Llandyfaelog Tre'r-graig

pentrefan yng nghymuned Felin-fach yn ardal Brycheiniog, de Powys

Pentrefan yng nghymuned Felin-fach, Powys, Cymru, yw Llandyfaelog Tre'r-graig[1] (Seasneg: Llandefaelog-tre'r-graig). Saif yn ardal Brycheiniog, 33.4 milltir (53.8 km) o Gaerdydd. Ceir sawl ffurf ar yr enw, yn cynnwys Llandefaelog Tre'r Graig (ychwanegir "Tre'r-graig" i wahaniaethu rhyngddo a'r Llandyfaelog arall yn Sir Gaerfyrddin; am yr un rheswm cyfeirir ato weithiau fel Llandyfaelog Fach).

Llandyfaelog Tre'r-graig
Mathpentref Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlTyfaelog Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirPowys Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.960451°N 3.272432°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auJames Evans (Ceidwadwyr)
AS/auFay Jones (Ceidwadwyr)
Map

Enwir y pentrefan ar ôl Sant Tyfaelog.[2]

Lleolir y pentref tua 5 milltir i'r dwyrain o Aberhonddu, ar lethrau'r bryniau rhwng Bannau Brycheiniog i'r gorllewin a'r Mynydd Du i'r dwyrain. Mae'n gorwedd ar y ffordd wledig rhwng Talgarth i'r gogledd a Llanfihangel Tal-y-llyn i'r de. Mae pentrefi eraill cyfagos yn cynnwys Llechfaen. Tua 2 filltir i'r gogledd-ddwyrain ceir Trefeca, a gysylltir â chymuned yr efengylydd o'r 18g Howel Harris.

Hanes golygu

Yn ôl traddodiad, sefydlwyd llan yn yr ardal gan Sant Tyfaelog. Yn yr eglwys ceir maen cerfiedig ag arno'r geiriau aneglur 'BRIAMAIL FLOU' gyda cherfiad bas-relief o ffigwr sy'n gwisgo mantell a chleddyg bychan.[2]

Cynrychiolaeth etholaethol golygu

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan James Evans (Ceidwadwyr)[3] ac yn Senedd y DU gan Fay Jones (Ceidwadwyr).[4]

Cyfeiriadau golygu

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  2. 2.0 2.1 T. D. Breverton, The Book of Welsh Saints (Cyhoeddiadau Glyndŵr, 2000)
  3. Gwefan Senedd Cymru
  4. Gwefan Senedd y DU