Rhydwyn
Pentrefan gwledig yng nghymuned Cylch y Garn ar Ynys Môn yw Rhydwyn ( ynganiad ) (weithiau Rhyd-wyn). Saif yng ngogledd yr ynys ym mhlwyf Llanrhuddlad, tua milltir i'r gorllewin o'r pentref hwnnw a milltir o fae Porth Swtan ar yr arfordir i'r gorllewin. Milltir a hanner i'r de ceir pentref Llanfaethlu. Mae 142.5 milltir (229.4 km) o Gaerdydd a 225.7 milltir (363.3 km) o Lundain.
Math | pentref |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Ynys Môn |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.4°N 4.5°W |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Rhun ap Iorwerth (Plaid Cymru) |
AS/au y DU | Llinos Medi (Plaid Cymru) |
Ystyr yr enw yw 'rhyd Gwyn' (enw personol). Gellir cyrraedd y pentref trwy troi oddi ar yr A5025 ger Llanrhuddlad neu Lanfaethlu.
Cynrychiolaeth etholaethol
golyguCynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Rhun ap Iorwerth (Plaid Cymru)[1] ac yn Senedd y DU gan Llinos Medi (Plaid Cymru).[2]
Trigolion
golyguMae dyddiadur ffermio Sadrach Thomas o Rydwyn (1965) wedi ei roi ar gof a chadw yn Nhywyddiadur gwefan Llên Natur[1]
Digwyddiadau naturiol
golygu- Cofiai John (Sion) Richards pan yn tua 12 oed (tua 1937), i donnau`r mór ddod a thunnelli o fuchod cwta i`r lan a`u gadael yn un rhimyn hir ar y penllanw ar draeth Rhydwyn. Soniodd amdanynt yn luminous yn eu niferoedd ac yn amlwg bu i`r digwyddiad aros yn fyw yn y cof.[3] (Roedd mis Awst 1937 yn boeth a thrymedd, amodau ffafriol i'r ffenomenon hwn)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Gwefan Senedd Cymru
- ↑ Gwefan Senedd y DU
- ↑ John Richards (rhan o sgwrs wedi ei arall eirio gan Duncan Brown i Llên Natur)
Trefi
Amlwch · Benllech · Biwmares · Caergybi · Llangefni · Niwbwrch · Porthaethwy
Pentrefi
Aberffraw · Bethel · Bodedern · Bodewryd · Bodffordd · Bryngwran · Brynrefail · Brynsiencyn · Brynteg · Caergeiliog · Capel Coch · Capel Gwyn · Carmel · Carreglefn · Cemaes · Cerrigceinwen · Dwyran · Y Fali · Gaerwen · Glyn Garth · Gwalchmai · Heneglwys · Hermon · Llanallgo · Llanbabo · Llanbedrgoch · Llandegfan · Llandyfrydog · Llanddaniel Fab · Llanddeusant · Llanddona · Llanddyfnan · Llanedwen · Llaneilian · Llanfachraeth · Llanfaelog · Llanfaethlu · Llanfair Pwllgwyngyll · Llanfair-yn-Neubwll · Llanfair-yng-Nghornwy · Llan-faes · Llanfechell · Llanfihangel-yn-Nhywyn · Llanfwrog · Llangadwaladr · Llangaffo · Llangeinwen · Llangoed · Llangristiolus · Llangwyllog · Llanidan · Llaniestyn · Llannerch-y-medd · Llanrhuddlad · Llansadwrn · Llantrisant · Llanynghenedl · Maenaddwyn · Malltraeth · Marian-glas · Moelfre · Nebo · Pencarnisiog · Pengorffwysfa · Penmynydd · Pentraeth · Pentre Berw · Pentrefelin · Penysarn · Pontrhydybont · Porthllechog · Rhoscolyn · Rhosmeirch · Rhosneigr · Rhostrehwfa · Rhosybol · Rhydwyn · Talwrn · Trearddur · Trefor · Tregele