Ardaloedd awdurdod lleol yn Lloegr
Lefel o lywodraeth leol yn Lloegr yw'r ardal (Saesneg: district), a elwir hefyd yn ardal awdurdod lleol neu ardal llywodraeth leol.
Mae strwythur llywodraeth leol yn Lloegr yn gyfuniad o systemau, ac mae pedair prif fath israniadau ar lefel yr ardal, ac mae cyfanswm o 315 o ardaloedd yn cynnwys:
- 184 o ardaloedd an-fetropolitan
- 58 o awdurdodau unedol
- 36 o fwrdeistrefi metropolitan
- 32 o fwrdeistrefi Llundain
- Dinas Llundain ac Ynysoedd Syllan, gyda'u systemau arbennig eu hunain
Gelwir rhai ardaloedd "bwrdeistrefi", "dinasoedd", neu "fwrdeistrefi brenhinol"; mae'r rhain yn enwau ffurfiol yn unig, ac nid ydynt yn newid statws yr ardal.
Mae pob bwrdeistref a dinas, ac ychydig o ardaloedd, yn cael eu harwain gan faer sydd fel arfer yn ffigur seremonïol a etholir gan y cyngor dosbarth; fodd bynnag, mae gan rai ardaloedd faer etholedig uniongyrchol sy'n gwneud y rhan fwyaf o'r penderfyniadau polisi yn lle'r cyngor.
Ardaloedd an-fetropolitan
golygu- Prif: Ardal an-fetropolitan
Mae ardaloedd an-fetropolitan yn israniadau siroedd an-fetropolitan. Maent yn cael eu llywodraethu gan cynghorau dosbarth, sy'n rhannu pŵer gyda chynghorau sir. Mae cynghorau sir yn gyfrifol am wasanaethau megis addysg, gwasanaethau cymdeithasol a ffyrdd, tra bod cynghorau dosbarth yn rhedeg gwasanaethau megis casglu gwastraff, cynllunio lleol a thai cyngor.
Awdurdodau unedol
golyguMae awdurdodau unedol yn cyfuno pwerau ardaloedd an-fetropolitan a chynghorau sir, ac maent yn gyfrifol am weithredu'r holl wasanaethau yn eu hardaloedd. Fe'u crëwyd gyntaf yng nghanol y 1990au (sefydlwyd eraill yn 2009 a 2019–21) o ardaloedd an-fetropolitan. Yn aml maent yn llywodraethu mewn mannau fel trefi mawr a dinasoedd lle byddai'r trefniant hwn yn fwy effeithlon na strwythur dwy haen. Mae rhai o'r siroedd llai poblog hefyd yn gweithredu fel awdurdodau unedol.
Bwrdeistrefi metropolitan
golygu- Prif: Bwrdeistref fetropolitan
Mae bwrdeistrefi metropolitan yn israniadau siroedd metropolitan ac yn gweithredu mewn ffordd debyg i awdurdodau unedol, gan ddarparu'r holl wasanaethau yn eu hardaloedd.
Bwrdeistrefi Llundain
golygu- Prif: Bwrdeistref Llundain
Mae bwrdeistrefi Llundain yn israniadau Llundain Fawr a grëwyd yn 1965, ac yn rhannu pŵer gyda Chyngor Llundain Fwyaf (GLC). Wedi i'r GLC gael ei ddiddymu yn 1986 cawsant bwerau tebyg i'r awdurdodau unedol. Yn 2000, crëwyd Awdurdod Llundain Fwyaf, i ddychwelyd i strwythur dwy haen o lywodraeth leol.
Rhestr ardaloedd awdurdod lleol
golyguDyma'r ardaloedd awdurdodau lleol sy'n bodoli ar hyn o bryd.