Cemaes
Pentref gweddol fawr yng nghymuned Llanbadrig, Ynys Môn, ydy Cemaes ( ynganiad ). Fe'i lleolir ar arfordir gogleddol yr ynys, ger Bae Cemaes lle mae Afon Wygyr yn cyrraedd y môr. Saif ger y briffordd A5025 rhwng Amlwch a Llanrhuddlad. Mae'n bosibl mai dyma bentref mwyaf gogleddol Cymru, er y gellid dadlau mai pentref Llanbadrig yw hwnnw.
Math | pentref |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Ynys Môn |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.411°N 4.453°W |
Cod OS | SH370933 |
Cod post | LL67 |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Rhun ap Iorwerth (Plaid Cymru) |
AS/au | Llinos Medi (Plaid Cymru) |
- Gweler hefyd: Cemais (pentref ym Mhowys), Cemais (cantref ym Môn) a Cemais (cantref yn Nyfed).
Pentref gwyliau yw Cemaes yn bennaf erbyn heddiw, er bod pysgota wedi bod yn bwysig yn y gorffennol. Ceir dau draeth, harbwr, amrywiaeth o siopau a nifer o westai. Mae'r ardal o gwmpas y pentref yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol ac mae Llwybr Arfordirol Ynys Môn yn mynd heibio'r pentref. Ychydig i'r gorllewin mae gorsaf bŵer niwcliar yr Wylfa.
Hanes
golyguYn yr Oesoedd Canol, Cemaes oedd canolfan cantref Cemais. Adferwyd yr eglwys hynafol, sydd wedi ei chysegru i Sant Padrig, yn 1865. 'Llanbadrig' oedd yr enw arni cyn hynny.
Roedd y diwydiant pysgota yn bwysig i'r pentref yn y gorffennol.
Cloch amser a llanw
golyguGosodwyd Cloch Amser a Llanw, dyfeisiwyd gan Marcus Vergette ar y traeth ym mis Ebrill 2014.[1]
Pobl o Gemaes
golygu- Thomas Lewis (AS Môn) (1821-1897), gwleidydd
- Hugh Owen (Huwco Môn) (1835-1892), hanesydd a bardd
Chwaraeon
golyguBu clwb pêl-droed y pentref, C.P.D. Bae Cemaes yn llwyddiannus iawn yn yr 1990au hwyr gan chwarae yn Uwch Gynghrair Cymru. Maent bellach wedi disgyn sawl adran ac yn chwarae yng Nghynghrair Ynys Môn.[2]
Gweler hefyd
golyguOriel
golygu-
Trwyn yr Wylfa ar fachlud haul
-
Machlud haul o'r traeth
-
Ffatri brics Cemaes
Cyfeiriadau
golyguTrefi
Amlwch · Benllech · Biwmares · Caergybi · Llangefni · Niwbwrch · Porthaethwy
Pentrefi
Aberffraw · Bethel · Bodedern · Bodewryd · Bodffordd · Bryngwran · Brynrefail · Brynsiencyn · Brynteg · Caergeiliog · Capel Coch · Capel Gwyn · Carmel · Carreglefn · Cemaes · Cerrigceinwen · Dwyran · Y Fali · Gaerwen · Glyn Garth · Gwalchmai · Heneglwys · Hermon · Llanallgo · Llanbabo · Llanbedrgoch · Llandegfan · Llandyfrydog · Llanddaniel Fab · Llanddeusant · Llanddona · Llanddyfnan · Llanedwen · Llaneilian · Llanfachraeth · Llanfaelog · Llanfaethlu · Llanfair Pwllgwyngyll · Llanfair-yn-Neubwll · Llanfair-yng-Nghornwy · Llan-faes · Llanfechell · Llanfihangel-yn-Nhywyn · Llanfwrog · Llangadwaladr · Llangaffo · Llangeinwen · Llangoed · Llangristiolus · Llangwyllog · Llanidan · Llaniestyn · Llannerch-y-medd · Llanrhuddlad · Llansadwrn · Llantrisant · Llanynghenedl · Maenaddwyn · Malltraeth · Marian-glas · Moelfre · Nebo · Pencarnisiog · Pengorffwysfa · Penmynydd · Pentraeth · Pentre Berw · Pentrefelin · Penysarn · Pontrhydybont · Porthllechog · Rhoscolyn · Rhosmeirch · Rhosneigr · Rhostrehwfa · Rhosybol · Rhydwyn · Talwrn · Trearddur · Trefor · Tregele