Llangan, Sir Gaerfyrddin

plwyf eglwysig hanesyddol yn Sir Caerfyrddin

Plwyf yn Sir Gaerfyrddin, ond a arferai fod yn Sir Benfro, yw Llangan (weithiau Llan gan neu Llan-Gan[1]); saif ar y ffin rhwng y ddwy sir, 16 milltir i'r gorllewin o Gaerfyrddin. Saif rhan o Llangan yn hen gantref Derllys, Arberth a rhan arall yn Nugleddy, Penfro; llifa afon Tâf drwy'r plwyf.

Llangan
Mathplwyf Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.846028°N 4.61855°W Edit this on Wikidata
Map
EsgobaethEsgobaeth Tyddewi Edit this on Wikidata
Eglwys Santes Canna, Llangan, Sir Gaerfyrddin. Adferwyd yr eglwys yn 1820.
Am leoedd eraill o'r un enw gweler Llangan (gwahaniaethu).

Yn 19g roedd poblogaeth y plwyf rhwng 600-700.[2] O fewn y plwyf hanesyddol hwn mae'r Tŷ Gwyn ar Daf, canolfan eglwysig a noddwyd gan dywysogion teyrnas Deheubarth.

Ceir 'Langan' arall yn ardal Roazhon, Llydaw. Y Santes Canna a roddodd ei henw i'r eglwys leol ac felly'r plwyf; adferwyd yr eglwys yn sylweddol yn 1820.[3]

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am Sir Benfro. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato