Llanbedrgoch

pentref ar Ynys Môn
(Ailgyfeiriad o Llanbedr-goch)

Pentref a phlwyf eglwysig yng nghymuned Llanfair Mathafarn Eithaf, Ynys Môn, yw Llanbedrgoch ("Cymorth – Sain" ynganiad ) (hefyd Llanbedr-goch). Saif ar ffordd gefn ychydig i'r gorllewin o'r briffordd A5025 rhwng Pentraeth a Benllech. Mae gwarchodfa natur Gors Goch yn gorwedd ar llyn rhewlifol hynafol.

Llanbedrgoch
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirYnys Môn Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.3°N 4.2°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH509804 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruRhun ap Iorwerth (Plaid Cymru)
AS/au y DULlinos Medi (Plaid Cymru)
Map
Am leoedd eraill o'r enw "Llanbedr", gweler Llanbedr (gwahaniaethu).
Eglwys Sant Pedr

Roedd dau enw amgen ar y pentref a'r plwyf yn y gorffennol, pan fu'n rhan o gwmwd Dindaethwy, sef:

  • Llanfair Mathafarn Wion. Enw'r plwyf, ar ôl treflan ganoloesol Mathafarn Wion (er mwyn gwahaniaethu rhyngddo a Llanfair Mathafarn Eithaf). Enw arall ar Fathafarn Wion oedd Mathafarn Fechan. Pennaeth lleol oedd Gwion; ceir Croes Wion ger Benllech.[1]
  • Llanfeistr. Enw personol yw 'Meistr' yn yr achos yma.[1]
 
Pwysau metal a adawyd yn yr ardal gan y Llychlynwyr.

Gwnaed darganfyddiad diddorol yma yn 1994, sef olion sefydliad yn deillio o gyfnod y Llychlynwyr, efallai tua'r 10g. Mae cloddio archaeolegol yma dros y blynyddoedd diwethaf wedi darganfod tystiolaeth yn awgrymu fod Llychlynwyr wedi ymsefydlu yma am gyfnod.

Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol 1999 gerllaw'r pentref. Ychydig i'r gogledd-orllewin mae gwarchodfa natur Cors Goch.Yn Llanbedrgoch mae yna tŷ o'r enw ty croes. Maer tŷ croes yn un or bythynnod hynnaf yn Ynys Môn.[2] Roedd ysgol gyntaf Llanbedrgoch ar safle'r ganolfan.

Ysgol Gynradd Llanbedrgoch yw ysgol y pentref.

Agorwyd yr ysgol yn y flwyddyn 1901.

Ers talwm roedd yna siop, post a dau ofaint yn y pentref.

Galeri

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 Melville Richards, 'Enwau lleoedd', Atlas Môn.
  2. Robinson, Jane L. Benllech and its surrounding parish of lanfair mathafarm eithaf.

Llyfryddiaeth

golygu
  • Redknap, Mark Y Llychlynwyr yng Nghymru: ymchwil archaeolegol (Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru, 2000) ISBN 072000487x

Dolen allanol

golygu