Pencarnisiog
Pentref bychan ar Ynys Môn yw Pencarnisiog ( ynganiad ) (hefyd: Pencaernisiog). Fe'i lleolir yng ngogledd-orllewin yr ynys ar yr A4080 tua milltir i'r dwyrain o bentref Llanfaelog a thua 8 filltir i'r gorllewin o dref Llangefni.
![]() | |
Math |
pentref ![]() |
---|---|
| |
Daearyddiaeth | |
Sir |
Ynys Môn ![]() |
Gwlad |
![]() |
Cyfesurynnau |
53.2°N 4.5°W ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Rhun ap Iorwerth (Plaid Cymru) |
AS/au | Virginia Crosbie (Ceidwadwyr) |
![]() | |
Ceir dwy ffordd o sillafu enw'r pentref. Yn yr Oesoedd Canol roedd treflan o'r enw Conysiog yno ('Tir Conws'). Tyfodd pentref bychan a galwyd y lle yn 'Penconisiog'. Tybid fod yr enw yn cynnwys y gair caer ac felly cafwyd yr enw 'Pencaernisiog'.[1]
Yn ymyl y pentref ceir siambr gladdu neolithig Tŷ Newydd.
Lleolir Ysgol Pencarnisiog yn y pentref, ysgol gynradd sydd yn nhalgylch Ysgol Uwchradd Bodedern.
CyfeiriadauGolygu
- ↑ Melville Richards, 'Enwau lleoedd', Atlas Môn (Llangefni, 1972).
Aberffraw · Amlwch · Benllech · Bethel · Biwmares · Bodedern · Bodewryd · Bodffordd · Bryngwran · Brynrefail · Brynsiencyn · Brynteg · Caergeiliog · Caergybi · Capel Coch · Capel Gwyn · Carmel · Carreglefn · Cemaes · Cerrigceinwen · Dwyran · Y Fali · Gaerwen · Glyn Garth · Gwalchmai · Heneglwys · Hermon · Llanallgo · Llanbabo · Llanbedrgoch · Llandegfan · Llandyfrydog · Llanddaniel Fab · Llanddeusant · Llanddona · Llanddyfnan · Llanedwen · Llaneilian · Llanfachraeth · Llanfaelog · Llanfaethlu · Llanfair Pwllgwyngyll · Llanfair-yn-Neubwll · Llanfair-yng-Nghornwy · Llan-faes · Llanfechell · Llanfihangel-yn-Nhywyn · Llanfwrog · Llangadwaladr · Llangaffo · Llangefni · Llangeinwen · Llangoed · Llangristiolus · Llangwyllog · Llaniestyn · Llannerch-y-medd · Llanrhuddlad · Llansadwrn · Llantrisant · Llanynghenedl · Maenaddwyn · Malltraeth · Marianglas · Moelfre · Nebo · Niwbwrch · Pencarnisiog · Pengorffwysfa · Penmynydd · Pentraeth · Pentre Berw · Pentrefelin · Penysarn · Pontrhydybont · Porthaethwy · Porth Llechog · Rhoscolyn · Rhosmeirch · Rhosneigr · Rhostrehwfa · Rhosybol · Rhydwyn · Talwrn · Trearddur · Trefor · Tregele