Llaingoch

pentref ar Ynys Mon

Ardal yn nhref a chymuned Caergybi, Ynys Môn, Cymru yw Llaingoch[1] ("Cymorth – Sain" ynganiad ). Saif 141 milltir (226.9 km) o Gaerdydd a 227.8 milltir (366.6 km) o Lundain.

Llaingoch
Mathpentrefan Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirYnys Môn Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.311°N 4.666°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruRhun ap Iorwerth (Plaid Cymru)
AS/au y DULlinos Medi (Plaid Cymru)
Map

Clustnodwyd pentref cyfagos Pentre-pella ar gyfer clirio slymiau ym 1936 gan blwyf gwledig Caergybi. Byddai'r pentref wedi ei boblogi gyda'r rhai oedd yn gweithio yn y chwarel morglawdd gerllaw.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Rhun ap Iorwerth (Plaid Cymru)[2] ac yn Senedd y DU gan Llinos Medi (Plaid Cymru).[3]

Neuadd pentref

golygu

Roedd trigolion Llaingoch eisiau neuadd pentref, felly roedd pobol y pentref yn casglu arian tuag at y neuadd unwaith yr wythnos. Cawsant nhw neuadd pentref dros dro yn 1945 ac agorodd y Neuadd pentref yn swyddogol yn 1951.

Carnifal Llaingoch

golygu

Cafodd carnifal Llaingoch ei chynnal cyntaf yn 1953 a gafodd ei rhedeg gan Cledwyn Hughes MP. Roedd yn boblogaidd iawn trwy Llaingoch. Rhai o’r cystadleuaethau oedd:

Y wisg orau (gwobr £1), gwisg gomig orau, ceffyl neu ferlen addurnedig orau (gwobr £2), Ras beic, ras tri coes, ras sach, naid hir, ras cerdded a'r marathon.

Aeth 100 o bobol o ardal LLaincoch i'r carnifal. Pob carnifal roedd merch yn ennill gwobr "Carnifal Queen" a dyma enwau rhai o’r genod wnaeth ei ennill yn ystod y cyfnod yma. Queen Margret, Queen Patricia a Queen Pamela. Gafodd pob un ohonynt pared lawr i draeth Newry trwy Llaingoch.

Cyfeiriadau

golygu
  Eginyn erthygl sydd uchod am Ynys Môn. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato