawr · Tywyn
Pentrefi
Bae Cinmel · Bae Penrhyn · Betws-yn-Rhos · Bryn-y-maen · Bylchau · Caerhun · Capel Curig · Capel Garmon · Cefn Berain · Cefn-brith · Cerrigydrudion · Craig-y-don · Cwm Penmachno · Dawn · Dolgarrog · Dolwen · Dolwyddelan · Dwygyfylchi · Eglwys-bach · Esgyryn · Gellioedd · Glanwydden · Glasfryn · Groes · Gwytherin · Gyffin · Henryd · Llanbedr-y-cennin · Llandrillo-yn-Rhos · Llanddoged · Llanddulas · Llanefydd · Llanelian-yn-Rhos · Llanfair Talhaearn · Llanfihangel Glyn Myfyr · Llangernyw · Llangwm · Llangystennin · Llanrhos · Llanrhychwyn · Llan Sain Siôr · Llansanffraid Glan Conwy · Llansannan · Llysfaen · Maenan · Y Maerdy · Melin-y-coed · Mochdre · Nebo · Pandy Tudur · Penmachno · Pensarn · Pentrefelin · Pentrefoelas · Pentre-llyn-cymmer · Pentre Tafarnyfedw · Pydew · Rowen · Rhydlydan · Rhyd-y-foel · Tal-y-bont · Tal-y-cafn · Trefriw · Tyn-y-groes · Ysbyty Ifan