Talacharn

tref a chymuned yn Sir Gaerfyrddin
(Ailgyfeiriad o Laugharne)

Tref yng nghymuned Treflan Lacharn, Sir Gaerfyrddin, Cymru, yw Talacharn neu Lacharn[1] (Saesneg: Laugharne).[2] Mae'n fwyaf enwog fel y lle y treuliodd Dylan Thomas lawer o amser tua diwedd ei oes, ac mae'r Boathouse lle roedd yn ysgrifennu yn fyd-enwog. Roedd ei gartref cyntaf yn Gosport Street.

Talacharn
Mathtref Edit this on Wikidata
Poblogaeth2,942 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1291 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirTreflan Lacharn Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.7694°N 4.4631°W Edit this on Wikidata
Cod OSSN301109 Edit this on Wikidata
Cod postSA33 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruSamuel Kurtz (Ceidwadwyr)
AS/au y DUAnn Davies (Plaid Cymru)
Map
Am y cwmwd canoloesol o'r un enw, gweler Talacharn (cwmwd).

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Samuel Kurtz (Ceidwadwyr)[3] ac yn Senedd y DU gan Ann Davies (Plaid Cymru).[4]

Codwyd Gastell Talacharn gan Rhys ap Gruffudd yn y ddeuddegfed ganrif.

Ym 1307 rhoddodd y Normaniaid siarter i'r dref, sydd mewn grym hyd heddiw. Fel mewn llawer o drefi a oresgynnwyd gan y Normaniaid ac sydd wedi parhau'n Seisnig hyd heddiw, does fawr o Gymraeg i'w chlywed yn Nhalacharn.

Yma roedd tŷ Madam Bevan a gysylltir ag Ysgolion Cylchynol Griffith Jones Llanddowror. Safai rhwng Neuadd y Dref a Cliff Chapel ond fe'i tynnwyd i lawr ym 1859. Yn y tŷ hwn y bu Griffith Jones farw ym 1761.

 
Eglwys San Martin, Talacharn
 
Castell Talacharn

Pobl o Dalacharn

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 25 Chwefror 2022
  3. Gwefan Senedd Cymru
  4. Gwefan Senedd y DU

Dolen allanol

golygu